Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi dymuno’n dda i dîm pêl-droed Cymru cyn eu gem gyntaf yn nhwrnamaint Ewro 2016 yn Bordeaux heno.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad cyn y gêm rhwng Cymru a Slofacia, dywedodd Carwyn Jones:  

“Mae’r  gêm bêl-droed heddiw yn ddiwrnod pwysig iawn yn hanes chwaraeon Cymru.  Wedi 58 mlynedd a sawl tro o ddod yn agos iawn i’r brig, rydym, o’r diwedd, yn cystadlu mewn twrnamaint pêl-droed hynod bwysig. 

“Rwy’n hapus iawn bod ein tîm pêl-droed cenedlaethol, yn ogystal â Chymru, wedi cael cyfle i ddangos eu doniau ar lwyfan rhyngwladol.

“Mae rhai o chwaraewyr pêl-droed gorau’r byd yn dod o Gymru – Gareth Bale, Ryan Giggs, Ian Rush a John Charles – pob un ohonynt yn enwau cyfarwydd iawn i ni.  Ond, wrth gwrs, dim ond rhan o’r stori a’r hanes yw hyn.  Mae Chris Coleman a’i dîm yn cymryd yr ymadrodd ‘Gorau Chwarae Cyd Chwarae’ o ddifri, ymadrodd sy’n crynhoi’r  ymdeimlad sydd gan bobl am y gystadleuaeth ac mae wedi rhoi hwb mawr i’r genedl hefyd.  Mae wedi bod yn fendigedig gweld hyn yn datblygu i fod yn llwyddiant ar y cae chwarae.

“Yr haf hwn, bydd Cymru’n cael ei chynrychioli mewn twrnamaint fydd yn cael ei gwylio gan biliynau o bobl o bobl cwr o’r byd.  Mae’r hyn y maen nhw wedi’i gyflawni yn anghredadwy ac maen nhw’n llwyr haeddiannol o’r fraint.

“Pob lwc ichi fechgyn – rydym ni gyda chi pob cam o’r ffordd.”