Neidio i'r prif gynnwy

Yn fuan bydd pobl yng Nghymru yn gallu awgrymu lleoedd yn eu cymunedau lle yr hoffent weithio, fel rhan o uchelgais hirdymor Llywodraeth Cymru i gael tua 30% o’r gweithlu’n gweithio gartref neu’n gweithio o bell.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Disgrifiodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, y fenter yn “gyfle i bobl lywio dyfodol y gweithle yng Nghymru.”

Bydd map rhyngweithiol, a fydd i’w weld ar blatfform Commonplace, yn gofyn i bobl a fyddent yn hoffi gweithio o bell, a bydd modd i bobl osod pin ar fan ar y map i ddangos lle yr hoffent weld hyb cydweithio.

Mae’r map rhyngweithiol yn rhan o waith ymchwil a chasglu tystiolaeth i fesur y galw am hybiau gweithio lleol, gan nodi lle y mae eu hangen ac a ydynt ar gael eisoes. O heddiw ymlaen gall pobl gofrestru ar gyfer newyddion am y prosiect, cyn i’r map gael ei lansio ddydd Iau, 11 Chwefror.

Mae gweithio’n lleol yn cynnig dewis arall yn lle gweithio gartref neu mewn swyddfa ganolog, gan roi mwy o hyblygrwydd i bobl o ran sut y maent yn gweithio.

Fel rhan o’i hymateb i’r coronafeirws, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gynyddu nifer y bobl sy’n gweithio y tu allan i’r amgylchedd swyddfa traddodiadol. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy sbarduno newidiadau i’n diwylliant gweithio yng Nghymru a rhoi mwy o ddewis i bobl. Nodwyd bod datblygu rhwydwaith o hybiau gweithio lleol yn faes a ddylai gael blaenoriaeth i helpu i gyflawni hyn.

Mae cynlluniau peilot yn cael eu rhoi ar waith i brofi faint o ddefnydd a wneir ohonynt a pha mor effeithiol y byddant, ac i weld pa fathau o fodelau cyflawni y gellir eu defnyddio. Bydd y rhain yn ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth ac yn dylanwadu ar unrhyw gamau ychwanegol i fwrw ati gyda’r cynlluniau. Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Bydd rhagor o fanylion hefyd yn cael eu cyhoeddi ym mis Ionawr.

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: 

“Dyma gyfle i bobl lywio dyfodol y gweithle yng Nghymru. Gobeithio y bydd gymaint o bobl ag y bo modd yn dweud eu dweud.

“Mae’r pandemig wedi creu’r angen i weithio gartref i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Ond mae manteision ehangach i weithio y tu allan i’r swyddfa ac mae angen inni fanteisio i’r eithaf arnynt. Nid yw’n bosibl i rai pobl weithio gartref a bydd hybiau lleol yn eu helpu i weithio heb wynebu taith hirfaith.

“Rydym yn dymuno rhoi mwy o ddewis i bobl o ran ble a sut y maent yn gweithio. Gweithio o bell yw un o’r opsiynau rydym am ei roi i bobl. Pan fydd y map yn cael ei lansio bydd cyfle i bobl ddatblygu’r sylfaen dystiolaeth y byddwn yn ei defnyddio i roi’r cynlluniau hyn ar waith.”