Neidio i'r prif gynnwy

Deddf Harbyrau 1964 (fel y'i diwygiwyd)

Gorchymyn Diwygio Arfaethedig Awdurdod Harbwr Saundersfoot 2020

Hysbysiad o ymchwiliad cyhoedus

Hysbysir drwy hyn y bydd Mr Gethin Thomas, sy'n gweithredu fel Cadeirydd ac a benodwyd gan Lywodraeth Cymru ("LlC") yn agor Ymchwiliad cyhoeddus i gais gan Awdurdod Harbwr Saundersfoot ("yr Awdurdod") am Orchymyn Diwygio Harbwr Saundersfoot 2020 ("GDH Saundersfoot") a gynigir o dan adran 14 Deddf Harbyrau 1964 yn The Bay View Suite, Harbwr Saundersfoot, Yr Harbwr, Saundersfoot, Sir Benfro SA69 9HE. 

Bydd yr Ymchwiliad yn agor am 10.00am ddydd Llun 2 Chwefror 2026 ac ar hyn o bryd mae disgwyl iddo gael ei gynnal tan ddydd Gwener 6 Chwefror 2026.

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Helen Wilson fel Swyddog Rhaglen yr Ymchwiliad. Dylai unrhyw un sy'n dymuno cymryd rhan yn yr Ymchwiliad gysylltu â Helen ar helen@programmeofficers.co.uk neu 07879 443035. 

Mae croeso i aelodau o'r cyhoedd fynd i’r Ymchwiliad. 

Gellir cael dogfennau sy'n ymwneud â'r Ymchwiliad a rhagor o wybodaeth amdano drwy e-bostio Helen ar y cyfeiriad uchod, a/neu Lywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru gan roi manylion eich enw llawn, cyfeiriad post a rhif ffôn cyswllt.

Gellir gweld copïau caled o ddogfennau'r ymgeisydd, sy'n ymwneud â'r cais, rhwng 9am a 5pm (dydd Llun i ddydd Gwener) yn y Ganolfan Forol, Harbwr Saundersfoot, Saundersfoot, Sir Benfro SA69 0HE. Byddai angen rhoi gwybod ymlaen llaw i weld y dogfennau ar y penwythnos fel bod yr adeilad yn cael ei agor. Am ragor o fanylion, anfonwch e-bost at y Prif Swyddog Gweithredol: ceo@saundersfootharbour.co.uk. 

Pe bai'n cael ei gyflawni, byddai'r Gorchymyn arfaethedig yn diwygio'n sylweddol bwerau a dyletswyddau'r Awdurdod o dan Ddeddf Harbyrau 1964 ("Deddf 1964"), a deddfwriaeth leol berthnasol arall. 

Byddai'n gwneud cyfres o newidiadau i weithdrefnau cyfansoddiadol a llywodraethiant yr Awdurdod, gan gynnwys ei bwerau diwygio, codi tâl a benthyca.  Mae'r newidiadau yn cynnwys:

  • Cynyddu nifer y Comisiynwyr i o leiaf wyth ac uchafswm o ddeuddeg.
  • Creu pwyllgor enwebiadau i ymgymryd â phenodi Comisiynwyr. Ar ôl creu pwyllgor enwebu, bydd y panel penodi presennol, sef y modd presennol o benodi Comisiynwyr, yn cael ei ddiddymu.
  • Caniatáu i'r Comisiynwyr reoleiddio gweithgareddau llongau sy'n teithio trwy'r Harbwr ac sydd, er enghraifft, yn angori/tirio er mwyn dadlwytho gwastraff.
  • Caniatáu i'r Comisiynwyr reoleiddio neu wahardd pysgota o longau sy'n angori yn yr Harbwr.
  • Cynyddu pŵer benthyca presennol y Comisiynwyr o £5,000,000 i £10,000,000.
  • Cynyddu'r terfyn ar fenthyca dros dro (gorddrafft) gan y Comisiynwyr o £100,000 i £2,000,000. Mae hyn yn ychwanegol at y cap benthyca o £10,000,000.
  • Caniatáu i Gomisiynwyr fwrw pedwerydd tymor tair blynedd yn olynol, os penderfynir hynny drwy gytundeb gan y Comisiynwyr.
  • Caniatáu ailbenodi cadeirydd y Comisiynwyr am bedwerydd tymor yn olynol.
  • Bydd y Comisiynwyr yn penodi pwyllgor taliadau sy'n cynnwys o leiaf dau Gomisiynydd, a fydd â chyfrifoldeb dirprwyedig dros benderfynu tâl y Comisiynwyr a chadeirydd y Comisiynwyr a gallant, ar gais y Comisiynwyr, gynghori ar dâl swyddogion gweithredol. Bydd y pwyllgor taliadau yn cael ei awdurdodi i gael cyngor allanol os ystyrir ei fod yn angenrheidiol.

Cyhoeddwyd y GDH gwreiddiol yn y London Gazette, y Tenby Observer, a gwefan yr harbwr ar 19 Mehefin 2020, a chafodd ei ddilyn gan ymgynghoriad statudol 42 diwrnod a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2020. 

Ar 9 Chwefror 2024, cyflwynodd yr ymgeisydd Orchymyn arfaethedig diwygiedig. 

Dyddiad: Dydd Iau 11 Rhagfyr 2025.

Dylai unrhyw un sy’n ceisio rhagor o wybodaeth gysylltu â Helen ar helen@programmeofficers.co.uk neu 07879 443035.