Neidio i'r prif gynnwy

Nodwch y bydd Gethin Thomas, sef y cadeirydd a benodwyd i'r ymchwiliad, yn cynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad i’r Gorchymyn Diwygio Harbwr Saundersfoot arfaethedig. Cynhelir y cyfarfod am 10am ddydd Llun 10 Tachwedd 2025 yn The Bay View Suite, Harbwr Saundersfoot, Yr Harbwr, Saundersfoot, Sir Benfro SA69 9HE.

Mae'r cyn-gyfarfod er budd y rhai sy'n bwriadu cymryd rhan yn yr ymchwiliad, ond mae'n agored i bawb ei fynychu ac i arsylwi. Bydd y cyn-gyfarfod yn ymdrin â materion gweithdrefnol sy’n ymwneud â'r ymchwiliad yn unig, heb unrhyw drafodaeth ynghylch rhinweddau'r gorchymyn arfaethedig.

Nid yw ymddangos yn yr ymchwiliad yn ei gwneud yn ofynnol i chi fynychu'r cyfarfod cyn-ymchwiliad, ond bydd gwneud hynny'n rhoi cyfle i chi ddysgu am y weithdrefn a'r amserlen ar gyfer yr ymchwiliad.

Bydd nodyn o'r ymchwiliad cyn-gyfarfod yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr ymchwiliad yn fuan ar ôl y cyfarfod, fel cofnod i'r rhai sy'n mynychu ac i roi gwybod i eraill.

Gethin Thomas 
Cadeirydd ymchwiliad
13 Hydref 2025