Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraethau Datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cyhoeddi galwad y cyd ar Lywodraeth y DU i drafod gyda nhw cyn y negodiadau â’r Undeb Ewropeaidd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn cyfarfod yn Llundain yn gynharach heddiw, fe wnaethon nhw alw ar Weinidogion y DU i newid eu ffordd o fynd ati i drafod. Cyfarfu Gweinidog Pontio Ewropeaidd Llywodraeth Cymru Jeremy Miles â Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon Arlene Foster, y dirprwy Brif Weinidog Michelle O'Neill, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth yr Alban dros y Cyfansoddiad, Ewrop a Materion Allanol Mike Russell a'r Gweinidog Ewrop a Datblygu Rhyngwladol, Jenny Gilruth.

“Cyn i’r gyfres nesaf o negodiadau gael eu cynnal yn ddiweddarach y mis hwn, fe wnaethom gytuno y bydd raid cael proses ystyrlon, gynhwysfawr a thryloyw i'r Llywodraethau Datganoledig allu dylanwadu ar safbwynt negodi'r DU – rhywbeth sy’n amlwg heb ddigwydd hyd yma.
 
“Bydd y negodiadau hyn yn cael effaith sylweddol a pharhaol ar bobl, cymunedau a busnesau ledled y Deyrnas Unedig, ac mae gan y Llywodraethau Datganoledig gyfrifoldeb neilltuol dros sicrhau bod buddiannau'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn cael eu diogelu a'u hyrwyddo.
 
“Mae gan bob un o’n Llywodraethau ei phryderon penodol ac mae'n rhaid i’r rhain gael eu cymryd o ddifrif, gan roi’r cyfle i ddylanwadu'n uniongyrchol ar safbwynt negodi'r DU.

“Dim ond wyth diwrnod sydd tan y gyfres nesaf o negodiadau, felly mae angen i Lywodraeth y DU fynd ati ar fyrder i ymgysylltu’n ystyrlon ac yn gadarnhaol ar y mater hwn ar bob lefel – gan roi’r cyfle priodol i bob Llywodraeth helpu i benderfynu ar safbwynt y DU yn y negodiadau mwyaf arwyddocaol ers degawdau.”