Bydd gofal clyw cyflymach, a mwy cyfleus ar gael yn agosach at gartrefi pobl, fel rhan o'r diwygiad radical o wasanaethau awdioleg
Bydd Dull Gweithredu'r Dyfodol ar gyfer Gwasanaethau Awdioleg yn symud amryw o wasanaethau clyw o'r ysbytai i gymunedau lleol, gan adeiladu ar fodelau llwyddiannus sydd eisoes yn cyflawni canlyniadau ar draws y Gogledd ac yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Bydd y trawsnewidiad yn lleihau'r pwysau ar adrannau Clust, Trwyn a Gwddf yr ysbytai, meddygfeydd meddygon teulu a gwasanaethau nyrsio cymunedol, gan sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael mynediad at ofal clyw arbenigol yn agosach at y cartref, ochr yn ochr â gwasanaethau tynnu cwyr clust.
Gwasanaethau awdioleg yw'r rhan olaf o'r gwasanaethau gofal sylfaenol i gael ei ddiwygio fel hyn, sy'n cynnwys uwchsgilio clinigwyr cymunedol.
Aeth yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles i ymweld â Chanolfan Gofal Sylfaenol Cwmtawe Medical Group yn Abertawe i weld y dull newydd ar waith.
Mae'r ganolfan yn darparu mynediad uniongyrchol i bobl at ofal arbenigol yn eu cymuned, gan leihau atgyfeiriadau diangen i'r ysbyty a lleihau amseroedd aros.
Dywedodd Jeremy Miles:
Bydd symud llawer o apwyntiadau awdioleg o'r ysbytai i wasanaethau lleol yn gwella mynediad ac effeithlonrwydd. Rwy'n falch iawn o weld hyn yn digwydd eisoes yn Abertawe ac yn falch o weld cynifer o bobl yn cael profiad haws a chyflymach wrth gael mynediad i'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt ar garreg eu drws.
Dywedodd claf o Dreforys, a gafodd ei asesiad clyw, cyngor cymorth clyw ac apwyntiad rheolaidd i dynnu cwyr yng ngwasanaeth Awdioleg Gofal Sylfaenol Clydach:
Dw i mor ddiolchgar fy mod i wedi gallu cael y gwasanaeth hwn yn lleol, yn hytrach na gorfod teithio i Ysbyty Singleton. Mae hyn wedi bod yn hollbwysig i mi er mwyn i mi allu parhau i fyw bywyd arferol.
Mae'r gwasanaeth wyneb yn wyneb gyda'r awdiolegwyr yng Nghlydach wedi bod yn ardderchog. Mae'r broses archebu bob amser mor syml ac mae'r mynediad at wasanaethau'n hyblyg i weddu i'm hanghenion.
Mae mynd i'r afael â cholli clyw yn gynnar yn arwain at fanteision iechyd sylweddol y tu hwnt i well clyw.
Mae ymchwil yn dangos y gall ymyriadau clyw amserol helpu i atal problemau iechyd difrifol eraill ymhlith pobl hŷn, fel dementia a cwympiadau.
Mae uned awdioleg symudol arobryn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ddatblygiad arloesol arall, sy'n ymestyn cyrhaeddiad gwasanaethau awdioleg o ansawdd uchel mewn cymunedau lleol.
Mae'r cerbyd llawn offer yn teithio i 23 lleoliad, gan gynnwys llyfrgelloedd, meddygfeydd ac archfarchnadoedd, gan ddod â gwasanaethau fel profion clyw, atgyweirio cymorth clyw, cwnsela tinitws a chymorth mewnblaniad cochlear i gymunedau ar draws y Gogledd.
Dywedodd Jane Wild, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol a Phennaeth Gwasanaethau Awdioleg i Oedolion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
Mae’r fan wedi bod yn teithio o amgylch yr ardal ers bron i 12 mis, gan ddarparu gwasanaethau awdioleg arbenigol o ansawdd uchel yn agosach at gartrefi pobl ac mewn cymunedau lleol.
Mae cleifion yn dweud wrthym eu bod yn gwerthfawrogi’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu a’i fod yn ei wneud yn haws iddynt gael mynediad at ofal awdioleg y GIG
Mae Dull Gweithredu'r Dyfodol ar gyfer Gwasanaethau Awdioleg yn cyd-fynd ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu gofal iechyd yn agosach at y cartref a lleihau rhestrau aros ysbytai. Bydd pob un o'r 7 bwrdd iechyd yn datblygu cynlluniau i weithredu'r modelau gwasanaeth awdioleg newydd dros y 3 blynedd nesaf.
