Neidio i'r prif gynnwy

Ar ôl lansio wythnos ddiwethaf, daeth Sker Ritual, gêm arswyd gothig gyda stori gefndir yng Nghymru, yn un o'r gemau PC a chonsol a werthodd orau yn y byd. – gan gyrraedd y 3 uchaf ar Steam, y 5 uchaf ar Xbox a'r 10 uchaf ar PlayStation.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mewn safle uwch na gemau sydd wedi'u sefydlu'n fyd-eang fel FIFA 24, Call of Duty a Grand Theft Auto, Sker Ritual yw'r gem gan Wales Interactive o Benarth sy'n  dilyn Maid of Sker yn 2020 sydd wedi'i hysbrydoli gan y gân werin Gymreig 'Y Ferch o'r Sger'. Mae'r gân yn adrodd hanes Elisabeth Williams, menyw ifanc a garcharwyd gan ei thad yn Sker House, lleoliad go iawn ger Porthcawl, i'w hatal rhag priodi'r dyn yr oedd yn ei garu. Dywedir iddi farw o dorcalon.

Yn ogystal â'r lleoliadau cyfarwydd a'r stori gefndir, dylai chwaraewyr Cymru hefyd wrando am ddarnau o ddeialog a dyfyniadau o emynau Cymraeg a ddefnyddir ar drac sain gemau'r Sker wrth iddynt geisio saethu nifer ddi-ddiwedd o zombies.

Mae Wales Interactive, y cwmni o Benarth y tu ôl i Sker Ritual, yn cyhoeddi gemau fideo a ffilmiau rhyngweithiol arobryn sydd wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Cymru Greadigol yn y gorffennol - yr asiantaeth fewnol a sefydlwyd i helpu i ddatblygu'r sectorau Creadigol yng Nghymru.

Gyda'i gilydd, mae stiwdio a phortffolio Wales Interactive o deitlau wedi derbyn dros 140 enwebiad ar gyfer gwobrau a thros 60 o anrhydeddau, nid yn unig am eu gwaith creadigol ond hefyd am eu hysbryd entrepreneuraidd a'u harloesi cyson yn eu maes.

Meddai Dr David Banner MBE, Prif Swyddog Gweithredol a Chyd-sylfaenydd Wales Interactive:

Bu'r ymateb, y gefnogaeth a'r croeso y mae Sker Ritual wedi ei gael ledled y byd yn anhygoel. Ac mae'n wych gweld cefnogaeth barhaus Cymru Greadigol i'r diwydiant gemau sy'n tyfu yng Nghymru sydd wedi helpu i hyrwyddo datblygwyr Gemau fel ni.

Meddai Hannah Blythyn, Gweinidog y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru:

Llongyfarchiadau enfawr i Wales Interactive ar lwyddiant Sker Ritual. Mae'n gamp enfawr i stiwdio annibynnol o Gymru fod yno yn cystadlu yn erbyn gemau fel Call of Duty a FIFA 24 ac mae'n dangos beth sy'n bosibl gydag ychydig bach o gefnogaeth a llawer iawn o dalent.

Rydym yn falch o'n diwydiant gemau ffyniannus a'r sylfaen dechnoleg peiriannau gemau sy'n datblygu yma yng Nghymru. Rwyf wedi ymrwymo i roi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar ddatblygwyr gemau i barhau i dyfu a dangos yr hyn sy'n bosibl yn y sector cyffrous hwn sy'n newid yn gyflym. Byddwch yn barod am fwy o lwyddiant rhyngwladol!