Neidio i'r prif gynnwy

Mae atyniad newydd i'r teulu wedi agor yn Sir Benfro, yn barod i groesawu ymwelwyr yr haf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Gardd Dylluanod Gudd wedi agor yng Nghastell Pictwn ers mis Mai sydd wedi cael nawdd y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth Croeso Cymru. 
Mae'r atyniad newydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr weld a dod i nabod dros 25 o rywogaethau gwahanol o dylluanod mewn adardai yng ngardd y coed.  Bydd yna sesiynau rhyngweithio a helfa drysor i adnabod y tylluanod.

Sefydlwyd yr Ardd Dylluanod Gudd gan Alex ac Emma Hill pan welon nhw fwlch yn y farchnad a chyfle i gynnig rhywbeth gwahanol i'r hyn oedd ar gael yn yr ardal. Dywedodd Emma Hill: 
"Penderfynon ni greu'r Ardd Dylluanod Gudd am fod pobl wastad yn dweud wrthon ni gymaint y maen nhw'n dwlu ar dylluanod, felly dyma ni'n rhoi'r cyfle iddyn nhw ddysgu mwy amdanyn nhw."

Yn ystod y gwyliau ysgol, bydd y tîm yn cynnal gweithgareddau rhyngweithiol â phlant i ddysgu am gwdihŵs. Bydd y gweithgareddau'n cynnwys gwaith celf a chrefft (gwneud masgiau tylluanod), tynnu peledi tylluanod yn ddarnau, dysgu am blu adar a hedfan tawel ac ati.

Mae'r tîm yn cynnig profiadau personol â'r tylluanod lle mae ymwelwyr yn cael galw'r tylluanod o'r coed  i law fanegog. Trwy archebu'r profiadau hyn yn bersonol, gellir eu haddasu yn ôl gofynion y grŵp neu'r teulu unigol, a bydd yn cynnwys set o ffotograffau.

Yn y dyfodol, gobeithir trefnu cyrsiau am ofalu am dylluanod a thrin tylluanod. Bydd y busnes yn trefnu'r cyrsiau hyn gydol y flwyddyn i feithrin sgiliau hebogwyr a chyflwyno'r safonau gofal uchaf i'r genhedlaeth nesaf.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: 
"Hoffwn longyfarch Emma ac Alex am weld y cyfle i gynnig rhywbeth gwahanol yn Sir Benfro ac mae'n dda gweld hefyd ein bod wedi gallu helpu'r busnes i dyfu.  Rydyn ni'n dymuno'r gorau iddyn yn eu haf cyntaf ac ar gyfer y dyfodol."

Mwy o wybodaeth ar www.secretowlgarden.co.uk (dolen allanol, Saesneg yn unig).