Mae'r GIG yn cael ei annog i ymrwymo i wella mynediad at wasanaethau anhwylderau bwyta a chanolbwyntio ar fodel newydd ar gyfer ymyrraeth gynnar.
Daeth yr alwad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl Sarah Murphy cyn Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, sydd i'w chynnal cyn hir.
Mae ymgyrch Ceisio Cymorth Nawr gan GIG Cymru yn tynnu sylw at y ffaith fod anhwylderau bwyta yn effeithio ar fwy na 1.25 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig, ond mai dim ond tua thraean sy'n ceisio cymorth yn ffurfiol.
Thema Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta eleni (23 Chwefror i 1 Mawrth) yw ‘cymuned’, gan bwysleisio rôl hanfodol teulu, ffrindiau a rhwydweithiau cymorth yn adferiad unigolyn.
Mae byrddau iechyd ledled Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran ehangu gwasanaethau anhwylderau bwyta, ond mae hyn yn amrywio ar draws y wlad.
Mae llawer wedi manteisio ar gwrs e-ddysgu Lefel Sylfaen newydd ar gyfer staff iechyd a gofal. Mae Cyflwyniad i Anhwylderau Bwyta, a gafodd ei lansio gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru y llynedd, yn helpu pobl sy'n gweithio yn y sector i ddeall anhwylderau bwyta'n well, adnabod yr arwyddion, a gwybod sut i gyfeirio pobl at y cymorth a'r gefnogaeth gywir.
Nod yr ymgyrch Ceisio Cymorth Nawr yw codi ymwybyddiaeth o anhwylderau bwyta ac annog pobl i ofyn am gymorth a chefnogaeth yn gynnar.
Mae'r adnoddau yn rhan o fuddsoddiad o £2 miliwn yn Perfformiad a Gwella'r GIG i wella ansawdd a chanlyniadau ac i ddarparu mynediad yr un diwrnod i'r rhai sy'n chwilio am gymorth iechyd meddwl.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy:
Rydw i wedi galw ar y byrddau iechyd i wella mynediad at driniaeth amserol a chanolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, gan ein bod yn gwybod bod cael cymorth a chefnogaeth yn gynharach yn gallu cael effaith gadarnhaol ar y rhai sy'n byw gydag anhwylder bwyta.
Mae'n dda gweld cynnydd o ran ehangu gwasanaethau anhwylderau bwyta ledled Cymru, ond rydyn ni'n dal i ymdrechu i sicrhau bod mwy o bobl yn cael eu trin yn nes at eu cartrefi a bod rhagor o ymchwil yn cael ei wneud i anhwylderau bwyta.
Mae'r thema cymuned eleni yn canolbwyntio ar bwysigrwydd cefnogi rhywun ag anhwylder bwyta. Mae'n dangos pa mor hanfodol yw hi i bobl gael cefnogaeth gan bobl o'u cwmpas a sut gall hynny fod yn fanteisiol yn ystod eu triniaeth.
