Neidio i'r prif gynnwy

Cyd-destun

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu galwad Ofgem am fewnbwn ar Daliadau Sefydlog. Rydym wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU ac Ofgem i ddiwygio taliadau sefydlog gan eu bod yn sylfaenol annheg i bobl sy'n byw yng Nghymru. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol iawn y byddai trosglwyddo'r costau hyn yn ffioedd cyfeintiol yn unig yn arwain at effeithiau negyddol ar aelwydydd nad oes ganddynt unrhyw ddewis ond defnyddio symiau mawr o ynni, fel y rhai sy'n dibynnu ar ddefnyddio dyfeisiau meddygol gartref.

Yr ateb a ffefrir gennym yw y dylid cynnal adolygiad cyfannol o daliadau manwerthu a bod hynny'n cynnwys diddymu taliadau sefydlog, cyflwyno tariff cymdeithasol a/neu dariff meddygol ac ailgydbwyso costau nwy a thrydan. Rydym hefyd yn ymwybodol y gall yr Adolygiad o Drefniadau’r Farchnad Drydan gael effaith ar gwsmeriaid hefyd, gan gynnwys effeithiau daearyddol gwahaniaethol o dan senarios penodol. Gallai ystyried yr effeithiau yn gyffredinol ar y cam hwn sicrhau bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn Llywodraeth y DU ac Ofgem yn gosod llwybr tuag at bontio cyfiawn ac amgylchedd sy'n cefnogi defnyddwyr i fuddsoddi mewn technolegau carbon isel.
 

Amrywiadau rhanbarthol

Mae'r loteri cod post o daliadau sefydlog yn annerbyniol. Nid oes gan gwsmeriaid unrhyw ddylanwad uniongyrchol ar y costau hyn, ac nid oes mesurau y gallant eu cymryd yn rhesymol i'w lleihau na'u hosgoi, o ystyried y diffyg amrywiad mewn tariffau sydd ar gael ar y farchnad. Cwsmeriaid yng ngogledd Cymru sy'n talu'r taliadau uchaf ym Mhrydain Fawr, tra bo pobl yn ne Cymru hefyd yn talu'n uwch na'r cyfartaledd.

Mae cartrefi yn y Gogledd yn teimlo'n arbennig eu bod yn cael cam. Maent yn byw'n agos at ffynonellau mawr o drydan adnewyddadwy fforddiadwy sy'n cael ei allforio o'r rhanbarth drwy'r grid cenedlaethol, ac eto maent yn wynebu'r taliadau uchaf ym Mhrydain Fawr.

Er bod dadleuon eraill dros ddileu taliadau sefydlog yn llwyr, byddai gweithredu cyfradd unffurf ar draws pob rhanbarth ym Mhrydain Fawr yn gam i'r cyfeiriad cywir.

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r ystyriaeth y mae Ofgem yn ei rhoi i’r effeithiau daearyddol pe bai’r costau yn cael eu trosglwyddo o daliadau sefydlog i daliadau cyfeintiol, sy'n awgrymu y byddai trosglwyddiad o'r fath yn cael effaith niweidiol ar gwsmeriaid domestig yng Nghymru.  Efallai y bydd y ganran uchel o eiddo gwledig ac oddi ar y grid nwy yn effeithio ar yr effaith fodeledig hon, a byddem yn gwerthfawrogi sgyrsiau pellach gydag Ofgem ar y pwynt hwn.

Incwm isel a chwsmeriaid defnydd isel

Mae'r taliadau safonol uchel yng Nghymru, ynghyd â'r ffaith bod y tâl wedi mwy na dyblu ers 2021, yn effeithio'n anghymesur ar aelwydydd incwm is a'r rhai sy'n defnyddio llai o ynni. Mae hyn yn peryglu iechyd a llesiant aelwydydd incwm isel ac yn lleihau'r cymhelliant i aelwydydd eraill arbed ynni.

Fel y nodwyd uchod, mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r dadansoddiad y mae Ofgem wedi'i wneud i ddeall sut y byddai’r posibilrwydd o symud y costau o daliadau sefydlog i gostau cyfeintiol yn effeithio ar aelwydydd incwm is . Yn gyffredinol, byddai hyn yn cael effaith fuddiol ar aelwydydd incwm is, ond byddai rhai aelwydydd defnydd uchel yn y grŵp hwn a fyddai'n colli allan ac, yn arbennig, byddai'r effaith ar y rhai sy'n colli allan fwy na ddwywaith yn waeth na'r rhai sy'n elwa. Mae lliniaru effeithiau ar yr aelwydydd hynny yn hanfodol pe bai'r penderfyniad yn cael ei wneud i newid y costau.

Enghraifft o liniaru allai fod cyflwyno tariff cymdeithasol neu dariffau, y mae Llywodraeth Cymru wedi galw amdanynt ers tro. Gallai hyn gynnwys tariff meddygol i'r rhai sy'n dibynnu ar offer meddygol neu system wresogi drydan i gadw'n gynnes. Rydym yn cydnabod y gall Llywodraeth Cymru hefyd chwarae ei rhan ochr yn ochr â Llywodraeth y DU i wella amodau eiddo rhent preifat a chefnogi deiliaid tai i wella eiddo sydd wedi'u hinswleiddio'n wael ac yn aneffeithlon o ran ynni.

Cymorth ar gyfer y trawsnewidiad sero net

Mae'n amlwg bod yna ddadl glir bod trosglwyddo taliadau sefydlog i gostau uned yn cymell cwsmeriaid i leihau eu defnydd o ynni.  Fel y mae Ofgem wedi'i nodi yn yr alwad am fewnbwn, mae modd dadlau i'r gwrthwyneb hefyd wrth ystyried fforddiadwyedd rhai technolegau carbon isel.

Y prif gymhelliant dros annog trydaneiddio fydd ailgydbwyso prisiau nwy a thrydan, a fydd yn cael llawer mwy o effaith ar atyniad technolegau carbon isel na newidiadau i daliadau sefydlog. Am y rheswm hwn, rhaid mabwysiadu safbwynt cyfannol ar draws yr heriau polisi gwahanol hyn. 

Yr hyn sydd wedi’i gynnwys mewn taliadau sefydlog

Roedd elfen polisi a chostau amgylcheddol y tâl sefydlog yn gyfran gymharol sylweddol o'r tâl sefydlog cyn i'r Adolygiad Codi Tâl wedi'i Dargedu ddod i rym. Safbwynt Llywodraeth Cymru yw y dylid talu cost trosglwyddo i sero net drwy drethiant cyffredinol ac nid codi tâl ar ddefnyddwyr ynni.

Er bod costau Cyflenwyr y Dewis Olaf wedi cynyddu yn 2021 a 2022 cyn gostwng, nid yw'n amhosibl y gallai sioc debyg i'r farchnad ddigwydd yn y dyfodol. Ein barn ni yw y dylai Ofgem sicrhau bod trefniadau ar waith i gyfyngu cyn belled ag y bo modd y tebygolrwydd y bydd y farchnad yn wynebu costau o'r fath yn y dyfodol, gan adeiladu ar ei ymateb i'r argyfwng ynni byd-eang diweddar, a bod ffynhonnell arall o gyllid ar gael i dalu am y costau hyn yn y dyfodol pe bai'r angen yn codi.

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r penderfyniad gan Ofgem i gynnal dadansoddiad ôl-weithredu o'r Adolygiad Codi Tâl wedi'i Dargedu, yn enwedig ei ystyriaeth o'r effeithiau ar gwsmeriaid defnydd is ac ar gamau lliniaru posibl. Nid yw'n deg y dylai defnyddwyr sy'n defnyddio cyn lleied ysgwyddo cyfran anghymesur o uchel o gostau cynnal a chadw rhwydwaith, yn enwedig y rhai ar incwm isel. Rydym yn cefnogi tariff cymdeithasol i liniaru'r costau hyn, a mynediad cyffredinol at dariffau yn seiliedig ar ddefnydd yn unig i annog eraill i leihau faint o ynni y maent yn ei ddefnyddio.
 

Newidiadau i daliadau sefydlog yn y dyfodol

Mae Ofgem yn nodi cynnydd tebygol mewn taliadau o dan lefel y cap dim defnydd trydan yn 2024/25. Maent hefyd yn tynnu sylw at bolisi Llywodraeth y DU i gefnogi Diwydiannau Ynni-ddwys (EEI) gyda'u costau ynni drwy gymhwyso ardoll EEI i filiau defnyddwyr eraill. Wrth ddatblygu unrhyw ardoll EEI, rhaid i Lywodraeth y DU ystyried effeithiau ar incwm is ac aelwydydd agored i niwed. Dylid ystyried atebion fel tariff cymdeithasol fel rhan o becyn cyfannol i sicrhau bod canlyniadau polisi yn cael eu cyflawni a bod effeithiau niweidiol anfwriadol yn cael eu hosgoi.

Mae'n anochel y bydd y buddsoddiad sylweddol sydd ei angen i drawsnewid ein trydan a'i wneud yn addas ar gyfer y dyfodol yn golygu cost sylweddol. Er bod opsiynau i leihau'r effaith ar gwsmeriaid heddiw, mae'n anochel y bydd costau uwch dros y degawd nesaf. Ni ddylid cymryd yn ganiataol mai'r ffordd orau o dalu'r costau hyn yw drwy cynnydd pellach mewn taliadau sefydlog. 
 

Mesuryddion rhagdalu (PPM)

Mae Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â llawer o grwpiau defnyddwyr ac elusennau, wedi codi pryderon o'r blaen ynghylch y gyfradd uwch o daliadau sefydlog a oedd yn arfer bod yn berthnasol i gwsmeriaid PPM. Rydym yn croesawu'r mesur dros dro i sicrhau cysondeb rhwng cwsmeriaid sy'n defnyddio mesuryddion rhagdalu a chwsmeriaid debyd uniongyrchol drwy ddisgownt i gwsmeriaid PPM. Rydym bellach yn cefnogi dewis Ofgem ar gyfer sicrhau llai o wahaniaeth rhwng taliadau mesuryddion rhagdalu a thaliadau sefydlog debyd uniongyrchol, pe bai'r penderfyniad yn ffafrio cadw tâl sefydlog yn y dyfodol.

At hynny, byddem yn annog Ofgem i fynd ymhellach i gefnogi ein cartrefi tlotaf ar fesuryddion rhagdalu drwy amsugno'r costau taliadau sefydlog yn gyfan gwbl yn dilyn cyfnod o hunan-ddatgysylltu. Dylid edrych ar y posibilrwydd o ailgydbwyso rhywfaint bach er budd y defnyddwyr tlotaf, gan gydnabod y disgwyliad cyffredinol i gwsmeriaid dalu costau cyflenwi. 
 

Tariff cymdeithasol / Tariff meddygol fel mesur lliniaru

Mae Llywodraeth Cymru wedi galw'n gyson, dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i gyflwyno tariff cymdeithasol i ddiogelu'r deiliaid tai mwyaf agored i niwed. Credwn y dylai tariff cymdeithasol fod yn rhan o'r sgwrs ynghylch taliadau sefydlog. Gwnaeth y Canghellor ymrwymiad yn Natganiad yr Hydref yn 2022 i ddatblygu dull gweithredu newydd ar gyfer diogelu defnyddwyr, gan gynnwys yr opsiwn o dariff cymdeithasol i fod yn berthnasol o fis Ebrill 2024 ymlaen. Wrth inni wynebu gaeaf heriol arall, mae’n destun pryder mawr nad ydym eto wedi gweld unrhyw beth pellach ar yr ymrwymiad hwn.

Byddai tariff cymdeithasol yn cefnogi aelwydydd incwm isel ac yn helpu i'w diogelu rhag costau cynyddol gan gynnwys newidiadau i'r taliadau sefydlog. Er ein bod yn cydnabod bod cyflwyno tariff cymdeithasol yn fater i Lywodraeth y DU yn hytrach nag Ofgem, rydym yn annog Ofgem i ystyried sut y gellid defnyddio tariff o'r fath fel mesur lliniaru ochr yn ochr â diwygio taliadau sefydlog.
 

Casgliad

Mae'r gyfundrefn bresennol ar gyfer taliadau sefydlog yn methu aelwydydd incwm is, mae ei heffeithiau o ran dosbarthiad daearyddol yn annerbyniol i aelwydydd yng Nghymru ac nid oes dewis arall ystyrlon gan ddefnyddwyr ynni isel, o ystyried y diffyg amrywiaeth mewn tariffau.  Byddem yn annog Ofgem a Llywodraeth y DU i weithredu'n gyfannol ar draws y tirlun polisi i gael gwared ar yr anghyfiawnder hwn a diogelu aelwydydd agored i niwed drwy fesurau fel tariff cymdeithasol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer aelwydydd ag anghenion meddygol. O ystyried y cymhlethdod a'r amserlenni posibl sy'n gysylltiedig â diwygio ar raddfa eang, cam cyntaf da fyddai cydraddoli taliadau sefydlog ar draws rhanbarthau Prydain Fawr.