Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cynhadledd Caffael Cyhoeddus Cymru Cyfleoedd Llywodraeth (GO) 2021 yn dod i Gymru ar 30 Tachwedd!

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y gynhadledd rithwir newydd gyffrous hon yn dathlu sut y daeth y gymuned gaffael at ei gilydd i ddelio â heriau digynsail COVID-19 a bydd yn edrych ymlaen at sut y gall caffael gefnogi Cymru yn ei hadferiad yn sgil y pandemig.

Daw siaradwyr o bob rhan o'r gymuned gaffael ac maen nhw’n cynnwys Rebecca Evans, y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol, John Coyne, Cyfarwyddwr Masnachol a Chaffael newydd, Llywodraeth Cymru, Jonathan Irvine, Cyfarwyddwr Caffael a Gwasanaethau Cludo Iechyd, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Malcolm Harrison, Prif Swyddog Gweithredol CIPS.

I gael rhagor o fanylion ac i gofrestru, ewch i wefan y digwyddiad.

Bydd Procurex Cymru yn dychwelyd i’r Motorpoint Arena ar 26 Ebrill y flwyddyn nesaf.