Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi rhoi’r golau gwyrdd ar gyfer adeiladu Canolfan Gofal Arbenigol a Chritigol newydd yn Llanfrechfa.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nid yw costau terfynol y tendr wedi’u cytuno eto, ond bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi tua £350 miliwn yn yr ysbyty newydd. Disgwylir y bydd y Ganolfan yn agor yn 2022.

Mae’r Ganolfan yn rhan allweddol o’r strategaeth Dyfodol Clinigol uchelgeisiol, a lansiwyd yn 2004, i foderneiddio gwasanaethau iechyd Gwent. Pan fydd wedi’i adeiladu, bydd yr ysbyty newydd yn trin cleifion sydd angen gofal brys cymhleth ac acíwt yn rhanbarth Gwent.

Er bod y Ganolfan yn rhan allweddol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mae Llywodraeth Cymru’n disgwyl i’r ysbyty newydd chwarae rhan bwysig ar draws rhanbarth y de, gan weithio gydag ysbytai mawr eraill i sicrhau gwasanaethau cynaliadwy o ansawdd uchel sy’n darparu’r canlyniadau gorau posib i gleifion.

Dywedodd Vaughan Gething:

 “Rwy’n gwybod bod tipyn o ddiddordeb cyhoeddus a gwleidyddol yn y prosiect hwn, ac ar ôl ystyriaeth ofalus mae’n bleser gen i gymeradwyo’r achos busnes llawn ar gyfer y Ganolfan. Byddaf yn rhyddhau cyllid cyfalaf ar gyfer 2016/17 i 2021/22 er mwyn adeiladu ysbyty o’r radd flaenaf yng Ngwent.

“Mae’r Ganolfan wedi cael cefnogaeth gref yn lleol a thrwy ymgynghoriad cyhoeddus ar Raglen De Cymru.  Rwy’n hyderus y bydd uno gwasanaethau cymhleth ac acíwt ar un safle ysbyty yn caniatáu i’r bwrdd iechyd lleol sicrhau amrywiol fanteision a fydd yn gwella ansawdd gofal i gleifion. 

“Rydyn ni’n gweithio’n ddiflino i wella gofal iechyd yng Nghymru, ac fe fydd hynny’n parhau. Rwy’n benderfynol o gynllunio a datblygu gwasanaethau ar lefel ranbarthol yn ogystal ag ar lefel leol er lles pob un o bobl y de. Mae’r Ganolfan hon yn gam cadarnhaol, ac fe fydd nifer fawr iawn o gleifion yn medru manteisio arni am flynyddoedd i ddod.”