Trwydded gyffredinol ar gyfer symud carcasau dofednod a charcasau adar caeth eraill i’w gwaredu o safle mewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth yng Nghymru neu Loegr (EXD339(HPAI)(EW))
Trwydded gyffredinol i symud sgerbydau dofednod am warediad o safle mewn parth gwarchod yn Lloegr neu Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae’r drwydded hon, yn amodol ar gydymffurfiaeth â’r amodau a nodir isod, yn caniatáu symud carcasau dofednod neu adar caeth eraill i’w gwaredu yn uniongyrchol o safle mewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth i safle arall o fewn neu y tu allan i barth yng Nghymru neu Loegr.
Dim ond symudiadau sydd fel arall yn cael eu gwahardd gan ddatganiad a gyhoeddwyd mewn ymateb i achosion o H5NX sy’n cael eu caniatáu o dan y drwydded hon, lle mae H5NX yn unrhyw straen o feirws ffliw adar pathogenig iawn cytras 2.3.4.4b, er enghraifft H5N1, H5N5. Nid yw’n caniatáu symudiadau sydd wedi’u gwahardd gan ddatganiad a gyhoeddwyd mewn ymateb i achosion o unrhyw straen arall o HPAI.
Mae’r drwydded hon yn ddilys o 4:42pm ar 11 Mawrth 2025 hyd nes y caiff ei hatal neu ei dirymu’n ysgrifenedig ac mae’n dirymu a disodli’r drwydded EXD539(HPAI)(EW) a ddaeth i rym am 3:52pm ar 18 Chwefror 2025.
Cyhoeddwyd y drwydded hon gan Lywodraeth Cymru ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac mae’n berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig.
Llofnodwyd: Radu Pancu, Arolygydd Milfeddygol
Dyddiad: 11 Mawrth 2025 Amser: 4:42pm
Arolygydd Milfeddygol a benodwyd gan Weinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol.
Deddfwriaeth
Cyhoeddir y drwydded gyffredinol hon yn unol â’r canlynol:
- paragraffau 14 a 16 o Atodlen 4, a pharagraff 8A o Atodlen 5, i Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)
- paragraffau 14 a 16 o Atodlen 4, a pharagraff 8A o Atodlen 5, i Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)
- Erthygl 2(1) o Orchymyn Anifeiliaid (Darpariaethau Amrywiol) 1927.
Amodau’r drwydded
- Rhaid i’r gwaith symud ddigwydd yn uniongyrchol i’r safle gwaredu.
- Dim ond drwy’r modd o waredu a bennir ar gyfer deunydd Categori 1 neu ddeunydd Categori 2 gan Reoliad (CE) Rhif 1069/2009 (cyfraith a gymathwyd) y mae modd symud carcasau dofednod ac adar caeth i’w gwaredu. Rhaid i waredu carcasau ddigwydd trwy’r dull gwaredu a’r defnydd a ganiateir gan Reoliad (CE) Rhif 1069/2009 (cyfraith a gymathwyd) ar gyfer y categori perthnasol o ddeunydd. Nid yw’r rhanddirymiad yn Erthygl 18 o Reoliad (CE) Rhif 1069/2009 (cyfraith a gymathwyd) sy’n galluogi defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid Categori 2 wrth fwydo unrhyw anifeiliaid yn berthnasol i’r carcasau hyn.
- Yn union cyn symud neu waredu carcasau dofednod neu adar caeth eraill, rhaid i’r trwyddedai archwilio’r adar ar y safle i sicrhau nad ydynt yn dangos unrhyw arwyddion clinigol (https://www.gov.uk/guidance/avian-influenza-bird-flu) a allai fod yn gysylltiedig â ffliw adar.
- Rhaid i’r trwyddedai hysbysu APHA o fewn 24 awr i’r arolygiad i gadarnhau bod yr arolygiad wedi’i gynnal ac nad oedd yr adar ar y safle yn dangos unrhyw arwyddion clinigol a allai fod yn gysylltiedig â ffliw adar. Rhaid i’r hysbysiad gynnwys enw a chyfeiriad y traddodwr, safle’r cyrchfan gwaredu a dyddiad a chanlyniad yr arolygiad. Gellir gwneud yr hysbysiad ar e-bost i Outbreak.Licensing@apha.gov.uk neu yn ysgrifenedig at: The Licensing Team, APHA, Level One, County Hall, Spetchley Road, Worcester, WR5 2NP.
- Rhaid i’r cerbyd sy’n cludo’r carcasau dofednod neu adar caeth eraill fod yn un sy’n atal gollyngiadau ac wedi’i orchuddio. Rhaid hefyd fod pecyn gollyngiadau ar gael yn y cerbyd rhag ofn y bydd gollyngiad yn digwydd ar y ffordd.
- Ni ddylid mynd â’r cerbyd casglu y tu hwnt i ffin allanol y safle gwreiddiol (lle bo hynny’n bosibl) ac ni ddylai deithio dros unrhyw wyneb a allai fod wedi’i halogi â llaid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion, plu, sarn, plisgyn wy neu ddeunydd tebyg arall a allai drosglwyddo clefyd. Dylai’r gwaith o drosglwyddo’r carcasau ddigwydd ar ffin allanol y safle.
- Rhaid glanhau a diheintio olwynion a bwâu olwynion y cerbyd cyn gadael unrhyw safle lle casglwyd carcas ohono. Rhaid i’r gwaith glanhau a diheintio ar ôl llwytho ddigwydd mewn man lle nad oes modd i’r cerbyd gael ei halogi y tu hwnt i’r fan honno gan laid, slyri, tail anifeiliaid, plu, sarn, plisgyn wy neu unrhyw ddeunydd tebyg.
- Ar ôl dadlwytho yn y safle gwaredu:
- rhaid glanhau a diheintio’r rhannau o’r cerbyd ac unrhyw offer a ddefnyddiwyd i gludo unrhyw beth a allai fod wedi’i halogi gan laid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall, a hynny ar y safle
- rhaid glanhau a diheintio olwynion a bwâu olwynion ar ôl dadlwytho a chyn gadael safle’r cyrchfan.
- Rhaid i’r trwyddedai sicrhau bod unrhyw berson/personau sy’n ymwneud â’r gwaith symud hwn yn gwneud y canlynol:
- peidio â mynd i mewn i unrhyw safle dofednod neu adar caeth, neu adael unrhyw safle o’r fath, os yw/ydynt yn gwisgo dillad neu esgidiau sy’n amlwg wedi’u baeddu gan laid, ysgarthion dofednod neu adar, neu unrhyw ddeunydd tebyg
- yn glanhau ac yn diheintio ei esgidiau/eu hesgidiau cyn mynd i mewn neu adael unrhyw safle neu fan lle’r oedd dofednod neu adar caeth yn bresennol
- yn tynnu unrhyw ddillad tafladwy cyn gadael safle dofednod neu adar caeth a pheidio â’u hailddefnyddio ar safle arall
- yn sicrhau bod dillad nad ydynt yn dafladwy yn lân ac yn rhydd o unrhyw halogiad gweladwy cyn gadael safle dofednod neu adar caeth
- yn cymryd pob rhagofal rhesymol arall i osgoi trosglwyddo llaid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall rhwng safleoedd dofednod ac adar caeth.
- Nid yw’r drwydded hon yn berthnasol i symudiadau i, neu o, unrhyw safle sy’n destun hysbysiad gwahardd gan arolygydd milfeddygol.
- Rhaid glanhau a diheintio’r safle y symudwyd carcasau ohono gan ddefnyddio diheintyddion a gymeradwywyd gan y llywodraeth ac yn unol ag Erthygl 66 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) yng Nghymru neu Erthygl 66 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) yn Lloegr.
Nodiadau esboniadol
- Rhaid i unigolyn sy’n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded a roddwyd o dan y Gorchymyn sicrhau bod ganddo nodyn cludo. Rhaid i’r nodyn cludo gynnwys:
- faint o garcasau dofednod neu adar eraill sy’n cael eu symud
- dyddiad y symudiad
- enw’r traddodwr
- cyfeiriad y safle y symudwyd y carcasau ohono
- rhif cofrestru’r cerbyd sy’n casglu’r samplau
- enw’r traddodai
- cyfeiriad y safle gwaredu
- Rhaid i ddeiliad y safle gwreiddiol gadw cofnod o symudiadau, gan gynnwys rhif cofrestru unrhyw gerbyd a ddefnyddir, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol ar ôl y symudiad, a dylid cadw’r cofnod am o leiaf chwe wythnos ar ôl cwblhau’r symudiad, yn unol â gofyniad Erthygl 74 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) yng Nghymru, neu Erthygl 74 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) yn Lloegr.
- Rhaid i berson sy’n symud carcasau dofednod neu adar caeth eraill o dan awdurdod trwydded a roddwyd o dan Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 neu Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006, os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd neu swyddog arall a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol, rhoi ei enw a’i gyfeiriad, dangos y nodyn cludo a chaniatáu i rywun wneud copi llawn neu gopi o ran ohono.
- Os nad yw’r drwydded hon yn berthnasol i’r gweithgaredd rydych yn dymuno ymgymryd ag ef, neu os na allwch gydymffurfio ag unrhyw un o’r telerau ac amodau sy’n berthnasol i ddefnyddio’r drwydded hon, yna bydd angen i chi wneud cais am drwydded benodol.
- Pan fydd angen defnyddio diheintydd o dan y drwydded hon, rhaid defnyddio’r crynodiad cywir, caniatáu amser cyswllt digonol a rhaid iddo fod wedi ei gymeradwyo o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Cymru) 2007 (fel y’i diwygiwyd) yng Nghymru neu Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Lloegr) 2007 (fel y’i diwygiwyd) yn Lloegr.
- Os ydych chi’n amau achos o glefyd hysbysadwy, rhaid i chi roi gwybod am hyn ar unwaith:
- Cymru – APHA ar 0300 303 8268
- Lloegr – llinell gymorth gwasanaethau gwledig Defra ar 03000 200 301
- Nid yw’r awdurdod i symud carcasau dofednod neu adar caeth eraill o dan y drwydded hon yn berthnasol i safle sydd o dan hysbysiad Safle Heintiedig, Cyswllt neu Amheuaeth.
- Dim ond casglwr sydd wedi’i gofrestru o dan ofynion Erthygl 23 o Reoliad (CE) Rhif 1069/2009 (cyfraith a gymathwyd sy’n ymwneud â sgil-gynhyrchion anifeiliaid) sydd â hawl i symud carcas oni bai ei fod yn gweithredu o safle a gymeradwywyd o dan Erthygl 24 o’r Rheoliad hwnnw. Rhaid i unrhyw gerbyd a ddefnyddir i gludo carcas o dan y drwydded hon gydymffurfio â darpariaethau perthnasol Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) (Gorfodi) 2014 (fel y’u diwygiwyd) yng Nghymru neu Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Lloegr) (Gorfodi) 2013 (fel y’u diwygiwyd) yn Lloegr.
- Rhaid cymeradwyo safle’r cyrchfan yn unol ag Erthygl 24 o Reoliad (CE) Rhif 1069/2009 (cyfraith a gymathwyd).
- Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn:
Stoc drig a gwaredu anifeiliaid marw yn ddiogel – https://www.gov.uk/fallen-stock
- Rhaid i bawb sy’n cadw adar gadw llygad barcud ar eu hadar am arwyddion o glefydau (https://www.gov.uk/guidance/avian-influenza-bird-flu) a sicrhau bioddiogelwch da (DOLEN i https://www.gov.uk/guidance/bird-flu-avian-influenza-how-to-prevent-it-and-stop-it-spreading ) bob amser. Os oes gennych unrhyw bryderon am iechyd eich adar, gofynnwch am gyngor gan eich milfeddyg yn ddi-oed bob amser. Os oes gennych unrhyw bryderon am iechyd eich adar, gofynnwch am gyngor gan eich milfeddyg yn ddi-oed.
- Am ragor o fanylion ynghylch deddfwriaeth sy’n ymwneud â ffliw adar yng Nghymru – gweler gwefan Llywodraeth Cymru ac yn Lloegr – gweler canllawiau ffliw adar.
Mae methu â chydymffurfio â’r mesurau gofynnol yn y drwydded hon yn drosedd o dan Adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Os yw rhywun yn euog o gyflawni trosedd o dan yr adran hon, y gosb yw uchafswm o chwe mis yn y carchar neu ddirwy nad yw’n uwch na Lefel 5 ar y raddfa safonol, neu’r ddau.
Cysylltu â ni
Dylech gynnwys eich enw, eich cyfeiriad llawn a’ch rhif ffôn fel y gallwn sicrhau bod eich ymholiad yn cael ei gyfeirio at yr arbenigwr cywir.
