Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1. Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Mater

Ers 2012 mae wedi bod yn ofyniad statudol i bob cwch pysgota Ewropeaidd dros 12m o hyd gael System Monitro Cychod (VMS) sy'n gweithio (Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009). Yn 2012 cyflwynwyd deddfwriaeth hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gychod pysgota sy'n gweithredu ym mhysgodfa cregyn bylchog Cymru ddefnyddio VMS (Gorchymyn Gweithrediadau Llusgrwydo Cregyn Bylchog (Dyfeisiau Olrhain) (Cymru) 2012 (OS 2012/2729 (Cy.292)). Mae VMS yn cofnodi lleoliad, cyflymder a chyfeiriad cwch gan ddefnyddio system ddiogel nad oes modd ymyrryd â hi. Mae'n anfon yr wybodaeth hon ar adegau penodol i ganolfan genedlaethol sefydledig. Pan nad oes signal i drosglwyddo'r adroddiadau, mae unedau VMS yn storio’r adroddiadau ac yn eu trosglwyddo pan fydd modd gwneud hynny. Defnyddir y systemau hyn yn eang fel dull monitro a rheoli.

Mae cychod dros 12m yn cynrychioli 3% o gychod pysgota trwyddedig Cymru. Mae'r rhain yn cael eu monitro ar hyn o bryd gan ddefnyddio VMS yn unol â gofynion deddfwriaeth yr UE a ddargedwir. Nid yw'r 97% sy'n weddill o gychod pysgota masnachol Cymru yn ddarostyngedig i ofynion monitro ar hyn o bryd.

Rydym yn cydnabod bod mwy y gallwn ei wneud i fynd i'r afael â bylchau data a gwella gallu Gweinidogion Cymru i reoli pysgodfeydd a'r amgylchedd morol ehangach yn gynaliadwy. Heb VMS ar gyfer cychod dan 12m, mae bylchau data sylweddol o hyd o ran lle mae cychod trwyddedig yn gweithredu a physgota yng Nghymru a pharth Cymru, a’u hymdrech bysgota.

Cam gweithredu

Mae offeryn statudol yn cael ei gyflwyno sy'n gwahardd cychod pysgota trwyddedig dan 12 metr sy'n gweithredu yng Nghymru a pharth Cymru, a chychod pysgota o Gymru lle bynnag y bônt, rhag ymgymryd â gweithrediadau pysgota oni bai eu bod yn gosod ac yn gweithredu system monitro cychod. Bydd y system hon yn trosglwyddo gwybodaeth am safle daearyddol, dyddiad, amser, cyflymder a llwybr y cwch i Weinidogion Cymru o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o 10 munud wrth iddo ymgymryd â gweithrediadau pysgota. Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y gorchymyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 5(1) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968.

Tueddiadau, heriau a chyfleoedd hirdymor

Bydd y gorchymyn yn galluogi cael darlun llawn a chywir o weithgarwch cychod pysgota yn nyfroedd Cymru. Bydd hyn yn gwella'r ffordd y rheolir pysgodfeydd a'r amgylchedd morol. Mae data sy'n gysylltiedig â dosbarthiad gofodol ac adeg yr ymdrech bysgota yn hanfodol i reoli pysgodfeydd a'r amgylchedd morol ehangach yn effeithiol, gan gynnwys rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPA) a Chynllunio Morol. Nid yw data o'r fath yn bodoli ar hyn o bryd ar gyfer y fflyd bysgota dan 12m. Dros amser bydd VMS yn rhoi darlun mwy cynhwysfawr o weithgarwch pysgota Cymru ac yn cefnogi penderfyniadau a safbwyntiau ar gynaliadwyedd.

Mae data VMS wedi dod yn fwyfwy pwysig fel dull rheoli ers i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd y gorchymyn hwn yn galluogi gwell goruchwyliaeth o weithgarwch cychod pysgota’r DU ac o dramor ym mharth Cymru.

Mae cyflwyno polisi monitro ar gyfer cychod dan 12m yn ein helpu i sicrhau cyfatebiaeth reoleiddiol â rheoliadau'r UE. Bydd hyn yn helpu i hwyluso masnach gyda'r UE ac yn bodloni gofynion olrhain, gan wella diogelwch bwyd a hyder defnyddwyr hefyd.

Deellir bod Awdurdodau Pysgodfeydd eraill y DU a'r UE yn bwriadu cyflwyno gofynion VMS tebyg ar gyfer cychod pysgota dan 12m maes o law. Dylai'r dyfeisiau VMS a ddarperir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r cam gweithredu hwn alluogi pysgotwyr i gydymffurfio â gofynion VMS a gyflwynir gan wledydd eraill ar gyfer eu dyfroedd hwy.

Atal

Bydd cyflwyno gwaith monitro ar gyfer cychod pysgota dan 12m yn darparu data i gynorthwyo Gweinidogion Cymru i reoli pysgodfeydd a'r amgylchedd morol ehangach yn fwy cynaliadwy.

Integreiddio

Mae’r polisi hwn yn cyd-fynd â Strategaeth Ddigidol Cymru drwy ddarparu gwasanaethau a data digidol.

Cydweithio

Cynhaliwyd ymgynghoriad 12 wythnos rhwng 8 Chwefror 2019 a 3 Mai 2019 ar y cynnig i gyflwyno Systemau Monitro Cychod (VMS) ar gyfer cychod pysgota dan 12 metr o hyd sy’n gweithredu yn nyfroedd Cymru a phob cwch pysgota o Gymru o dan 12 metr lle bynnag y bônt yn gweithredu.

Tynnwyd sylw rhanddeiliaid allweddol at yr ymgynghoriad, gan gynnwys pysgotwyr, arbenigwyr yn y diwydiant ac aelodau o'r cyhoedd. Cyn yr ymgynghoriad, cynhaliodd Llywodraeth Cymru gyfres o weithdai ar y cynigion ledled Cymru. Gwahoddwyd holl berchnogion cychod pysgota trwyddedig a gofrestrwyd yng Nghymru i'r gweithdai lle cyflwynwyd y cynigion a rhoddwyd cyfle i'r diwydiant roi adborth.

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad yn awgrymu bod y rhan fwyaf o randdeiliaid yn y DU o blaid cyflwyno'r polisi hwn, ond mynegwyd pryderon ynghylch preifatrwydd a diogelu data, ymarferoldeb gosod VMS ar gychod llai, costau a'r potensial o golli amser pysgota o ganlyniad i faterion technegol. Mae'r rhain wedi'u hystyried.

Rhoddwyd hysbysiad o'n bwriad i gyflwyno polisi ynghylch monitro cychod i'r Undeb Ewropeaidd ar 20/10/2021 yn unol ag Erthygl 496(3) o'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA) sy'n caniatáu 30 diwrnod iddi roi sylwadau neu ofyn am eglurhad.

Ers yr ymgynghoriad ffurfiol yn 2019, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â fflyd bysgota dan 12m Cymru drwy lythyr ac e-bost i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddi am ddatblygiadau. Darparwyd diweddariadau i grwpiau rhanddeiliaid allweddol ac mae Swyddogion wedi cyfarfod yn rheolaidd â Defra ac Awdurdodau Pysgodfeydd Dibynnol y Goron a'r DU.

Effaith

Bydd cyflwyno VMS ar gyfer cychod dan 12m yn galluogi Gweinidogion Cymru a phartïon perthnasol eraill i elwa ar sylfaen dystiolaeth gynyddol ar gyfer gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â rheoli pysgodfeydd, gorfodi, cadwraeth, cynllunio, gwyliadwriaeth a monitro. Bydd mwy o dystiolaeth o lefelau ymdrech mewn pysgodfeydd unigol neu leoliadau daearyddol yn galluogi gwneud penderfyniadau mwy gwybodus i sicrhau cynaliadwyedd, y gallu i olrhain ac i fanteisio i'r eithaf ar gyfle economaidd.

Bydd VMS yn caniatáu i bysgodfeydd Cymru gael eu monitro a'u gorfodi yn fwy effeithiol ac yn galluogi bod adnoddau gorfodi yn cael eu defnyddio mewn ffordd wedi’i thargedu ac sy’n fwy seiliedig ar risg. Gall defnyddio VMS, mewn patrolau môr dargedu lleoliadau a/neu gychod penodol yn well, felly am yr un gost (siarter, tanwydd, adnodd) a nifer y patrolau, dylai fod cynnydd yn nifer y cychod sy'n cael eu gweld a’u cofnodi, a nifer yr archwiliadau. Bydd defnyddio data VMS ochr yn ochr â gwybodaeth arall yn galluogi archwiliadau ar y môr i gael eu targedu a'u cynnal yn fwy effeithlon.

Gellir defnyddio data VMS i gychwyn neu gefnogi ymchwiliadau ar gyfer gorfodi cydymffurfiaeth. Gellir croeswirio data VMS â data cydymffurfio pysgodfeydd eraill gan gynnwys data glanio a dalfeydd sy'n galluogi unrhyw achos o gamgyfatebiaeth gael ei nodi a'i ymchwilio.

Bydd monitro VMS yn rhoi tystiolaeth i'r diwydiant o'u hanes o ran gweithgarwch pysgota a allai gynorthwyo gyda cheisiadau am gyllid, cynlluniau busnes, ac ymateb i ymgyngoriadau cynllunio morol a thrwyddedau morol. Gellid ei defnyddio hefyd i ddarparu diweddariadau o ran lleoliad ar gyfer gweithgarwch Chwilio ac Achub sy'n gwella diogelwch ar y môr i bysgotwyr.

Costau ac Arbedion

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig dyfais VMS am ddim i gychod pysgota dan 12m o Gymru ac mae wedi darparu gwarant 3 blynedd gyda phob dyfais. Mae cynnig dyfais yn rhad ac am ddim yn gymwys hyd at y dyddiad y daw'r ddeddfwriaeth i rym. Mae'r costau hyn wedi'u hariannu drwy’r Gronfa Bontio Ewropeaidd a Chronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop (EMFF). Bydd unrhyw bysgotwr sy'n dewis peidio â derbyn y ddyfais am ddim gan Lywodraeth Cymru neu unrhyw gychod sy'n ymuno â fflyd Cymru ar ôl i'r ddeddfwriaeth ddod i rym yn ariannu'r ddyfais VMS eu hunain. Os oes angen dyfais newydd sy'n syrthio y tu allan i gwmpas y warant, caiff ei hariannu gan y pysgotwr.

Mae adborth gan y diwydiant sy'n ymwneud â chostau parhaus wedi'i ystyried ac mae wedi arwain at Lywodraeth Cymru yn ymrwymo i ariannu'r taliadau data ar gyfer y dyfeisiau VMS a ddarparwyd gennym, am y flwyddyn gyntaf o'r dyddiad y daw'r ddeddfwriaeth i rym. Ar ôl y flwyddyn gyntaf, neu os nad yw'r ddyfais yn cael ei chyflenwi gan Lywodraeth Cymru, bydd y diwydiant yn talu'r costau hyn.

Tabl 1 costau 10 mlynedd
Elfen o’r gost

Costau suddedig

Gorwel cyfanswm Bl 5 Gorwel cyfanswm Bl 10
Cost i'r llywodraeth £694,000 £265,000 £304,000
Cost i’r diwydiant £0 £155,000 £483,000
Cyfanswm y gost/buddsoddiad £694,000 £420,000 £787,000
Gwerth Net Presennol £694,000 £386,000 £672,000

Mae'r costau i'r llywodraeth yn cynnwys cyflwyno a gweithredu'r prosiect, costau dyfais, rheoli prosiectau, taliadau data pob dyfais ar gyfer blwyddyn gyntaf y gwasanaeth, cefnogi a chynnal y data, llinell gymorth i bysgotwyr roi gwybod am ddiffygion ac integreiddio'r gwasanaeth i ganolfan VMS y DU, gwarant am 3 blynedd ar gyfer pob dyfais.

Mae'r costau i’r diwydiant yn cynnwys tâl blynyddol parhaus am ddata (ar ôl blwyddyn 1), trwsio neu amnewid dyfeisiau ar ôl i'r warant 3 blynedd ddod i ben, cymorth, cynnal a chostau llinell gymorth, a cholli incwm o ddiwrnodau a gollwyd ar y môr.  Dylid nodi bod y costau'n cael eu hamcangyfrif ar ôl blwyddyn pump. Ar hyn o bryd, nid oes gwybodaeth ar gael am hirhoedledd y ddyfais a ddefnyddir ar gychod bach ac felly mae’r oes silff yn ansicr. Mae'r cyfrifiad wedi rhagdybio disodli 10% o ddyfeisiau o flwyddyn i flwyddyn o flwyddyn 4 ymlaen (ar ôl i'r warant ddod i ben).

Mae'r gorchymyn yn mynnu na ddylai cwch ymgymryd ag unrhyw weithgarwch pysgota pellach os nad yw ei ddyfais VMS yn trosglwyddo'r wybodaeth ofynnol yn gywir. Gallai hyn arwain at gost anuniongyrchol i bysgotwr os nad yw'n gallu pysgota tra bod dyfais ddiffygiol/wedi'i difrodi yn cael ei hatgyweirio neu ei disodli. Gall pysgotwyr brofi’r incwm a gollwyd o ddyddiau a gollwyd ar y môr. Rhagwelir y bydd gan y dyfeisiau VMS a gyflenwir gan Lywodraeth Cymru gyfradd fethiant isel a lle ceir diffygion, rhagwelir y bydd cyfran uchel yn cael diagnosis a'i rheoli o bell, gan leihau amser segur. Disgwylir i ddyfeisiau sydd â difrod ffisegol neu lle nad yw'n bosibl iddynt gael eu hatgyweirio o bell, gael eu hatgyweirio/disodli o fewn 48 awr. Darparwyd data ar golledion, elw a chostau sefydlog posibl gan Seafish ar gyfer amrywiaeth o gategorïau o ran hyd cychod, yn seiliedig ar ddadansoddiad economaidd Seafish ar gyfer 2018-2019 (Ffynhonnell: amcangyfrifon economaidd fflyd Seafish 27/09/2021). Cafodd cychod llai gweithredol (cychod sy'n ennill llai na £10 mil y flwyddyn) eu tynnu o'r set ddata i leihau rhagfarn gweithgarwch ar yr amcangyfrifon. Gan nad oes data ar gael ar hyn o bryd ar ddibynadwyedd dyfeisiau, tybiwyd cyfradd fethiant o 3% ar gyfer blynyddoedd 1-3 a thybiwyd 10% ar gyfer blwyddyn 4 ymlaen.

Rhagwelir y bydd data VMS yn sicrhau mwy o effeithlonrwydd gan alluogi cydymffurfiaeth a gorfodaeth drwy batrolau ac archwiliadau ar y môr mewn ffordd sydd wedi’i dargedu’n well. Disgwylir y bydd mwy o gychod yn cael eu gweld a’u cofnodi/archwiliadau yn cael eu cynnal gyda’r un mewnbwn adnoddau.

Mecanwaith

Cyflwynir deddfwriaeth drwy Orchymyn Gweithrediadau Pysgota Môr (Dyfeisiau Monitro) (Cymru) 2022.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi'i gwblhau.

Adran 8. Casgliad

8.1 Sut y mae pobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu?

Cynhaliwyd digwyddiadau ymgysylltu â'r diwydiant ledled Cymru yn 2018 ac yna cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol rhwng mis Chwefror a mis Mai 2019.  Mae canlyniadau'r ymgynghoriad wedi'u cyhoeddi a gellir eu gweld yn Systemau monitro cychod ar gyfer cychod pysgota yng Nghymru.  Rhannwyd canlyniadau'r ymgynghoriad gyda Fishing News a'u rhoi ar wefannau Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chymdeithas Pysgotwyr Cymru. Mae'r wybodaeth a gasglwyd o'r digwyddiadau hyn a'r ymgynghoriad wedi bod yn sail ar gyfer drafftio'r polisi monitro cychod. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â fflyd bysgota Cymru o dan 12m drwy lythyr ac e-bost i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am ddatblygiadau ac mae'r wybodaeth ddiweddaraf wedi'i rhoi i grwpiau rhanddeiliaid allweddol ac Awdurdodau Pysgodfeydd Dibyniaeth y Goron a’r DU.

8.2 Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Mae effeithiau cadarnhaol mwyaf arwyddocaol y polisi hwn fel a ganlyn:

  • Mae'r polisi hwn yn ategu'r broses cofnodi dalfeydd a gyflwynwyd yn ddiweddar a phan gant eu adolygu gyda'i gilydd bydd yn dangos yr hyn sy'n cael ei ddal, ym mhle a'r ymdrech bysgota. Bydd hyn yn rhoi darlun gwell o weithgarwch pysgota masnachol yn nyfroedd Cymru. Bydd gwneud penderfyniadau o ran rheoli pysgodfeydd gan ddefnyddio data a geir gan VMS yn diogelu cynaliadwyedd amgylcheddol ac economaidd hirdymor pysgodfeydd Cymru ac yn cael effaith gadarnhaol ar reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
  • Bydd rheoli stociau ar lefelau cynaliadwy yn cael effaith gadarnhaol ar bysgotwyr drwy sicrhau hyfywedd a phroffidioldeb hirdymor y diwydiant pysgota.
  • Defnyddir data VMS i lywio penderfyniadau ar reoli'r amgylchedd morol ehangach gan gynnwys Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPA) a Chynllunio Morol. Ar hyn o bryd, mae diffyg tystiolaeth o'r ardaloedd sydd bwysicaf ar gyfer pysgota a chyda'r môr yn mynd yn fwy gorlawn mae'r dystiolaeth hon yn hanfodol er mwyn cydbwyso anghenion y diwydiant pysgota â rhai sectorau eraill.
  • Mae data VMS wedi dod yn fwyfwy pwysig fel dull rheoli ers i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd y polisi hwn yn rhoi effaith gadarnhaol ar reoli a gorfodi Pysgodfeydd Cymru, gan sicrhau bod patrolau ac archwiliadau yn cael eu cynnal yn fwy effeithlon a darparu gwell goruchwyliaeth o weithgarwch cychod pysgota y DU ac o dramor ym mharth Cymru.
  • Mae'r polisi'n cyd-fynd â dyletswydd adran 6 Deddf yr Amgylchedd sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth ac wrth wneud hynny hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau.
  • Gallai VMS ddarparu tystiolaeth o darddiad dalfeydd sy'n dod yn fwyfwy pwysig i'r defnyddiwr ac i allforio cynhyrchion pysgod y tu allan i'r DU.

Drwy ymgynghori ac ymgysylltu, codwyd pryderon am effaith andwyol costau i'r diwydiant pysgota sy'n gysylltiedig â'r polisi hwn. Mae'r costau hyn yn cynnwys:

  • Colledion elw o amser a gollwyd ar y môr os nad yw dyfais VMS yn trosglwyddo'r wybodaeth ofynnol yn gywir.
  • Mae tâl blynyddol parhaus am ddata yn rhoi cost uniongyrchol ar y diwydiant pysgota.

8.3 In Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:

  • yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant; a/neu
  • yn osgoi, leihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Bydd y polisi VMS yn cyfrannu at yr amcan lles amgylcheddol drwy wella'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â rheoli pysgodfeydd, gorfodi, cadwraeth, cynllunio, gwyliadwriaeth a monitro, gan alluogi'r amgylchedd morol i gael ei reoli'n fwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd cyflwyno'r polisi hwn yn sicrhau mwy o gysondeb rhwng y sector pysgota dan 12m â'r cychod dros 12m sydd eisoes yn gorfod cydymffurfio â gofynion monitro.

Drwy reoli cynaliadwy, bydd manteision nid yn unig i les amgylcheddol ond hefyd i les cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd gan fod cynnal pysgota proffidiol yn bwysig i’r economi leol a threftadaeth ddiwylliannol cymunedau arfordirol.

Mae'r Gymraeg wedi'i hymgorffori ym mhob agwedd ar ddatblygiad y polisi. Ymdriniwyd â gohebiaeth yn ddwyieithog ac roedd siaradwyr Cymraeg ar gael mewn digwyddiadau i randdeiliaid. Mae cyflenwr y dyfeisiau VMS wedi ymrwymo i ddarparu cyfleuster Cymraeg i helpu cwsmeriaid wrth iddynt ofyn am gymorth a rhoi gwybod am ddiffygion.

Er mwyn lliniaru effaith andwyol costau uwch ar y diwydiant pysgota dan 12m, cymerwyd y camau canlynol:

  • Er mwyn lleihau'r elw a gollwyd o ddiwrnodau a gollwyd ar y môr, mae gan ddyfeisiau VMS a gyflenwir gan Lywodraeth Cymru warant 3 blynedd. Mae gan y dyfeisiau gyfradd fethiant ddisgwyliedig o 3% ar gyfer blynyddoedd 1-3 a chyfradd fethiant amcangyfrifedig o 10% ar ôl blwyddyn 4.  Lle ceir diffygion, rhagwelir y bydd cyfran uchel yn cael diagnosis a'i rheoli o bell, gan leihau amser segur. Disgwylir i ddyfeisiau sydd â difrod corfforol neu lle nad yw'n bosibl iddynt gael eu hatgyweirio o bell, gael eu hatgyweirio/disodli o fewn 48 awr.
  • Er mwyn lliniaru cost barhaus y taliadau trosglwyddo data, roedd manyleb caffael y ddyfais yn cynnwys y gofyniad canlynol "bydd y system monitro cychod dan 12 metr yn defnyddio technolegau cost isel ar gyfer trosglwyddo data i leihau costau i ddefnyddwyr terfynol". Canlyniad hyn yw bod technoleg ffonau symudol rhatach yn cael ei defnyddio i drosglwyddo'r data yn hytrach na lloeren. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ariannu'r taliadau trosglwyddo data blynyddol ar gyfer y flwyddyn gyntaf ar ôl i'r ddeddfwriaeth ddod i rym i helpu'r diwydiant i addasu.

8.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau? 

Bydd y prosiect yn ceisio gweithio gyda'r holl randdeiliaid a chynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda'r cyflenwr a'r diwydiant.  Bydd y gwersi a ddysgwyd yn cael eu monitro drwy gydol y prosiect a bydd sesiwn adolygu'n cael ei rhoi ar waith unwaith y bydd y prosiect wedi'i gyflwyno.  Bydd y costau parhaus i bysgotwyr yn cael eu monitro a'u hadolygu ar y cyd â gweinyddiaethau eraill y DU.