Neidio i'r prif gynnwy

Cymerwch ac anfon ffotograffau â geotag ar gyfer cynllun Tyfu ar gyfer yr Amgylchedd (Ffenestr 2).

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sut i dynnu ffotograffau â geotag

Am fanylion llawn:

  • beth yw ffotograff â geotag, a
  • sut i gymryd un 

gweler: Grantiau a thaliadau gwledig: canllawiau ffotograffau â geotag

Gofynion Tyfu er mwyn yr Amgylchedd (Cyfnod ymgeisio 2)

Bydd angen tynnu ffotograffau cyn, yn ystod ac ar ôl i chi wneud eich gwaith Tyfu er mwyn yr Amgylchedd. Rhaid gofalu bod geotag ar bob ffotograff.

Bydd angen i chi dynnu ffotograffau â geotag o’r caeau yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • cyn aredig neu ddrilio’r tir
  • yn ystod y gwaith aredig a hau
  • wrth gynaeafu’r cnwd neu pan gaiff ei bori gyntaf
  • ar 15 Hydref 2022 ar gyfer gwreiddgnwd neu gnwd porthiant nad yw’n cael ei chwistrellu (opsiwn 4)
  • ar 15 Chwefror 2024 ar gyfer cnwd sydd wedi’i hau o dan indrawn (opsiwn 9)

Does dim gwahaniaeth p’un a yw’r lluniau’n rhai ‘portrait’ neu ‘landscape’, cyn belled â’ch bod yn gallu gweld yr holl wybodaeth berthnasol.

Eich cyfrifoldeb chi yw dangos digon o dystiolaeth i brofi bod y gwaith rheoli neu’r buddsoddiad wedi’i wneud. Heb ddigon o dystiolaeth, efallai y bydd yna oedi cyn eich talu neu efallai na chewch eich talu o gwbl.

Bydd angen i chi lanlwytho ffotograffau â geotag i RPW Ar-lein. Byddwn ni'n cadarnhau bod y gwaith wedi’i wneud yn y man cywir fel a nodir yn y contract.

Help a chefnogaeth

Os oes gennych unrhyw broblemau pellach, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.