Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y Gorchymyn hwn yn cau priffyrdd er mwyn caniatáu gwaith datblygu arnynt yn unol â chaniatâd cynllunio a roddir gan yr Awdurdod Lleol.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Gorchymyn Cau Priffyrdd (Albert Row, Abertawe) 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 514 KB

PDF
514 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gorchymyn Cau Priffyrdd (Albert Row, Abertawe) 2019 - cynllun , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 987 KB

PDF
987 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Bydd y Gorchymyn hwn yn galluogi ailwampio, newid a/neu ddymchwel yr holl adeiladau/strwythurau presennol ar y safle (ac eithrio Eglwys Santes Fair ac Eglwys Gatholig Priordy Dewi Sant) ac ailddatblygu’r safle gyda mynediad dangosol/cynllun dangosol a pharamedrau graddfa dangosol ar y safle gogleddol o 1 i hyd at 7 o loriau a chydag arwynebedd llawr newydd o hyd at 84,050 o fetrau sgwâr yn cynnwys defnydd manwerthu/masnachol/swyddfa, preswyl, sefydliad amhreswyl a hamdden, maes parcio aml-lawr ac ail-ddatblygu’r safle deheuol o hyd at 40,700 o fetrau sgwâr o arwynebedd llawr yn cynnwys arena newydd, gwesty/adeilad preswyl o hyd at 13 o loriau, unedau bwyd a diod, maes parcio yn yr is-grofft a chanolfan ynni ddichonol. Ar draws y ddau safle, darparu mannau agored cyhoeddus newydd/gwaith gwella tir y cyhoedd a gwaith tirweddu, mynediad newydd i gerddwyr a cherbydau a threfniadau gwasanaethu (gan gynnwys pont i gerddwyr dros Heol Ystumllwynarth), darparu safleoedd bysiau newydd ar Heol Ystumllwynarth, mynediad newydd i gerddwyr drwy’r bwâu presennol ar hyd Victoria Quay, adleoli cerflun Syr H Hussey Vivian, cloddwaith a gwaith plannu, yn unol â’r caniatadau cynllunio a roddwyd o dan Ran 3 o Ddeddf 1990 gan y Cyngor ar 5 Mehefin 2019 o dan y cyfeirnod 2019/0980/S73 a’r gymeradwyaeth materion a gadwyd yn ôl a roddwyd ar 13 Awst 2019 o dan y cyfeirnod 2019/1373/RES.