Neidio i'r prif gynnwy

Nifer yr ymholiadau a gafodd eu trin, gan gynnwys cyswllt dros y ffôn ac ar-lein ar gyfer Ionawr i Fawrth 2020.

Prif bwyntiau

  • Gwnaed 56,845 o alwadau i brif rif 0845 Galw Iechyd Cymru. Atebwyd  26,492 o’r rhain.
  • Cafwyd dros 2.5 miliwn o ymweliadau i wefan Galw Iechyd Cymru.
  • Cafwyd ychydig dros 522,000 o ymweliadau i’r gwiriwr symptomau ar-lein, ac roedd bron i dri chwarter o’r rhain (384,000) i wirio symptomau coronafeirws.Gwnaed 991 o ymholiadau ar-lein i’r gwasanaeth ymholiadau ar y we.
  • Cafodd 47% o’r galwadau  lle cofnodwyd canlyniad terfynol eu cyfeirio at ofal sylfaenol, cyfeiriwyd 16% i adrannau damweiniau ac achosion brys, a galwyd ambiwlans yn sgil 8% o’r galwadau. Darparwyd gwybodaeth neu gyngor hunanofal i’r 29% arall.

Hysbysiad terfynu

Mae gweithrediad 111 Cymru bellach yn cwmpasu mwy na 52% o'r boblogaeth; mae hyn yn effeithio ar nifer y galwadau i Galw Iechyd Cymru. O ganlyniad, hwn fydd y datganiad olaf yng nghyfres Galw Iechyd Cymru.

Adroddiadau

Diweddariad Galw Iechyd, Ionawr i Fawrth 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 764 KB

PDF
Saesneg yn unig
764 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.