Gallu siarad yn y Gymraeg a defnydd o’r Gymraeg (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2022 i Fawrth 2023
Mae’r adroddiad yn edrych ar allu pobl yn y Gymraeg a pa mor aml fe’u defnyddir rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Yn 2022-23, gofynnodd Arolwg Cenedlaethol Cymru i bobl 16 oed neu'n hŷn am eu gallu yn y Gymraeg, pa mor aml y maent yn defnyddio'r iaith, a pha mor rhugl ydynt.
Gofynnwyd cwestiynau ie/nage ar wahân i'r ymatebwyr am eu gallu i ddeall, darllen ac ysgrifennu Cymraeg. Gofynnwyd i'r ymatebwyr hefyd am eu gallu i siarad Cymraeg, gydag ateb ychwanegol ‘na, ond rhywfaint o allu i siarad Cymraeg’.
Gofynnwyd hefyd i bobl a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg am eu lefel o ruglder, yn amrywio o rugl i siarad ychydig eiriau yn unig; ac i nodi pa mor aml yr oeddent yn defnyddio'r iaith, boed yn ddyddiol, yn wythnosol, yn llai aml, neu byth.
Mae'r bwletin hwn wedi'i rannu'n dair adran: crynodeb o'r prif bwyntiau; pawb sy'n siarad Cymraeg, sef pobl a ddywedodd eu bod yn gallu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg; a phobl sy'n siarad Cymraeg bob dydd, sef pobl a ddywedodd eu bod yn siarad Cymraeg bob dydd ac yn gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg yn unig.
Defnyddiwyd techneg ystadegol o'r enw dadansoddiad atchweliad i ddeall sut y mae gwahanol ffactorau a fesurwyd gennym yn yr Arolwg Cenedlaethol yn ymwneud ag a yw rhywun yn siarad Cymraeg. Mae'r gwahanol ffactorau a amlygir yn yr adroddiad hwn yn dangos cysylltiad annibynnol â'r defnydd o'r Gymraeg, hyd yn oed ar ôl cymryd ystod o ffactorau eraill i ystyriaeth.
Y prif bwyntiau
Roedd 34% o bobl yn gallu siarad Cymraeg (dywedodd 18% eu bod yn gallu siarad Cymraeg, a dywedodd 16% fod ganddynt rywfaint o allu i siarad Cymraeg). Mae hyn yn debyg i 2021-22.
Roedd 11% o bobl yn siarad Cymraeg bob dydd ac yn gallu siarad mwy na dim ond ychydig o eiriau. Mae hyn hefyd yn debyg i 2021-22.
Nodweddion y canfuwyd bod ganddynt gysylltiad annibynnol â'r gallu i siarad Cymraeg:
- bod yn fenyw
- bod yn 16 i 44 oed
- peidio â bod yn rhan o grŵp ethnig lleiafrifol
- bod yn sengl
- byw mewn cartref sy'n eiddo i berchen-feddianwyr
- byw mewn ardal wledig
- byw yng ngogledd-orllewin Cymru
- gwirfoddoli
Nodweddion y canfuwyd bod ganddynt gysylltiad annibynnol â siarad Cymraeg bob dydd a gallu siarad mwy na dim ond ychydig o eiriau:
- bod yn fenyw
- peidio â bod yn rhan o grŵp ethnig lleiafrifol
- bod yn Gristion
- bod yn gyflogedig
- bod wedi'i addysgu i lefel addysg uwch
- peidio â byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig neu leiaf difreintiedig Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)
- byw mewn aelwyd sy'n cynnwys pobl iau
- byw mewn ardal wledig
- byw yng ngogledd-orllewin Cymru
Yr holl bobl sy’n siarad Cymraeg
Roedd 34% o bobl 16 oed neu'n hŷn yn gallu siarad Cymraeg (y dywedodd 18% ohonynt eu bod yn gallu siarad Cymraeg, ac y dywedodd 16% arall fod ganddynt rywfaint o allu i siarad Cymraeg), yn debyg i 2021-22.
Ffactorau demograffig
Canfuwyd bod rhyw, oedran, ethnigrwydd a statws priodasol i gyd yn gysylltiedig yn annibynnol â'r gallu i siarad Cymraeg.
Roedd siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o fod yn fenywod na gwrywod, gyda 37% o fenywod yn dweud eu bod yn siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg, o'i gymharu â 31% o wrywod.
Roedd pobl rhwng 16 a 44 oed yn fwy tebygol o allu siarad Cymraeg na phobl mewn grwpiau oedran hŷn, gyda phobl 65 oed neu'n hŷn yn lleiaf tebygol. Roedd 39% o bobl rhwng 16 a 44 oed yn gallu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg, o'i gymharu â 32% o bobl rhwng 45 a 65 oed, a 29% o bobl 65 oed neu'n hŷn.
Dywedodd 36% o bobl wyn (Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon) eu bod yn gallu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg, o'i gymharu â 16% o bobl a oedd yn ddu, yn Asiaidd, neu o grŵp ethnig lleiafrifol arall. Ychydig iawn o bobl o gefndiroedd gwyn eraill (gan gynnwys pobl Wyddelig neu deithwyr Gwyddelig) a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg.
Canfuwyd hefyd fod pobl sengl yn fwy tebygol o siarad Cymraeg na phobl a oedd yn briod, mewn partneriaeth sifil, wedi ysgaru, wedi gwahanu, neu bartneriaid sy'n goroesi, gyda 39% o bobl sengl yn gallu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg. Nid oedd gwahaniaeth yn y gallu i siarad Cymraeg rhwng pobl sydd wedi ysgaru, wedi gwahanu, neu'n bartneriaid sy'n goroesi (gweler Ffigur 1).
Ffigur 1: Cyfran y bobl a oedd yn gallu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg, yn ôl statws priodasol, 2022-23 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 1: Siart far sy'n dangos cyfrannau'r bobl ar gyfer pob statws priodasol a ddywedodd eu bod yn gallu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg. Mae pobl sengl yn fwy tebygol o allu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg o'i gymharu â phobl a oedd yn briod, wedi gwahanu, wedi ysgaru neu'n weddw.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022-23
[Nodyn 1] Mae'r bariau du yn y siart hon yn dangos cyfyngau hyder o 95%. Mae cyfyngau hyder yn dangos pa mor fanwl yw amcangyfrif. Mae cyfyngau hyder ehangach yn dangos llai o fanylder. Mae bariau ansicrwydd sy'n gorgyffwrdd yn dangos nad yw gwahaniaethau yn arwyddocaol yn ystadegol.
Ffactorau economaidd-gymdeithasol
Canfuwyd bod addysg a math o ddeiliadaeth yn gysylltiedig â gallu siarad Cymraeg, ochr yn ochr ag a oedd rhywun yn cymryd rhan mewn gwirfoddoli.
Roedd pobl a oedd wedi'u haddysgu i Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (NQF) lefel 4 i 8 (addysg uwch) yn fwy tebygol o allu siarad Cymraeg o'i gymharu â phobl yr oedd eu cymhwyster uchaf yn NQF lefel 2 (TGAU gradd A i C) neu'n is, fel y dangosir yn Ffigur 2.
Ffigur 2: Cyfran y bobl a oedd yn gallu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg, yn ôl cymhwyster uchaf, 2022-23 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 2: Siart far sy'n dangos cyfran y bobl sy'n dal pob cymhwyster a ddywedodd eu bod yn gallu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg. Roedd 39% o'r bobl a addysgwyd i lefel addysg uwch (lefelau NQF 4 i 8) yn gallu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg. At ddibenion cymharu, roedd 32% o bobl â TGAU graddau A i C a chyfwerth (lefel NQF o 2) yn gallu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg, tra oedd 25% a 22% o bobl â TGAU is na gradd C (lefel NQF is na 2) a dim cymwysterau yn gallu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg, yn y drefn honno.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022-23
[Nodyn 1] Mae'r bariau du yn y siart hon yn dangos cyfyngau hyder o 95%. Mae cyfyngau hyder yn dangos pa mor fanwl yw amcangyfrif. Mae cyfyngau hyder ehangach yn dangos llai o fanylder. Mae bariau ansicrwydd sy'n gorgyffwrdd yn dangos nad yw gwahaniaethau yn arwyddocaol yn ystadegol.
Roedd perchen-feddianwyr yn fwy tebygol o allu siarad Cymraeg na phobl mewn tai cymdeithasol neu a oedd yn rhentu yn breifat, fel y dangosir yn Ffigur 3.
Ffigur 3: Cyfran y bobl a oedd yn gallu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg, yn ôl deiliadaeth, 2022-23 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 3: Siart far sy'n dangos cyfran y bobl a oedd yn byw mewn tai sy'n eiddo i berchen-feddianwyr, tai cymdeithasol neu dai preifat a oedd yn gallu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg. Roedd 36% o'r perchen-feddianwyr yn gallu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg. Nid oedd unrhyw wahaniaeth arwyddocaol rhwng pobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol neu sy'n rhentu yn breifat, yn 28% a 27% yn y drefn honno.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022-23
[Nodyn 1] Mae'r bariau du yn y siart hon yn dangos cyfyngau hyder o 95%. Mae cyfyngau hyder yn dangos pa mor fanwl yw amcangyfrif. Mae cyfyngau hyder ehangach yn dangos llai o fanylder. Mae bariau ansicrwydd sy'n gorgyffwrdd yn dangos nad yw gwahaniaethau yn arwyddocaol yn ystadegol.
Roedd pobl a oedd yn gwirfoddoli yn fwy tebygol o allu siarad Cymraeg na'r rhai nad oeddent yn gwirfoddoli. Dywedodd 39% o'r rhai a oedd yn gwirfoddoli eu bod yn gallu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg, o'i gymharu â 32% o bobl nad oeddent yn gwirfoddoli.
Ffactorau daearyddol
Canfuwyd hefyd bod rhanbarth a gwledigrwydd yn gysylltiedig yn annibynnol â'r gallu i siarad Cymraeg. Dywedodd 46% o bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig eu bod yn gallu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg, o'i gymharu â 28% o bobl sy'n byw mewn ardaloedd trefol.
Roedd pobl sy'n byw yng ngogledd-orllewin Cymru yn fwyaf tebygol o allu siarad Cymraeg o'i gymharu â phob rhanbarth arall yng Nghymru, fel y dangosir yn Ffigur 4.
Ffigur 4: Cyfran y bobl sy'n byw ym mhob rhanbarth o Gymru a oedd yn gallu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg, 2022-23 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 4: Siart far sy'n dangos cyfran y bobl sy'n byw ym mhob rhanbarth o Gymru a ddywedodd eu bod yn gallu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg. Mae'r gyfran o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg ar ei huchaf yng ngogledd-orllewin Cymru, sef 59%, ac yna canolbarth Cymru yn 46%. Pobl sy'n byw yn ne-ddwyrain Cymru oedd y lleiaf tebygol o allu siarad Cymraeg na phobl o ranbarthau eraill: roedd 26% o bobl sy'n byw yn ne-ddwyrain Cymru yn gallu siarad Cymraeg.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022-23
[Nodyn 1] Mae'r bariau du yn y siart hon yn dangos cyfyngau hyder o 95%. Mae cyfyngau hyder yn dangos pa mor fanwl yw amcangyfrif. Mae cyfyngau hyder ehangach yn dangos llai o fanylder. Mae bariau ansicrwydd sy'n gorgyffwrdd yn dangos nad yw gwahaniaethau yn arwyddocaol yn ystadegol.
Ffactorau nad ydynt yn gysylltiedig â'r gallu i siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg
Ymchwiliwyd i'r ffactorau canlynol yn y dadansoddiad, ond ni chanfuwyd eu bod yn gysylltiedig yn annibynnol â'r gallu i siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg:
- crefydd
- cyfeiriadedd rhywiol
- anabledd
- statws cyflogaeth
- amddifadedd materol
- Cwintel Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019
- byw mewn aelwyd sy'n cynnwys o leiaf un person o dan 19 oed
- byw mewn aelwyd sy'n cynnwys o leiaf un person dros 60 oed
Pobl sy’n siarad Cymraeg bob dydd
Fel y trafodwyd uchod, gofynnwyd i bobl a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg nodi hefyd pa mor aml yr oeddent yn defnyddio'r iaith, boed yn feunyddiol, yn wythnosol, yn llai aml, neu byth.
Roedd 11% o bobl 16 oed neu'n hŷn yn siarad Cymraeg bob dydd ac yn gallu siarad mwy nag ychydig o eiriau Cymraeg, gan ddangos dim newid ers 2021-22.
Ffactorau demograffig
Canfuwyd bod rhyw ac ethnigrwydd yn gysylltiedig â siarad Cymraeg bob dydd a'r gallu i ddweud mwy nag ychydig o eiriau yn unig.
Roedd siaradwyr Cymraeg beunyddiol yn fwy tebygol o fod yn fenywod nag yn wrywod: mae 12% o fenywod yn siarad Cymraeg bob dydd, o'i gymharu â 9% o wrywod.
Roedd pobl a oedd yn wyn (Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon) yn fwyaf tebygol o siarad Cymraeg bob dydd o'i gymharu â phobl o ethnigrwydd arall. Roedd 11% o bobl wyn (Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon) yn siarad Cymraeg bob dydd. Ychydig iawn o bobl o ethnigrwydd gwyn arall neu a oedd yn ddu, Asiaidd, neu o grŵp ethnig lleiafrifol arall a ddywedodd eu bod yn siarad Cymraeg bob dydd.
Canfuwyd bod crefydd hefyd yn gysylltiedig â siarad Cymraeg bob dydd. Roedd Cristnogion o unrhyw enwad yn fwy tebygol o siarad Cymraeg bob dydd na phobl o grefyddau eraill neu heb unrhyw grefydd. Roedd 12% o Gristnogion yn siarad Cymraeg bob dydd. Roedd 6% o bobl sy'n perthyn i grefydd arall yn siarad Cymraeg bob dydd, fel yr oedd 10% o bobl heb grefydd.
Canfuwyd bod oedran hefyd yn gysylltiedig yn annibynnol â'r gallu i siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg, ond nid oedd unrhyw wahaniaeth rhwng grwpiau oedran.
Ffactorau economaidd-gymdeithasol
Roedd pobl mewn cyflogaeth yn fwy tebygol o siarad Cymraeg bob dydd na'r rhai a oedd yn ddi-waith neu'n economaidd anweithgar. Roedd 12% o bobl mewn cyflogaeth yn siarad Cymraeg bob dydd, o'i gymharu â 9% o bobl a oedd yn economaidd anweithgar. Ychydig iawn o bobl a oedd yn ddi-waith oedd yn siarad Cymraeg bob dydd.
Roedd pobl a oedd wedi'i haddysgu i NQF lefel 4 i 8 (addysg uwch) yn fwy tebygol o siarad Cymraeg bob dydd na phobl â chymwysterau is, neu heb unrhyw gymwysterau (gweler Ffigur 5).
Ffigur 5: Siaradwyr Cymraeg beunyddiol, yn ôl y cymhwyster uchaf, 2022-23 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 5: Siart far sy'n dangos cyfran y bobl â phob cymhwyster a ddywedodd eu bod yn siarad Cymraeg bob dydd. Mae 13% o bobl sydd wedi'u haddysgu i lefel addysg uwch (NQF lefelau 4 i 8) yn siarad Cymraeg bob dydd. Roedd pobl yr oedd eu cymwysterau uchaf yn TGAU graddau A i C (NQF lefel 2; 8%) neu Safon Uwch neu gyfwerth (NQF lefel 3; 9%), neu nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau (9%), yn debygol o siarad Cymraeg bob dydd. Ni ddangosir amlder y defnydd o'r Gymraeg i bobl â TGAU is na gradd C (lefelau NQF is na 2) gan fod rhy ychydig o ymatebwyr yn y categori hwn i roi dadansoddiad cadarn.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022-23
[Nodyn 1] Mae'r bariau du yn y siart hon yn dangos cyfyngau hyder o 95%. Mae cyfyngau hyder yn dangos pa mor fanwl yw amcangyfrif. Mae cyfyngau hyder ehangach yn dangos llai o fanylder. Mae bariau ansicrwydd sy'n gorgyffwrdd yn dangos nad yw gwahaniaethau yn arwyddocaol yn ystadegol.
Roedd pobl sy'n byw mewn ardaloedd sydd wedi'u rhestru yn y cwintelau canol (41% i 60% lleiaf difreintiedig) neu'r lleiaf difreintiedig ond un (21% i 40% lleiaf difreintiedig) ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC) yn fwy tebygol o siarad Cymraeg bob dydd na phobl mewn cwintelau eraill (gweler Ffigur 6).
Ffigur 6: Cyfran y siaradwyr Cymraeg beunyddiol ym mhob cwintel MALlC, 2022-23 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 6: Siart far sy'n dangos cyfran y bobl ym mhob cwintel MALlC a oedd yn siarad Cymraeg yn eu bywyd bob dydd. Mae 17% o bobl yn y cwintel canol (C3) a 14% o bobl yn y cwintel lleiaf difreintiedig ond un (C4) yn siarad Cymraeg bob dydd. Roedd pobl yn yr 20% mwyaf difreintiedig yn lleiaf tebygol o siarad Cymraeg bob dydd, gyda 5% o bobl yn y cwintel yn siarad Cymraeg bob dydd.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022-23
[Nodyn 1] Mae'r bariau du yn y siart hon yn dangos cyfyngau hyder o 95%. Mae cyfyngau hyder yn dangos pa mor fanwl yw amcangyfrif. Mae cyfyngau hyder ehangach yn dangos llai o fanylder. Mae bariau ansicrwydd sy'n gorgyffwrdd yn dangos nad yw gwahaniaethau yn arwyddocaol yn ystadegol.
Ffactorau aelwydydd a daearyddol
Canfuwyd bod pobl yn fwy tebygol o siarad Cymraeg bob dydd os oeddent yn byw mewn aelwyd sy'n cynnwys o leiaf un person o dan 19 oed. Roedd 12% o bobl y mae eu haelwyd yn cynnwys pobl o dan 19 oed yn siarad Cymraeg mewn bywyd bob dydd, o'i gymharu â 10% o bobl nad oedd eu haelwyd yn cynnwys pobl o dan 19 oed.
Canfuwyd bod gwledigrwydd a rhanbarth yn gysylltiedig â siarad Cymraeg bob dydd. Roedd pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn fwy tebygol o siarad Cymraeg mewn bywyd bob dydd na'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd trefol: dywedodd 21% o bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig eu bod yn siarad Cymraeg bob dydd ac yn gallu siarad mwy nag ychydig o eiriau, o'i gymharu â 6% o bobl sy'n byw mewn ardaloedd trefol.
Canfuwyd bod pobl sy'n byw yng ngogledd-orllewin Cymru yn llawer mwy tebygol o siarad Cymraeg bob dydd na'r rhai sy'n byw mewn rhanbarthau eraill o Gymru (gweler Ffigur 7), gyda 40% o bobl sy'n byw yng ngogledd-orllewin Cymru yn siarad Cymraeg bob dydd. Pobl sy'n byw yn ne-ddwyrain Cymru oedd leiaf tebygol o ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd, sef 4%.
Ffigur 7: Cyfran y siaradwyr Cymraeg beunyddiol sy'n byw ym mhob rhanbarth o Gymru, 2022-23 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 7: Siart far sy'n dangos cyfran y bobl sy'n byw ym mhob rhanbarth o Gymru a oedd yn siarad Cymraeg yn eu bywyd bob dydd. Roedd pobl sy'n byw yng ngogledd-orllewin Cymru a chanolbarth Cymru yn fwy tebygol o siarad Cymraeg bob dydd na'r cyfartaledd cenedlaethol o 11%. Roedd pobl sy'n byw yng ngogledd-ddwyrain neu dde-ddwyrain Cymru yn llai tebygol o siarad Cymraeg bob dydd na'r cyfartaledd cenedlaethol.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022-23
[Nodyn 1] Mae'r bariau du yn y siart hon yn dangos cyfyngau hyder o 95%. Mae cyfyngau hyder yn dangos pa mor fanwl yw amcangyfrif. Mae cyfyngau hyder ehangach yn dangos llai o fanylder. Mae bariau ansicrwydd sy'n gorgyffwrdd yn dangos nad yw gwahaniaethau yn arwyddocaol yn ystadegol.
Ffactorau na chanfuwyd eu bod yn gysylltiedig â siarad Cymraeg mewn bywyd bob dydd
Ymchwiliwyd i'r ffactorau canlynol yn y dadansoddiad, ond ni chanfuwyd eu bod yn gysylltiedig yn annibynnol â defnyddio'r Gymraeg mewn bywyd bob dydd:
- statws priodasol
- anabledd
- rhywioldeb
- deiliadaeth
- bod mewn amddifadedd materol
- cyfranogiad mewn gwirfoddoli
- byw mewn aelwyd sy'n cynnwys o leiaf un person dros 60 oed
Y cyd-destun polisi
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth ar gyfer y Gymraeg, yn Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr, yn 2017. Mae'r strategaeth yn nodi dull hirdymor y Llywodraeth o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac o ddyblu'r defnydd beunyddiol o'r iaith.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Un o'r saith nod ar gyfer llesiant cenedlaethau'r dyfodol yw iaith Gymraeg ffyniannus. Mae'r cynnydd tuag at y nod hwn yn cael ei fesur gan ddau ddangosydd cenedlaethol:
- Canran y bobl sy’n siarad Cymraeg bob dydd ac sy’n gallu siarad mwy na dim ond ychydig o eiriau Cymraeg
- Nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg
Mae miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 wedi'i gynnwys yn un o'r cerrig milltir cenedlaethol ar gyfer y dangosyddion llesiant cenedlaethol.
Mae Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 yn cynnwys targed ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ynghyd â thargedau eraill sy'nymwneud â'r iaith. Y bwriad yw cryfhau rôl y Gymraeg mewn addysg a sicrhau bod pob disgybl mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn ddefnyddwyr Cymraeg annibynnol pan fyddant yn gadael yr ysgol.
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Y rhain yw creu Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth ac iach, sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, â chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu defnyddio at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt (a) gyhoeddi'r dangosyddion diwygiedig a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016. Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai'r ystadegau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd roi naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.
Cymharu â ffynonellau eraill
Gan fod cwestiynau gallu Cymraeg yn yr Arolwg Cenedlaethol yn cynnwys trydydd opsiwn ‘na, ond rhywfaint o allu i’ yn ogystal ag ‘ydw’ a ‘nac ydw’, ni ellir cymharu'r data hwn yn uniongyrchol â data Cyfrifiad y DU, sy'n caniatáu ateb deuaidd ‘ydw’ a ‘nac ydw’ yn unig. Cyfrifiad y DU yw’r ffynhonnell a ddewisir i fesur nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.
Ym mis Ebrill 2023, cyhoeddwyd cynllun gwaith sy'n amlinellu'r gwaith y mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i wella dealltwriaeth o'r arolwg a'r ffynonellau data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau am y Gymraeg.
Bydd gwaith pellach yn cynnwys cymharu data Cymraeg o Arolwg Cenedlaethol Cymru â ffynonellau data eraill.
Gwybodaeth am ansawdd
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg ffôn, hapsampl a pharhaus a wneir ar raddfa fawr sy'n cwmpasu pobl ledled Cymru. Dewisir cyfeiriadau ar hap, ac anfonir gwahoddiadau drwy'r post yn gofyn i bobl ddarparu rhif ffôn ar gyfer y cyfeiriad. Gellir darparu'r rhif ffôn drwy borth ar-lein, llinell ymholiadau ffôn, neu'n uniongyrchol i rif ffôn symudol y cyfwelydd ar gyfer yr achos penodol. Os na ddarperir rhif ffôn, mae'n bosibl y bydd cyfwelydd yn galw yn y cyfeiriad ac yn gofyn am rif ffôn.
Mae'r siartiau yn yr adroddiad hwn yn cynnwys cyfyngau hyder. Mae cyfyngau hyder yn dangos pa mor fanwl yw amcangyfrif. Mae cyfyngau hyder ehangach yn dangos llai o fanylder. Mae bariau ansicrwydd sy’n gorgyffwrdd yn dangos nad yw gwahaniaethau’n arwyddocaol yn ystadegol.
Mae siartiau a thablau manwl o'r canlyniadau ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth am gasglu data a methodoleg, gweler ein tudalennau Adroddiad Ansawdd, Adroddiad Technegol, ac Adroddiad Atchweliad.
Mae traws-ddadansoddi yn awgrymu y gallai amrywiaeth o ffactorau fod yn gysylltiedig â'r ymatebion a roddwyd i bob cwestiwn a ofynnwyd yn yr Arolwg Cenedlaethol. Serch hynny, mae'r ffactorau hyn yn aml yn gysylltiedig â'i gilydd (er enghraifft, gall pobl sydd â salwch cyfyngus hirdymor fod yn hŷn hefyd). Er mwyn deall effaith pob ffactor unigol yn well, rydym wedi defnyddio dulliau ystadegol i wahanu effaith unigol pob ffactor. Mae'r dulliau hyn yn caniatáu inni edrych ar effaith un ffactor, gan gadw'r ffactorau eraill yn gyson – sef rheoli ar gyfer ffactorau eraill. Nodwyd pob dadansoddiad a ddisgrifir yn yr adroddiad hwn fel ffactor unigol.
Mae'r gwahaniaethau rhwng grwpiau o fewn y ffactorau hyn (er enghraifft, rhwng gwrywod a menywod, neu ar draws bandiau oedran) a drafodir yn yr adroddiad hwn yn arwyddocaol yn ystadegol, oni nodir yn wahanol, gan ddangos bod y gwahaniaethau yn annhebygol o fod oherwydd siawns o ran pwy a gymerodd ran yn yr arolwg. Mae'r siartiau sy'n dilyn yn cynnwys gwahaniaethau arwyddocaol a heb fod yn arwyddocaol. Gellir nodi gwahaniaethau sylweddol lle mae bariau ansicrwydd nad ydynt yn gorgyffwrdd ar yr un siart.
Fel gyda phob dadansoddiad o’r math hwn, er ein bod yn trafod cysylltiadau rhwng gwahanol ffactorau, ni allwn ganfod achos ac effaith ar gyfer y cysylltiadau hyn, ac ni allwn gyfrif ychwaith am ffactorau sydd heb eu mesur yn yr arolwg.
Statws Ystadegau Gwladol
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007, sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU).
Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.
Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rhoddir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan adain reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n bodloni'r safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon gyda'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg os na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a'i adfer pan fydd cydymffurfiaeth â'r safonau.
Cadarnhawyd y byddai'r ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi'n Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2020, yn dilyn gwiriad cydymffurfiaeth gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (llythyr cadarnhau (Awdurdod Ystadegau'r DU)). Y tro diwethaf i'r ystadegau hyn gael eu hasesu'n llawn yn erbyn y Cod Ymarfer (adroddiad llawn) oedd yn 2013 (Awdurdod Ystadegau'r DU).
Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, er enghraifft drwy:
- ddarparu dadansoddiadau manylach yn y dangosydd canlyniadau.
- diweddaru pynciau’r arolwg yn rheolaidd er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion polisi sy’n newid.
- parhau i gynnal dadansoddiadau atchweliad fel rhan safonol o'n hallbynnau, er mwyn helpu defnyddwyr i ddeall cyfraniad ffactorau penodol at ganlyniadau o ddiddordeb.

