Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Teitl y cynnig

Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023

Swyddog/swyddogion sy’n cwblhau’r Asesiad Effaith Integredig (enw/enwau ac enw’r tîm)

Daniel Ricketts

Tîm Datblygu Deddfwriaeth Amaethyddol

Adran

Is-adran Amaethyddiaeth a Datblygu Cynaliadwy

Pennaeth yr is-adran/SRO (enw)

Victoria Jones

Ysgrifennydd cabinet/gweinidog sy’n gyfrifol

Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Dyddiad cychwyn

1 April 2023

Adran 1. Pa gamau gweithredu y mae llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi'r 10 amcan llesiant y bydd y Llywodraeth yn eu defnyddio i sicrhau'r cyfraniad gorau posibl at saith nod llesiant hirdymor Cymru. Mae'r cynnig presennol yn helpu i adeiladu economi sy'n seiliedig ar egwyddorion gwaith teg a chynaliadwyedd ac ar ddiwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol a gwneud dinasoedd, trefi a phentrefi yn llefydd hyd yn oed gwell i fyw a gweithio ynddynt. Ymhlith nodau perthnasol Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 y mae gwneud Cymru'n ffyniannus - datblygu economi wledig sy'n cynhyrchu cyfoeth ac yn darparu cyfleoedd cyfartal a gwlad sy'n wydn o safbwynt ecolegol, economaidd a chymdeithasol. Ar ben hynny, bydd y gwaith yn cefnogi cymunedau cydlynus â diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg sy'n ffynnu.

Y Gorchymyn cyfredol yw Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) (Rhif 2) 2022 ("Gorchymyn 2022(2)"). Nod y polisi hwn yw cyflwyno Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023 ("Gorchymyn 2023") sy'n rhagnodi cyfraddau tâl isaf fesul awr i weithwyr amaethyddol a thelerau, amodau a budd-daliadau eraill. Gwneir y Gorchymyn yn unol â’r pwerau yn Neddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 ("Deddf 2014").

Corff cynghori annibynnol a sefydlwyd o dan Adran 2(1) o Ddeddf 2014 gan Orchymyn Panel Cynghori Amaethyddol Cymru (Sefydlu) 2016 (Gorchymyn y Panel) ar 1 Ebrill 2016 yw Panel Cynghori Amaethyddol Cymru. Mae Gorchymyn y Panel yn pennu bod gan y Panel saith o aelodau:

  • Dau gynrychiolydd o Unite the Union;
  • Un cynrychiolydd o Undeb Amaethwyr Cymru;
  • Un cynrychiolydd o Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru; a
  • Tri aelod annibynnol – gan gynnwys Cadeirydd annibynnol.

Penodir yr aelodau annibynnol a’r Cadeirydd trwy’r Broses Penodiadau Cyhoeddus.

Mae Erthygl 3(2) o Orchymyn y Panel yn nodi swyddogaethau'r Panel. Pwrpas y Panel yw paratoi gorchmynion cyflogau amaethyddol ar ffurf drafft, gan gynnwys adolygu’r holl delerau ac amodau sy'n berthnasol i weithwyr amaethyddol, a chefnogi cyfleoedd i ddatblygu gyrfa yn y sector. Mae'r Panel yn gyfrifol hefyd am ymgynghori ar y gorchmynion hynny a’u cyflwyno i Weinidogion Cymru eu cymeradwyo.

Prif rôl aelodau annibynnol y Panel yw cynnig eu barn arbenigol mewn trafodaethau ar faterion allweddol a chynghori ar y cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu'r diwydiant.

Rôl yr aelodau cynrychioli yw cynnig eu harbenigedd wrth gynrychioli buddiannau eu haelodau ar y materion allweddol yn nhrafodaethau’r Panel a chynghori ar y cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu'r diwydiant.

Mae cyfrifoldeb allweddol ar holl aelodau'r Panel i helpu i sicrhau bod Gorchmynion drafft teg a rhesymol yn cael eu cyflwyno sy’n ymwneud â lefelau tâl isaf a thelerau ac amodau perthnasol ar gyfer gweithwyr amaethyddol yng Nghymru fel y'u diffinnir yn Neddf Sector Amaeth (Cymru) 2014.

Cyfarfu'r Panel ar 5 a 6 Medi 2022 i benderfynu a ddylid cynnig newid Gorchymyn Cyflogau 2022(2). Cynhaliwyd ymgynghoriad wedi'i dargedu ar y newidiadau a gynigiwyd rhwng 22 Medi a 20 Hydref 2022. E-bostiwyd y cynigion at restr hir o randdeiliaid ac fe’u cyhoeddwyd ar dudalen we Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru. Mae copïau caled hefyd ar gael o ofyn amdanynt.

Cafwyd dau ymateb i gyd i'r ddogfen ymgynghori. Cyfarfu'r Panel i drafod yr ymatebion a chytunwyd nad oes angen newid y cynigion.

Cyflwynodd y Panel ei gynigion i Lywodraeth Cymru ar 21 Tachwedd 2022.

Bydd y cyfraddau tâl isaf a gynigir gan y Panel ar gyfer Gorchymyn 2023 yn disodli'r rhai yng Ngorchymyn 2022(2). Bydd cyflwyno Gorchymyn 2023 yn helpu i sicrhau bod pob gweithiwr amaethyddol yn parhau i dderbyn yr amddiffyniad angenrheidiol a chyflog teg sy'n adlewyrchu natur ei waith a lefel ei gyfrifoldebau. Bydd darpariaethau yng Ngorchymyn 2023 yn parhau i wobrwyo cymwysterau a/neu brofiad mewn amaethyddiaeth sy'n cynnwys gwahaniaethau cyflog sy’n seiliedig ar lefel y sgil sydd ei angen ar bob gradd. Mae hyn yn cynnig cymhelliant i ddatblygu sgiliau o fewn y sector.

Bydd Gorchymyn 2023 yn parhau i ddarparu bod cyflog unrhyw weithiwr amaethyddol y gostyngir ei gyfradd tâl isaf o ganlyniad i'w roi ar radd is neu ar gyfradd tâl is o dan y strwythur graddio a gyflwynwyd yng Ngorchymyn 2022 naill ai’n cael ei gadw ar y gyfradd tâl y diwrnod cyn i Orchymyn 2022 ddod i rym nes i’r gyfradd tâl isaf sy'n berthnasol i'w radd o dan y strwythur graddio newydd gyrraedd neu fynd yn uwch na’i gyfradd tâl bresennol neu y cynyddir ei gyfradd tâl drwy gytundeb â’i gyflogwr.

Bydd Gorchymyn 2023 yn cael ei ddatblygu yng nghyd-destun agenda ehangach Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi, a helpu economïau gwledig i dyfu a ffynnu, gan gyfrannu ymhellach at economi ehangach Cymru.

Gan fod y rheoliadau’n is-ddeddfwriaeth, mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi’i gynnal.

Adran 8. Casgliad

8.1    Sut y mae pobl y mae’r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi’u cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu?

Nod y polisi hwn yw cyflwyno Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023 sy'n rhagnodi cyfraddau tâl isaf fesul awr i weithwyr amaethyddol a thelerau, amodau a budd-daliadau eraill. Bydd y Gorchymyn yn cael ei wneud yn unol â’r pwerau yn Neddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014.

Corff cynghori annibynnol a sefydlwyd o dan Adran 2(1) o Ddeddf 2014 gan Orchymyn Panel Cynghori Amaethyddol Cymru (Sefydlu) 2016 ar 1 Ebrill 2016 yw Panel Cynghori Amaethyddol Cymru.

Mae saith aelod ar y Panel:

  • Dau gynrychiolydd o Unite the Union;
  • Un cynrychiolydd o Undeb Amaethwyr Cymru;
  • Un cynrychiolydd o Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru; a
  • Tri aelod annibynnol – gan gynnwys Cadeirydd annibynnol.

Penodir yr aelodau annibynnol a’r Cadeirydd trwy’r Broses Penodiadau Cyhoeddus.

Prif rôl aelodau annibynnol y Panel yw cynnig eu barn arbenigol mewn trafodaethau ar faterion allweddol a chynghori ar y cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu'r diwydiant. Rôl yr aelodau cynrychioli yw cynnig eu harbenigedd wrth gynrychioli buddiannau eu haelodau ar y materion allweddol yn nhrafodaethau’r Panel a chynghori ar y cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu'r diwydiant. Fel Panel cyfan, cyfrifoldeb allweddol aelodau'r Panel yw helpu i sicrhau bod Gorchmynion drafft teg a rhesymol yn cael eu cyflwyno.

Cafodd ymgynghoriad 4 wythnos ei gynnal a gofynnwyd i nifer o bobl â nodweddion gwarchodedig ymateb. Cafodd ei gyhoeddi ar wefan y Panel Cynghori Amaethyddol. Nodir rhestr lawn o’r rheini yr ymgynghorwyd â hwy isod.

Cynhwyswyd y prif randdeiliaid gan gynnwys undebau’r ffermwyr, UNITE a cholegau amaethyddol. Anogwyd aelodau’r Panel i rannu’r cynigion â’u rhwydweithiau. Roedd yr ymgynghoriad ar gael ar wefan Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac roedd copïau caled ar gael o ofyn amdanynt.

8.2 Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Dylai rhai o'r rheini sy'n gweithio yn y sector amaeth neu sy'n ymuno â'r sector amaeth a'u teuluoedd elwa ar y darpariaethau sy’n ymdrin ag isafswm cyflog a hyfforddiant a datblygu sgiliau i hyrwyddo eu gyrfaoedd.  Mae manteision ehangach i economi Cymru hefyd ac i'n cymunedau yn sgil cyflogau a lwfansau teg a gweithlu medrus gwell. Ni fydd Gorchymyn 2023 yn effeithio ar blant yn benodol, dim ond fel rhan o'r buddion ehangach a nodir uchod.

Nid oes gennym unrhyw reswm i gredu y bydd effaith neu wahaniaethu anghymesur gan fod darpariaethau'r Gorchymyn yn effeithio ar bob gweithiwr amaethyddol. Fodd bynnag, nodwyd bod angen casglu mwy o dystiolaeth berthnasol er mwyn asesu'r sefyllfa yn llawn. Cynhaliwyd ymarfer casglu data sylfaen yn 2021 ond dim ond nifer fechan o ganlyniadau a gafwyd. Mae'r Panel a Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud gwaith pellach yn y maes hwn yn nechrau 2023 a fydd yn llywio'r Gorchymyn yn well ar gyfer 2024 ymlaen.

Daw manteision ehangach i economi Cymru yn sgil cyflogau a lwfansau teg a gweithlu medrus iawn. Mae'r Panel a Llywodraeth Cymru'n gweithio'n agos gydag undebau amaethyddol a chynrychiolwyr gweithwyr er mwyn hyrwyddo amaethyddiaeth fel llwybr cyflogaeth hyfyw i bawb, gan gynnwys y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig. Wrth symud ymlaen rydym wedi nodi bod angen casglu a dadansoddi data ac ymchwil er mwyn deall yn well effaith ein polisi ar grwpiau gwarchodedig.

Bydd cynhyrchu'r Gorchymyn yn cefnogi cymunedau gwledig lle mae'r Gymraeg yn aml yw’r iaith gryfaf. Drwy hynny bydd y Gorchymyn yn helpu i gynnal cymunedau cydlynus a ffyniannus Cymraeg eu hiaith mewn ardaloedd lle gwelir amaeth fel yr opsiwn gyrfa amlycaf. Bydd effaith economaidd cyfraddau tâl isaf teg yn cefnogi cynaliadwyedd cymunedau gwledig a bydd y strwythur graddio’n cydnabod y sgiliau sydd eu hangen.

Mae'r Gorchymyn yn helpu i wneud y Gymraeg yn gynaliadwy yn ei 'chadarnleoedd' (e.e, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Sir Gaerfyrddin ac Ynys Môn) sy'n wledig ac amaethyddol eu natur yn bennaf. Mae cynnal cymunedau gwledig yn golygu cynnal a chefnogi bwrlwm y Gymraeg yn yr ardaloedd hyn. Mae effaith bositif amlwg ar yr iaith felly gan fod cysylltiadau annatod rhwng yr economi, y gymuned a'r iaith. Mae dros 70% o'r gweithwyr amaethyddol yn y siroedd a nodir uchod yn siaradwyr Cymraeg ac felly’n elwa ar y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol.

Dim ond effeithiau cadarnhaol sydd wedi'u nodi o ran y Gymraeg.

Mae gwaith y Panel, gorfodi Deddf 2014, cyflwyno pob Gorchymyn cysylltiedig, ymgynghoriadau a chanllawiau cysylltiedig i gyd yn cael eu cynnal / eu cyhoeddi'n ddwyieithog. Mae'r Gymraeg yn cael ei chynnig yn rhagweithiol fel cyfrwng cyfathrebu mewn cyfarfodydd a digwyddiadau. Mae cyhoeddiadau a negeseuon cyhoeddus bob amser yn ddwyieithog.

Bydd cryfhau'r gwaith amaethyddol a ‘gynigir’ yng Nghymru hefyd yn helpu i gadw gweithwyr yng nghadarnleoedd traddodiadol y Gymraeg, lle amaethyddiaeth yw un o'r prif ffynonellau gwaith.

8.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:

  • yn sicrhau’r cyfraniad mwyaf at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a / neu
  • yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

 

Mae Gorchymyn 2023 yn cefnogi creu Cymru lewyrchus, ddiogel, unedig a chysylltiedig. Mae nodau perthnasol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnwys gwneud Cymru'n ffyniannus - datblygu economi wledig sy'n cynhyrchu cyfoeth ac yn darparu cyfleoedd cyfartal a gwlad sy'n ecolegol, economaidd a chymdeithasol wydn. Ar ben hynny, bydd y gwaith yn cefnogi cymunedau cydlynus â diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg sy'n ffynnu.

Mae sicrhau cyflogau teg i weithwyr amaethyddol a chefnogi cymunedau gwledig yn hanfodol bwysig o fewn cyd-destun agenda Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru. Mae nodau penodol yr agenda yn cynnwys codi incwm aelwydydd, gwella sylfaen sgiliau pobl ifanc a helpu teuluoedd mewn cymunedau tlotach. Trwy ddarparu cyflogau teg i weithwyr amaethyddol a chynyddu incwm eu haelwydydd, cefnogir teuluoedd mewn ardaloedd gwledig. Bydd y darpariaethau ar gyfer prentisiaid a hyfforddiant yn y Gorchymyn newydd yn cynorthwyo pobl ifanc i gael sgiliau a chymwysterau, a all wella eu rhagolygon gwaith yn y dyfodol.

Bydd Gorchymyn 2023 yn parhau i ddarparu bod cyflog unrhyw weithiwr amaethyddol y gostyngir ei gyfradd tâl isaf o ganlyniad i'w roi ar radd is neu ar gyfradd tâl is o dan y strwythur graddio a gyflwynwyd yng Ngorchymyn 2022 naill ai’n cael ei gadw ar y gyfradd tâl y diwrnod cyn i Orchymyn 2022 ddod i rym nes i’r gyfradd tâl isaf sy'n berthnasol i'w radd o dan y strwythur graddio newydd gyrraedd neu fynd yn uwch na’i gyfradd tâl bresennol neu y cynyddir ei gyfradd tâl drwy gytundeb â’i gyflogwr.

Mae gweithdrefnau gorfodi hefyd ar waith i sicrhau y gellir cymryd camau yn erbyn unrhyw gyflogwr nad yw'n cadw at y cyfraddau tâl isaf neu delerau ac amodau'r Gorchymyn.

8.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?   

Cynhaliwyd ymarfer casglu data sylfaen yn 2021 ond dim ond nifer fechan o ganlyniadau a gafwyd. . Mae'r Panel a Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud gwaith pellach yn y maes hwn yn nechrau 2023 a fydd yn llywio'r Gorchymyn yn well ar gyfer 2024 ymlaen.

Bydd Llywodraeth Cymru yn monitro effaith Gorchymyn 2023, ac unrhyw Orchmynion dilynol a gynigir gan y Panel Cynghori Amaethyddol, ar y sector amaethyddol gan gynnwys gweithwyr ifanc.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i drafod â rhanddeiliaid allweddol gan gasglu adborth ar effaith y ddeddfwriaeth newydd. Bydd rhif llinell gymorth a chyfeiriad e-bost ar gael o hyd ar gyfer ymholiadau sy'n ymwneud â Gorchymyn 2023. Bydd yr holl wybodaeth hon yn helpu i asesu effeithiolrwydd y Gorchymyn ac yn llywio Gorchmynion yn y dyfodol.