Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru yn gorff annibynnol sy'n cynghori Gweinidogion Cymru ar drefniadau'r Isafswm Cyflog Amaethyddol ar gyfer gweithwyr amaethyddol, garddwriaethol a choedwigaeth yng Nghymru. Mae hefyd yn hyrwyddo gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth, yn datblygu gweithlu â’r sgiliau priodol ac yn rhoi cyngor ychwanegol i Weinidogion yn ôl y gofyn.

Bob blwyddyn, mae'r Panel yn adolygu'r trefniadau Isafswm Cyflog Amaethyddol (AMW), yn cynnig unrhyw newidiadau angenrheidiol ac yn ymgynghori ar eu cynigion cyn eu cyflwyno mewn Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (AWO) drafft i Weinidogion Cymru i'w hystyried.

Ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan y Senedd, mae gan y Gorchymyn awdurdod cyfreithiol yng Nghymru. Wrth wneud eu penderfyniadau, mae'r Panel yn defnyddio eu harbenigedd ac yn ystyried yr amodau economaidd yn y diwydiant ar y pryd, yn ogystal ag unrhyw ofynion cyfreithiol (fel yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol). Mae hyn yn sicrhau bod gweithwyr amaethyddol yn cael cyflog, lwfansau a thelerau cyflogaeth teg a adolygir yn rheolaidd, gan gyfrannu ymhellach at agenda trechu tlodi Llywodraeth Cymru drwy ddiogelu incwm aelwydydd, yn enwedig mewn cymunedau gwledig.

Mae'r Panel yn cynnwys cynrychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, Undeb Unite a thri aelod annibynnol. Mae adran nawdd Llywodraeth Cymru yn darparu swyddogaeth ysgrifenyddol y Panel, ac mae cwmni cyfreithiol allanol yn cynghori'r Panel ar unrhyw faterion cyfreithiol sy'n codi a chydymffurfiaeth gyfreithiol yn gyffredinol. Maent yn paratoi'r Gorchmynion Cyflogau drafft sy'n gweithredu penderfyniadau'r Panel hefyd.

Mae'r ddogfen hon yn gofyn am eich barn ar newidiadau arfaethedig y Panel i'r trefniadau Isafswm Cyflog Amaethyddol presennol, a fydd yn gymwys o fis Ebrill 2022 ymlaen. Gwnaed y cynigion yng nghyfarfod y Panel ar 7 Medi 2021 ac fe'u rhestrir isod.

1. Cyfraddau cyflog

Cyniga’r Panel fod yr isafswm cyfradd cyflog i weithwyr amaethyddol yn cynyddu fel a ganlyn:

Graddau
Gradd y gweithiwr amaethyddol

Y Cyfraddau a gynigir ar gyfer 2022
(£ Yr Awr)

A1 – Gweithiwr Datblygu Amaethyddol (16-17 mlwydd oed) £4.81
A2 – Gweithiwr Datblygu Amaethyddol (18-20 mlwydd oed) £6.83
A3 – Gweithiwr Datblygu Amaethyddol (21-22 mlwydd oed) £9.18
A4 – Gweithiwr Datblygu Amaethyddol (23+ mlwydd oed) £9.50
B1 – Gweithiwr Amaethyddol (16-17 mlwydd oed) £4.81
B2 – Gweithiwr Amaethyddol (18-20 mlwydd oed) £6.83
B3 – Gweithiwr Amaethyddol (21-22 mlwydd oed) £9.18
B4 – Gweithiwr Amaethyddol (23+ mlwydd oed) £9.79
C – Gweithiwr Amaethyddol Uwch £10.08
D – Uwch-Weithiwr Amaethyddol £11.06
E – Rheolwr Amaethyddol £12.13
Cyfraddau cyflog prentisiaid i gynyddu fel a ganlyn:
Grwpiau blwyddyn/oedran prentis Y Cyfraddau a gynigir ar gyfer 2022
(£ Yr Awr)
Prentis Blwyddyn 1 £4.81
Prentis Blwyddyn 2 (16-17 mlwydd oed) £4.81
Prentis Blwyddyn 2 (18-20 mlwydd oed) £6.83
Prentis Blwyddyn 2 (21-22 mlwydd oed) £9.18
Prentis Blwyddyn 2 (23+ mlwydd oed) £9.50
Cynigion ar gyfer lwfansau eraill
Math o lwfans Cyfradd a gynigir ar gyfer 2022
Lwfans Cŵn £8.17 Fesul ci fesul wythnos
Lwfans gweithio gyda’r nos £1.55 Fesul awr o waith nos
Lwfans mabwysiadu plentyn £64.29 Fesul plentyn

Cwestiwn: 1

Ydych chi’n cytuno â’r cynigion newydd i godi cyfraddau cyflog a lwfansau?

2. Newidiadau eraill a gynigir

Seibiannau gorffwys

Ar hyn o bryd mae Erthygl 28 o’r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol yn gwneud darpariaeth ar gyfer seibiannau gorffwys. Mae’r Panel o’r farn ei bod yn briodol, er mwyn eglurdeb i’r cyflogwr a’r gweithwyr amaethyddol, y dylai’r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol hefyd gynnwys darpariaeth mewn perthynas â gorffwys yn ddyddiol ac wythnosol.

Ystyria’r Panel y dylai’r ddarpariaeth mewn perthynas â chyfnodau gorffwys efelychu darpariaeth Rheoliadau Amser Gwaith 1998 mewn perthynas â’r cyfnodau gorffwys hyn. Felly, cynigia’r Panel y diwygiadau a nodir isod i Erthygl 28 yng Ngorchymyn 2022. Mae’r diwygiadau hefyd yn ystyried y gwahanol ddarpariaethau mewn perthynas â gorffwys sy’n berthnasol i weithiwr amaethyddol sydd o dan 18 oed, a’r rhai sy’n 18 oed ac yn hŷn nad ydynt yn cael eu hadlewyrchu yn y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol ar hyn o bryd.

Mae’r newidiadau i eiriad Erthygl 28 wedi’u nodi mewn llythrennau italig isod.

Cyfnodau Gorffwys

28.(1) Mae gan weithiwr amaethyddol sy’n 18 oed neu’n hŷn ac sydd â’i amser gweithio dyddiol yn fwy na 5 awr a hanner hawl i gael seibiant gorffwys.

(2) Mae’r seibiant gorffwys y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (1) yn gyfnod di-dor o ddim llai na 30 munud ac mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i’w dreulio i ffwrdd o’i weithfan (os oes ganddo un) neu ei le gwaith arall.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), nid yw’r darpariaethau ynglŷn â seibiannau gorffwys a bennir ym mharagraffau (1) a (2) yn gymwys i weithiwr amaethyddol—

(a) pan nad yw cyfnod ei amser gweithio yn cael ei fesur neu ei bennu ymlaen llaw oherwydd nodweddion penodol y weithgaredd y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei gyflawni;

(b) pan fo gweithgareddau’r gweithiwr amaethyddol yn golygu bod angen parhad mewn gwasanaeth neu mewn cynhyrchu;

(c) pan geir ymchwydd gweithgarwch rhagweladwy;

(d) pan effeithir ar weithgareddau’r gweithiwr amaethyddol—

     i. gan ddigwyddiad oherwydd amgylchiadau anarferol nad
     ydynt yn rhagweladwy, y tu hwnt i reolaeth ei gyflogwr;
     ii. gan ddigwyddiadau eithriadol, nad oedd modd osgoi eu
     canlyniadau er i’r cyflogwr arfer pob gofal dyladwy; neu
     iii. gan ddamwain neu’r risg bod damwain ar fin digwydd;   
     neu
     iv. pan fo’r cyflogwr a’r gweithiwr amaethyddol yn cytuno i
     ddasu neu eithrio cymhwysiad paragraffau (1) a (2) yn y
     modd ac i’r graddau a ganiateir gan neu o dan Reoliadau
     Amser Gwaith 1998.

(4) Pan fo paragraff (3) yn gymwys a bod ei gyflogwr yn gwneud hi’n ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol weithio yn unol â hynny yn ystod cyfnod a fyddai fel arall yn seibiant gorffwys—

(a) rhaid i’r cyflogwr, oni bai bod is-baragraff (b) yn gymwys, ganiatáu i’r gweithiwr amaethyddol gymryd cyfnod cyfatebol o seibiant yn ei le; a

(b) mewn achosion eithriadol pan nad yw, am resymau gwrthrychol, yn bosibl caniatáu cyfnod gorffwys o’r fath, rhaid i gyflogwr y gweithiwr amaethyddol gynnig iddo unrhyw amddiffyniad sy’n briodol i warchod iechyd a diogelwch y gweithiwr amaethyddol.

(5) Mae gan weithiwr sydd o dan 18 ac sydd â’i amser gweithio dyddiol yn fwy na 4 awr a hanner â’r hawl i gael seibiant gorffwys.

(6) Mae’r seibiant gorffwys y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (5) yn gyfnod di-dor o ddim llai na 30 munud ac mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i’w dreulio i ffwrdd o’i weithfan (os oes ganddo un) neu ei le gwaith arall.

(7) Os, ar unrhyw ddiwrnod, mae’r gweithiwr amaethyddol sydd o dan 18 wedi ei gyflogi gan fwy nag un cyflogwr, bydd ei amser gwaith yn cael ei bennu yn unol â pharagraff (5) drwy agregu’r nifer o oriau sydd wedi ei eithrio i bob cyflogwr.

(8) Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i seibiannau gorffwys o ddim llai nag un-ar-ddeg awr yn olynol ym mhob cyfnod o ddau ddeg pedwar awr pan mae’n gweithio i’w gyflogwr.

(9) Yn ddarostyngedig i baragraff(10), mae gan weithiwr amaethyddol sydd o dan 18 mlwydd oed yr hawl i seibiant gorffwys o ddim llai na deuddeg awr yn olynol mewn pob dau ddeg pedwar awr pan mae’n gweithio i’w gyflogwr

(10) Caniateir torri ar draws isafswm cyfnod gorffwys a ddarperir ar ei gyfer ym mharagraff (9) yn achos digwyddiadau sydd yn cynnwys cyfnodau o waith sydd wedi eu rhannu dros y dydd neu am gyfnodau byr.

(11) Yn ddarostyngedig i baragraff (12), mae gan weithiwr amaethyddol yr hawl i saib gorffwys o ddim llai na ddau ddeg pedwar awr ym mhob un o saith diwrnod yr wythnos lle mae’n gweithio i’w gyflogwr.

(12) Os yw eu cyflogwr yn penderfynu felly, bydd ganddo hawl i naill ai –

a) dau gyfnod gorffwys di-dor yr un o ddim llai na 24 awr ym mhob cyfnod o 14 diwrnod y mae’n gweithio i’w gyflogwr; neu

(b) un cyfnod gorffwys di-dor o ddim llai na 48 awr ym mhob cyfnod 14 diwrnod o’r fath, yn lle’r hawl y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (11).

(13) Yn ddarostyngedig i baragraff (18) mae gan weithiwr amaethyddol o dan 18 yr hawl i seibiant gorffwys mewn cyfnod o ddim llai na 48 awr ym mhob cyfnod o’r saith diwrnod mae’n gweithio i’w gyflogwr.

(14) At ddibenion paragraffau (11) i (13), cymerir bod cyfnod o saith diwrnod neu (yn ôl y digwydd) 14 diwrnod yn dechrau –

(a) ar ddechrau pob wythnos neu (yn ôl y digwydd) bob yn ail wythnos;

(b) ar yr adegau hynny ar y fath diwrnodau y darperir ar eu cyfer trwy gytundeb rhwng y gweithiwr amaethyddol a’i gyflogwr.

(15) Yn yr achos lle, yn unol â pharagraff (14), mae’r 14 diwrnod yn dechrau ar gychwyn pob wythnos am yn ail, cymerir y cyfnod cyntaf o’r fath sy’n gymwys yn achos gweithiwr amaethyddol penodol i ddechrau ar ddechrau’r wythnos y bydd y gyflogaeth honno’n dechrau.

(16) At bwrpas paragraffau (14) ac (15), mae wythnos yn dechrau am hanner nos rhwng dydd Sul a dydd Llun.

(17) Ni ddylai’r lleiafswm cyfnod gorffwys y mae gan weithiwr amaethyddol yr hawl iddo o dan baragraff (11) neu (12) gynnwys unrhyw ran o’r seibiannau gorffwys y mae gan y gweithiwr hawl iddo o dan reol (9), heblaw bod yna reswm digonol mewn modd sy’n dechnegol neu’n sefydliadol sy’n ymwneud â’r sefydliad Gwaith.

(18) Mae’r lleiafswm cyfnod gorffwys y mae gan weithiwr amaethyddol sydd o dan 18 yr hawl iddo o dan baragraff (13) yn ddarostyngedig i’r canlynol—

(a) gellir torri ar ei draws yn achos gweithgareddau sy’n cynnwys cyfnodau o waith sydd wedi’u rhannu dros y dydd neu sydd o hyd byr; a

(b) gellir ei leihau os gellir cyfiawnhau hyn am resymau technegol neu sefydliadol, ond nid i lai na 36 awr yn olynol.

Cwestiwn 2:

Ydych chi’n cytuno â’r cynnig o Seibiannau Gorffwys yn y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol?

Cwestiwn 3:

Oes gennych chi unrhyw arsylwadau pellach i’w wneud mewn perthynas â’r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol?

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

Ydych chi’n cytuno gyda’r cynigion newydd i godi cyfraddau cyflog a lwfansau?

Cwestiwn 2

Ydych chi’n cytuno â’r cynnig o Seibiannau Gorffwys yn y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol?

Cwestiwn 3

Oes gennych chi unrhyw arsylwadau pellach i’w wneud mewn perthynas â’r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol?

Cwestiwn 4

Rhowch wybodaeth amdanoch chi neu eich sefydliad. Os oes modd, rhowch fanylion ynglŷn â galwedigaeth y sector rydych yn gysylltiedig ag ef, eich gweithlu os ydych yn gyflogwr (gan gynnwys nifer y gweithwyr sy’n ennill yr Isafswm Cyflog Amaethyddol, eu gradd a’u cyfraddau cyflog) ac unrhyw beth arall sydd o bwys yn eich barn chi.

Sut i ymateb

Er mwyn caniatáu i'r Panel gyflwyno cyngor i Weinidogion fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, cyflwynwch eich ymateb erbyn hanner nos 7 Chwefror 2021 mewn unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Rheolwr y Panel Cynghori Amaethyddol
Llywodraeth Cymru
Neuadd y Sir
Spa Road East
Llandrindod
LD1 SLG

 

Eich hawliau

Bydd pob ymateb y byddwch yn ei gyflwyno yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n delio â materion mewn perthynas â Phanel Cynghori ar Amaethyddol Cymru. Bydd yr ymatebion hefyd yn cael eu rhannu â’r Panel, a lle bydd Llywodraeth Cymru neu’r panel yn dadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad ymhellach, yna gall y gwaith hwn gael ei wneud gan gontractwyr trydydd parti, (e.e. cwmni ymchwil neu gwmni ymgynghori). Mae gan Lywodraeth Cymru delerau ac amodau ar gyfer y math hwn o gontractau sy’n gosod gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • Gwneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau’n debygol o gael eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw rhowch wybod inni.

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb.

Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi,rhowch wybod inni yn ysgrifenedig with anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cyddio'ch manylion cyn cyheoddi'ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rheoli Gwybodaeth. Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

 

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG44273

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd eraill. Os oes ei hangen arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.