Neidio i'r prif gynnwy

Cymerwch ac anfon ffotograffau â geotag ar gyfer Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau (NMIS).

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sut i dynnu ffotograffau â geotag

Am fanylion llawn:

  • beth yw ffotograff â geotag, a
  • sut i gymryd un 

gweler: Grantiau a thaliadau gwledig: canllawiau ffotograffau â geotag

Gofynion Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau

Ffotograffau â Geotag yw un o’r dogfennau ategol sy angen eu cyflwyno fel rhan o’ch Cais am Grant.

Mae’n rhaid i chi dynnu ffotograffau â geotag o’r eitem/eitemau are ich safle i ddangos tystiolaeth o’ch Cais NMIS.  Ni fyddwn yn gallu talu eich hawliad heb ffotograffau â geotag perthnasol.

Bydd ein staff yn edrych ar amser a lleoliad y ffotograffau â geotag y byddwch wedi’u cyflwyno iddi ac yn cymharu hynny â’r wybodaeth yn eich contract NMIS. Drwy hynny, gallwn gadarnhau’ch hawliad a bod y gweithgarwch wedi’i wneud fel y cytunwyd.

Tynnwch ffotograff o’r eitem/eitemau hawliedig are ich safle.  Rhaid i bob ffotograff fod yn ffotograff â Geotag.

Does dim gwahaniaeth p’un a yw’r lluniau’n rhai ‘portrait’ neu ‘landscape’, cyn belled â’ch bod yn gallu gweld yr holl wybodaeth berthnasol.

Eich cyfrifoldeb chi yw dangos bod gennych ddigon o dystiolaeth i ddangos bod y gwaith rheoli neu’r buddsoddiad wedi’i wneud. Heb ddigon o dystiolaeth, efallai y bydd yna oedi cyn eich talu neu efallai na chewch eich talu o gwbl.

Bydd angen i chi lanlwytho ffotograffau â geotag i RPW Ar-lein. Ar ôl ichi lanlwytho’ch ffotograffau â geotag fel rhan o’ch hawliad Cynllun NMIS, bydd staff Llywodraeth Cymru yn gallu edrych a yw’r gweithgarwch wedi’i gwblhau yn y lle cywir, yn unol â’ch contract.

Help a chefnogaeth

Os oes gennych unrhyw broblemau pellach, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.