Mae ysgolion cynradd ledled Cymru yn cael eu hannog i ddarparu cyfleoedd rheolaidd, cynhwysol a phleserus ychwanegol i blant fod yn egnïol drwy gydol y diwrnod ysgol.
- mae Milltir Actif wedi'i lansio'n genedlaethol, gan annog ysgolion cynradd Cymru i gynnig sesiynau cerdded, loncian neu redeg ychwanegol o leiaf 3 yr wythnos
- nod y fenter yw helpu plant i gyflawni'r gweithgarwch corfforol dyddiol a argymhellir gan Brif Swyddogion Meddygol y DU
- mae galwad 13 wythnos am dystiolaeth ar Strategaeth Iechyd y Cyhoedd newydd i Gymru hefyd bellach ar agor
Mae ysgolion cynradd ledled Cymru yn cael eu hannog i ddarparu cyfleoedd rheolaidd, cynhwysol a phleserus ychwanegol i blant fod yn egnïol drwy gydol y diwrnod ysgol, wrth i Milltir Actif gael ei lansio'n genedlaethol yn Aberaeron heddiw.
Ar yr un pryd, mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i bawb yng Nghymru beth sydd bwysicaf i'w helpu nhw a'u cymunedau i aros yn iach, wrth i alwad 13 wythnos am dystiolaeth agor ar Strategaeth Iechyd y Cyhoedd newydd.
Ymunodd y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth a'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol Nerys Evans â disgyblion Ysgol Gynradd Aberaeron i gymryd rhan yn eu Milltir Ddyddiol a gofyn iddynt beth sy'n eu cadw'n iach ac yn egnïo.
Ysgrifennodd un o'r disgyblion hynny, Flynn Cadwallader-Nunn, at y Prif Weinidog pan ddechreuodd yn ei swydd i awgrymu Dydd Gwener Hwyl o chwaraeon a gemau.
Dywedodd y Prif Weinidog:
Mae wedi bod yn wych cyfarfod Flynn heddiw ac ymuno efo fo a'i gyd-ddisgyblion ar gyfer eu Milltir Ddyddiol. Mae Flynn yn gwbl gywir y dylai bod yn actif fod yn hwyl, a gall dod o hyd i ffyrdd pleserus o symud mwy ein helpu i aros yn iach, teimlo'n dda a chefnogi ein creadigrwydd.
Mae mor bwysig sefydlu arferion iach i leihau'r risg o salwch yn nes ymlaen mewn bywyd. Ond dydy ein gwaith ar atal ddim wedi'i gyfyngu i blant a phobl ifanc yn unig. Rydyn ni am greu'r amodau i roi'r cyfle i bawb yng Nghymru fyw bywydau hir ac iach.
Dyna pam rydyn ni'n gofyn i bawb ddilyn esiampl Flynn a dweud wrthym beth fyddai'n eich helpu chi a'ch cymuned i aros yn egnïol ac yn iach.
Ychwanegodd Nerys Evans:
Mae cynyddu cyfleoedd i blant fod yn gorfforol actif yn fuddsoddiad mewn iechyd gydol oes. Ac mae'r Milltir Actif wedi'i chynllunio i fod yn hwyl ac yn hyblyg fel y gellir ei chynnwys yn hawdd yn y diwrnod ysgol.
“Ry'n ni bellach yn gweithio ar gynllun i ddiogelu iechyd ein cenedl am flynyddoedd i ddod, felly ry’n ni’n gofyn i bawb ddweud wrthym beth sydd bwysicaf i helpu pawb i aros yn iach ac yn hapus, a beth sy'n sefyll yn y ffordd.
Mae'r fenter Milltir Actif yn cefnogi argymhelliad Prif Swyddogion Meddygol y DU y dylai plant a phobl ifanc wneud cyfartaledd o o leiaf 60 munud o weithgarwch corfforol y dydd yn ystod yr wythnos.
Mae ysgolion yn cael eu hannog i roi cyfleoedd i ddisgyblion gerdded, loncian, rhedeg neu symud ar olwynion am tua 15 munud, yn ddelfrydol o leiaf 3 yr wythnos, fel rhan o'r nod ehangach o helpu plant i gyflawni'r gweithgarwch corfforol dyddiol a argymhellir ar gyfer yr wythnos.
Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol, ac ni fydd angen unrhyw offer arbenigol, newid dillad na chynllunio gwersi ychwanegol. Gall ysgolion sydd eisoes yn cynnig gweithgareddau tebyg ddal ati i wneud hynny.
Caiff y Filltir Actif ei chefnogi gan adnoddau ymarferol gan y Filltir Ddyddiol, prif ddarparwr mentrau Milltir Actif yng Nghymru. Fel y rhaglen nofio genedlaethol newydd i ysgolion, mae wedi'i chynllunio i ategu gwersi addysg gorfforol, dysgu actif, chwarae, teithio llesol a chwaraeon ysgol.
Mae'r alwad am dystiolaeth ar Iechyd Da: Strategaeth a Fframwaith Iechyd Cyhoeddus Newydd i Gymru ar agor am 13 wythnos o heddiw ymlaen. Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar gryfhau atal, gwella iechyd y boblogaeth a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
