Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit wedi galw unwaith eto ar Brif Weinidog y DU i ddweud yn glir nad yw Brexit heb gytundeb yn opsiwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae gan borthladdoedd Cymru rôl allweddol fel porth rhwng Iwerddon a gweddill Ewrop. Mae 80% o'r nwyddau sy'n cael eu cludo rhwng y Weriniaeth ac Ewrop mewn cerbydau nwyddau trwm sydd wedi'u cofrestru yn Iwerddon yn pasio drwy borthladdoedd Cymru.

Mae Caergybi yn rhan annatod o'r bont hon rhwng Iwerddon ac Ewrop; mae ei statws fel y porthladd fferïau prysuraf ond un yn y DU yn golygu bod Caergybi yn ddolen hanfodol yn y gadwyn gyflenwi ar gyfer busnesau ar draws Cymru, y DU ac Iwerddon.

Yn gynharach eleni dywedodd pennaeth Stena Line, y cwmni sy'n rhedeg porthladd Caergybi, ei fod yn poeni y byddai Brexit heb gytundeb yn amharu'n ddifrifol ar y porthladd, gan honni ei bod yn amhosibl cynllunio ar gyfer digwyddiad o'r fath.

Bu'r Cwnsler Cyffredinol yn ymweld â Chaergybi ddoe gan gyfarfod rheolwr y Porthladd, Capten Wyn Parry, a fynegodd rhai o'i bryderon am Gaergybi os byddwn yn cael ein rhwygo'n ddisymwth o'r UE mewn ychydig dros fis.

Dywedodd Jeremy Miles:

"Rwy' wedi dweud hyn o'r blaen, ond mae'n rhaid ei bwysleisio; does dim un ffordd o liniaru effeithiau ymadael heb gytundeb yn llwyr. 

"Ein blaenoriaeth ni, fodd bynnag, yw sicrhau ein bod ni yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau'r effaith ar gymunedau a busnesau Cymru.

"Mae porthladdoedd Cymru yn gwneud cyfraniad hanfodol i'n heconomi, drwy ddarparu swyddi a gwerth ychwanegol i gymunedau lleol ymysg pethau eraill. Bydd unrhyw risg i effeithlonrwydd y porthladdoedd yn arwain at risg sylweddol i Gymru gyfan. Mae'n porthladdoedd fferïau yn arbennig o agored i niwed posib yn sgil Brexit heb gytundeb. 

"Mae'r rhan fwyaf o'r risgiau yn ymwneud â threfniadau'r ffin - tollau a gwiriadau diogelwch. Cyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw datrys y risgiau hynny. Ond gallai gofyniad yr Undeb Ewropeaidd ar i'r aelod-wladwriaethau, gan gynnwys Iwerddon, drin nwyddau o'r Deyrnas Unedig fel trydedd wlad - gyda'r holl wiriadau ychwanegol y byddai hynny'n eu golygu - achosi oedi difrifol ym mhorthladdoedd fferïau Cymru, yn arbennig Caergybi.

"Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Capten Wyn Parry a'r tîm am fy nhywys o amgylch y porthladd, ac am egluro rhai o'u pryderon os byddwn yn wynebu Brexit heb gytundeb.

"Mae'n amlwg y byddai Caergybi yn cael trafferth amsugno effeithiau unrhyw oedi a fyddai'n cael ei achosi gan wiriadau ychwanegol. Rydyn ni'n gweithio ar ffyrdd o reoli effaith unrhyw oedi ar y traffig yn y porthladd, ac wedi nodi ac asesu safleoedd posib ar Ynys Môn i ddygymod ag unrhyw orlif ar y rhwydwaith ffyrdd os na fydd modd cyfyngu'r traffig o fewn ffiniau’r porthladd ei hun. 

"Ond byddai modd osgoi hyn i gyd pe bai Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn gwrando ar ein galwadau ni, a galwadau pobl ar draws y Deyrnas Unedig, ac yn dweud yn glir nad yw ymadael heb gytundeb yn opsiwn.

"Rydyn ni wedi argymell ffordd wahanol o ymdrin â Brexit o'r cychwyn; un sy'n adeiladu ar gonsensws, fel y gwelir yn ein Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, a gytunwyd gyda Phlaid Cymru ddwy flynedd yn ôl. Mae hyn yn cydnabod bod angen cyfaddawdu, ac mae hynny'n golygu cymryd rhan mewn Undeb Tollau a'r farchnad sengl. Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig lyncu ei balchder, rhoi'r gorau i'w llinellau coch a rhoi'r sicrwydd y mae'r wlad yn dyheu amdano."