Neidio i'r prif gynnwy

Egluro beth yw Gofal Iechyd Parhaus y GIG a phwy sydd yn gymwys a sut mae’n cael ei asesu.

Cyhoeddwyd gyntaf: 10 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Awst 2022

Cyflwyniad

Ysgrifennwyd y llyfryn hwn gan Lywodraeth Cymru ar y cyd â rhanddeiliaid. Mae ar gyfer unrhyw oedolyn sydd ag anghenion cymhleth ac a allai fod yn gymwys i gael Gofal Iechyd Parhaus y GIG, neu ei deulu neu ei ofalwyr. Bydd yn eich helpu i gael atebion i’r cwestiynau canlynol:

  • beth yw Gofal Iechyd Parhaus y GIG?
  • pwy sy’n gymwys i’w gael?
  • sut caiff ei asesu
  • sut caiff ei drefnu 

Canllawiau ar egwyddorion a phrosesau’r Fframwaith cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG.

Hefyd drwy gysylltu â

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rhif ffôn: 0300 0604400  

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Mae gwybodaeth gyswllt ar gyfer eich bwrdd iechyd lleol yn yr adran cysylltu â ni  yn y llyfryn hwn yn ogystal ag ar wefan GIG 111 Cymru Cymru.

Bydd fersiwn Hawdd ei Ddeall ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru hefyd. Cysylltwch â Llywodraeth Cymru os hoffech gael y llyfryn hwn mewn unrhyw fformat arall.  

Beth yw Gofal Iechyd Parhaus y GIG

Pecyn o ofal parhaus y mae’r GIG yn ei drefnu ac yn talu amdano – dyna yw Gofal Iechyd Parhaus y GIG, neu GIP.

Byddwch yn gymwys i gael GIP os yw eich Bwrdd Iechyd Lleol yn asesu bod gennych chi angen iechyd sylfaenol. Eglurir hyn yn yr adran 'Pwy sy'n gymwys i gael GIP’.  Dyma’r unig faen prawf i fod yn gymwys i gael GIP. Os yw asesiad yn canfod bod gennych angen iechyd sylfaenol, mae gennych hawl i gael GIP.

Er enghraifft, gall hyn gynnwys pobl sydd ag anghenion cymorth corfforol a/neu iechyd meddwl tymor hirach am eu bod nhw'n anabl, yn sâl neu wedi cael damwain. Gellir ei ddarparu mewn unrhyw leoliad, gan gynnwys yn eich cartref eich hun, mewn cartref gofal, hosbis, neu mewn carchar, gan bob math o weithwyr iechyd a gofal.

Pwy sy’n gyfrifol am ariannu beth?

Os oes gennych chi anghenion gofal tymor hir, gall y math o ofal rydych ei angen fod yn gyfrifoldeb i naill ai’r GIG neu wasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol, neu'r ddau. Weithiau bydd yn amlwg pwy fydd yn gyfrifol am eich gofal ond os oes gennych chi anghenion gofal cymhleth efallai y byddwch yn cael cymysgedd o wasanaethau gan y naill sefydliad a'r llall. Mae'r llyfryn hwn yn ymwneud â gwasanaethau a ariennir gan y GIG.

Y GIG

Mae holl wasanaethau’r GIG yn rhad ac am ddim, felly os ydych chi'n gymwys i gael GIP, bydd y GIG yn talu holl gostau eich gofal iechyd gofal a'r rhan fwyaf o'ch gofal cymdeithasol, gan gynnwys llety preswyl (mewn cartref gofal). Eich Bwrdd Iechyd Lleol sy'n gyfrifol am drefnu'r broses asesu i weld a ydych chi'n gymwys, ac os felly, bydd yn cynllunio a darparu'r pecyn gofal GIP hefyd. Os canfyddir eich bod yn gymwys i gael GIP, bydd y GIG yn talu am y canlynol:

  • Os ydych chi'n byw gartref mae’r GIG yn talu am ofal iechyd fel gwasanaethau gan nyrs gymunedol neu therapydd arbenigol ac anghenion gofal cymdeithasol cysylltiedig, er enghraifft help i ymolchi a gwisgo. Nid yw'n cynnwys costau llety, bwyd na chymorth cyffredinol yn y cartref. 
  • Os ydych chi'n byw mewn cartref gofal, mae’r GIG yn llunio contract â’r cartref i dalu ffioedd llety ac anghenion iechyd a gofal personol asesedig.

Awdurdod Lleol

Mae Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth am ofal a chymorth. Os nad oes gennych chi angen iechyd sylfaenol, mae’n debygol y bydd eich gofal a’ch cymorth yn cael ei ddarparu gan eich awdurdod lleol, drwy’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae pwy sy’n gymwys i gael gofal cymdeithasol yn cael ei ddiffinio yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae prawf modd (‘means test’) yn cael ei gynnal ar y gwasanaethau hyn, sy’n golygu y gallech orfod talu tuag at eich gofal a’ch llety, yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol.

Oes angen i mi dalu tuag at fy nghostau cartref gofal os ydw i’n gymwys i gael GIP

Bydd y GIG yn talu am eich llety a’ch anghenion iechyd a gofal personol asesedig. Efallai y bydd amgylchiadau lle byddwch yn dewis talu ffioedd i'ch cartref gofal am wasanaethau ychwanegol megis derbyn sesiynau ffisiotherapi ychwanegol (yn ogystal â'r rhai y cytunwyd arnynt yn eich cynllun gofal). Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys math drutach o lety (ystafell fwy) neu bethau ychwanegol fel papurau newydd dyddiol. Cyfeirir at y rhain weithiau fel ffioedd ychwanegol ac maen nhw’n drefniant talu preifat, ar wahân, sydd gennych chi gyda’r darparwr gofal cartref. Mae rhagor o wybodaeth am y mathau gwahanol o lety ac a oes angen talu amdanyn nhw ar gael ar 'Sut mae GIP yn cael ei drefnu'.

Rhaid i unrhyw benderfyniad a wnewch i brynu gwasanaethau ychwanegol fod yn ddewis personol ac nid oherwydd diffyg cyllid priodol gan y GIG i ddiwallu eich anghenion fel y nodwyd yn eich cynllun gofal GIP. 

Os byddwch chi'n cael cais gan ddarparwr eich cartref gofal i dalu am wasanaethau ychwanegol nad ydych wedi cytuno iddyn nhw, cysylltwch â’ch Bwrdd Iechyd Lleol ar unwaith i ddatrys y mater.

Paratoi ar gyfer eich Asesiad GIP

Mae'r broses asesu ar gyfer GIP yn gallu bod yn gymhleth. Meddyliwch am bwy hoffech chi ei gael i’ch cefnogi gydol y broses. Mae llawer o bobl yn sylweddoli nad ydyn nhw’n deall pob elfen o’r broses; mae’r asesiad yn ymwneud â’r hyn sydd orau i chi, felly cofiwch ofyn cwestiynau unrhyw bryd. Mae’n debygol y bydd angen i chi siarad am bethau sy’n sensitif. Mae’n bwysig cael sgwrs glir ac agored. Bydd tîm o weithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a elwir yn Dîm Amlddisgyblaethol, yn gweithio gyda chi i asesu eich anghenion (gweler yr adran 'Sut yr asesir a yw rhywun yn gymwys i gael Gofal Iechyd Parhaus y GIG').

Eiriolaeth

Rhywun sy'n gallu eich helpu i fynegi barn yn ystod y broses asesu yw eiriolwr. Gall defnyddio eiriolwr eich helpu i ddeall y broses GIP yn well a gwneud i chi deimlo’n fwy hyderus ynghylch y broses. Yn ogystal â’ch helpu i ddeall eich rôl eich hun yn y broses GIP yn well, gall eiriolwr eich helpu i ddeall canlyniadau'r dewisiadau a’r penderfyniadau rydych chi'n eu gwneud hefyd. Gallwch enwebu unigolyn i fynegi eich safbwyntiau neu i siarad ar eich rhan a gall fod yn aelod o’r teulu, yn ffrind, yn wasanaeth eiriolaeth lleol neu’n rhywun annibynnol sy’n fodlon cyflawni rôl eiriolaeth ar eich rhan. Dylai'r Bwrdd Iechyd Lleol sicrhau eich bod yn ymwybodol o wasanaethau eiriolaeth lleol.

Mae’n bwysig deall y gwahaniaeth rhwng rôl eiriolwr a Chydgysylltydd Gofal. Bydd y Cydgysylltydd Gofal yn gweithio i’r bwrdd iechyd neu’r Awdurdod Lleol, fwy na thebyg, ac ni fydd yn annibynnol. Dylai’r Bwrdd Iechyd Lleol a’r Awdurdod Lleol sicrhau eich bod yn ymwybodol o wasanaethau eiriolaeth lleol a allai gynnig cyngor a chymorth i chi. 

Mae gwybodaeth am sut i gysylltu â'ch Bwrdd Iechyd Lleol, sut i gwyno a manylion cyswllt defnyddiol eraill, gan gynnwys cymorth eiriolaeth, wedi'u cynnwys ar 'Mae gwybodaeth am sut i gysylltu â'ch Bwrdd Iechyd Lleol, sut i gwyno a manylion cyswllt defnyddiol eraill, gan gynnwys cymorth eiriolaeth'.

Cydsyniad

Gofynnir i chi roi eich cydsyniad ar sail gwybodaeth i’r broses asesu GIP. Er mwyn rhoi cydsyniad ar sail gwybodaeth, bydd eich Cydgysylltydd Gofal yn eich cyfarfod i egluro’r holl broses, a sicrhau bod gennych ddigon o wybodaeth i wneud eich penderfyniad.

Mae gennych yr hawl i wrthod asesiad GIP, neu wrthod cynnig o GIP yn ddiweddarach yn dilyn asesiad. Bydd y Bwrdd Iechyd Lleol a’r Awdurdod Lleol yn gweithio gyda chi i sicrhau bod y risgiau'n cael eu deall a'u lliniaru’n llawn cyn belled ag y bo modd. Rhaid iddynt roi gwybod i chi am yr effaith bosibl y bydd hyn yn ei chael ar allu'r Bwrdd neu’r Awdurdod i ddarparu gwasanaethau priodol. Bydd y GIG yn parhau i ddarparu gwasanaethau iechyd am ddim, er enghraifft gwasanaethau meddygon teulu a nyrsys ardal. Fodd bynnag, ni all y Bwrdd Iechyd fod yn gyfrifol am drefnu ac ariannu gwasanaethau gofal cymdeithasol i chi sy’n cael eu darparu am ddim, fel fyddai’n digwydd o dan GIP. Rydych yn rhydd i newid eich meddwl yn ddiweddarach. 

Mae’n bosibl y gallwch gael pecyn gofal ar y cyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol, ar gyfer unrhyw elfennau iechyd, a’r Awdurdod Lleol ar gyfer unrhyw elfennau gofal cymdeithasol. Bydd y Bwrdd Iechyd Lleol a’r Awdurdod Lleol yn gweithio gyda chi i gyd-gynhyrchu eich cynllun gofal ar y cyd er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw anghenion asesedig sydd gennych. Mae rhagor o wybodaeth am becynnau gofal ar y cyd ar gael ar 'Beth sy'n digwydd os nad ydych chi’n gymwys a sut i apelio'.

Os nad yw’r galluedd gennych i roi cydsyniad, bydd staff yn edrych i weld a ydych chi wedi penodi Atwrneiaeth Arhosol (Iechyd a Lles) i weithredu ar eich rhan, neu a yw’r Llys Gwarchod wedi penodi rhywun fel dirprwy lles personol. Os na, bydd yr unigolyn sy’n arwain yr asesiad ar y pwynt hwnnw’n gyfrifol am wneud penderfyniad ‘er lles pennaf'. Dan yr amgylchiadau hyn, mae angen penderfynu a fyddai hi er lles pennaf yr unigolyn i fwrw ymlaen ag asesu a rhannu gwybodaeth, neu a fyddai hi’n well neu oedi’r broses o geisio cydsyniad hyd nes y caiff galluedd ei adennill. Byddant yn ymgynghori â theulu a ffrindiau fel arfer. Pan nad oes teulu neu ffrindiau ar gael, bydd Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol yn cael ei ddarparu.

Iaith

Drwy gydol y broses GIP, mae gennych yr hawl i ddefnyddio'r iaith/fformat neu ddull o'ch dewis i gyfathrebu a chymryd rhan lawn, fel partner cyfartal, wrth asesu eich anghenion a threfnu eich iechyd a'ch gofal cymdeithasol.

Mae fframwaith strategol Llywodraeth Cymru, 'Mwy na Geiriau’, yn nodi'r gofynion o safbwynt y Gymraeg. Ni ddylai'ch cais i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg achosi oedi cyn i chi gael eich asesiad cymhwystra GIP gan fod Safonau penodol yn ymwneud â’r Gymraeg sy’n ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd ddarparu hyn ar eich cyfer.

Mae'r un ystyriaethau'n berthnasol i Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ac ieithoedd a fformatau eraill, e.e. Braille.  

Gofalwyr

Unigolyn o unrhyw oedran sy’n darparu cymorth di-dâl i deulu neu ffrindiau na fyddai’n gallu ymdopi heb y cymorth hwnnw – dyna yw gofalwr. Gall hyn olygu gofalu am ffrind neu aelod o’r teulu sydd, oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu gaethiwed i rywbeth, yn methu ymdopi heb eu cymorth.

Os oes gennych ofalwr ac mae'n ymddangos i'ch Awdurdod Lleol y gallai fod ganddo anghenion am gymorth, mae gan eich gofalwr yr hawl i gael asesiad o'i anghenion gan yr Awdurdod Lleol. Mae’n rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol a’r Awdurdod Lleol eich hysbysu am yr hawl hon. Gallai gofalwyr fod yn gymwys i dderbyn cymorth i’w helpu gyda’u rôl ofalu. Ni ddylid tybio byth bod eich gofalwr yn gallu parhau i ddarparu cymorth neu ei fod yn fodlon gwneud hynny.

Crynodeb o Broses Cymhwystra Gofal Iechyd Personol

  • Ystyrir ei bod yn bosibl eich bod yn gymwys i gael GIP y GIG.  Byddwch yn cael Cydgysylltydd Gofal. They will oversee the whole process, answer your questions, keep you informed, seek your consent, tell you about advocacy and ensure your language or communication method of choice is used throughout the CHC process.
  • Bydd eich Cydgysylltydd Gofal yn trefnu Tîm Amlddisgyblaethol. Bydd y Tîm yn casglu’r dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer eich asesiad GIP.  Gallent gysylltu â chi i gael y wybodaeth ofynnol.
  • Cynhelir cyfarfod Tîm Amlddisgyblaethol i asesu eich anghenion. Mae croeso i chi a’ch gofalwr/teulu neu eiriolwr fynychu’r cyfarfod hwn a bod yn rhan lawn o’r broses. Bydd yr Adnodd Cymorth Penderfynu (DST) yn cael ei gwblhau i gefnogi'r broses. Yna bydd y Tîm yn argymell i’ch Bwrdd Iechyd Lleol a ydych yn gymwys i gael cyllid GIP ai peidio.  Os ydych chi'n gymwys, dylai'ch pecyn gofal fod yn ei le o fewn pythefnos i ddyddiad y cyfarfod hwn.

  • Os ydych chi'n gymwys i gael GIP, dylai eich Bwrdd Iechyd Lleol drefnu eich pecyn gofal o fewn 8 wythnos i unrhyw arwydd neu asesiad cychwynnol e.e. y rhestr wirio a oedd yn dangos bod gennych angen iechyd sylfaenol o bosibl. Mae hyn yn cynnwys unrhyw amser rydych ei angen ar gyfer adsefydlu neu ailalluogi. Gellir ymestyn yr amserlen hon os ydych chi angen mwy o amser adsefydlu neu ailalluogi.

Os yw’ch angen am ofal yn fwy brys, e.e. gofal diwedd oes, dylai’r Bwrdd Iechyd Lleol ystyried defnyddio asesiad llwybr carlam.

7 egwyddor Gofal Iechyd Personol

Rhaid i bawb sy’n rhan o’ch asesiad weithio’n unol â’r egwyddorion hyn:

  1. Pobl yn gyntaf. Mae’n rhaid rhoi eich lles pennaf yn gyntaf. Dylech gael eich trin ag urddas a pharch.
  2. Uniondeb wrth wneud penderfyniadau. Rhaid i'r Tîm Amlddisgyblaethol weithio gydag uniondeb. Dylid sicrhau bod eu cyngor arbenigol a’u penderfyniadau’n seiliedig ar resymeg glir.
  3. Dim penderfyniadau amdanaf heb fy nghynnwys. Chi yw’r arbenigwr ar eich bywyd eich hun. Dylech chi a’ch gofalwyr fod yn rhan lawn o’r broses asesu a chynllunio gofal.
  4. Dim oedi wrth ddiwallu eich anghenion oherwydd penderfyniadau ariannu. Ni ddylech wynebu unrhyw oedi o ran diwallu eich anghenion oherwydd nad yw gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac unrhyw ddarparwr gofal arall, yn cydweithio’n dda. Mae cyfrifoldeb arnyn nhw i ddatrys unrhyw anghydfodau neu bryderon cyn gynted â phosibl.
  5. Deall diagnosis. Canolbwyntio ar angen. Nid eich diagnosis sy’n eich diffinio chi. Dylid teilwra eich gofal a’ch cymorth ar eich cyfer chi. Dylai wneud y gorau o’ch annibyniaeth a chanolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i chi a’ch gofalwyr.
  6. Gofal cydlynus gyda pharhad. Mae’n rhaid gwneud pob ymdrech i osgoi tarfu ar drefniadau gofal presennol, neu i ddarparu proses bontio ddi-dor a diogel pan fo angen newid er eich lles pennaf chi.
  7. Cyfathrebu. Mae’n rhaid i weithwyr proffesiynol fod yn arbennig o ofalus i gyfathrebu â chi yn y ffordd o’ch dewis, a dylent geisio darganfod beth yw hynny cyn yr asesiad. Mae hyn yn cynnwys: Cymraeg, Iaith Arwyddion Prydain, gwybodaeth ysgrifenedig mewn fformatau amgen fel hawdd ei ddeall, neu ddulliau cyfathrebu amgen ar gyfer pobl sydd ag anawsterau lleferydd a chyfathrebu difrifol.

Cymhwystra

Pwy sy’n gymwys i gael GIP?

Rydych chi'n gymwys i gael GIP os ydych chi'n 18 oed neu'n hŷn ac mae asesiad wedi canfod fod gennych angen iechyd sylfaenol. Penderfynir a ydych yn gymwys i gael GIP ar sail eich anghenion gofal cyffredinol o ddydd i ddydd yn unig, ac nid ar sail unrhyw ddiagnosis neu gyflwr penodol.

Er mwyn penderfynu a yw eich anghenion gofal yn ymwneud ag iechyd yn bennaf, byddwch yn cael asesiad. Bydd yr asesiad hwn yn ystyried pedair elfen:

1. Natur

Mae hyn yn ymwneud â’ch anghenion, eu heffaith arnoch chi, a’r gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnoch i’w rheoli.

2. Dwyster

Mae hyn yn ymwneud â faint o anghenion sydd gennych chi, pa mor aml rydych chi angen cymorth yn ogystal â lefel y cymorth a pha mor rheolaidd e.e. efallai y bydd angen 2 ofalwr.

3. Cymhlethdod

Mae hyn yn ymwneud â’ch holl anghenion, sut maen nhw’n rhyngweithio â’i gilydd a pha mor anodd ydyn nhw i’w cefnogi neu eu rheoli. Mae hyn yn ymwneud hefyd â'r hyfforddiant neu'r sgiliau sydd eu hangen ar staff iechyd a gofal cymdeithasol, gofalwyr, aelodau o'r teulu ac ati i allu darparu gofal i chi. Y prif fater yma yw beth yw eich holl anghenion iechyd a gofal, yn hytrach na phwy allai fod yn darparu eich anghenion gofal.

4. Yr Annisgwyl

Mae hyn yn ymwneud â’r graddau y mae eich symptomau yn newid a pha mor anodd ydyn nhw i’w rheoli yn sgil hynny. Mae’n ymwneud hefyd â’r risg i’ch iechyd os nad ydych yn cael y gofal cywir yn ddigon cyflym.

Gall pob un o'r nodweddion hyn ddangos angen iechyd sylfaenol ar eu pen eu hunain neu ar y cyd.

Beth sy’n ysgogi asesiad Gofal Iechyd Personol?

Mae gennych hawl i asesiad trylwyr o’ch holl anghenion. Bydd yr asesiadau hyn yn helpu i nodi a oes gennych angen gofal iechyd sylfaenol.

Mae timau Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am asesu anghenion pobl ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol. Mae’n rhaid i’r Gwasanaethau Cymdeithasol roi gwybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol os ydyn nhw’n asesu rhywun sydd ag anghenion a fyddai’n perthyn i gylch gwaith y GIG, gan gynnwys pobl maen nhw’n meddwl sydd angen asesiad i gael Gofal Iechyd Personol. 

Gallai asesiad cymhwystra GIP gael ei ysgogi oherwydd y rhesymau canlynol:

  • Yn ddiweddar rydych wedi cael eich derbyn i’r ysbyty ac mae’n amlwg y bydd gennych anghenion gofal a chymorth parhaus unwaith y cewch eich rhyddhau.
  • Mae eich anghenion gofal presennol yn cael eu hadolygu ac mae eich anghenion wedi newid.
  • Mae eich iechyd corfforol neu eich iechyd meddwl wedi gwaethygu a dyw’r gofal a’r cymorth rydych chi’n eu cael ar hyn o bryd, naill ai gartref neu mewn cartref gofal, ddim yn ddigonol.
  • Rydych chi'n symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion.
  • Mae gennych gyflwr sy’n gwaethygu’n gyflym ac mae'ch angen am ofal a chymorth yn cynyddu, e.e. efallai'ch bod yn nesáu at ddiwedd eich oes neu fod rhywbeth difrifol wedi digwydd.

Os nad yw GIP wedi’i drafod â chi, ond eich bod chi’n credu y gallech fod yn gymwys i’w gael, dylech siarad â staff yr ysbyty sy’n ymwneud â’ch gofal, y gwasanaethau cymdeithasol neu eich meddyg teulu.  Gallech wneud cais i gwblhau rhestr wirio GIP hefyd.

Y Rhestr Wirio

Er mwyn helpu staff iechyd a gofal cymdeithasol i nodi a ddylech symud i gael asesiad GIP llawn, gallant ddefnyddio’r hyn a elwir yn Rhestr Wirio. Does dim rhaid iddyn nhw ei defnyddio, ond mae ar gael i’w helpu i wneud y penderfyniadau cywir a sicrhau bod pawb sydd angen asesiad GIP llawn yn cael cyfle i gael un.

Os ydych chi mewn sefyllfa lle teimlwyd nad oedd defnyddio’r Rhestr Wirio yn angenrheidiol ac na fyddech yn cael eich atgyfeirio am asesiad GIP llawn, gallech ofyn i'r Bwrdd Iechyd Lleol ailystyried y penderfyniad. Gallech gwyno hefyd os ydych chi'n credu nad yw eich anghenion wedi'u hystyried yn llawn.

Rhaid i staff iechyd a gofal cymdeithasol gael eich caniatâd cyn cwblhau eich rhestr wirio Adnodd Cymorth Penderfynu GIP.

Dylech gael rhybudd rhesymol o’r bwriad i gynnal rhestr wirio ar eich cyfer, ac fel arfer dylech gael cyfle i fod yn bresennol pan gaiff ei chwblhau, ynghyd ag unrhyw aelod o’r teulu/gofalwr neu eiriolwr sydd gennych chi. Dylai’r rhestr wirio gael ei chwblhau yn yr iaith neu ddull cyfathrebu o’ch dewis.  

Mae’r rhestr wirio yn seiliedig ar yr un 12 'maes anghenion’ â’r Adnodd Cymorth Penderfynu: 'Rhagor o wybodaeth am sut yr asesir a yw rhywun yn gymwys'.

Y 12 maes yw:

  • Anadlu
  • Maeth
  • Ymataliaeth
  • Cyfanrwydd croen
  • Symudedd
  • Cyfathrebu
  • Anghenion seicolegol ac emosiynol
  • Gwybyddiaeth
  • Ymddygiad
  • Therapïau cyffuriau a rheoli symptomau
  • Newid mewn cyflwr ymwybyddiaeth
  • Anghenion gofal sylweddol eraill

Mae'n bwysig nodi nad yw'r rhestr wirio gychwynnol hon yn penderfynu a ydych chi'n gymwys i gael cyllid GIP. Mae'n nodi a ddylech chi symud ymlaen i asesiad GIP llawn gan ddefnyddio'r Adnodd Cymorth Penderfynu. Byddai angen asesiad GIP llawn os oedd y rhestr wirio’n dangos unrhyw un o’r canlynol:

  • aseswyd bod 2 neu ragor o feysydd yn anghenion sylweddol
  • aseswyd bod 5 neu ragor o feysydd yn anghenion canolig
  • aseswyd bod 1 maes yn angen sylweddol a 4 maes yn anghenion canolig
  • 1 o’r 4 maes â lefel ‘blaenoriaeth’ yn yr Adnodd Cymorth Penderfynu ac unrhyw lefel o angen yn y meysydd eraill

Byddai canlyniadau asesiad y rhestr wirio naill ai yn:

  • ydy - mae lefel eich anghenion yn awgrymu y gallech fod yn gymwys i gael GIP felly dylid gwneud asesiad llawn; neu
  • nac ydy – nid yw lefel eich anghenion i gael asesiad GIP llawn yn cael ei bodloni; yn hytrach mae angen gwneud penderfyniad ynghylch a allai gwasanaethau eraill yr Awdurdod Lleol neu’r GIG ddiwallu eich anghenion

Dylid egluro canlyniad yr adnodd rhestr wirio yn glir i chi, eich teulu/gofalwr neu eiriolwr a dylid ei roi i chi'n ysgrifenedig cyn gynted â phosibl yn dilyn yr asesiad rhestr wirio. Dylai'r llythyr sy'n cael ei anfon atoch fod yn eich dewis iaith a dylai gynnwys y rhesymau pam y daethpwyd i ganlyniad y rhestr wirio, fel arfer gyda chopi o'ch rhestr wirio gyflawn er gwybodaeth i chi.

Ni ddylech fod heb gymorth iechyd a gofal cymdeithasol priodol wrth ddisgwyl am ganlyniad eich asesiad GIP

Os yw canlyniad eich rhestr wirio yn golygu na fyddwch yn mynd ymlaen i asesiad GIP llawn, gallech ofyn i’r Bwrdd Iechyd Lleol ailystyried y canlyniad. Dylai’r Bwrdd ystyried eich cais, gan bwyso a mesur yr holl wybodaeth sydd ar gael, a/neu’n cynnwys gwybodaeth ychwanegol gennych chi.

Does dim rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gwblhau rhestr wirio arall. Dylai ddarparu ymateb ysgrifenedig i chi sy’n cynnwys manylion eich hawliau dan Weithdrefn Cwynion y GIG os ydych chi'n dal yn anfodlon â’r penderfyniad. Os ydych chi’n dal yn anhapus am y penderfyniad hwn, cysylltwch â gwasanaeth cwynion a phryderon GIG Cymru: Gweithio i Wella

Proces Asesu

Pryd fydd fy asesiad GIP yn cael ei gynnal?

Dylai eich asesiad o anghenion ac, yn dilyn hynny, ystyriaeth o gymhwystra ddigwydd yn y lle cywir a'r amser cywir i chi.

Fel arfer, dylid ei gynnal pan fyddwch mewn lleoliad cymunedol fel ysbyty cymunedol, eich cartref neu'ch cartref gofal. Dim ond dan amgylchiadau eithriadol y dylid ei gynnal mewn ysbyty acíwt.

Os ydych chi wedi treulio amser yn yr ysbyty, dylech gael unrhyw ofal adsefydlu neu ail-alluogi sydd ei angen arnoch cyn cael eich asesiad GIP. Dylech gael cymorth i wella cyn cael eich asesiad GIP er mwyn adfer y gallu i ofalu amdanoch eich hun mor annibynnol â phosibl.

Cydgysylltydd Gofal

Pan nodir y gallech fod ag anghenion gofal iechyd parhaus, bydd eich Bwrdd Iechyd Lleol yn dod yn gyfrifol am gynnal eich asesiad GIP, a bydd yn dyrannu Cydgysylltydd Gofal i chi, a elwir yn Weithiwr Proffesiynol Arweiniol weithiau.

Er mwyn cyd-fynd â dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer proses asesu cymhwystra GIP, gall fod yn dderbyniol hefyd i weithiwr cymdeithasol sydd â chysylltiad hirsefydlog â chi a’ch teulu weithredu fel eich Cydgysylltydd Gofal. Byddai angen i’r Bwrdd Iechyd Lleol a’r Awdurdod Lleol gytuno i’r cam hwn, ond y Bwrdd Iechyd Lleol fyddai’n gwneud y penderfyniad terfynol.

Eich Cydgysylltydd Gofal yw’r unigolyn sy’n gyfrifol am gydgysylltu’r broses asesu GIP gyfan. Dyma’r pwynt cyswllt os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon. Mae’n rhaid i’r Cydlynydd roi gwybod i chi beth sy’n digwydd a sicrhau eich bod yn cael gwahoddiad i unrhyw gyfarfodydd lle caiff penderfyniadau eu gwneud am eich cymhwystra fel y gallwch fod yn rhan lawn o’r drafodaeth a’r broses o wneud penderfyniadau. Dylech gael enw, rhif cyswllt a chyfeiriad e-bost eich Cydgysylltydd Gofal er mwyn sicrhau y gallwch gysylltu ag ef/hi yn gyflym.

Tîm Amlddisgyblaethol

Cyfrifoldeb y Tîm Amlddisgyblaethol yw:

  • cynnal asesiad trylwyr o’ch anghenion
  • darparu cyngor arbenigol cyson i’r Bwrdd Iechyd Lleol ar eich cymhwystra ar gyfer GIP
  • datblygu cynllun gofal i ddiwallu eich anghenion, a
  • gwneud argymhellion ynghylch y lleoliad, a pha ddarpariaeth staff gofal fyddai ei hangen i gyflawni eich cynllun gofal yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Bydd eich asesiad cymhwystra GIP yn cynnwys tîm o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol o ddisgyblaethau gwahanol, sy’n cydweithio er mwyn penderfynu beth yw eich anghenion, a sut y dylid eu diwallu. Dyma’r tîm amlddisgyblaethol, a elwir yn MDT yn aml.

Bydd eich Cydgysylltydd Gofal yn sicrhau bod y gweithwyr proffesiynol cywir, sydd â gwybodaeth uniongyrchol amdanoch chi a’ch anghenion, yn rhan o’r Tîm Amlddisgyblaethol. Rhaid i'r Tîm gynnwys y canlynol:

  • o leiaf ddau weithiwr proffesiynol o broffesiynau gofal iechyd gwahanol, h.y. nyrsys, meddygon, therapyddion galwedigaethol, arbenigwyr eraill e.e. arbenigwyr lleferydd ac iaith / ymddygiad
  • gweithiwr cymdeithasol

A gall gynnwys y canlynol pan fo hynny’n ofynnol:

  • staff y cartref gofal
  • staff gofal cartref  

Byddant yn ystyried eich holl anghenion iechyd corfforol, iechyd meddwl a gofal cymdeithasol, gyda’i gilydd ac yn unigol. Y rheswm am hynny yw y bydd hyn yn rhoi darlun cywir o’ch anghenion ac er mwyn cael argymhellion gan arbenigwyr am y ffordd orau o ddiwallu eich anghenion. Efallai y byddant yn ymweld â chi ar wahân cyn i bawb gyfarfod â'i gilydd i gael darlun llawn o'ch anghenion. Dylai unrhyw gyfarfod a gewch fod yn eich dewis iaith.  

Mae eich safbwyntiau a’ch dymuniadau personol chi yn rhan bwysig o’r asesiad. Chi yw’r arbenigwr ar eich bywyd eich hun, ac ni ddylai unrhyw beth gael ei benderfynu amdanoch chi, heboch chi.

Caiff y wybodaeth hon ei defnyddio wedyn yng nghyfarfod y Tîm Amlddisgyblaeth, lle bydd yr Adnodd Cymorth Penderfynu yn cael ei gwblhau. Dyma ddull o gofnodi gwybodaeth i gefnogi'r broses asesu.

Cyfarfod y Tîm Amlddisgyblaethol

Unwaith y mae’r Tîm wedi cynnal asesiad trylwyr o’r holl wybodaeth a’r dystiolaeth a gasglwyd, bydd eich Cydgysylltydd Gofal yn trefnu, ac yn eich gwahodd chi ac unrhyw gynrychiolydd o’ch dewis i ddod gyda chi, i gyfarfod y Tîm Amlddisgyblaethol. Rhaid i’r cyfarfod hwn fod yn yr iaith / dull cyfathrebu o’ch dewis.  

Bydd eich Cydgysylltydd Gofal yn esbonio fformat cyfarfod y Tîm Amlddisgyblaethol i chi a sut allwch chi a/neu'ch cynrychiolydd gymryd rhan lawn. Dylech gael digon o rybudd o ddyddiad cyfarfod y Tîm er mwyn gwneud trefniadau i fynychu os ydych chi'n dymuno gwneud hynny. Dylech gael cynnig y cyfle i fynychu'n bersonol neu'n rhithwir. I fynychu'n rhithwir, byddai angen cyfrifiadur a chysylltiad rhyngrwyd arnoch.  Byddai gwahoddiad i’r cyfarfod yn cael ei anfon atoch drwy e-bost a bydd angen i chi glicio ar y ddolen yn y neges e-bost honno er mwyn ymuno â’r cyfarfod.

Os na allwch chi neu'ch cynrychiolydd fynychu'r cyfarfod, dylai'ch safbwyntiau fod ar gael i’w hystyried. Mae’r Adnodd Cymorth Penderfynu’n galluogi’r Tîm Amlddisgyblaethol i ddwyn ynghyd a chofnodi eu hasesiad o’ch anghenion amrywiol mewn 12 o ‘feysydd gofal‘ ( gweler yr adran 'Pwy sy'n gymwys i gael GIP)’ 

Wrth gwblhau pob un o feysydd yr Adnodd Cymorth Penderfynu, dylai’r Tîm Amlddisgyblaethol ddefnyddio tystiolaeth yr asesiad a safbwyntiau proffesiynol i ddewis y lefel sydd agosaf at y disgrifiad o’ch anghenion chi, e.e. angen isel neu angen difrifol.

Dylai'r asesiad arwain at ddarlun cynhwysfawr o'ch anghenion sy'n dangos natur, cymhlethdod, dwyster eich anghenion a/neu pa mor anodd ydynt i’w rhagweld  – ac a oes gennych angen iechyd sylfaenol. Bydd hefyd yn nodi ansawdd a/neu faint (gan gynnwys parhad) y gofal sydd ei angen i ddiwallu eich anghenion.

Byddai disgwyl cael asesiad clir ynglŷn â’ch cymhwystra os oes gennych:

  • angen ar lefel blaenoriaeth yn unrhyw un o’r tri maes sydd â’r lefel honno, neu
  • ddau neu ragor o achosion o anghenion difrifol ar draws pob maes, neu
  • os oes un maes wedi’i gofnodi fel difrifol a bod anghenion mewn nifer o feysydd eraill, neu
  • os oes gan nifer o feysydd anghenion sylweddol a/neu ganolig.

Ni ddylid gosod eich anghenion rhwng lefelau. Os, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth berthnasol, ei bod yn anodd penderfynu neu gytuno ar y lefel, dylai’r Tîm Amlddisgyblaethol ddewis y lefel uchaf sydd dan ystyriaeth a chofnodi’r dystiolaeth mewn perthynas â’r penderfyniad ac unrhyw wahaniaethau o ran barn.

Ni ddylid diystyru eich anghenion oherwydd eu bod yn cael eu rheoli’n llwyddiannus.  Mae anghenion sy’n cael eu rheoli’n dda yn parhau i fod yn anghenion a dylid eu cofnodi’n briodol.

Os gellir rhagweld yn rhesymol y bydd eich cyflwr yn dirywio ac y bydd eich anghenion mewn rhai meysydd yn cynyddu yn y dyfodol agos, dylid cofnodi hyn a’i ystyried wrth wneud yr argymhellion terfynol.

Felly, dylid trefnu cyfarfod y Tîm Amlddisgyblaethol mewn ffordd sy’n eich galluogi i roi eich safbwyntiau ar lefelau'r meysydd a gwblhawyd cyn i chi adael y cyfarfod. Yn yr Adnodd Cymorth Penderfynu, mae yna adran ar ddiwedd tablau’r meysydd er mwyn i chi neu'ch eiriolwr fynegi barn ar rywbeth na gofnodwyd eisoes yn y ddogfen, gan gynnwys a ydych chi'n cytuno â'r lefelau meysydd a ddewiswyd. Mae’n gofyn hefyd i chi nodi’r rhesymau dros unrhyw anghytuno.

Os oes gennych chi neu'ch cynrychiolydd unrhyw bryderon am unrhyw agwedd ar y broses asesu, dylai'r Cydgysylltydd Gofal drafod hyn gyda chi a mynd ati i ddatrys eich pryderon. Os yw eich pryderon yn parhau a’r mater heb ei ddatrys, dylid eu nodi yn yr Adnodd Cymorth Penderfynu fel y gellir eu dwyn i sylw’r Bwrdd Iechyd Lleol a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol am gymhwystra ar gyfer GIP.

Argymhelliad y Tîm Amlddisgyblaethol

Yn dilyn trafodaeth â chi neu eich cynrychiolwyr ac ar ôl cwblhau’r Adnodd Cymorth Penderfynu, bydd aelodau’r Tîm Amlddisgyblaethol yn gwneud eu hargymhelliad ar unwaith i’r Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch a oes gennych chi anghenion iechyd sylfaenol, yn seiliedig ar y pedwar dangosydd allweddol.

Bydd yr argymhelliad hwn yn cael ei wneud ar wahân i unrhyw drafodaethau â chi a’ch cynrychiolwyr. Hyd yn oed os nad ydych chi'n bresennol ar y diwrnod, dylech gael gwybod amdano cyn gynted â phosibl.

Bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn derbyn argymhellion y Tîm Amlddisgyblaethol yn y rhan fwyaf o achosion. Dan amgylchiadau eithriadol, ac am resymau sydd wedi'u nodi'n glir, gall y Bwrdd Iechyd Lleol ofyn am dystiolaeth ychwanegol i gefnogi argymhellion y Tîm Amlddisgyblaethol. Gallai hyn fod oherwydd bod yr Adnodd Cymorth Penderfynu’n anghyflawn, neu fod yna wahaniaethau sylweddol rhwng y dystiolaeth yn yr asesiad, yr Adnodd Cymorth Penderfynu a’r argymhelliad sy’n cael ei wneud.

Sicrhau ansawdd

Rhaid bod gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol systemau ar waith i sicrhau bod gan y gweithwyr proffesiynol sy’n rhan o’r Tîm Amlddisgyblaethol y sgiliau, y wybodaeth a’r cymhwysedd cywir i gwblhau asesiadau i’r safonau disgwyliedig. Rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol fod â mecanweithiau sicrhau ansawdd cadarn i sicrhau cysondeb wrth wneud penderfyniadau.

Rhoi gwybod i chi am y penderfyniad

Byddwch yn cael gwybod yn ysgrifenedig am ganlyniad eich asesiad cymhwystra cyn gynted â phosibl (gallech gael eich hysbysu ar lafar hefyd lle bo hynny’n briodol). Dylai’r llythyr fod yn yr iaith / dull cyfathrebu o’ch dewis a dylai gynnwys y canlynol: 

  • y penderfyniad am anghenion iechyd sylfaenol, ac felly, a ydych chi'n gymwys i gael GIP ai peidio
  • y rhesymau dros y penderfyniad
  • copi o’r Adnodd Cymorth Penderfynu wedi’i gwblhau 
  • manylion y rhai i gysylltu â nhw os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch 
  • sut i wneud cais i gael adolygiad o’r penderfyniad am gymhwystra

Os nad ydych chi'n gymwys, gall y llythyr am eich penderfyniad gynnwys gwybodaeth am Ofal Nyrsio a Ariennir neu becyn o ofal ar y cyd, lle bo'n berthnasol a phriodol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar Gofal Iechyd Parhaus y GIG: beth sy'n digwydd os nad ydw i'n gymwys.

Sut mae GIP yn cael ei drefnu os ydych chi’n gymwys

Trosolwg

Os byddwch chi'n derbyn unrhyw ohebiaeth sy’n cadarnhau eich bod yn gymwys i gael GIP, dylai gynnwys manylion eich cynllun gofal, neu os nad yw eich cynllun gofal yn hysbys ar yr adeg honno, dylech dderbyn gwybodaeth am y camau nesaf.

Y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n gyfrifol yn gyfreithiol am ariannu eich pecyn gofal o’r adeg pan wnaeth y Tîm Amlddisgyblaethol gyfarfod a phenderfynu ar eich cymhwystra.  Os ydych chi wedi talu am eich gofal neu wedi cyfrannu at gost eich gofal ar ôl y dyddiad hwn, gallwch wneud cais i'r Bwrdd Iechyd ad-dalu'r costau hyn i chi. Fodd bynnag, os gall y Tîm Amlddisgyblaethol nodi’r dyddiad pan oedd gennych angen iechyd sylfaenol am y tro cyntaf, dylent hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol, a dylech gael eich ad-daliad o’r dyddiad hwnnw.

Pa mor hir fydd hyn yn ei gymryd?

Dylai'ch Cydgysylltydd Gofal gysylltu â chi o fewn 2 ddiwrnod i gyfarfod y Tîm Amlddisgyblaethol. Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod yn deall y canlyniad yn llawn ac i ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych. 

Os ydych chi'n gymwys i gael GIP, dylai'ch pecyn gofal fod wedi’i drefnu o fewn pythefnos i gyfarfod y Tîm Amlddisgyblaethol. 

Dylai'ch Bwrdd Iechyd Lleol drefnu eich pecyn gofal o fewn 8 wythnos i unrhyw gyswllt neu asesiad cychwynnol e.e. y rhestr wirio a gynhaliwyd a oedd yn dangos bod gennych angen iechyd sylfaenol o bosibl. Mae’r 8 wythnos yn cynnwys unrhyw amser sydd ei angen arnoch ar gyfer adsefydlu neu ailalluogi.

Gallai gymryd mwy nag 8 wythnos os ydych chi angen cyfnod hirach o adsefydlu neu ailalluogi, ond ni ddylai gymryd mwy na hynny mewn perthynas ag oedi wrth bennu cymhwystra GIP neu wrth ddarparu eich gofal.

Y broses llwybr carlam

Os oes gennych chi gyflwr sy’n gwaethygu’n gyflym a bod eich angen am ofal a chymorth yn cynyddu, oherwydd eich bod yn nesáu at ddiwedd eich oes o bosibl, dylai'ch ysbyty neu eich staff gofal gysylltu â gweithiwr proffesiynol meddygol i ofyn am asesiad GIP llwybr carlam. Byddai hyn yn berthnasol mewn achosion eraill, er emghraifft ar ôl digwyddiad trychinebus. Dylid cwblhau'r asesiad llwybr carlam o fewn deuddydd.

Pan fydd clinigydd priodol yn argymell pecyn gofal brys drwy’r broses llwybr carlam, dylai gael ei dderbyn a’i roi ar waith ar unwaith gan y Bwrdd Iechyd Lleol. Y clinigydd priodol fyddai nyrs gofrestredig neu ymarferydd meddygol sy'n gyfrifol am eich diagnosis, eich triniaeth neu'ch gofal. Dylai fod ganddynt lefel briodol o wybodaeth a phrofiad o'r math o anghenion iechyd dan sylw.

Sut bydd fy GIP yn cael ei ddarparu?

Bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu ar y pecyn gofal sy’n addas er mwyn diwallu eich holl anghenion iechyd a gofal cymdeithasol, gan ystyried eich dymuniadau a’r canlyniadau o’ch dewis.

Mewn achosion lle buoch chi'n derbyn gofal cymdeithasol, bydd asesiad yr Awdurdod Lleol o’ch anghenion gofal cymdeithasol yn bwysig wrth nodi eich anghenion ac mewn rhai achosion dewisiadau’r Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer eu diwallu.

Ni ddylai'r broses o gynllunio gofal ar gyfer diwallu anghenion dan y GIP gael ei chynnal ar wahân i’r broses o gynllunio gofal i ddiwallu anghenion eraill, a lle bynnag y bo’n bosibl, dylid datblygu cynllun gofal unigol, integredig a phersonol.

Bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn gweithio'n agos â chi i gytuno ar eich cynllun gofal GIP a'ch pecyn gofal er mwyn diwallu eich anghenion asesedig. Gall fod yn wahanol i'r pecyn a gawsoch dan eich gofal cymdeithasol.

Gofal a chymorth parhaus

Mae cael parhad o ran gofal a chymorth yn cael effaith sylweddol ar les ac ansawdd bywyd unigolyn.

Dylai eich Awdurdod Lleol a’ch Bwrdd Iechyd Lleol gydweithio er mwyn gwneud pob ymdrech i osgoi unrhyw darfu ar y trefniadau gofal sydd eisoes ar waith gennych, lle bynnag y bo’n bosibl, neu i ddarparu proses ddi-dor a diogel o bontio pan fo angen newid er eich lles pennaf.  

Llais a rheolaeth, Taliadau Uniongyrchol a GIP

Os caiff eich gofal ei ariannu gan eich Awdurdod Lleol gallech ddewis derbyn yr arian hwn ar ffurf taliad uniongyrchol. Arian yw hwn y mae eich Awdurdod Lleol yn ei roi i chi i wario ar ddiwallu eich anghenion gofal a chymorth cymwys. Gellir gwario’r arian ar amrywiaeth eang o gynhyrchion a gwasanaethau. Mae taliadau uniongyrchol yn galluogi pobl i wneud eu dewisiadau eu hunain am eu gofal a’u cymorth. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn galluogi pobl i ddefnyddio taliadau uniongyrchol i dalu am ofal preswyl tymor hir yn ogystal â gwasanaethau eraill.

Os ydych chi'n dod yn gymwys i gael GIP wedyn, bydd eich Bwrdd Iechyd Lleol yn talu am eich holl anghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Efallai eich bod yn poeni am eich gallu i gadw'r staff cymorth gofal sydd gennych ar hyn o bryd, gan nad yw Byrddau Iechyd Lleol yn gallu darparu taliadau uniongyrchol. Yn unol â phroses GIP sy’n canolbwyntio ar unigolion, os ydych chi eisoes yn defnyddio taliadau uniongyrchol i dalu am ofal cymdeithasol pan ddewch chi'n gymwys i gael GIP, mae’n rhaid i’ch Bwrdd Iechyd Lleol weithio gyda chi fel partner cyfartal, er mwyn sicrhau eich bod yn parhau i fod â llais, dewis a rheolaeth dros eich trefniadau gofal.

Mae’n rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol weithio gyda chi mewn ysbryd o gydweithredu a gwneud pob ymdrech i barhau â’r personél sy’n darparu eich gofal, os mai dyna yw eich dymuniad.

Er ei bod hi'n anghyfreithlon ar hyn o bryd i ddefnyddio taliadau uniongyrchol i dalu am ofal iechyd neu ofal cymdeithasol a ddarperir gan y GIG, nid yw'n anghyfreithlon i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol gydweithio i roi llais a rheolaeth i chi mewn perthynas â'ch anghenion iechyd a gofal cymdeithasol.

Dylai Byrddau Iechyd Lleol ystyried amrywiaeth o opsiynau i sicrhau bod gennych lais a rheolaeth dros y gofal a gewch, gan gynnwys yr enghreifftiau canlynol:

Cynnal staff

Os byddwch chi'n datblygu angen gofal iechyd sylfaenol, rhaid i'r bwrdd iechyd weithio i barhau â'r staff sy'n darparu gofal, os ydych chi'n dymuno hyn ac os gallai gyfrannu at ddiwallu eich anghenion. Gallai'r bwrdd iechyd gyflogi staff (naill ai'n uniongyrchol neu drwy asiantaeth), e.e. cynorthwywyr personol, a gyflogwyd gennych chi’n flaenorol o dan daliadau uniongyrchol.

Ymddiriedolaethau Defnyddiwr Annibynnol

Gallai Byrddau Iechyd Lleol ystyried darparu cyllid i Ymddiriedolaeth Defnyddwyr Annibynnol hefyd, i reoli eich gofal. Dyma lle mae perthynas a/neu bartïon eraill â diddordeb yn sefydlu ymddiriedolaeth sy'n darparu eich gofal. Yna mae'r Bwrdd Iechyd Lleol yn talu'r ymddiriedolaeth i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol penodedig i chi.

Efallai y gallwch gadw rhai taliadau uniongyrchol ar gyfer y rhannau o'ch gofal y mae'r Awdurdod Lleol yn dal yn gyfrifol amdanynt, e.e. cyfleoedd cynhwysiant cymdeithasol. Rhaid i sefydliadau partner gydweithio i archwilio'r holl opsiynau sydd ar gael i wneud y gorau o annibyniaeth unigolyn.

Bydd canllawiau pellach ar y mesurau hyn yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Lleoliad y gofal

Dylai'r Bwrdd Iechyd Lleol weithio'n agos gyda chi i benderfynu ar eich cynllun gofal a lleoliad y gofal, er enghraifft yn eich cartref, mewn cartref gofal, trefniant byw â chymorth neu mewn hosbis. Wrth lunio a chytuno ar y cynllun, dylid ystyried eich dewisiadau chi a rhai eich perthnasau neu eiriolwr ynghylch sut a lle y darperir eich gofal. Dylai'ch Bwrdd Iechyd Lleol ystyried eich dewisiadau o ddifrif, ochr yn ochr ag unrhyw risgiau sy’n gysylltiedig â mathau gwahanol o ofal a mynediad teg i adnoddau’r Bwrdd Iechyd Lleol.

Bydd y cynllun gofal yn nodi anghenion a dylai'r pecyn gofal ddiwallu'r anghenion hynny'n llawn. Os nad ydych yn hapus â’r pecyn gofal a gynigir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ac os nad yw’n gallu datrys eich pryderon yn anffurfiol, dylech ddefnyddio gweithdrefn cwynion y GIG – mae'r manylion cyswllt ar (gweler y manylion cysylltu).

GIP yn eich cartref eich hun

Bydd eich pecyn gofal yn cael ei ddarparu gan ofalwyr, nyrsys ardal a/neu staff priodol eraill yn eich cartref. Os oeddech chi'n byw gartref cyn bod yn gymwys i gael GIP ac yn derbyn taliadau uniongyrchol gan eich Awdurdod Lleol i ariannu eich cynorthwywyr personol yn uniongyrchol, gallai'ch Bwrdd Iechyd Lleol ddefnyddio’r aelodau staff hyn (a all fod yn aelodau'r teulu neu ffrindiau sy’n gyfarwydd iawn â’ch anghenion gofal iechyd) os ydyn nhw'n gymwys ac wedi'u hyfforddi ac yn gallu diwallu eich anghenion iechyd asesedig. Fel y nodir yn y Fframwaith Cenedlaethol GIP dylid gwneud pob ymdrech i gynnal parhad y personél sy’n darparu’r gofal, pan fo’r unigolyn yn dymuno hynny.

GIP mewn hosbis

Os ydych chi'n tynnu tuag at derfyn eich oes, efallai y bydd yn briodol i chi dderbyn eich GIP mewn hosbis. Fodd bynnag, mae Fframwaith Cenedlaethol GIP Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gallech fod am aros gartref ar yr adeg hon.

GIP mewn cartref gofal

Mae gwasanaethau cartrefi gofal yn cael eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru ac wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Mae rhai gwasanaethau cartrefi gofal yn cynnwys gofal nyrsio.

Os ydych chi angen byw mewn cartref gofal ac yn gymwys i gael GIP, mae’r GIG yn llunio contract â’r cartref ac yn talu costau eich llety, eich prydau bwyd a’r costau i dalu am eich anghenion iechyd a gofal personol asesedig. Dyma rai materion i'w cadw mewn cof:

  • Os cytunir y dylech symud i gartref gofal, mae eich dewisiadau’n rhan bwysig o'r dystiolaeth i'w hystyried wrth ddewis y cartref gofal mwyaf addas i ddiwallu eich anghenion.
  • Efallai fod gan Fyrddau Iechyd Lleol gontract ag un neu fwy o gartrefi gofal yn yr ardal, ond eich anghenion asesedig chi fydd yn penderfynu a ydyn nhw'n addas. Mewn amgylchiadau eithriadol, dylai Bwrdd Iechyd Lleol ystyried ceisiadau am e.e. ystafell fwy o faint neu leoliad mewn cartref gofal drutach nag arfer, a dylent ystyried y rhain fesul achos.
  • Rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol drafod y rhesymau dros y dewisiadau gyda chi, eich teulu neu eiriolwr. Os oes gennych chi anghenion clinigol (er enghraifft, ymddygiad heriol sy’n golygu bod angen ystafell fwy oherwydd y nodwyd bod eich ymddygiad yn gysylltiedig â theimlo'ch bod wedi eich cau i mewn, neu os ydych chi'n meddwl y byddwch yn elwa o gael darparwr gofal â sgiliau arbenigol yn hytrach na darparwr gofal cyffredinol), dylid ystyried a fyddai’n briodol i’r Bwrdd Iechyd Lleol dalu’r gost ychwanegol hon. Os pennir bod anghenion clinigol arnoch, bydd angen i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud penderfyniad sy'n sicrhau cydbwysedd rhwng eich anghenion a’ch dewisiadau chi â’r gofyniad am ddefnydd priodol o gyllid cyhoeddus.
  • Os ydych chi’n byw mewn cartref gofal preswyl yn barod ac yn dymuno aros yno yn dilyn eich asesiad GIP, byddai angen i’r Bwrdd Iechyd Lleol fod yn fodlon bod modd diwallu eich anghenion asesedig. Os nad yw’n bosibl i’ch cartref gofal presennol ddiwallu eich anghenion, bydd angen i chi drafod eich dewisiadau gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol.

Beth fydd yn digwydd os ydych chi’n breswylydd mewn cartref gofal nyrsio ‘cost uchel’ eisoes ar yr adeg rydych chi'n dod yn gymwys i gael Gofal Iechyd Personol y GIG?

  • Os ydych chi'n byw mewn cartref gofal pan benderfynir rhoi GIP i chi, mae angen i chi drafod â’ch Bwrdd Iechyd Lleol i weld a allwch chi aros yno. Mae hyn yn arbennig o berthnasol os yw'ch cartref gofal yn ddrutach nag y byddai’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ei dalu fel arfer i ddiwallu anghenion fel eich rhai chi. Gall hyn ddigwydd os ydych wedi bod yn ariannu eich gofal eich hun neu os oedd yr awdurdod lleol yn ariannu’r gofal yn rhannol ac roedd perthynas neu drydydd parti arall yn talu gweddill y ffioedd.
  • Caniateir i bobl wneud cyfraniadau ychwanegol ym maes gofal cymdeithasol, ond dyw'r un peth ddim yn wir am ofal Bwrdd Iechyd Lleol. Wrth adolygu eich llety cyfredol, dylai’r Bwrdd Iechyd Lleol ymchwilio i’r rhesymau pam rydych chi am barhau yn eich cartref/ystafell bresennol ac a oes unrhyw resymau pam ddylech chi aros yno (gallai hyn gynnwys anghenion personol, e.e. mae’n agos at aelodau agos o’r teulu). Byddai angen asesu unrhyw risgiau posibl o symud cyn y byddai penderfyniad terfynol yn cael ei wneud. Gallai rhesymau o’r fath gynnwys, er enghraifft, pa mor fregus ydych chi, anghenion iechyd meddwl neu anghenion perthnasol eraill sydd gennych chi sy’n golygu y gallai symud i lety arall olygu risg sylweddol i’ch iechyd a’ch lles.
  • Dywed cyngor Fframwaith Cenedlaethol GIP os penderfynir bod gan rywun hawl i GIP a bod ganddo becyn gofal cost uchel yn barod, y dylai’r Bwrdd Iechyd Lleol ystyried ariannu cost y pecyn cost uwch presennol tan y penderfynir a ddylent dalu’r pecyn cost uwch yn barhaus neu drefnu lleoliad amgen.

Symud i gartref gofal mewn ardal wahanol o Gymru

Efallai eich bod am symud i gartref gofal sydd yn agosach at eich teulu sy’n byw mewn ardal Bwrdd Iechyd Lleol arall. Gallwch awgrymu hyn i’ch Bwrdd Iechyd Lleol, ond y Bwrdd fydd yn penderfynu a fydd yn ei ariannu ai peidio. Os yw eich Bwrdd Iechyd Lleol yn cytuno i’ch symud i ardal Bwrdd Iechyd Lleol arall byddant yn parhau i fod yn gyfrifol am ariannu eich GIP.

Adolygiadau

Dylai adolygiadau GIP ganolbwyntio’n bennaf ar eich cynllun neu eich trefniadau ac a ydyn nhw'n dal yn addas i ddiwallu eich anghenion. Y disgwyl yw na fydd angen ailasesu cymhwystra yn y rhan fwyaf o achosion. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, bydd pobl yn symud i mewn ac allan o fod yn gymwys i gael GIP, yn dibynnu ar eu hanghenion.

Bydd eich GIP yn cael ei adolygu o fewn 3 mis o ddarparu eich cynllun gofal, oni bai ei fod yn cael ei ysgogi’n gynharach gennych chi neu eich teulu/cynrychiolydd neu’r darparwr. Wedi hynny, bydd yn cael ei adolygu’n flynyddol. Os oes disgwyl i’ch cyflwr waethygu, dylai eich pecyn gofal gael ei adolygu’n amlach. 

Os yw'ch amgylchiadau wedi dirywio’n amlwg, dylech gael adolygiad o fewn pythefnos a dylid gwneud newidiadau i’ch pecyn gofal yn ôl yr angen. Dylech dderbyn dyddiadau ar gyfer yr adolygiadau rydych yn eu disgwyl. 

Os ydych chi'n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd, yn gyfreithiol, mae’n ofynnol i’r Bwrdd Iechyd Lleol adolygu eich gofal o leiaf yn flynyddol ac yn unol â Chod Ymarfer Rhan 2 a 3 Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

Os yw unrhyw rai o’ch anghenion gofal a chymorth yn newid, gall arwain at newid yn eich cymhwystra i gael GIP. Ni ddylai eich Bwrdd Iechyd Lleol na’ch Awdurdod Lleol benderfynu diddymu unrhyw drefniant ariannu presennol heb gynnal ailasesiad ar y cyd o’ch anghenion yn gyntaf, gan ymgynghori â’i gilydd, ac â chi, ynghylch unrhyw newidiadau yn narpariaeth eich gofal.

Felly, er mwyn sicrhau parhad eich gofal, os oes newid mewn cymhwystra, mae’n hanfodol bod trefniadau ariannu amgen yn cael eu cytuno a’u rhoi ar waith cyn i unrhyw arian GIP presennol gael ei ddiddymu. Dylai’r sefydliad sy’n cynnig gwneud y newid gysylltu â chi’n ysgrifenedig ynglŷn â newid o’r fath. Os na all yr Awdurdod Lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol gytuno ar y newid arfaethedig, dylai’r trefniadau ariannu presennol barhau ar waith tan y bydd yr anghydfod wedi’i ddatrys.

Os ydych yn anhapus gydag unrhyw ran o’r adolygiad, dylech siarad â’ch Cydgysylltydd. Gallwch ofyn am ailasesiad o’ch anghenion ac am adolygiad o’ch cynllun gofal. Os ydych chi'n anhapus â’r canlyniad o hyd, gallech gwyno gan ddefnyddio Gweithio i Wella, proses gwynion y GIG. (Gweler y manylion cysylltu).

Beth sy’n digwydd os nad ydych yn gymwys a sut i apelio

Trosolwg

Nid yw pawb sydd ag anghenion iechyd parhaus yn gymwys i gael GIP, ond efallai fod gennych anghenion a nodwyd drwy’r Tîm Amlddisgyblaethol sydd naill ai ddim yn rhai y gallai'ch Awdurdod Lleol eu diwallu ar ei ben ei hun neu sydd y tu hwnt i bwerau cyfreithiol yr Awdurdod Lleol. Yn y sefyllfaoedd hyn, mae eich Awdurdod Lleol yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb am eich gofal a’ch cymorth ac mae’n gweithio mewn partneriaeth â’ch Bwrdd Iechyd Lleol i ddarparu pecyn iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi’i deilwra i ddiwallu eich anghenion unigol. 

Pecynnau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Cyd

Mae pecynnau gofal ar y cyd ar gael pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol a’r Awdurdod Lleol yn cydweithio mewn partneriaeth er mwyn cytuno ar gyfrifoldebau ariannu’r naill a’r llall yn eich pecyn gofal ar y cyd i ddarparu darpariaeth ddi-dor o iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd prawf modd yn cael ei gynnal i benderfynu a oes hawl gennych i gael y gwasanaethau y mae gan eich Awdurdod Lleol gyfrifoldeb amdanyn nhw. 

Ni ddylech wynebu unrhyw oedi gyda derbyn eich pecyn gofal wrth i’r gofal hwn gael ei drefnu.

Gofal Nyrsio a Ariennir

Os nad ydych chi'n gymwys i gael GIP, efallai y cewch barhau i dderbyn cyfraniad gofal nyrsio a ariennir gan y GIG oherwydd eich bod angen gofal nyrsio o ryw fath. Dim ond os yw asesiad yn canfod fod angen gofal nyrsio arnoch mewn cartref gofal sydd wedi cofrestru i ddarparu gofal nyrsio y caiff ei dalu. Mae’r cyfraniad gofal nyrsio yn swm wythnosol safonol a delir yn uniongyrchol i’r cartref gofal.

Gall yr awdurdod lleol a/neu chi ariannu unrhyw elfen o ofal cymdeithasol, yn dibynnu ar eich asesiad ariannol. Os ydych chi'n talu am eich gofal eich hun mewn cartref gofal gyda nyrsio, gallwch fod yn gymwys  o hyd i gael cyfraniad gofal nyrsio a ariennir gan y GIG. Nid yw hyn yn effeithio ar eich budd-daliadau, a dylai leihau cost y cartref gofal i chi.

Dylai’r cartref gofal roi datganiad ysgrifenedig i chi gyda dadansoddiad clir o’r costau y bydd y GIG, yr awdurdod lleol a chi yn eu talu. Gallwch ofyn iddyn nhw am ddatganiad os nad ydych wedi cael un.

Herio penderfyniad

Os ydych chi'n anghytuno â phenderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol, mae gennych hawl i apelio. Rhaid rhoi gwybod i'r Bwrdd Iechyd Lleol am eich bwriad i apelio o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y cawsoch wybod am y penderfyniad cymhwystra. Dim ond dan amgylchiadau eithriadol y bydd ceisiadau a wneir ar ôl y cyfnod hwn yn cael eu hystyried. Rhaid i chi gyflwyno apêl ysgrifenedig i'r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 6 mis i'r dyddiad y cawsoch wybod am y penderfyniad cymhwystra. Dim ond dan amgylchiadau eithriadol y caiff apeliadau a gyflwynir ar ôl y cyfnod hwn eu hystyried.

Nid yw’r adolygiad yn ymdrin â chynnwys cynlluniau gofal, ond gallwch wneud cais am adolygiad am y canlynol: 

  • y gweithdrefnau a ddilynwyd wrth wneud eich penderfyniad am gymhwystra GIP; neu
  • y meini prawf a ddefnyddiwyd ar gyfer cymhwystra – h.y. y prawf ‘angen iechyd sylfaenol’ ac a yw wedi’i ddefnyddio mewn dull cywir a chyson.

Gallwch gyflwyno eich achos i Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru hefyd os ydych chi’n dal i fod yn anhapus – mae'r manylion cyswllt ar (Gweler y manylion cysylltu).

Mae dau gam i'r broses apelio – cam adolygiad lleol a cham Panel Adolygu Annibynnol. 

Cam adolygiad lleol

Os ydych chi neu'ch teulu yn mynd at eich Bwrdd Iechyd Lleol i gael adolygiad o’u penderfyniad, bydd proses adolygiad lleol y Bwrdd Iechyd Lleol yn ymdrin â’r mater yn gyntaf. Dylai eich Bwrdd Iechyd Lleol roi manylion eu proses adolygiad lleol i chi, gan gynnwys amserlen, ac ymdrin â’ch cais yn brydlon. Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus â’r penderfyniad yn dilyn y broses adolygiad lleol, dylai'ch apêl fynd ymlaen i gam y Panel Adolygu Annibynnol.

Camau ac amserlen yr Adolygiad Annibynnol

Rhaid i’ch Bwrdd Iechyd Lleol gael Panel Adolygu Annibynnol (IRP) sydd â chadeirydd annibynnol, a chynrychiolwyr o’r Bwrdd Iechyd Lleol a’r Awdurdod Lleol. Fel arfer, bydd y broses IRP yn cael ei chwblhau o fewn pedair wythnos i’r cais am adolygiad (oni bai bod amgylchiadau eithriadol). Mae’r cyfnod hwn yn cychwyn unwaith y bydd unrhyw gamau i ddatrys yr achos yn y cam adolygiad lleol wedi’u cwblhau.

Pwy sy’n ariannu fy ngofal tra byddaf yn disgwyl am y canlyniad?

Mae’r penderfyniad nad ydych yn gymwys i gael cyllid GIP yn parhau tan y bydd y broses apelio wedi’i chwblhau. Yn ystod y cyfnod hwn, dylech dderbyn gofal priodol wrth ddisgwyl am ganlyniad eich apêl, ond efallai y bydd rhaid i chi gyfrannu tuag at gost eich pecyn gofal yn ystod y cyfnod hwn.

Wrth ofyn am apêl, bydd eich amgylchiadau’n effeithio ar y rhai sy’n gyfrifol am drefnu a/neu dalu am eich gofal. Gallai eich Awdurdod Lleol a/neu eich GIG fod yn rhan o’r broses neu efallai eich bod eisoes yn trefnu a/neu’n ariannu eich gofal eich hun.

Achosion adolygu ôl-weithredol

Os ydych yn teimlo eich bod chi, neu rywun rydych yn gofalu amdano, yn gymwys i gael GIP yn ystod cyfnod pan oeddech yn talu am ofal, gallwch ofyn am adolygiad ôl-weithredol er mwyn i’r ffioedd gael eu had-dalu. Y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n gyfrifol am gynnal achosion adolygu cyfredol ac ôl-weithredol, dylai bod ganddynt unigolyn penodedig i gysylltu â nhw am hyn, cysylltwch â nhw i gael gwybod pwy. Efallai eich bod yn credu y dylech fod wedi bodloni’r meini prawf cymhwystra oherwydd y rhesymau canlynol:

  • fe wnaeth y Bwrdd Iechyd Lleol gynnal asesiad yn y gorffennol, ond mae tystiolaeth na ddefnyddiwyd y meini prawf yn briodol; neu
  • dylai bod wedi bod yn eithaf amlwg i’r GIG ar y pryd y gallech fod angen gwasanaethau GIP, ond methodd y Bwrdd Iechyd Lleol â threfnu a chynnal asesiad.

Ar hyn o bryd mae yna ddyddiad terfyn treigl ar gyfer cyflwyno adolygiadau ôl-weithredol. Mae'n rhaid i chi wneud eich cais o fewn 12 mis i ddiwedd y cyfnod rydych chi'n hawlio ar ei gyfer. Gellir ystyried hawliadau y tu allan i'r dyddiadau cau a nodwyd mewn amgylchiadau eithriadol.

Bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn gofyn i chi ddarparu prawf o ffioedd gofal a dalwyd yn ystod y cyfnod dan sylw. Os ydych chi'n gwneud cais ar ran rhywun arall, bydd angen i'r Bwrdd Iechyd Lleol weld dogfennau i ddangos bod gennych yr awdurdod cyfreithiol perthnasol i ymdrin â’r hawliad. Rhaid darparu'r rhain o fewn 5 mis i gofrestru'r hawliad.

Bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn anfon holiadur atoch. Yn y ddogfen hon, byddwch yn amlinellu eich achos gan nodi pam eich bod yn credu y dylech fod wedi bod yn gymwys i gael GIP. Pan fydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn derbyn eich holiadur cyflawn, bydd yn gwneud ceisiadau i’r darparwyr gofal perthnasol am gofnodion o’ch gofal. Bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn llunio ”cronoleg o angen” o’r cofnodion.

Adolygiad Cam 1

Bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn asesu'r wybodaeth yn y gronoleg o angen yn erbyn yr Adnodd Rhestr Wirio GIP. Os na chanfyddir cymhwystra posibl, caiff yr achos ei gau. Os canfyddir sbardunau posibl ar gyfer cymhwystra, mae'r achos yn symud ymlaen i Gam 2. Caiff y penderfyniadau hyn eu cadarnhau gan Gadeirydd annibynnol Panel Adolygu.

Adolygiad Cam 2

Bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn asesu’r wybodaeth hon yn erbyn y 4 dangosydd allweddol sef Natur, Dwyster, Cymhlethdod a’r Annisgwyl ac yn defnyddio’r dull Angen Iechyd Sylfaenol ar gyfer holl gyfnod yr hawliad.

Bydd adolygiad cymheiriaid yn cael ei gynnal gan glinigydd gwahanol – neu mewn achosion pan nad oes cymhwystra, gan ddau glinigydd gwahanol – er mwyn sicrhau bod yr argymhelliad y cael ei gefnogi’n gywir gan dystiolaeth a bod y meini prawf wedi’u defnyddio’n gyson. Os oes anghytundeb rhwng y clinigwyr, bydd yr achos yn cael ei drosglwyddo i Banel Adolygu (IRP).

Bydd yr argymhelliad ar eich cymhwystra’n cael ei wneud ar sail y dystiolaeth sydd ar gael. Gall fod yn un o bedwar o bosibiliadau:

  • cyfateb – mae’r cyfnod cymhwystra a ganfuwyd yn cyfateb i’r holl gyfnod hawlio o’r dyddiad ysgogi
  • rhannol – mae cymhwystra wedi’i ganfod ar gyfer rhan o’r cyfnod hawlio o’r dyddiad ysgogi
  • dim cymhwystra wedi’i ganfod ar gyfer unrhyw ran o’r cyfnod hawlio o’r dyddiad ysgogi
  • Panel – mae’r sawl sy’n adolygu wedi methu â gwneud penderfyniad gan fod y wybodaeth sydd ar gael yn gymhleth neu nid yw'r clinigwyr yn gallu cytuno ar y cyfnod cymhwystra.

Yn dibynnu ar yr argymhelliad a wnaed, bydd eich achos yn dilyn un o dri llwybr:

  • bydd achosion sy’n cyfateb yn cael eu trosglwyddo ar unwaith er mwyn eu cadarnhau
  • bydd achosion o gymhwystra rhannol a dim cymhwystra yn cael eu hanfon ymlaen at y rhai sy’n gwneud hawliadau gyda’r cyfle i drafod y canfyddiadau
  • Achosion Panel – bydd Panel Adolygu Annibynnol yn cael ei alw. 

Fe’ch gwahoddir i drafod eich achos pan fo’r canlyniad yn un rhannol neu yn un o ddim cymhwystra:

  • Cymhwystra rhannol – bydd y drafodaeth yn ceisio cytuno ar gyfnod cymhwystra sy’n dderbyniol i bawb ac sy’n seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael a/neu dystiolaeth newydd nad oedd ar gael yn flaenorol. Os bydd cytundeb yn y cam hwn, bydd yr achos yn cael ei anfon ymlaen fel y gellir craffu arno a’i gadarnhau. Os nad oes cytundeb, bydd yr achos yn cael ei anfon ymlaen at y Panel Adolygu Annibynnol i’w ystyried.
  • Dim cymhwystra – bydd y drafodaeth yn rhoi cyfle i egluro meini prawf y GIP ymhellach a gwirio bod y sawl sy’n hawlio/cynrychiolydd wedi deall y diffyg tystiolaeth ar gymhwystra.

Ym mhob achos os gwelir eich bod yn gymwys naill ai am gyfnod yr hawliad yn llawn neu ran ohono, dylid ad-dalu mewn ffordd amserol.

Gallwch gyflwyno eich achos gerbron Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru hefyd os ydych chi'n dal i fod yn anhapus yn dilyn adolygiad. Mae'r manylion cyswllt ar(Gweler y manylion cysylltu)

Sylwch y bydd gan fyrddau iechyd wybodaeth fanylach ar sut i wneud hawliad ôl-weithredol a sut mae'r broses yn gweithio, a byddant yn rhannu hyn gyda chi wrth gysylltu â nhw.

Sut mae bod yn gymwys i gael GIP yn effeithio ar eich budd-daliadau?

Budd-daliadau anabledd

Y prif fudd-daliadau anabledd yw’r Lwfans Gweini (AA), Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) neu’r Taliad Annibyniaeth Personol (PIP). Caiff y rhain eu talu'n uniongyrchol i chi, ond gyda GIP, telir ffioedd yn uniongyrchol i ddarparwyr gofal.

Os ydych chi'n derbyn eich pecyn gofal GIP gartref, gallwch barhau i dderbyn y budd-daliadau anabledd hyn. Gallwch wirio eich bod yn eu derbyn ar y lefel briodol.

Os ydych chi'n derbyn eich GIP mewn cartref gofal gyda nyrsio, mae’r AA ac elfennau gofal a symudedd y DLA a’r PIP yn cael eu hatal ar ôl 28 diwrnod o’r amser y mae cyllid y Bwrdd Iechyd Lleol yn cychwyn, neu’n gynt os oeddech chi yn yr ysbyty'n ddiweddar.

Os ydych chi'n derbyn eich GIP mewn cartref gofal preswyl, mae elfen ofal y budd-daliadau anabledd yn cael ei hatal ar ôl 28 diwrnod o’r amser y mae cyllid y Bwrdd Iechyd Lleol yn cychwyn, ond mae elfennau symudedd y DLA neu'r PIP yn parhau.

Os ydych chi'n derbyn gofal a chymorth cymdeithasol yn y naill fath o leoliad cartref gofal neu’r llall sy'n cael ei drefnu a'i ariannu gan eich awdurdod lleol (bydd gofyn i chi gyfrannu tuag at y costau hyn o unrhyw incwm cymwys y byddwch yn parhau i'w dderbyn), mae elfen ofal budd-daliadau anabledd yn cael ei hatal ar ôl 28 diwrnod, ond mae elfennau symudedd y DLA neu’r PIP yn parhau.

Pensiwn y Wladwriaeth a Chredyd Pensiwn

Nid yw bod yn gymwys i gael GIP yn effeithio ar Bensiwn y Wladwriaeth. Os ydych chi'n derbyn Credyd Pensiwn, byddwch yn colli elfen anabledd difrifol eich dyfarniad Credyd Pensiwn pan nad oes gennych hawl mwyach i’r AA, DLA (elfen ofal) neu PIP (elfen byw beunyddiol) ac mae hyn yn debygol o effeithio ar gyfanswm y Credyd Pensiwn rydych chi'n gymwys i'w gael.

Manylion cysylltu

Sut i gysylltu â’ch Bwrdd Iechyd Lleol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Gofal Cymhleth
Tŷ Cwmbrân
Stad Parc Busnes Mamhilad
Pont-y-pŵl

Rhif ffôn:

(01873) 73273

Ymholiadau cyffredinol

Gwefan: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Rheolwr Busnes a Pherfformiad: 01495 332358

Gweinyddwr IRP: 01495 332173

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bloc 5,
Llys Carlton
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
LL17 0JG

Rhif ffôn:

(01248) 384 384

Ymholiadau cyffredinol

Gwefan: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Gofal Parhaus Ôl-weithredol
Y De-ddwyrain
Ysbyty Brenhinol Caerdydd
Heol Glossop
Caerdydd
CF24 0SZ

Rhif ffôn:

02920 335509

Ymholiadau cyffredinol

Ffôn: : (029) 2074 7747

Gwefan: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

E-bost: Intranews@wales.nhs.uk

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Geraldine Thomas
Adolygydd Nyrsys Cofrestredig
Aldyth King – Gofal Tymor Hir Gweinyddwr Gofal (Ardal Sir Gâr)
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Bloc 6 Ysbyty’r Tywysog Philip
Abercynon
Rhondda Cynon Taf
CF45 4SN

Rhif ffôn:

(01443) 744800

Ymholiadau cyffredinol

Gwefan: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Aldyth King – Gofal Tymor Hir Gweinyddwr Gofal (Ardal Sir Gâr)
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Bloc 6 Ysbyty’r Tywysog Philip
Bryngwynmawr,
Dafen, Llanelli
SA14 8QF

Rhif ffôn:

(01267) 235151

Ymholiadau cyffredinol

Cyswllt: Ffurflen Adborth Ar-lein

Gwefan: Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

 

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Tîm Gofal Cymhleth.
Ystafell 90
Neuadd Brycheiniog
Heol Cambrian
Aberhonddu
Powys
LD3 7HR

Rhif ffôn:

(01874) 711661

Ymholiadau cyffredinol

Gwefan: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Hawliadau Ôl-weithredol
Tîm Gofal Hirdymor Bloc A,
Ysbyty Castell-nedd Port Talbot
Heol Baglan
Port Talbot
SA12 7BX

Rhif ffôn:

01639 684561

Ymholiadau cyffredinol

Gwefan: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Ffôn Pencadlys ABM ar (01639) 683344

 

Cwynion a phryderon am GIG Cymru: Gweithio i Wella

Os oes gennych bryderon am eich gofal neu driniaeth, siaradwch â’r staff gofal cyn gynted â phosibl. Byddant yn ceisio datrys eich pryderon ar unwaith.

Os nad yw hyn o gymorth, neu os nad ydych chi eisiau siarad â’r staff, gallwch gysylltu â thîm cwynion y bwrdd neu'r ymddiriedolaeth.

Os nad ydych chi'n fodlon ag ymateb y bwrdd iechyd neu’r ymddiriedolaeth iechyd, gallwch gysylltu ag Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Ombwedsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ

Rhif ffôn:

0300 790 0203

Cysylltiadau defnyddiol eraill

Cysylltiadau defnyddiol eraill er mwyn cael cyngor, canllawiau a chymorth ar y gofal iechyd mae gennych hawl i’w gael gan y GIG, a sut i gwyno os yw’r gwasanaeth yn wael.  

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Rhif ffôn:

02920 447710

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Rhif ffôn:

02920 235 558

Mae Cynghorau Iechyd Cymuned yn darparu cyngor a chymorth cyfrinachol rhad ac am ddim i gleifion sydd â chwyn am wasanaethau’r GIG.

Cyngor ar Bopeth

Gallwch gysylltu â chynghorydd drwy’r gwasanaeth ffôn cenedlaethol.

Rhif ffôn:

03444 77 20 20

Cefnogaeth Eiriolaeth Cymru

Mae’n arbenigo mewn darparu gwasanaeth eiriolaeth proffesiynol, cyfrinachol ac annibynnol ar gyfer y rhai sy’n gymwys i gael gofal eilaidd mewn lleoliadau gofal eilaidd neu iechyd meddwl cymunedol.

Rhif ffôn:

029 2054 0444

Carers Direct – ar gyfer gofalwyr

Rhif ffôn:

0300 123 1053

Carers UK – ar gyfer gofalwyr

Rhif ffôn:

0800 808 7777

Family action – cymorth ar gyfer rhieni a gofalwyr

Rhif ffôn:

0808 802 6666

Neges destun 07537 404 282