Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau gweithredu y mae llywodraeth cymru yn eu hystyried a pham?

Cyngor y Gweithlu Addysg (y Cyngor) yw'r rheoleiddiwr statudol annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru. Mae'n ofynnol i'r Cyngor gadw cofrestr o ymarferwyr addysg (y Gofrestr) a chaniatáu i'r cyhoedd weld y Gofrestr honno. Mae'r Gofrestr yn rhestru pawb sydd wedi'i gofrestru â'r Cyngor (personau cofrestredig) ac mae ar gael i'r cyhoedd drwy wefan y Cyngor. Ar hyn o bryd, mae tua 85,000 o bersonau cofrestredig yn y categorïau canlynol:

  • athrawon ysgol
  • gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion
  • athrawon addysg bellach
  • gweithwyr cymorth dysgu addysg bellach
  • ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith
  • gweithwyr ieuenctid cymwysedig
  • gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried a ddylid ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor reoleiddio categorïau ychwanegol o ymarferwyr proffesiynol a'u cynnwys yn y gofrestr.

Trosolwg o'r cynigion

Mae bylchau yn y gofynion cofrestru presennol sy'n golygu bod lefel y trefniadau rheoleiddio proffesiynol yn amrywio ymhlith y gweithlu addysg, hyd yn oed pan fo unigolion yn cyflawni rolau tebyg iawn. Ein bwriad yw atgyfnerthu mesurau i ddiogelu plant a phobl ifanc a gwneud y gweithlu yn fwy proffesiynol. Felly, yn ychwanegol at y categorïau cofrestru presennol, mae'r Gorchymyn drafft yn ei gwneud yn ofynnol i'r uwch-arweinydd, athrawon a gweithwyr cymorth dysgu, mewn ysgolion annibynnol a sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol gofrestru. Mae'r Gorchymyn hefyd yn diweddaru'r categori athro neu athrawes mewn ysgol a gynhelir er mwyn sicrhau ei bod yn ofynnol i bob pennaeth gofrestru, p'un a yw'n cyflawni rôl addysgu ai peidio. 

Mae'r Gorchymyn drafft yn diwygio'r darpariaethau mewn perthynas â gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid gan ei gwneud yn ofynnol i weithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig a delir i gyflawni gwaith ieuenctid mewn unrhyw leoliad gofrestru. Mae'r Gorchymyn drafft hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r rhai sy'n gweithio tuag at gymhwyster gweithwyr ieuenctid neu weithwyr cymorth ieuenctid ac sy'n cael eu talu i gyflawni gwaith ieuenctid mewn unrhyw leoliad gofrestru dros dro.

Ysgolion annibynnol

Ar hyn o bryd, mae ychydig dros 80 o ysgolion annibynnol cofrestredig yng Nghymru. Mae'r nifer hwn wedi'i rannu'n weddol gyfartal rhwng ysgolion prif ffrwd a'r rhai sy'n darparu ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) neu anghenion addysgol arbennig (AAA). Mae'r ystod oedran yn amrywio hefyd, gyda rhai ysgolion yn derbyn plant a phobl ifanc hyd at 18 oed ac eraill yn darparu ar gyfer ystodau oedran penodol. Mae gwahaniaethau sylweddol o ran maint hefyd; mae'r ysgol leiaf wedi'i chofrestru ar gyfer hyd at bedwar dysgwr ac mae'r ysgol fwyaf wedi'i chofrestru ar gyfer hyd at 1,500 o ddysgwyr.

Dengys y data diweddaraf fod ychydig dros 10,000 o ddisgyblion yn y sector annibynnol yng Nghymru. Mae'r ysgolion hyn yn cyflogi tua 850 o athrawon a 1,200 o staff cymorth. O dan y ddeddfwriaeth bresennol nid yw'n ofynnol i staff addysgu mewn ysgolion annibynnol gofrestru â'r Cyngor. Dyma pam yr argymhellodd Comisiynydd Plant Cymru a'r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol y dylai fod yn ofynnol i staff mewn ysgolion annibynnol gofrestru â'r Cyngor.

Canfu'r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol bod “mesurau annigonol ar waith yn hanesyddol i amddiffyn plant rhag y risg o gael eu cam-drin yn rhywiol – heb unrhyw fesurau o gwbl weithiau”. Mae mesurau wedi bod ar waith mewn ysgolion annibynnol i amddiffyn plant ond mae'n rhaid i'r rhain gael eu hatgyfnerthu yn awr drwy'r Gorchymyn drafft hwn. Felly, mae'n hanfodol bwysig ein bod ni yng Nghymru yn mynd i'r afael â'r bwlch cofrestru ar gyfer y gweithlu mewn ysgolion annibynnol er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn ymhellach.

Gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid

Argymhellodd adroddiad y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro (a gyhoeddwyd ar 16 Medi 2021) “y dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio'r ddeddfwriaeth bresennol er mwyn sicrhau bod yn rhaid i bawb sy'n gweithio mewn gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg”.

Mae'r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro o'r farn y bydd gweithredu'r argymhelliad hwn yn mynd i'r afael â “mater diogelu sylfaenol sy'n codi mewn perthynas â gwasanaethau gwaith ieuenctid, gan sicrhau bod yr holl waith ieuenctid yng Nghymru yn digwydd mewn amgylcheddau diogel” ac yn “helpu i wella safonau yn y sector gwaith ieuenctid drwy sicrhau bod pob gweithiwr ieuenctid wedi'i gofrestru i weithio gyda phobl ifanc a'i fod yn gymwys i wneud hynny”.

Sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol

Ar hyn o bryd, nid yw'n ofynnol i rai aelodau o staff mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol gofrestru â'r Cyngor. Mae hyn yn golygu nad ydynt yn ddarostyngedig i'r un lefel o reoleiddio proffesiynol â staff eraill yn y gweithlu addysg sy'n gwneud gwaith tebyg.

Hirdymor

Mae dwy brif fantais hirdymor i gynnwys y grwpiau ychwanegol hyn yn y gofrestr. Y fantais gyntaf yw sicrhau bod pob plentyn, person ifanc ac aelod o staff yn cael budd o'r mesurau diogelu ychwanegol sy'n gysylltiedig â threfniadau rheoleiddio proffesiynol. Bydd hyn yn rhoi llwybr i unigolion neu sefydliadau godi pryderon a sicrhau yr ymchwilir i'r pryderon hynny'n annibynnol.

Yn ychwanegol at y newidiadau rheoleiddiol a drafodir yn yr asesiad effaith integredig hwn, mae Llywodraeth Cymru hefyd wrthi'n atgyfnerthu Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003, Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003 a gwneud Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwahardd Cyfranogiad ym maes Rheoli) (Cymru) 2016 er mwyn helpu i wella ansawdd addysg a lles, iechyd a diogelwch disgyblion mewn ysgolion annibynnol yn ogystal â gwella trefniadau llywodraethu ysgolion annibynnol yng Nghymru.

Yr ail fantais yw y bydd ein gweithwyr proffesiynol ym maes addysg, dysgu ac addysgu yn gydradd o safbwynt proffesiynoldeb, ni waeth ble y maent yn gweithio. Caiff y ffyrdd y disgwylir i weithwyr proffesiynol ymddwyn eu pennu'n ehangach ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y sector addysg.

Yn ogystal â manteision proffesiynoldeb ac ymddiriedaeth y cyhoedd, gall y rhai sydd wedi'u cofrestru â'r Cyngor fanteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd datblygu proffesiynol a chymorth. Ar hyn o bryd, mae'r rhain yn cynnwys mynediad at hyfforddiant a swyddi drwy Addysgwyr Cymru, mynediad at ddigwyddiadau, canllawiau arferion da a llyfrau a chyfnodolion ymchwil ar-lein, yn ogystal â'r Pasbort Dysgu Proffesiynol sy'n helpu cofrestreion i gofnodi, rhannu a chynllunio eu gwaith dysgu a myfyrio arno. Drwy'r cylchlythyrau a'r diweddariadau rheolaidd, gallant hefyd ddylanwadu ar bolisi drwy ymateb i ymgyngoriadau ac arolygon ac ymuno â gweithgorau.

Rhagwelir y bydd yn ofynnol i 3,000 o weithwyr proffesiynol ychwanegol gofrestru â'r Cyngor os caiff y cynigion eu gweithredu ar eu ffurf bresennol.

Gan y bydd y cynigion hyn yn golygu newid deddfwriaethol, bydd angen asesu costau a manteision y cynigion hyn yn fanylach. Mae asesiad effaith rheoleiddiol drafft ar gael i gyd-fynd â'r Gorchymyn drafft.

Atal

Ein prif nod yw atgyfnerthu mesurau i ddiogelu plant a phobl ifanc yn y sector addysg. Rydym am sicrhau y gallwn atal problemau diogelu rhag digwydd a'u hatal rhag gwaethygu os byddant yn digwydd. Mae'n bwysig diweddaru'r sefyllfa reoleiddiol mewn perthynas â'r rhai sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Mae cofrestru â'r Cyngor yn golygu bod yn rhaid i gofrestreion gyrraedd a chynnal safonau penodol. Mae'n rhaid i'r Cyngor gynnal ymchwiliad os honnir bod person cofrestredig yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymwysedd proffesiynol difrifol, neu os caiff ei euogfarnu o drosedd berthnasol. Gall ymchwiliad arwain at orchymyn disgyblu a all, yn yr achosion mwyaf difrifol, arwain at dynnu enw'r person oddi ar y gofrestr.

Mae atal niwed i blant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn bwysig i'w llesiant yn y dyfodol.

Integreiddio

Gan weithio gyda Chomisiynydd Plant Cymru a'r Cyngor, rydym wedi llunio'r cynigion hyn er mwyn helpu i lenwi rhai o'r bylchau sy'n ymwneud â diogelwch plant a phobl ifanc. Drwy ei gwneud yn ofynnol i'r grwpiau ychwanegol hyn gofrestru, gellir diogelu eu llesiant corfforol a meddyliol ymhellach ac mae hyn hefyd yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru, yn y Rhaglen Lywodraethu, i roi blaenoriaeth i fuddsoddi mewn gwella iechyd meddwl. Yn ogystal, mae mesurau gwell i ddiogelu plant a phobl ifanc yn cyfrannu'n uniongyrchol at amcanion fel diwygio addysg, amddiffyn pobl sy'n agored i niwed a dileu anghydraddoldeb.

Cydweithio

Rydym yn ddiolchgar i'r Cyngor am help i nodi'r bylchau. Mae'r Cyngor wedi bod yn hollbwysig i'n dealltwriaeth o drefniadau rheoleiddio proffesiynol, p'un a fyddai ein cynigion yn ymarferol a sicrhau bod y bobl y mae'r cynigion yn effeithio arnynt yn ymwybodol ohonynt. Yn y pen draw, rydym wedi bod yn gweithio gyda'r rhai sydd yn y categorïau cofrestru arfaethedig a'u cyrff cynrychioliadol neu undebau llafur er mwyn deall yr effaith arnynt.

Bydd angen is-ddeddfwriaeth i roi effaith i'r cynigion hyn ac, felly, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r Cyngor i ymgynghori â rhanddeiliaid. Cafodd ymgynghoriad cychwynnol ar yr egwyddorion sy'n sail i'r cynigion ei lansio ddechrau mis Mawrth a daeth i ben ym mis Mai 2022.

Mae Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023 arfaethedig (“y Gorchymyn drafft”), a fyddai'n dod â'r cynigion hyn i rym, wedi cael ei baratoi er mwyn ymgynghori arno yn ystod hydref 2022. Caiff y memorandwm esboniadol drafft a'r asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y Gorchymyn drafft eu cyhoeddi hefyd fel y gellir gwneud sylwadau arnynt. Er mai ymgynghoriad ar-lein ydyw, mae Llywodraeth Cymru a'r Cyngor wedi cysylltu â rhanddeiliaid yn uniongyrchol i'w hysbysu am lansiad yr ymgynghoriad a'u gwahodd i ymateb.

Cymryd Rhan

Mae wedi bod yn hanfodol cynnwys rhanddeiliaid allweddol yn y gwaith o ddatblygu'r Gorchymyn drafft ac rydym wedi cymryd amser i drafod materion. Mae'r trafodaethau hyn wedi esgor ar gyngor hanfodol ac wedi ein galluogi i ddeall effaith a goblygiadau ymarferol y polisi yn well. Bu cyfuniad o drafodaethau parhaus ac ymgynghoriad ffurfiol. Mae'r prif randdeiliaid yn cefnogi'r darpariaethau a nodir yn y Gorchymyn drafft. 

Mae swyddogion wedi cynnwys y rhanddeiliaid canlynol i drafod y cynigion a'u heffaith:

  • Cyngor Ysgolion Annibynnol Cymru
  • Natspec – y gymdeithas ar gyfer sefydliadau sy'n cynnig addysg bellach a hyfforddiant arbenigol i fyfyrwyr 16 i 25 oed sydd ag anawsterau dysgu a/neu anableddau
  • Fforwm Penaethiaid Colegau Cymru (Penaethiaid Sefydliadau Addysg Bellach Cymru)
  • Rhwydwaith Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru (Cynrychiolwyr yr holl ymarferwyr dysgu oedolion yn y gymuned yng Nghymru mewn sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol)
  • Cyngor y Gweithlu Addysg
  • Safonau Addysg Hyfforddiant
  • Comisiynydd Plant Cymru
  • Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro
  • Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid
  • Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS)

Lle mae materion wedi codi a fyddai'n effeithio arnynt hwy neu'r rhai y maent yn eu cynrychioli, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gwneud yr hyn sydd angen ei wneud i wella mesurau diogelu. Bydd swyddogion yn parhau i gyfarfod ag ymarferwyr a rhanddeiliaid wrth i'r ddeddfwriaeth ddatblygu er mwyn trafod ei heffaith bosibl.

Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad ffurfiol a gynhaliwyd yng ngwanwyn 2022 yn cefnogi'r cynigion i ymestyn neu ddiwygio'r gofynion cofrestru. Roedd y rhesymau dros hyn yn cynnwys diogelu, cynnal statws proffesiynol a gwella/cynnal safonau ymarfer uchel.

Ar y llaw arall, roedd rhai unigolion yn gwrthwynebu'r cynigion i gofrestru yn gyfan gwbl am resymau a oedd yn cynnwys gwrthwynebiad i ymyrraeth gan y wladwriaeth mewn dulliau addysgu penodol (h.y. y sector crefyddol), effeithiau negyddol ar wasanaethau arbenigol (h.y. sectorau'r celfyddydau, cerddoriaeth a chwaraeon) a rhai disgwyliadau y byddai'n ofynnol i'r rhai sydd wedi cofrestru gael cymhwyster penodol.

Rydym wedi ymgysylltu â grwpiau penodol i roi eglurder ynghylch pwy y byddai disgwyl iddynt gofrestru a phwy na fyddai disgwyl iddynt gofrestru o dan y cynigion. Er enghraifft, rydym wedi gweithio gydag ymarferwyr a'u cyrff cynrychioliadol i gadarnhau mai nod y cynigion yn ymgynghoriad gwanwyn 2022 oedd ymestyn trefniadau cofrestru i'r rhai a gyflogir i ddarparu gwasanaethau i bobl ifanc gan ddefnyddio methodolegau a dulliau gwaith ieuenctid, yn hytrach na phob unigolyn sy'n gweithio gyda phobl ifanc mewn unrhyw gyd-destun. Rydym yn parhau i ymgysylltu â phersonau cofrestredig presennol a phersonau cofrestredig arfaethedig yn y dyfodol, y Cyngor a phartneriaid perthnasol eraill ynghylch ymarferoldeb y trefniadau newydd arfaethedig.

Casgliad

Sut y mae pobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu?

Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol ar y grwpiau cofrestru ychwanegol arfaethedig rhwng mis Mawrth a mis Mai 2022, a bydd cyfle arall i wneud sylwadau ar y Gorchymyn drafft a'r strwythur ffioedd yn ystod hydref 2022.

Mae'r holl grwpiau perthnasol yn y sector addysg wedi cael eu hysbysu am yr ymgyngoriadau ac rydym wedi gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys y Cyngor, Comisiynydd Plant Cymru, a'r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro gynt.

Rydym wedi ymgysylltu'n helaeth â'n rhanddeiliaid drwy gydol y broses o ddatblygu'r cynigion hyn a byddwn yn parhau i wneud hynny. Cafwyd mwy na 300 o ymatebion i'r ymgynghoriad cyntaf. Bu'r rhain o gymorth inni ail-lunio rhai o'r cynigion. Yn yr un modd, bydd ymatebion i'r ail ymgynghoriad yn ein helpu i sicrhau bod ein cynigion yn addas at y diben ac yn deg.

Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Yr effaith gadarnhaol fwyaf arwyddocaol fydd y ffaith bod mwy o fesurau diogelu ar waith i'r holl blant a phobl ifanc ym mhob sector addysg yng Nghymru, drwy sicrhau bod pob ymarferydd perthnasol wedi cofrestru â'r rheoleiddiwr proffesiynol. Mae trefniadau i gofrestru addysgwyr yn rhoi sicrwydd i blant, pobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol eraill fod gwiriadau'n cael eu cynnal i sicrhau bod cyflogeion yn addas i gofrestru – drwy wirio cofnodion yr heddlu a chofnodion troseddol, datgeliadau o euogfarnau a chamau disgyblu yn eu herbyn.

Bydd hefyd yn cynnig llwybr clir a syml i unigolion neu sefydliadau godi pryderon am ymddygiad unigolyn cofrestredig a sicrhau bod corff proffesiynol allanol yn cynnal ymchwiliad annibynnol i'r pryderon hynny. Yn ogystal, drwy gynnwys grwpiau ychwanegol y bydd yn ofynnol iddynt gofrestru, bydd y proffesiwn yn llawer mwy cyfartal, ni waeth ym mha sector y mae person yn gweithio ynddo. Mae hyn yn cynnig cyfle i gynnal neu wella safonau proffesiynol drwy'r gweithlu addysg cyfan, a fyddai'n gwella gwasanaethau i blant a phobl ifanc ac o fudd i gymdeithas yn y tymor hwy.

Yr unigolion hynny nad yw wedi bod yn ofynnol iddynt gofrestru cyn hyn fydd yn teimlo'r effaith negyddol fwyaf arwyddocaol. Gall y rhai a fydd yn bersonau cofrestredig ystyried bod y gost ychwanegol o gofrestru yn amhoblogaidd ac yn annheg.

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:

  • yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant?
  • yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Rydym yn gwneud y newid hwn i'r gyfraith er mwyn amddiffyn ein plant a'n pobl ifanc rhag niwed. Bydd hefyd yn sicrhau bod gan y cyhoedd hyder mewn mwy o ymarferwyr oherwydd gallant ddangos bod ganddynt y sgiliau, yr wybodaeth a'r cymeriad i gyflawni'r dyletswyddau sy'n rhan o'u proffesiwn yn ddiogel ac yn effeithiol.

Credwn fod yr effaith gadarnhaol, sef mesurau diogelu gwell a chodi safonau proffesiynol yn y gweithlu addysg, yn drech na'r effaith negyddol o dalu ffi.

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?

Y Cyngor yw'r prif sefydliad sydd gennym i'n helpu i gynllunio'r gweithlu. Mae ganddo'r data i'n helpu i ddeall beth fydd yn digwydd ar ôl gweithredu. Roedd ei waith adolygu a gwerthuso parhaus wedi ein helpu i newid y gyfraith hon.

Yn y dyfodol, bydd y Cyngor yn parhau i fonitro nifer y cofrestreion, gan gynnwys y rhai sy'n ymuno â'r sector addysg fel ymarferwyr dan hyfforddiant. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir gan y Cyngor, ynghyd ag adborth gan ymarferwyr, y cyrff sy'n eu cynrychioli a rhanddeiliaid eraill, i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn ddigonol i sicrhau diogelwch parhaus plant a phobl ifanc.

Dyma gam cyntaf rhaglen waith i broffesiynoli ein gweithlu addysg a gwaith ieuenctid ymhellach. Bydd yr ail gam yn mynd i'r afael â chynigion i gynyddu'r categorïau cofrestru i'r holl weithwyr ieuenctid a staff yn y sector ôl-16. Bydd yr adborth a gawn ar y gwaith hwn yn y cam cyntaf yn helpu i ddatblygu'r gwaith sydd ei angen ar gyfer yr ail gam.