Neidio i'r prif gynnwy

Gofynnwch am gymorth iechyd meddwl gan GIG 111 Cymru

I gael cymorth iechyd meddwl ar frys ffoniwch 111 a phwyso RHIF 2

Mae'r gwasanaeth ar gael i bobl o bob oed, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ym mhob rhan o Gymru, i sicrhau bod pobl sydd angen cymorth yn gallu cael gafael arno’n gyflym pan fydd ei angen arnynt fwyaf.

Os ydych chi eisiau siarad â rhywun ar frys am eich iechyd meddwl, neu os ydych chi'n poeni am aelod o'r teulu, ffoniwch GIG 111 Cymru a dewis opsiwn 2 i gael eich cysylltu’n uniongyrchol â gweithiwr iechyd meddwl professiynol yn eich ardal.

Gallwch ffonio am ddim o linell ffôn neu ffôn symudol, hyd yn oed os nad oes gennych gredyd ar ôl.

Croesawir galwadau yn Gymraeg.

Rhagor o gymorth a chyngor

Mae GIG 111 Cymru yn darparu amrywiaeth eang o gymorth iechyd meddwl a lles.

Ar GIG 111 Cymru

Image
funded by logo