Daeth yr ymgynghoriad i ben 21 Rhagfyr 2017.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 403 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn am y cynigion drafft i sicrhau bod cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru yn gallu manteisio mwy ar gymorth, cyngor a gwasanaethau.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae'r ddogfen yma yn disodli Fframwaith Gweithredu a Chynllun Cyflawni Teithio at Ddyfodol Gwell (2011).
Rydym wrthi'n ymgynghori ar gynigion ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr a fydd yn helpu i wneud y canlynol:
- gwella cynhwysiant cymdeithasol
- sicrhau llety sy'n briodol o ran eu diwylliant ac o ansawdd da
- lleihau niferoedd gwersylloedd diawdurdod a digartrefedd a'u heffaith
- lleihau'r bwlch o ran deilliannau addysgol ac iechyd
- eu helpu i ddeall eu hawliau a'u hannog i gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau
- cefnogi cyfle cyfartal yn y farchnad lafur
- gwella eu perthynas ag asiantaethau cyfiawnder troseddol a gofal cymdeithasol.
