Casnewydd yw'r trydydd awdurdod lleol yng Nghymru i gynnig gofal plant am ddim i bob plentyn 2 oed wrth i Dechrau'n Deg ddathlu 20 mlynedd o gefnogi teuluoedd a phlant.
O fis Ebrill, bydd holl rieni a gofalwyr plant dwy oed yng Nghasnewydd yn gymwys i gael hyd at 12.5 awr o ofal plant am ddim, o ansawdd uchel bob wythnos - ni waeth ble yn y ddinas maen nhw'n byw. Casnewydd yw'r awdurdod lleol cyntaf yn ne-ddwyrain Cymru i gyrraedd y garreg filltir hon, yn dilyn Merthyr Tudful ac Abertawe.
Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen blynyddoedd cynnar a lansiwyd yn 2006 sydd wedi'i thargedu at rai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae'n cynnig pecyn o gymorth i deuluoedd â phlant dan 4 oed gan gynnwys:
- gofal plant o safon wedi'i ariannu'n llawn
- cyngor rhianta
- gwasanaeth ymwelwyr iechyd gwell
- chefnogaeth ar gyfer lleferydd, iaith a chyfathrebu
Ers mis Ebrill 2023, mae'r rhaglen wedi cael ei hehangu'n raddol, gan ymestyn gofal plant Dechrau'n Deg o ansawdd uchel i filoedd yn fwy o blant a theuluoedd ledled Cymru.
Mewn gwerthusiad cenedlaethol diweddar, canmolwyd Dechrau'n Deg yn gyson gan deuluoedd am gefnogi cymdeithasu, annibyniaeth, hyder a pharodrwydd ar gyfer yr ysgol yn ystod blynyddoedd cynnar hollbwysig eu plant.
Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:
Mae eleni yn nodi 20 mlwyddiant Dechrau'n Deg, felly mae'n briodol inni ddathlu dau ddegawd o ymroddiad, arloesi a phartneriaeth. Dros y cyfnod hwn, mae'r rhaglen wedi trawsnewid cyfleoedd bywyd i filoedd o blant ifanc yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.
Rydym eisoes yn ychwanegu at y llwyddiant hwn wrth ehangu'r gofal plant i blant dwy oed ledled Cymru, ac mae ein hymrwymiad yn parhau i fod yn glir: sicrhau bod pob plentyn, pob teulu a phob cymuned yng Nghymru wir yn gallu ffynnu.
Dywedodd y Cynghorydd Deb Davies, aelod o gabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros addysg a'r blynyddoedd cynnar:
Rwy'n falch iawn bod rhieni a gofalwyr ledled y ddinas gyfan bellach yn gallu cael cynnig gofal plant am ddim am hyd at ddwy awr a hanner y dydd.
Byddant yn cael dechrau gwych trwy ddysgu wrth chwarae ac mae pawb yn gwybod y gall presenoldeb rheolaidd mewn darpariaeth gofal plant o ansawdd da wella eu canlyniadau yn sylweddol.
Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen anhygoel sy'n cynnig cymorth ychwanegol i deuluoedd, a ddarperir gan staff ymroddedig. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni rhianta a helpu plant i gyflawni cerrig milltir datblygiadol.
Rhwng 2023 a 2025, perfformiodd y rhaglen yn well na'r targed o gefnogi 9,500 o blant dwy oed ychwanegol, gyda lleoedd gofal plant yn cael eu cynnig i dros 13,400 o blant a mwy na 10,000 yn cymryd lle. Dros oes y rhaglen, mae mwy na £1.35 biliwn wedi'i fuddsoddi yn Dechrau'n Deg.
