Neidio i'r prif gynnwy

Asesiad o sut y mae’r newidiadau a gyflwynwyd yng Ngorchymyn Cyflogau Amaethyddol 2025 yn effeithio ar hawliau plant

Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyladwy i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a’i Brotocolau Opsiynol wrth iddynt arfer unrhyw rai o’u swyddogaethau. 

Amcanion y polisi 

Bydd Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol 2025 (“Gorchymyn 2025”) yn cael ei roi ar waith fel rhan o  agenda ehangach Llywodraeth Cymru i Drechu Tlodi, gan anelu at helpu economïau gwledig i dyfu a ffynnu, a chyfrannu’n gyffredinol at economi ehangach Cymru.

Dyma brif amcanion y Gorchymyn:

  • sicrhau bod cyflogau'n cyd-fynd â’r amodau economaidd presennol
  • annog datblygu a chadw sgiliau yn y sector, gan helpu pobl i ddatblygu gyrfa
  • cefnogi llwyddiant hirdymor y diwydiant drwy ddenu gweithwyr ifanc
  • talu cyflogau teg i weithwyr a hybu twf economaidd cymunedau gwledig yng nghyd-destun yr agenda Trechu Tlodi.

Y rheini y bwriedir iddynt elwa ar hyn yw pawb sy'n gweithio yn y sector amaethyddiaeth neu sy'n ymuno â'r sector. Dylid nodi bod darpariaethau’r Gorchymyn yn berthnasol i bob gweithiwr 16 oed a hŷn ac yn pennu isafswm cyflog i bob gweithiwr, gan sicrhau na chymerir mantais ar bobl ifanc sy'n cael eu cyflogi. Mae'r holl blant ysgol sy'n gweithio yn y DU yn cael eu diogelu gan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933. Mae'r Ddeddf yn gosod cyfyngiadau ar y math o waith y caniateir iddynt ei wneud, a hefyd ar faint o oriau y caiff person ifanc o oedran ysgol gorfodol eu gweithio. 

Prif amcanion y ddarpariaeth ar gyfer gweithwyr ifanc (16 oed a hŷn) o fewn y fframwaith Isafswm Cyflog Amaethyddol ("AMW") yw sicrhau eu bod yn ennill tâl digonol ac yn cael cyfle i gael profiad gwaith gwerthfawr.

Dyma raddau isafswm cyflog ar gyfer pum gradd gweithwyr a phrentisiaid Amaethyddol:

Categori GweithiwrCyfraddau 2024 Cyfraddau 2025 
A1 – Gweithiwr Datblygu Amaethyddol (16-17 oed)£6.56£7.55
A2 – Gweithiwr Datblygu Amaethyddol (18-20 oed)£8.82£10.00
A3 – Gweithiwr Datblygu Amaethyddol (21 oed+)£11.73£12.21
B1 – Gweithiwr Amaethyddol (16-17 oed)£6.56£7.55
B2 – Gweithiwr Amaethyddol (18-20 oed)£8.82£10.00
B3 – Gweithiwr Amaethyddol (21 oed+)£11.79£12.59
C – Gweithiwr Amaethyddol Uwch£12.27£13.48
D – Uwch-weithiwr Amaethyddol£13.46£14.79
E – Rheolwr Amaethyddol£14.77£16.23
Prentis Blwyddyn 1£6.40£7.55
Prentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (16 - 17 oed)£6.40£7.55
Prentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (18 – 20 oed)£8.60£10.00
Prentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (21 oed+)£11.44£12.21

Yng Ngorchymyn 2025 bydd gweithwyr amaethyddol rhwng 16 a 17 oed yn cael eu talu o leiaf y gyfradd Isafswm Cyflog Cenedlaethol o £7.55 yr awr. Mae hyn yn parhau i sicrhau bod gweithwyr ifanc mewn amaethyddiaeth yn cael cyflog teg gyda phecyn cynhwysfawr o fuddion gwaith ychwanegol - gan gynnwys cyfraddau goramser, lwfans ar alwad, tâl atodol ar gyfer gwaith nos, gwrthbwyso llety a lwfans cŵn – ac i wthio'r cyflog mor uchel â phosibl heb niweidio cyflogaeth.

LwfansCyfraddau 2024Cyfraddau 2025
Lwfans Ci – fesul ci bob wythnos£10.16£11.18
Lwfans ar gyfer Gwaith Nos – fesul awr o waith nos£1.93£2.12
Lwfans Geni a Mabwysiadu – fesul plentyn£79.86£87.85

Mae'r Panel yn cadw bandiau oedran yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer y gweithwyr ar y graddau is. Un o amcanion yr AMW yw annog hyfforddiant ffurfiol, gan gynnwys prentisiaethau. Gallai dileu'r bandiau oedran annog cyflogwyr i beidio â chyflogi pobl ifanc pe bai'n rhaid iddynt dalu'r cyfraddau uwch iddyn nhw. Byddai llai o gymhelliant hefyd i weithwyr gwblhau prentisiaethau.

Mae'r strwythur graddio hefyd wedi'i gynllunio yn y fath fodd fel y dylai pob gweithiwr, waeth beth fo'i oedran, gyrraedd lefel Gradd C o fewn tair blynedd os ydynt yn cwblhau'r brentisiaeth berthnasol, neu o fewn pum mlynedd os nad ydynt yn dilyn y llwybr prentisiaeth. 

Mae rhanddeiliaid allweddol fel yr undebau ffermio wedi dweud eu bod o blaid cadw'r ddarpariaeth ar gyfer gweithwyr ifanc sydd yn fframwaith AMW – y consensws yw ei bod yn annog pobl ifanc i gael profiad gwaith gwerthfawr a gall helpu'r diwydiant i ddenu gweithwyr newydd yn y dyfodol. Roedd y Panel yn credu hefyd bod pennu cyfraddau cyflog fesul awr yn helpu i ddiogelu gweithwyr ifanc ac yn sicrhau bod eu gwaith yn cael ei gydnabod a'u bod yn cael eu talu yn unol â'u dyletswyddau.

Ystyrir bod Gradd A y fframwaith AMW yn radd bontio. Mae'r darpariaethau statudol yn darparu bod gweithwyr Gradd A yn cael mynd am hyfforddiant er mwyn cael symud i radd uwch, ar ôl 30 wythnos o gyflogaeth ddi-dor, ar gost y cyflogwr. Gall hyn fod yn llwybr dilyniant i weithwyr newydd sy'n ymuno ag amaethyddiaeth. 

Bwriad polisi'r Panel yw denu gweithwyr newydd i'r diwydiant a chynnig amodau ffafriol i'r rheini sydd am ymuno â rhaglenni prentisiaeth amaethyddol. Mae'r darpariaethau ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant o fewn y Gorchymyn yn cefnogi olyniaeth ac yn datblygu a chadw sgiliau o fewn y diwydiant. Mae pob un o'r rhain yn hanfodol i lwyddiant amaethyddiaeth Cymru yn y dyfodol. Mae'n hanfodol bod darpariaethau yn y Gorchymyn i helpu pobl i ddatblygu'u gyrfa a gweithwyr newydd sy'n ymuno â'r diwydiant trwy eu helpu i ennill sgiliau a chymwysterau, a all wella eu rhagolygon am waith yn y dyfodol. 

Efallai y bydd yr AMW yng Nghymru yn creu gwahaniaeth yng nghyflogau rhai graddau rhwng Cymru a Lloegr. Gallai hynny roi ffermwyr o dan anfantais os ydyn nhw'n cystadlu'n bennaf â chynhyrchwyr yn Lloegr, am y gallai gynyddu costau. Ond mae'n debygol y bydd effeithiau o'r fath yn gymharol fach ar y cyfan ac ni fyddant yn effeithio ar weithwyr iau yn y graddau is gan fod y cyfraddau'n cael eu gosod ar lefelau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae effaith economaidd y Gorchymyn newydd wedi cael ei ystyried yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol a gyhoeddir gyda Gorchymyn 2025.

Casglu Tystiolaeth ac Ymgysylltu â Phlant a Phobl Ifanc

Nid oes data penodol ar faint o bobl ifanc sy'n cael eu cyflogi fel gweithwyr amaethyddol yng Nghymru, er bod disgwyl i'r nifer fod yn isel a byddent yn fwyaf tebygol o fod yn aelodau o'r teulu.

Canfu arolwg gan y BBC yn 2009 fod tua 30,000 o weithwyr ifanc rhwng 13 ac 16 oed mewn rhyw fath o gyflogaeth ledled Cymru a Lloegr. Dim ond cyfran fach o'r rhain fyddai wedi cael eu cyflogi mewn amaethyddiaeth. Nid oes unrhyw dystiolaeth bod y sefyllfa hon wedi newid ers hynny.

Mae cynrychiolwyr o CFfI Cymru a Choleg Cambria yn rhan o'r is-bwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant sy'n darparu barn arbenigol ar anghenion pobl ifanc ym maes amaethyddiaeth.

Cynhaliwyd ymgynghoriad wedi'i dargedu ar y newidiadau arfaethedig rhwng 18 Hydref a 15 Tachwedd 2024. Roedd y cynigion ar gael ar dudalen we Ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac fe'u hanfonwyd dros e-bost at ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys sefydliadau sy'n canolbwyntio ar fuddiannau plant. Er gwaethaf cyfleoedd hygyrch a chyfartal i bobl ifanc gymryd rhan, ni dderbyniwyd ymatebion gan y sefydliadau hyn.

Oherwydd y diffyg tystiolaeth, ni ellir meintioli effaith y Gorchymyn yn sicr. Fodd bynnag, disgwylir i'r newidiadau gael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc.

Dadansoddi’r dystiolaeth ac asesu’r effaith

Mae'r holl blant ysgol sy'n gweithio yn y DU yn cael eu diogelu gan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933. Mae'r Ddeddf yn gosod cyfyngiadau ar y math o waith y caniateir iddynt ei wneud, a hefyd ar faint o oriau y caiff person ifanc o oedran ysgol gorfodol eu gweithio. Mae gweithwyr ifanc dros 16 oed yn ddarostyngedig i'r Fframwaith Isafswm Cyflog Cenedlaethol, ond nid yw hyn yn pennu isafswm cyfraddau statudol ar gyfer gweithwyr ifanc o dan 16 oed.

Wrth gynnal fframwaith yr Isafswm Cyflog Amaethyddol a chynyddu cyfraddau cyflog gweithwyr amaethyddol, gan gynnwys gweithwyr ifanc a phrentisiaid, barn Llywodraeth Cymru yw bod y gwaith yn helpu i wireddu hawliau canlynol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ["CCUHP"], a gwella arnyn nhw:

Erthygl 1 – Mae gan bawb dan 18 oed yr holl hawliau sydd yn y Confensiwn hwn.
Erthygl 2 – Mae'r Confensiwn yn gymwys i bawb beth bynnag fo'i hil, crefydd, galluoedd, beth bynnag y mae'n ei feddwl neu'n ei ddweud a pha fath bynnag o deulu y daw ohono.
Erthygl 3 - Dylai pob sefydliad sy'n ymwneud â phlant weithio at wneud yr hyn sydd orau i bob plentyn.
Erthygl 4 - Dylai llywodraethau sicrhau bod yr hawliau hyn ar gael i blant.
Erthygl 12 - Mae gan blant yr hawl i ddweud beth yn eu barn nhw ddylai ddigwydd pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw, ac i'w barn gael ei hystyried.

Mae'r erthyglau hyn yn canolbwyntio ar les ac ystyried plant. Mae'r darpariaethau statudol yn sicrhau bod yr hawliau hyn yn gymwys i bob gweithiwr 16 oed a hŷn. Mae'r Gorchymyn yn gosod isafswm cyflogau i atal camfanteisio ar weithwyr ifanc. Mae hefyd yn cyd-fynd â chyfreithiau cyflogaeth y DU sy'n cyfyngu ar oriau gwaith plant yn ystod tymhorau ysgol a gwyliau.

Mae'r Gorchymyn yn cwmpasu pob gweithiwr 16 oed a hŷn, gan gynnwys mudwyr a mewnfudwyr. Mae darpariaeth a gyflwynwyd yn 2022 yn cydnabod cymwysterau cyfatebol o'r tu allan i'r DU, gan sicrhau bod gan weithwyr mudol yr un hawliau â gweithwyr a anwyd yn y DU.

Y prif nodau ar gyfer gweithwyr ifanc o dan fframwaith AMW yw sicrhau cyflog teg a darparu profiad gwaith gwerthfawr, gan gefnogi Erthyglau 3 a 4.

Yn ymgynghoriad Hydref 2024, nid oedd unrhyw sylwadau penodol ar hawliau plant. Er yr ymgynghorwyd â grwpiau plant a ffermwyr ifanc, ni wnaeth yr un ymateb. Mae adran 6 yn rhestru'r sefydliadau a gafodd y ddogfen ymgynghori. Yn sgil y diffyg ymatebion, mae'r Panel yn bwriadu gwella gwaith ymgysylltu â'r grwpiau hyn. Mae cynrychiolwyr CFfI Cymru a Cholegau Cymru ar yr is-bwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant. Mae'r is-bwyllgor hwn yn llunio adroddiad ar addysg a hyfforddiant gyrfaoedd ar gyfer gweithwyr amaethyddol, garddwriaethol a choedwigaeth, yn dilyn "Galwad am Dystiolaeth" yn gynnar yn 2024.

Bydd yr ymdrechion hyn yn cefnogi ac yn hyrwyddo Erthygl 12.

Erthygl 6 – Mae gan bob plentyn yr hawl i fyw. Dylai llywodraethau sicrhau bod plant yn goroesi ac yn datblygu’n iach.
Erthygl 27 – Mae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod hawl pob plentyn i gael safon byw sy'n ddigonol ar gyfer datblygiad corfforol, meddyliol, ysbrydol, moesol a chymdeithasol y plentyn.

Mae'r Gorchymyn yn sicrhau bod cyflogau gweithwyr fferm yn cael eu diogelu, sy'n helpu i atal plant gweithwyr fferm rhag byw mewn tlodi. Mae hefyd yn cefnogi gweithwyr ifanc a'u cyfleoedd i ddatblygu gyrfa.

O dan fframwaith AMW, mae gweithwyr amaethyddol yn derbyn buddion a chyflogau sydd bob amser yn uwch na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Erthygl 29 – Dylai addysg ddatblygu personoliaeth a thalent pob plentyn yn gyflawn. Dylai annog plant i barchu eu rhieni, a'u diwylliant eu hunain a diwylliannau eraill.

Mae fframwaith AMW yn cynnwys darpariaethau sy'n cysylltu lefelau cyflog â chymwysterau a phrofiad, a matrics cyflog ar gyfer prentisiaid. Mae'r darpariaethau hyn yn helpu pobl ifanc i adeiladu gyrfaoedd ystyrlon mewn amaethyddiaeth ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer addysg a datblygu sgiliau yn eu meysydd dewisol.

Mae'r system AMW yn cefnogi pobl ifanc mewn cynlluniau addysg amaethyddol yng Nghymru. Mae'n helpu gyda chynllunio olyniaeth, datblygu sgiliau, a chadw sgiliau yn y diwydiant. Yn ogystal, mae'n darparu cyflog teg i weithwyr ifanc, gan eu galluogi i ennill profiad gwaith gwerthfawr ym maes ffermio. Gall y profiad hwn wella eu gwerthfawrogiad o waith fferm a'u treftadaeth ddiwylliannol wledig.

Erthygl 32 (1) – Mae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod hawl y plentyn i gael ei amddiffyn rhag unrhyw gamfanteisio economaidd a rhag gorfod gwneud unrhyw waith sy'n debyg o fod yn beryglus neu o amharu ar addysg y plentyn, neu o niweidio iechyd y plentyn neu ei ddatblygiad corfforol, meddyliol, ysbrydol, moesol neu gymdeithasol

Erthygl 32 (2) – Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd mesurau deddfwriaethol, gweinyddol, cymdeithasol ac addysgol i sicrhau bod yr erthygl bresennol yn cael ei rhoi ar waith. I'r perwyl hwn, a chan roi sylw i ddarpariaethau perthnasol offerynnau rhyngwladol eraill, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau, yn benodol:
(a)     Bennu'r oedran neu oedrannau isaf ar gyfer cael gwaith cyflog;
(b)     Rheoleiddio oriau ac amodau cyflogaeth mewn ffordd briodol;
(c)     Darparu cosbau priodol neu sancsiynau eraill i sicrhau y caiff yr erthygl bresennol ei          gorfodi'n effeithiol.


Mae pennu tâl fesul awr i bobl ifanc o dan fframwaith AMW yn sicrhau bod eu gwaith yn cael ei gydnabod a'u bod yn cael eu talu’n deg yn unol â'u dyletswyddau. Bydd yn helpu hefyd i amddiffyn gweithwyr ifanc agored i niwed rhag i neb allu camfanteisio arnynt yn unol ag Erthygl 32 o'r CCUHP. Hefyd, mae pennu isafswm cyflog yn cydnabod cyfraniad gweithwyr ifanc i'r economi a chynhyrchu amaethyddol. Mae hefyd yn cynnig profiad gwaith gwerth chweil a gwerthfawr iddynt gan  eu helpu i gael gwaith yn y dyfodol.

Mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i orfodi'r cyfraddau AMW cymwys ac ymchwilir i unrhyw gŵyn a ddaw i law am dramgwyddo'r drefn statudol. Os gwelir y bu tramgwydd, mae gan Lywodraeth Cymru fodd i orfodi'r cyflogwr i dalu unrhyw dandaliad a gadarnheir i'r gweithiwr dan sylw. Mae'r drefn orfodi'n berthnasol i'r holl gategorïau o weithwyr a ddaw o dan Orchymyn 2025, gan gynnwys gweithwyr ifanc a phrentisiaid.

Erthygl 36 –  Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau amddiffyn y plentyn rhag unrhyw ffurf arall ar gamfanteisio sy'n niweidiol i unrhyw agwedd ar les y plentyn.

Mae'r fframwaith AMW yn diogelu gweithwyr ifanc drwy ddarparu cyflog priodol bob awr i weithwyr ifanc a phrentisiaid. Mae'n cefnogi’r broses o ddatblygu sgiliau a gyrfa i bawb a gyflogir mewn amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae darpariaethau’r Gorchymyn yn cyd-fynd â chyfreithiau'r DU sy'n gosod terfynau ar nifer yr oriau gwaith y gellir eu gweithio a’r math o waith y gellir ei wneud i sicrhau nad yw iechyd, lles ac addysg gweithwyr ifanc yn cael eu niweidio.

Mae cyfraddau cyflog ar wahân i bobl ifanc yn cyflawni sawl nod. Maent yn sicrhau bod gweithwyr ifanc yn cael cyflog teg sy'n cydnabod eu cyfraniadau i ffermio. Mae hyn hefyd yn eu helpu i ddatblygu sgiliau amrywiol a throsglwyddadwy sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth, gan arwain at well cyfleoedd gwaith ac addysg yn y dyfodol.

Ni fydd Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol 2025 yn effeithio ar bobl ifanc o'r UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd na'r Swistir. Diogelir eu hawliau nhw gan y Cytundebau Hawliau Dinasyddion. Mae cyfraddau'r isafswm cyflog a thelerau ac amodau eraill yn berthnasol i bob gweithiwr amaethyddol, garddwriaethol a choedwigaeth a gyflogir yng Nghymru.

Cyngor i Weinidogion a Phenderfyniad y Gweinidog

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Faterion Gwledig wedi cael gwybod am ganlyniad yr ymarferion ymgynghori ar y cyfraddau newydd. Nid oedd yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad yn rhoi sylw penodol i hawliau plant. Cafodd grwpiau plant a grwpiau ffermwyr ifanc eu targedu yn ystod y cyfnod ymgynghori, ond ni chafwyd ymateb gan yr un ohonynt. Ceir rhestr yn Adran 6 o gyrff / sefydliadau plant a phobl ifanc yr anfonwyd copi o'r ddogfen ymgynghori atyn nhw.

Disgwylir i'r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol newydd ddod i rym ar 1 Ebrill 2025.

Cyfathrebu â phlant a phobl ifanc

Mae cynrychiolwyr CFfI Cymru a Cholegau Cymru yn aelodau o is-bwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant y Panel Cynghori Amaethyddol, yn benodol i roi barn arbenigol ar anghenion pobl ifanc yn y sector amaethyddol. 

Cynhaliwyd ymgynghoriad wedi'i dargedu rhwng 18 Hydref a 15 Tachwedd 2024 am y newidiadau arfaethedig. Gosodwyd y cynigion ar dudalen we Ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac fe'u hanfonwyd dros e-bost at restr hir o randdeiliaid, gan gynnwys sefydliadau sy'n gweithio gyda phlant ac sy'n gofalu am eu buddiannau. 

Er bod gan bobl ifanc gyfleoedd agored a theg i gymryd rhan yn y broses ymgynghori, ni chafwyd unrhyw ymatebion gan y sefydliadau hyn.

Mae Llywodraeth Cymru, wedi gweithio gyda'r Panel i archwilio pa mor ymarferol fyddai hi i gael gafael ar ddata cadarn a fyddai'n gwella Gorchmynion yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae  heriau arwyddocaol a pharhaus y byddai angen cryn dipyn o amser, arian ac adnoddau i fynd i'r afael â nhw, ac nid oes unrhyw sicrwydd y byddai data digon cadarn ar gael yn y diwedd. O ystyried y pwysau ariannol mawr sydd ar Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, bernir bod yr ymdrech sydd ei hangen er mwyn cael gafael ar y data hyn yn anghymesur o gofio cwmpas ac effaith y polisi.

Yn sgil y diffyg tystiolaeth, ni ellir mesur effaith y Gorchymyn gyda sicrwydd ond ystyrir ei bod yn debygol bydd y newidiadau yn cael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc.

Monitro ac Adolygu

Bydd Llywodraeth Cymru yn monitro effaith Gorchymyn 2025, drwy ddeialog barhaus â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys  y Panel Cynghori Amaethyddol. Bydd hyn yn cynnwys asesu'r effeithiau ar y sector amaethyddol a gweithwyr ifanc. 

Bydd rhif llinell gymorth a chyfeiriad e-bost ar gael ar gyfer ymateb i ymholiadau am Orchymyn 2025. 

Bydd yr wybodaeth hon yn helpu i asesu effeithiolrwydd y Gorchymyn ac yn llywio Gorchmynion yn y dyfodol.

Rhestr Dosbarthu Ymgyngoriadau (Plant a Phobl Ifanc)

Gweithredu dros Blant
Barnardo’s Cymru
Plant yng Nghymru / Children in Wales
Comisiynydd Plant Cymru
Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS)
MEIC
Y Mudiad Meithrin
NSPCC Cymru
The Prince’s Trust Cymru
Achub y Plant - Cymru
TGP Cymru
UK Youth
Cymru Ifanc
Sefydliad Ieuenctid Unedig