Neidio i'r prif gynnwys

Mae ymgynghoriad 10 wythnos ar ddarpariaeth llaeth i ysgolion yng Nghymru wedi’i lansio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn ynghylch a ddylid sefydlu Cynllun Llaeth Ysgol Cymru, neu a ddylid dod â’r ddarpariaeth o laeth ysgol am ddim i ben.
  • Waeth beth yw canlyniad yr ymgynghoriad, bydd llaeth yn parhau i fod ar gael i blant oedran cynradd trwy glybiau brecwast ac amser cinio trwy’r rhaglen Prydau Ysgol Am Ddim i bob Plentyn Cynradd.

Mae ymgynghoriad sy'n ceisio barn ar ddarpariaeth llaeth ysgol yng Nghymru yn cael ei lansio heddiw [26 Hydref 2026].

Ar hyn o bryd mae'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol yn darparu llaeth am ddim i ddysgwyr yn y Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 2 a llaeth â chymhorthdal i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 3 i 6 ac mae'n cael ei weinyddu gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) ar ran Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, bydd yr RPA yn rhoi'r gorau i ddarparu'r cynllun i Gymru ar ôl 31 Mawrth 2027.

Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn ar ddyfodol y Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol ac a ddylid sefydlu cynllun llaeth ysgol newydd yng Nghymru i barhau â'r cynllun am ddim o fis Ebrill 2027 neu a ddylid rhoi'r gorau i'r ddarpariaeth llaeth ysgol am ddim yn gyfan gwbl.

Waeth beth yw canlyniad yr ymgynghoriad, bydd llaeth yn parhau i fod ar gael i blant oedran cynradd trwy glybiau brecwast ac amser cinio trwy’r rhaglen Prydau Ysgol Am Ddim i bob Plentyn Cynradd.

Yn ogystal, mae'r ymgynghoriad yn ategu datblygiad Strategaeth Fwyd Genedlaethol Cymru. Un o nodau'r strategaeth hon fydd cynyddu'r defnydd o gynnyrch o Gymru ar draws y system fwyd, gan gynnwys mewn ysgolion. Bwyd ysgol fydd un o'r meysydd cyntaf y bydd y gweithgor arbenigol yn canolbwyntio arno, a fydd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu Strategaeth Fwyd Genedlaethol Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan:

Mae llaeth yn rhan bwysig o gefnogi iechyd a llesiant ein dysgwyr ieuengaf ers amser maith, ac rwyf am wneud yn siŵr bod unrhyw benderfyniadau am ei ddyfodol yn seiliedig ar y dystiolaeth gryfaf bosibl. Dyna pam rydw i'n lansio'r ymgynghoriad hwn heddiw, i glywed yn uniongyrchol gan ysgolion, rhieni, dysgwyr a'r sectorau ffermio a llaeth. Byddwn yn annog pawb sydd â barn ar y mater hwn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a helpu i lywio ein penderfyniad a'r ffordd ymlaen.

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei ddefnyddio i benderfynu ar y camau nesaf a bydd yn rhedeg am 10 wythnos. Gellir dod o hyd iddo yma.