Neidio i'r prif gynnwy

Diben y ddogfen hon

Mae’r polisi presennol ynghylch Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG i’w gael mewn un ddogfen gan Lywodraeth Cymru, sef NAFWC 25/2004 a WHC (2004) 024. Mae ar ffurf canllawiau i fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol.

Diben y datganiad polisi dros dro hwn yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau deddfwriaethol a dyfarniadau llys ers 2004. Dylid ystyried y datganiad hwn yn ogystal â chanllawiau o sylwedd 2004 (Saesneg yn unig), cyn y cynhelir adolygiad mwy hirdymor o’r polisi ynghylch Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG.

Diffiniadau

Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG

Fel y’i disgrifir yn y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG (2021):

Mae gofal iechyd parhaus y GIG (GIP) yn wahanol i ‘Ofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG’ sydd ond yn gymwys i unigolion sydd angen gofal nyrsio mewn cartrefi gofal. Caiff Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG ei ddarparu yn sgil Adran 49 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (sydd wedi’i disodli bellach mewn perthynas â Chymru gan adran 47(4) a (5) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014), nad yw’n cynnwys gofal nyrsio fel rhan o’r gwasanaethau a all gael eu darparu gan awdurdodau lleol. Dim ond pan fo’r tîm amlddisgyblaethol yn ystyried nad yw’r unigolyn yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd i gael GIP, ond bod ganddo anghenion gofal nyrsio, y dylid gwneud y penderfyniad ynghylch p’un a yw’n gymwys i gael Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG.

Gofal nyrsio

Mae adran 47(10) o Ddeddf 2014 yn diffinio gofal nyrsio fel gwasanaeth sy’n cynnwys naill ai darparu gofal neu gynllunio, goruchwylio neu ddirprwyo’r gwaith o ddarparu gofal, ond nid yw’n cynnwys gwasanaeth nad oes angen iddo, o ran ei natur a’r amgylchiadau y mae i’w ddarparu ynddynt, gael ei ddarparu gan nyrs gofrestredig.

Gwasanaeth cartref gofal

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016: mae Atodlen 1 i’r Ddeddf yn diffinio gwasanaethau rheoleiddiedig. Mae’n nodi:

‘Gwasanaeth cartref gofal” yw’r ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal mewn man yng Nghymru, i bersonau oherwydd eu hyglwyfedd neu eu hangen.

Cefndir cyffredinol

Dim ond pan ystyrir nad yw’r unigolyn yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer GIP, ond bod ganddo anghenion gofal nyrsio, y dylid gwneud y penderfyniad i gymhwyso Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG.

Swm wythnosol yw Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG, sy’n cael ei dalu gan fyrddau iechyd lleol i gartrefi gofal mewn perthynas â phob preswylydd yr aseswyd bod arno angen gofal nyrsio. Mae’n cynnwys dwy elfen: amser nyrs gofrestredig y bwrdd iechyd (a gyfrifir yn 8.655 awr) a swm ar gyfer cynhyrchion ymataliaeth. Yn ogystal, mae taliad gan Lywodraeth Cymru a weinyddir gan awdurdodau lleol / cyfraniad gan unigolyn sy’n ariannu ei ofal ei hun, ar gyfer tasgau gofal cymdeithasol a gyflawnir gan nyrs gofrestredig a ystyrir yn rhai cysylltiedig ac ategol, a gyfrifir yn 0.385 awr yr wythnos.

Mae’r gyfradd wythnosol yn cael ei hadolygu bob blwyddyn ac mae pob bwrdd iechyd lleol yn talu’r un fath. Yn wahanol i gostau llety a gofal personol, nid yw cyfraniad y Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG tuag at gost pecyn gofal preswylydd yn destun prawf modd ac nid yw’n drethadwy. Y bwriad polisi yw sicrhau na ddylai neb, beth bynnag fo’u lleoliad gofal, orfod talu am wasanaethau nyrs gofrestredig i ddiwallu eu hanghenion nyrsio asesedig. Mae’r rhai y mae arnynt angen gofal nyrsio yn y cartref yn cael y gofal hwnnw am ddim gan y gwasanaeth nyrsio cymunedol neu feddygfa deulu. Gall y rhai sydd yn yr ysbyty gael gofal nyrsio ar unrhyw adeg yn ddi-dâl. Mae gofal iechyd y GIG ar gael am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen, er bod eithriadau, fel deintyddiaeth.

Mae’r polisi presennol ynghylch Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG i’w gael mewn un ddogfen gan Lywodraeth Cymru, sef NAFWC 25/2004 a WHC (2004)024. Mae ar ffurf canllawiau i fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol.

Diweddariadau

Dyma’r prif ddiweddariadau i ganllawiau 2004 a nodir yma:

  • Yn lle’r cyfeiriadau at adran 49 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001, dylid cyfeirio at adran 47 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Cwmpas y gweithgareddau gan nyrs gofrestredig y mae’n rhaid i daliad y bwrdd iechyd lleol ar gyfer Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG ei adlewyrchu yw’r cwmpas a nodir yn Nyfarniad y Goruchaf Lys yn 2017
  • Cyfrifo cyfradd Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG
  • Gofynion a chanllawiau ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a chronfeydd cyfun o dan Ddeddf 2014
  • Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn diwygio rhannau o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac yn nodi’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.  

Adran 47 o Ddeddf 2014

Mae adran 47 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn atal awdurdod lleol rhag darparu gwasanaethau y mae’n ofynnol i’r GIG eu darparu o dan unrhyw ddeddfiad oni bai y byddai gwneud hynny yn gysylltiedig â gwasanaethau y mae awdurdod lleol wedi ei rymuso i’w darparu o dan adrannau 35-45 o’r Ddeddf honno, neu’n ategol at wasanaethau o’r fath. I bob pwrpas, mae’n efelychu adran 49 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001.

Dyfarniad y Goruchaf Lys yn 2017

Yn dilyn anghydfod yn ymwneud ag awdurdodau lleol, darparwyr gofal a byrddau iechyd lleol, yn 2017 bu’r Goruchaf Lys ([2017] UKSC 56) yn ystyried a oedd popeth yr oedd nyrs gofrestredig yn ei wneud mewn lleoliad gofal preswyl yn dod o fewn y gwaharddiad o dan adran 49 o Ddeddf 2001 (neu adran 47 o Ddeddf 2014), gan olygu y dylai bwrdd iechyd lleol ei ariannu.

Penderfynodd y Llys y dylai’r swm ar gyfer Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG, yn ogystal â chwmpasu’r hyn yr oedd byrddau iechyd lleol wedi’i gynnwys wrth gyfrifo’r swm wythnosol ar ei gyfer ar y pryd, hefyd gynnwys seibiannau â thâl ac amser a dreulir o dan oruchwyliaeth glinigol. Fodd bynnag, daeth i’r casgliad hefyd fod elfen fach o amser y nyrs gofrestredig yn cael ei dreulio ar dasgau gofal cysylltiedig/ategol nad oeddent o fewn gwaharddiad adran 49, gan olygu felly fod rhaid i’r unigolyn neu’r awdurdod lleol dalu amdanynt. Yn ddiweddarach, pennwyd mai cost yr elfen hon oedd 0.385 awr yr wythnos o amser nyrs.

Mewnbwn nyrs gofrestredig

Caiff mewnbwn nyrsys cofrestredig ei ddisgrifio yn Nyfarniad y Goruchaf Lys yn 2017, gan gyd-fynd yn agos â geiriad adran 47(10) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, fel a ganlyn:

Services provided by a registered nurse and involving either the provision of care or the planning, supervision or delegation of the provision of care, other than any services which, having regard to their nature and the circumstances in which they are provided, do not need to be provided by a registered nurse.

Nodir yn y dyfarniad fod gofal nyrsio gan nyrs gofrestredig yn cwmpasu:

  • time spent on nursing care, in the sense of care which can only be provided by a registered nurse, including both direct and indirect nursing time
  • paid breaks
  • time receiving supervision
  • stand-by time
  • time spent on providing, planning, supervising or delegating the provision of other types of care which in all the circumstances ought to be provided by a registered nurse because they are ancillary to or closely connected with or part and parcel of the nursing care which the nurse has to provide.

Cyfrifo’r gyfradd ar gyfer Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG

Dylai byrddau iechyd lleol ymgysylltu’n effeithiol ag awdurdodau lleol a darparwyr gofal wrth gyhoeddi a thalu cyfradd addas ar gyfer Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG bob blwyddyn, gan fodloni’r meini prawf a nodir yn y ddogfen hon.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae byrddau iechyd lleol wedi pennu’r gyfradd yn flynyddol ar gyfer Cymru gyfan gan ddefnyddio Mecanwaith Cynyddu ar sail Chwyddiant (IUM).

Mae dwy elfen i’r Mecanwaith Cynyddu ar sail Chwyddiant:

  • Amser y Nyrs Gofrestredig, sy’n cael ei gynyddu’n flynyddol yn unol â Graddfa Gyflog Agenda’r GIG ar gyfer Newid, ar ganol Band 5.
  • Arian ar gyfer cyflenwadau ymataliaeth. Mae hyn yn cael ei gynyddu’n flynyddol yn unol â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr.

Gan nad yw Dyfarniad Cyflog y GIG yn cael ei gyhoeddi mewn pryd i’r cynnydd gael ei ddarparu ar ddechrau’r flwyddyn ariannol, dylai byrddau iechyd ystyried dewisiadau ar gyfer sicrhau eglurder i ddarparwyr, fel cyfradd dros dro ar ddechrau’r flwyddyn ariannol, gan ailgyfrifo ar ôl i’r dyfarniad cyflog i nyrsys gael ei gyhoeddi. Ni fyddai disgwyl i fyrddau iechyd adennill unrhyw daliad dros dro sydd uwchlaw’r hyn y mae’r dyfarniad cyflog yn ei bennu.

Tabl o gyfraddau Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG y cytunwyd arnynt yn ddiweddar
Blwyddyn ariannol Elfen nyrs gofrestredig Elfen ymataliaeth

Cyfanswm elfen y bwrdd iechyd o gyfradd Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG

(8.655 awr)

Elfen yr awdurdod lleol

(0.385 awr)

Cyfanswm cyfradd wythnosol Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG

(9.4 awr ynghyd ag elfen ymataliaeth)
2014/15 £150.62 £11.00 £161.62 £6.55 £168.17
2015/16 £150.98 £11.00 £161.98 £6.56 £168.54
2016/17 £152.48 £11.00 £163.48 £6.63 £170.11
2017/18 £153.99 £11.29 £165.28 £6.70 £171.98
2018/19 £156.30 £11.57 £167.87 £6.80 £174.67
2019/20 £161.15 £11.82 £172.96 £7.01 £179.97
2020/21 £167.11 £12.02 £179.13 £7.27 £186.40
2021/22 £172.12 £12.20 £184.32 £7.48 £191.80
2022/23 £180.73 £13.15 £193.88 £7.86 £201.74

Gweithio mewn partneriaeth a chronfeydd cyfun

Wrth ddarparu Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG, rhaid i fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol ystyried Rheoliadau a chanllawiau o dan Ran 9 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â gweithio mewn partneriaeth a chronfeydd cyfun, fel y nodir yn y Canllawiau ynghylch Rhan 9.

Yn benodol, mae’r gofynion a’r arweiniad a nodir yn adran 9 o’r canllawiau hynny ynghylch lleoliadau mewn cartrefi gofal i bobl hŷn, a chartrefi gofal yn fwy cyffredinol, yn cynnwys lleoliadau cartrefi gofal sydd â Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG.

Dolenni allweddol