Gofal Argyfwng ac Acíwt Cymru - Egwyddor arweiniol 2
Fframwaith i wella gofal argyfwng a gofal ysbyty yng Nghymru, gan helpu pobl i gael triniaeth yn brydlon a gwella'n ddiogel gartref.
Ar y dudalen hon
Egwyddor arweiniol 2: Dylai pobl gael pontio’n ddiogel o’r ysbyty tuag adref
Dim ond cyhyd â bod angen clinigol y dylai pobl fod oddi cartref.
Er bod gofal ysbyty yn hanfodol pan fo angen asesiad a thriniaeth arbenigol, gall cyfnodau hir yn yr ysbyty leihau annibyniaeth, peri oedi cyn adfer ac amlygu pobl i niweidiau y gellid eu hosgoi.
Felly, mae pontio tuag adref yn ddiogel ac yn amserol yn un o ganlyniadau allweddol gofal acíwt o ansawdd uchel, gan sicrhau y gall pobl barhau i adfer yn y lleoliad mwyaf priodol, gyda chymorth gwasanaethau iechyd, gofal a chymunedol cydgysylltiedig.
Er mwyn cyflawni hyn bydd angen mynediad cyflym at ddiagnosteg, dehongli arbenigol a phenderfyniadau clinigol ar hyd y daith yn yr ysbyty.
Nid yw prawf cyflymach ar ei ben ei hun yn ddigonol: rhaid i ganlyniadau lywio'r broses o gynllunio triniaeth, adferiad a phontio heb greu aros pellach.
Conglfeini ar gyfer cyflawni gan GIG Cymru a'i bartneriaid
Mae'r tri chonglfaen olaf yn canolbwyntio ar ddarparu triniaeth effeithiol, adferiad a phontio tuag adref:
- Gofal acíwt cynnar effeithiol ac adferiad yn y 72 awr gyntaf
- Gofal diogel ar y ward, sy'n ychwanegu gwerth, heb oedi y gellid ei osgoi
- Cyfnod saith diwrnod integredig a diogel o bontio tuag adref a pharhau i adfer
Ynghyd â'r 3 chonglfaen cyntaf, maent yn symud y polisi o ymateb cyflym, drwy driniaeth ddiffiniol ac adferiad, i fod oddi cartref cyhyd â bod angen clinigol yn unig.
Conglfaen 4: Gofal acíwt cynnar effeithiol ac adferiad yn y 72 awr gyntaf
Y canlyniadau rydym am eu cyflawni erbyn 2034
- Mae pobl yn cael budd o ofal cydgysylltiedig sy'n eu helpu i adfer yn gyflym ac osgoi amser diangen yn yr ysbyty.
- Gwrandewir ar bobl, teuluoedd a gofalwyr ac maent yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau am ofal ac adfer.
- Dim ond cyhyd â bod angen clinigol y mae pobl yn treulio amser yn yr ysbyty ac maent yn cael eu cefnogi i barhau â'u hadferiad gartref pan fo hynny'n ddiogel ac yn briodol.
Mae conglfaen 4 yn tanlinellu sut y dylid cynllunio ysbytai acíwt ar sail asesu, gwneud diagnosis, trin ac adfer yn gyflym.
Dylai cyfnod yn yr ysbyty fod mor fyr ag sy'n angenrheidiol yn glinigol, a dylid bod modd nodi anghenion y rhan fwyaf o bobl, eu trin a'u rhyddhau o'r ysbyty yn ddiogel ar yr un diwrnod neu o fewn 72 awr i gyrraedd, gan osgoi derbyn cleifion yn ddiangen a chefnogi adferiad yn nes at y cartref.
Dylai prosesau gwneud penderfyniadau clinigol uwch ar gam cynnar, mynediad cyflym at ddiagnosteg a dehongli canlyniadau'n amserol, triniaeth ddiffiniol, gofal amlddisgyblaethol a chynllunio adferiad roi'r cyfle gorau i sicrhau bod y cyfnod y bydd pobl yn ei dreulio yn yr ysbyty yn fyr ac yn ddiogel.
Dylid trefnu gofal yn ystod y 72 awr gyntaf ar sail cynnal gweithrediad, atal dirywiad a galluogi adferiad, yn hytrach nag arsylwi yn unig.
Dylai cleifion, gofalwyr a theuluoedd fod yn bartneriaid gweithredol yn y gofal, gan ddeall y cynllun, cyfrannu at benderfyniadau ynghylch triniaeth ac adferiad, a helpu i nodi dirywiad, rhwystrau i adferiad neu bryderon ynghylch rhyddhau o'r ysbyty ar unrhyw gam o'r llwybr.
Y cerrig milltir y disgwyliwn i'r GIG a'i bartneriaid eu cyflawni dros y 3 blynedd nesaf
2027: Ailosod
- Mae model cenedlaethol y cytunwyd arno'n glinigol wedi cael ei sefydlu ar gyfer yr asesiadau, y triniaethau a'r cymorth i adfer sydd eu hangen ar bobl o fewn y 72 awr gyntaf o gyrraedd yr ysbyty, gan eu galluogi i ddychwelyd adref yn ddiogel yn gynt a gwneud cyfnodau diangen yn yr ysbyty yn rhywbeth eithriadol yn hytrach nag arferol.
- Er mwyn cefnogi model 72 awr, mae dull y cytunwyd arno'n genedlaethol yn cael ei ddatblygu ar gyfer mynediad cyflym at ddiagnosteg i alluogi penderfyniadau amserol, triniaeth gynharach a rhyddhau mwy o bobl i ddychwelyd adref ar yr un diwrnod neu o fewn 72 awr pan fo'n ddiogel gwneud hynny.
- Mae canllawiau cenedlaethol ar waith ac wedi'u hymgorffori fel bod dirywiad yn cael ei gydnabod yn gynharach, ac y gweithredir ar bryderon a godir gan gleifion, gofalwyr, teuluoedd neu staff yn gyflym ac yn gyson.
2028: Atgyfnerthu
- Mae mwy o bobl yn cael asesiad, diagnosis a thriniaeth gyflym drwy wasanaethau gofal argyfwng ac acíwt yr un diwrnod, gan osgoi cyfnodau diangen yn yr ysbyty a'u helpu i ddychwelyd adref yn gynt ac o fewn 72 awr.
- Mae adferiad yn dechrau ar adeg derbyn, lle mae symudedd, gwybyddiaeth, maeth, adsefydlu a gwaith cynllunio ar gyfer rhyddhau o'r ysbyty yn cael eu hystyried fel rhywbeth safonol ochr yn ochr â thriniaeth.
- Mae cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn gyson mewn penderfyniadau, yn deall y cynllun gofal a gallant godi pryderon ynglŷn â dirywiad.
2029: Dangos gwelliant
- Gellir dangos bod mwy o bobl yn cwblhau eu cyfnod acíwt yn yr ysbyty o fewn y 72 awr gyntaf, gan leihau trosglwyddiadau i'r ward y gellid eu hosgoi, cyfnodau hir yn yr ysbyty, niwed sy'n gysylltiedig â'r ysbyty a cholli annibyniaeth.
- Mae llai o bobl yn profi dirywiad, deliriwm, dadgyflyru, colli gweithrediad neu gyfnod estynedig yn yr ysbyty y gellid eu hosgoi yn ystod gofal acíwt cynnar.
- Mae amrywiadau, trosglwyddiadau ac achosion o oedi cyn cael diagnosis, gwneud penderfyniadau clinigol a rhoi triniaeth y gellid eu hosgoi yn cael eu lleihau.
Conglfaen 5: Gofal diogel ar y ward, sy'n ychwanegu gwerth, heb oedi y gellid ei osgoi
Y canlyniadau rydym am eu cyflawni erbyn 2034
- Mae pobl yn cael gofal yn y lle cywir, mewn amgylcheddau sy'n diogelu eu preifatrwydd, eu hurddas a'u diogelwch.
- Mae pobl yn cael eu cefnogi i gynnal eu cryfder, eu symudedd a'u hannibyniaeth drwy gydol eu cyfnod yn yr ysbyty.
- Bydd pobl yn cael profion, cyngor arbenigol a thriniaeth amserol, gan eu galluogi i ddychwelyd adref cyn gynted ag y bo'n briodol yn glinigol.
Mae conglfaen 5 yn ymwneud â hynt diogel claf drwy'r ysbyty.
Mae'n golygu'r gwely neu'r lleoliad gofal cywir y tro cyntaf, perchnogaeth glinigol glir a chamau rheoli dyddiol effeithiol mewn perthynas â phopeth sydd ei angen i symud triniaeth ac adferiad yn eu blaen.
Dylai gwell llif roi terfyn ar oedi y gellid ei osgoi ac atal gofal rhag cael ei ddarparu mewn coridorau neu amgylcheddau amhriodol eraill.
Dylid trefnu gofal ar y ward ar sail cynnydd dyddiol gweithredol, lle mae triniaeth, diagnosteg, adolygiadau arbenigol, adsefydlu a chynllunio ar gyfer rhyddhau o'r ysbyty yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi adferiad a phontio tuag adref yn amserol.
Dylid nodi, blaenoriaethu ac adolygu ymchwiliadau a phenderfyniadau triniaeth sy'n weddill yn glir drwy brosesau gwneud penderfyniadau amlddisgyblaethol.
Dim ond os byddant yn llywio gofal y dylid gofyn am brofion diagnostig, ac ni ddylai oedi cyn profi, rhoi gwybod am y canlyniadau neu weithredu arnynt estyn cyfnod rhywun yn yr ysbyty yn ddiangen.
Y cerrig milltir y disgwyliwn i'r GIG a'i bartneriaid eu cyflawni dros y 3 blynedd nesaf
2027: Ailosod
- Mae safonau cenedlaethol ac atebolrwydd yn cael eu pennu ar gyfer gofal diogel, effeithiol ar y ward sy'n canolbwyntio ar adferiad.
- Mae gwaith cenedlaethol yn nodi pan fydd pobl yn profi oedi cyn cael eu rhyddhau o'r ysbyty, niwed y gellid ei osgoi neu brofiadau gwael yn yr ysbyty, gan gynnwys dull cyson o fesur a chofnodi gofal mewn coridor a chamau gweithredu i leihau'r defnydd a wneir ohono a'i achosion sylfaenol.
- Mae gwaith cenedlaethol yn cael ei wneud i helpu i nodi’n gliriach yr amseroedd aros diangen am brofion, canlyniadau a phenderfyniadau ynghylch triniaeth er mwyn helpu mwy o bobl i gael gofal amserol a dychwelyd adref yn gynt.
2028: Atgyfnerthu
- Mae gofal ar y ward yn darparu perchnogaeth glinigol glir, prosesau gwneud penderfyniadau amlddisgyblaethol effeithiol, cynnydd dyddiol gweithredol o ran triniaeth ac adferiad, a phrosesau cynllunio ar gyfer rhyddhau o'r ysbyty o adeg derbyn yn gyson.
- Mae llai o bobl yn cael gofal mewn coridor neu mewn amgylcheddau amhriodol eraill ac mae gwybodaeth glinigol, gwybodaeth weithredol a gwybodaeth am gleifion yn cael eu defnyddio i nodi oedi y gellid ei osgoi, dirywiad a niwed sy'n gysylltiedig ag ysbytai fel mater o drefn ac ymdrin â nhw.
- Mae adolygiadau amlddisgyblaethol dyddiol yn nodi ac yn datrys camau diagnostig, triniaeth, adsefydlu a rhyddhau o'r ysbyty sy'n weddill, a cheir perchnogaeth glinigol glir a chamau uwchgyfeirio pan fo oedi yn effeithio ar driniaeth, adferiad neu'r broses o bontio tuag adref.
2029: Dangos gwelliant
- Gellir dangos bod oedi y gellid ei osgoi o ran asesu, diagnosteg, triniaeth, mewnbwn arbenigol, trosglwyddo a hynt claf drwy'r ysbyty wedi cael ei leihau.
- Mae mwy o bobl yn cael gofal yn y lleoliad mwyaf priodol y tro cyntaf, gyda llai o achosion o symud ward, trosglwyddo ac oedi diangen.
- Mae gofal mewn coridor yn cael ei ddileu fel ymateb arferol i bwysau gweithredol, gyda gostyngiadau yn parhau mewn achosion o niwed a gafwyd yn yr ysbyty, dirywiad gweithredol a chyfnodau estynedig yn yr ysbyty sy'n gysylltiedig ag oedi y gellid ei osgoi.
Conglfaen 6: Cyfnod saith diwrnod integredig a diogel o bontio tuag adref a pharhau i adfer
Y canlyniadau rydym am eu cyflawni erbyn 2034
- Mae pobl yn gallu dychwelyd adref cyn gynted ag y byddant yn barod, saith diwrnod yr wythnos, gyda'r meddyginiaethau, y cyfarpar a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i adfer yn ddiogel.
- Mae pobl yn profi prosesau adfer ac adsefydlu cydgysylltiedig sy'n cefnogi eu hannibyniaeth, eu llesiant a'u hansawdd bywyd.
- Nid yw pobl yn wynebu oedi diangen ar y diwrnod y cânt eu rhyddhau o'r ysbyty.
- Nid oes neb yn aros yn yr ysbyty dim ond am nad oes trefniadau wedi'u rhoi ar waith i'w helpu i ddychwelyd adref.
Mae conglfaen 6 yn ymwneud â gwneud y broses o bontio tuag adref yn rhan o'r llwybr gofal, yn hytrach na digwyddiad gweinyddol ar ddiwedd y cyfnod derbyn.
Mae gwaith cynllunio yn dechrau ar y diwrnod cyntaf, mae meddyginiaethau ac anghenion gofal parhaus yn cael eu cydgysylltu cyn i'r person adael yr ysbyty, mae partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd dros saith diwrnod, ac mae triniaeth ac adferiad yn parhau gartref.
Dylai adferiad helpu pobl i gael eu hyder, eu gweithrediad a'u hannibyniaeth yn ôl, gyda'r gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol yn gweithio gyda'i gilydd o amgylch yr unigolyn yn hytrach na ffiniau sefydliadol.
Y cerrig milltir y disgwyliwn i'r GIG a'i bartneriaid eu cyflawni dros y 3 blynedd nesaf
2027: Ailosod
- Mae safonau cenedlaethol yn cael eu pennu ar gyfer cynllunio'r cyfnod pontio o adeg derbyn hyd at barhau i adfer gartref er mwyn cynnwys dealltwriaeth glir o atebolrwydd a rennir.
- Mae gwaith cenedlaethol yn cael ei gwblhau i helpu i gael dealltwriaeth gliriach o oedi mewn llwybrau gofal, amser ychwanegol yn yr ysbyty, dychwelyd i'r breswylfa arferol, aildderbyn i'r ysbyty, annibyniaeth ar ôl rhyddhau a phrofiad cleifion a gofalwyr.
2028: Atgyfnerthu
- Mae ysbytai, y gymuned, gofal sylfaenol, gofal cymdeithasol a phartneriaid eraill yn darparu trefniadau pontio ac adfer cydgysylltiedig dros saith diwrnod sy'n helpu mwy o bobl i fod yn annibynnol eto.
- Mae meddyginiaethau, gwybodaeth am ofal, triniaethau parhaus, anghenion adsefydlu ac adfer yn cael eu cydgysylltu rhwng lleoliadau, ac mae cleifion a gofalwyr yn deall y cynllun, eu rôl yn y broses adfer a phwy sy'n gyfrifol am gymorth parhaus.
2029: Dangos gwelliant
- Gellir dangos bod mwy o bobl yn dychwelyd i'w preswylfa arferol heb oedi y gellid ei osgoi ac yn cael cymorth cydgysylltiedig ar gyfer triniaethau parhaus, adsefydlu, adfer ac annibyniaeth.
- Gellir dangos bod dyddiau ychwanegol diangen yn yr ysbyty, amrywiad mewn trefniadau pontio saith diwrnod ac achosion o aildderbyn i'r ysbyty y gellid eu hosgoi sy'n gysylltiedig â gofal sydd wedi'i gydgysylltu'n wael wedi cael eu lleihau.
