Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (dydd Mercher 15 Mehefin) dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ei bod am weld Cymru'n cyflawni ei huchelgais i ddatblygu cwricwlwm o'r radd flaenaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth ddisgrifio ei gweledigaeth ar gyfer y cwricwlwm ar ôl cael ei phenodi i'r rôl, soniodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod eisiau codi safon yr addysgu yng Nghymru yn ogystal â safon y proffesiwn drwy gydweithio'n agos ag athrawon. Pwysleisiodd hefyd y bydd clywed llais rhieni a disgyblion yn hanfodol i'w dull o weithio.

Dywedodd Kirsty Williams:

"Roeddwn yn gwbl gefnogol o weledigaeth yr Athro Graham Donaldson ar gyfer cwricwlwm newydd pan gafodd ei chyhoeddi y llynedd. Fodd bynnag, mae’r proffesiwn wedi dweud wrthyf eu bod yn aml yn teimlo wedi’u llethu gan bolisïau a mentrau newydd. Fy ffocws, felly, fydd sicrhau bod y rhaglen i ddiwygio addysg yn cael ei gweithredu’n dda. Mae hyn yn cynnwys gwneud yn siŵr bod y gweithlu yn ganolog i’r datblygiadau hyn ac yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen er mwyn gallu cyflawni potensial y cwricwlwm newydd yn eu hysgolion.

"Rwyf am sicrhau ein bod yn gwneud y pethau sylfaenol yn iawn, sef galluogi athrawon i gael addysgu, ac arweinwyr i gael arwain. Rwyf am weithio’n agos gyda’r proffesiwn i helpu athrawon ac ymarferwyr i fod cystal ag y gallant fod, gan godi safon yr addysgu ar yr un pryd ac, yn bwysig iawn, codi statws y proffesiwn yn gyffredinol. Heb athrawon ac ymarferwyr brwd, sy’n cael eu gwerthfawrogi ac sydd â’r sgiliau angenrheidiol, allwn ni ddim cyflawni unrhyw beth.

"Rwyf hefyd am glywed llais rhieni a phlant wrth inni ddatblygu ein cwricwlwm newydd. Yn aml, mae dymuniadau’r llywodraeth a phryderon y proffesiwn yn rheoli’r drafodaeth gyhoeddus am ein system addysg, ond rwyf am glywed oddi wrth gymaint o rieni a phlant â phosibl, fel bod yr hyn y maen nhw am ei weld yn llywio fy agenda i.

"Rwy’n benderfynol o gyflawni ein huchelgais i ddatblygu cwricwlwm sydd ymhlith y gorau yn y byd. Mae hon yn agenda heriol. Gwella dysgu a chodi safonau - dyna’r nod yn y bôn; dydy ein plant, ein pobl ifanc a’n cenedl yn haeddu dim byd llai."

Gwnaeth y Gweinidog hefyd sôn y byddai'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar y trywydd iawn i fod ar gael i ysgolion er mwyn helpu i sicrhau bod gan ddysgwyr y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn byd cynyddol ddigidol. Heddiw, mae mwy na 250 o athrawon yn dod at ei gilydd yn Llandudno i glywed am y datblygiadau diweddaraf mewn dysgu digidol yng Nghymru.