Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad interim i Fframwaith Gofal Iechyd Parhaus y GIG, sy’n adlewyrchu newidiadau i ddeddfwriaeth ar daliadau uniongyrchol a chanllawiau statudol.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Gofal Iechyd Parhaus y GIG: y Fframwaith Gweithredu Cenedlaethol yng Nghymru’ (2021) – Datganiad Polisi Dros Dro , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 238 KB

PDF
238 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Mae’r datganiad polisi interim yn darparu diweddariad ar gyfer ‘Gofal Iechyd Parhaus y GIG – y Fframwaith Gweithredu Cenedlaethol yng Nghymru’ (2021) i adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol yn benodol mewn perthynas â Thaliadau Uniongyrchol a GIP (CHC).

Mae hyn yn dilyn i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2026 ddod yn ddeddf, a chyhoeddi canllawiau statudol ar ddealltwriaeth a gweithredu’r rheoliadau hyn.

Dylid ystyried y gwelliannau hyn i Fframwaith GIP (CHC) 2021 ochr yn ochr â’r Fframwaith llawn.

Mae’r gwelliannau’n dod i rym ar 1 Ebrill 2026. Maent yn cael eu darparu er mwyn sicrhau fod Fframwaith GIP (CHC) yn cydymffurfio â’r Rheoliadau a’r canllawiau, cyn adolygiad llawn o Fframwaith GIP (CHC).