Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw mae Rheoliadau newydd wedi cael eu cymeradwyo gan y Senedd sy'n ei gwneud yn orfodol gosod CCTV ym mhob lladd-dy yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Rheoliadau Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Cymru) 2024 yn ei gwneud yn ofynnol i gamerâu CCTV gael eu gosod ym mhob lladd-dy mewn mannau lle mae anifeiliaid byw’n cael eu dadlwytho, eu cadw, eu trin, eu stynio a'u lladd.

Mae'r ymrwymiad hwn yn y Rhaglen Lywodraethu ac mae wedi'i gynnwys yng Nghynllun Lles Anifeiliaid Cymru, sy'n ceisio cynnal a gwella safonau lles ar gyfer pob anifail a gedwir.

Mae eisoes gan y rhan fwyaf o ladd-dai yng Nghymru CCTV.  Mae'r gofyniad hwn yn sicrhau bod pob lladd-dy yn cael ei gynnwys, gan gefnogi hyder defnyddwyr bod safonau lles yn cael eu sicrhau.  

Bydd gofynion i osod a gweithredu system CCTV a chadw recordiadau a gwybodaeth CCTV yn dod i rym ar 1 Mehefin.

Mae hyn yn rhoi cyfnod o chwe mis pan fydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn gweithio gyda gweithredwyr lladd-dai i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gofynion, cyn i'r Rheoliadau gael eu gorfodi ar 1 Rhagfyr.

Nid yw CCTV yn cymryd lle goruchwyliaeth uniongyrchol gan reolwyr lladd-dai neu Filfeddygon Swyddogol, ond gall helpu i wella effeithlonrwydd gweithgareddau monitro a gorfodi.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies: 

Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Rydyn ni am i'n hanifeiliaid fferm gael ansawdd bywyd da ac mae lles anifeiliaid mewn lladd-dai o'r pwys mwyaf inni.

Mae'r rhwydwaith o ladd-dai yng Nghymru darparu gwasanaethau hanfodol i ffermwyr, cigyddion a defnyddwyr. Maent hefyd yn darparu swyddi medrus ac yn cefnogi cadwyni cyflenwi lleol. Mae gwneud CCTV yn orfodol ym mhob lladd-dy yng Nghymru yn rhoi rhagor o hyder i ddefnyddwyr fod safonau lles yn cael eu sicrhau.

Cyhoeddwyd ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar 14 Tachwedd 2022, a'r dyddiad cau ar gyfer ymatebion oedd 6 Chwefror 2023. Cyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ym mis Mai 2023. Cafwyd 16,000 o ymatebion i'r ymgynghoriad ac roedd y mwyafrif llethol yn cytuno y dylid gosod camerâu CCTV ym mhob lladd-dy cymeradwy yng Nghymru.