Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarwyddiadau Desg ‘Sut i Lenwi’ ar gyfer Cymdeithasau Pori ar gyfer Opsiynau 1a (Stocio Safonol) ac 1b (Stocio Hyblyg)

Dyddiadur stocio ar gyfer blwyddyn galendr a blwyddyn cynllun 2023

Un o ofynion Cynllun Glastir −Tir Comin yw llenwi a chyflwyno dyddiadur stocio dyddiol ar gyfer 12 mis llawn y flwyddyn flaenorol (2023 yn yr achos hwn). 

Drwy ddefnyddio'r templed a ddarperir, byddwch yn helpu swyddogion Llywodraeth Cymru i ddilysu'r dyddiadur yn gywir ac yn fwy effeithlon cyn.

Mae gofyn llenwi a chyflwyno'r dyddiadur hwn ar gyfer pob un o flynyddoedd y Contract Glastir − Tir Comin.

Rhaid cyflwyno'r dyddiadur hwn i Lywodraeth Cymru erbyn 14 Ionawr 2024.

Noder y bydd taliadau ar gyfer hawliadau Cynllun Glastir – Tir Comin 2023 yn cael eu gwneud erbyn 31/12/2023. Rhaid i'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r dyddiadur stocio o 14/01/2024 barhau i gael ei fodloni gan bob Cymdeithas Bori.  Bydd dyddiaduron stocio a gyflwynwyd ar ôl 31/12/2023 yn cael eu dilysu ar ôl eu derbyn a bydd unrhyw gosbau'n cael eu rhoi ar waith os ydynt yn dod i’r amlwg. Gall methu â chyflwyno dyddiadur stocio erbyn 14/01/2024 arwain at gosb.

Esboniad o'r tabiau

Cyfanswm (Cymdeithas Bori) − mae'r tab hwn yn rhoi cyfanswm yr holl anifeiliaid ac yn cyfrif yr Unedau Da Byw ar gyfer pob diwrnod o'r flwyddyn galendr. Mae'r tab hefyd yn rhoi cyfanswm yr wybodaeth a nodwyd o dan y tabiau Porwr 1, Porwr 2 etc ac yn dangos y dyddiad perthnasol a'r math o anifail yn y tab.

Rhestr Porwyr – mae'r tab hwn yn dangos yr holl borwyr ar y Comin.  Dylech roi'r holl wybodaeth y gofynnir amdani o dan y penawdau. Mae cwymplen 'Ewch i'r Tudalen Porwyr' ar gael ar frig y sgrin hefyd. Gallwch ddewis y gwymplen hon a mynd i tab porwr penodol.

Porwr 1, Porwr 2 etc – Dyma lle bydd pob porwr unigol yn cofnodi symudiadau stoc ar gyfer y flwyddyn gyfan. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei chasglu ac yna ei bwydo i mewn i'r tab Cyfanswm.

Sut i lenwi'r templed

Cyfanswm (Cymdeithas Bori) 
Rhowch yr wybodaeth isod ar y tab 'Cyfanswm (Cymdeithas Bori)' ar frig y sgrin:

  • Enw Masnachu eich Cymdeithas Bori
  • Blwyddyn (dylai ddangos 2023)

Rhestr Porwyr
Llenwch yr holl fanylion y gofynnir amdanynt yn y penawdau o dan y tab hwn.

Porwr 1, 2, 3 etc.
Rhaid llenwi'r tabiau Porwr 1, 2, 3 etc er mwyn cyfrif cyfanswm yr Unedau Da Byw ar yr tir ar unrhyw ddiwrnod yn ystod y flwyddyn galendr. Ar frig y sgrin, dylech roi enw'r Porwr; dylech hefyd gynnwys yr Enw Masnachu a'r CRN.

‘Dyddiad Stocio’ – o dan y golofn hon, dylech nodi'r dyddiad y newidiodd y lefelau stocio. Dylai'r cofnodion ddangos yr anifeiliaid a oedd ar y comin am hanner nos.

Er enghraifft, ar 01 Awst, mae 100 o anifeiliaid blwydd oed ar y comin yn y bore ac yna mae'r nifer yn cynyddu i 200 yn y prynhawn. Dylech gofnodi 200 ar gyfer y diwrnod hwnnw.

Nodwch nifer yr anifeiliaid ym mhob colofn, gan ofalu eich bod yn defnyddio'r golofn gywir, oherwydd gallai peidio â gwneud hynny arwain at gosb am orbori/tanbori'r comin. Mae'n bosibl y bydd cosb hefyd os nad yw'r dyddiadur stocio'n cael ei gadw'n gywir.

Bydd y dyddiadur yn trosi nifer yr anifeiliaid yn Unedau Da Byw – nid oes angen i'r Porwr/Cymdeithas Bori drosi nifer yr anifeiliaid yn Unedau Da Byw.

Dylech sicrhau eich bod yn cofnodi'r holl fanylion yn gywir cyn cyflwyno'r templed i'w ddilysu gan Lywodraeth Cymru.

Image
EU logo