Neidio i'r prif gynnwy

Y cefndir

  1. Y tro cyntaf i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei bod yn bwriadu gwahardd neu gyfyngu ar y cynhyrchion plastig untro hynny sy’n cael eu taflu mor rheolaidd ar hyn y lle oedd yn ystod yr ymgynghoriad ar ei chynigion ym mis Hydref 2020. Roedd y gwaharddiadau hynny’n cael eu datblygu mewn ymateb i'r pryderon cynyddol am yr effaith niweidiol y mae llygredd plastig yn ei chael ar ein bywyd gwyllt a'n hamgylchedd. Daeth dros 3,500 o ymatebion i law. Roedd y rhan fwyaf ohonynt o blaid cyflwyno'r ddeddfwriaeth newydd, ac roedd llawer yn annog Llywodraeth Cymru i fynd ymhellach. Mae'r ymgynghoriad ac ymateb Llywodraeth Cymru i’w gweld yma.

  2. O’r herwydd, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) (‘y Bill’) yn y Senedd ar 20 Medi 2022. Craffwyd ar Bil hwnnw yn unol â phroses graffu Senedd Cymru; mae rhagor o fanylion am sesiynau tystiolaeth a thrafodaethau'r Pwyllgor i’w gweld ar wefan Senedd Cymru.

  3. Ar 6 Rhagfyr 2022, pleidleisiodd y Senedd â mwyafrif llethol o blaid y Bil hwnnw ac mae bellach wedi cael Cydsyniad Brenhinol a dod yn Ddeddf. Mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 ('y Ddeddf') ar gael yma.

  4. Mae Adran 2 (cynhyrchion plastig untro gwaharddedig) o'r Ddeddf yn sefydlu'r cysyniad o 'gynnyrch plastig untro gwaharddedig' ac yn cyflwyno'r Tabl yn yr Atodlen i’r Ddeddf lle rhestrir y cynhyrchion hynny. Mae adran 5 (y drosedd o gyflenwi cynnyrch plastig untro gwaharddedig) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn drosedd i berson gyflenwi neu gynnig cyflenwi cynnyrch plastig untro gwaharddedig i ddefnyddiwr yng Nghymru. Mae'r drosedd o dan adran 5 yn drosedd ddiannod lle bydd unigolion yn cael eu dwyn i brawf yn Llys yr Ynadon. Os ceir yr unigolion yn euog o'r drosedd, caiff y llys roi dirwy ddiderfyn.

  5. Aeth Llywodraeth Cymru ati yn gynharach eleni i ymgynghori ar 'Gorfodi gwaharddiadau a chyfyngiadau ar gynhyrchion plastig untro penodol'. Roedd yr ymgynghoriad yn amlinellu cynigion i wneud rheoliadau ar sancsiynau sifil o dan y Ddeddf. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 17 Ebrill 2023 a 9 Mehefin 2023 ac mae ar gael i’w weld yma. Mae’r cefndir llawn i’r ymgynghoriad hwnnw, a’r un hwn, gan gynnwys manylion am bwy sy’n gallu cyflawni trosedd o dan adran 5 (y drosedd o gyflenwi cynnyrch plastig untro gwaharddedig) o'r Ddeddf, manylion am sancsiynau sifil a pham mae angen gorfodi, i’w gweld yn y ddogfen ymgynghori honno. Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried yr holl ymatebion a ddaeth i law a bydd crynodeb o'r ymatebion yn cael ei gyhoeddi’n fuan.

Beth yw diben yr ymgynghoriad hwn?

  1. Ar ôl yr ymgynghoriad 'Gorfodi gwaharddiadau a chyfyngiadau ar  gynhyrchion plastig untro penodol’, a gynhaliwyd yn gynharach eleni, rydym yn ceisio barn am gynnig newydd a ddaeth i'r amlwg o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw. Y cynnig newydd yw ein bod yn cynnwys cosbau ariannol penodedig yn y gyfres o sancsiynau sifil a fydd ar gael i’r awdurdodau lleol er mwyn cymryd camau gorfodi mewn ymateb i drosedd o dan adran 5 (y drosedd o gyflenwi cynnyrch plastig untro gwaharddedig) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynnyrch Plastig Untro) (Cymru) 2023.

  2. Mewn un o’r ymatebion i'n hymgynghoriad blaenorol, dywedwyd y byddid yn ffafrio camau gorfodi ar ffurf cosbau ariannol penodedig, oherwydd eu bod yn llai dwys o ran adnoddau. O ddefnyddio cosbau ariannol penodedig, nid oes angen mynd ati i gyfrifo'r gosb, fel sy'n ofynnol wrth roi cosbau ariannol amrywiol. O’r herwydd, rydym o’r farn y dylem gynnwys cosbau ariannol penodedig yn ogystal â chosbau ariannol amrywiol yn y gyfres o sancsiynau sifil sydd ar gael i’r awdurdodau lleol. Bydd hynny’n rhoi mwy o hyblygrwydd iddynt wrth iddynt ymgymryd â'r dyletswyddau gorfodi sydd arnynt o dan y Ddeddf.

  3. Mae'r pŵer o dan adran 17 (sancsiynau sifil) o’r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n darparu ar gyfer sancsiynau sifil mewn perthynas â'r drosedd o dan adran 5 (y drosedd o gyflenwi cynnyrch plastig untro gwaharddedig) o'r Ddeddf. Mae'r pŵer hwn yn cyfateb i'r un a geir yn Rhan 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (‘RESA’). Mae Rhan 3 o RESA yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau er mwyn rhoi pwerau i ddefnyddio sancsiynau sifil amgen wrth gymryd camau gorfodi mewn perthynas â throseddau penodol. Y sancsiynau sifil sydd ar gael o dan RESA yw cosbau ariannol penodedig, gofynion yn ôl disgresiwn (gan gynnwys cosbau ariannol amrywiol a hysbysiadau cydymffurfio), hysbysiadau stop ac ymgymeriadau gorfodi. Maent yn ddewis arall yn lle euogfarn droseddol, yn enwedig ar gyfer mân achosion o dorri gofynion unrhyw reoliadau, ond nid ydynt yn cymryd eu lle.

  4. Yr unig adeg y byddai awdurdod lleol yn gallu rhoi cosb ariannol benodedig fyddai pan fyddai’n fodlon y tu hwnt i amheuaeth resymol fod person wedi cyflawni'r drosedd o dan adran 5 (trosedd o gyflenwi cynnyrch plastig defnydd untro gwaharddedig) o'r Ddeddf. Byddai swm y gosb ariannol benodedig yn caei ei bennu a'i nodi yn y rheoliadau ar sancsiynau sifil a fyddai’n cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru. Ni fyddai'r awdurdod lleol yn gallu arfer disgresiwn wrth benderfynu faint y gosb ariannol benodedig mewn unrhyw achos unigol. 

  5. Byddai gweithdrefn benodol ar gyfer defnyddio cosbau ariannol penodedig. Cyn y gallai awdurdod lleol osod cosb ariannol benodedig, byddai'n rhoi 'hysbysiad o fwriad' yn gyntaf. Yna byddai'r unigolyn y bwriedid yr hysbysiad hwnnw ar ei gyfer yn cael cyfle i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ac i wrthwynebu’r gosb. Fel arall, gallai'r unigolyn ddewis cyflawni’r atebolrwydd a fyddai arno i dalu cosb drwy dalu taliad rhyddhau. Byddai'n rhaid cyflwyno unrhyw sylwadau neu wneud taliad rhyddhau o fewn terfynau amser penodol. Pe bai’r unigolyn yn gwneud y taliad rhyddhau, ni fyddai unrhyw gamau eraill yn cael eu cymryd yn ei erbyn. Ar ôl i’r terfyn amser penodol hwnnw ddod i ben, pe byddai’r awdurdod lleol yn dewis gosod cosb, byddai'n cyhoeddi 'hysbysiad terfynol' ac ynddo wybodaeth benodol, megis y rhesymau dros osod y gosb a sut i dalu. 

  6. Byddai gosod cosb ariannol benodedig yn golygu na fyddai’r unigolyn yn agored mwyach i gael ei erlyn am y drosedd o dan adran 5 (y drosedd o gyflenwi cynnyrch plastig defnydd untro gwaharddedig) o'r Ddeddf. Yn yr un modd, o roi hysbysiad o fwriad i rywun, ni fyddai modd dwyn unrhyw achos troseddol yn ei erbyn cyn diwedd y terfyn amser a bennir ar gyfer gwneud taliad rhyddhau. Pan fyddai unigolyn yn gwneud taliad rhyddhau, ni ellid dwyn unrhyw achos troseddol yn ei erbyn mewn perthynas â chyflawni'r drosedd o dan adran 5 (y drosedd o gyflenwi cynnyrch plastig defnydd untro gwaharddedig) o'r Ddeddf.

  7. Rhaid i arian a dderbynnir drwy osod sancsiynau sifil, megis cosbau ariannol penodedig, gael ei dalu i Gronfa Gyfunol Cymru pan fo gan yr awdurdod lleol swyddogaethau mewn perthynas â Chymru yn unig.

  8.  Bydd dyletswydd ar yr awdurdodau lleol i gyhoeddi canllawiau am eu defnydd o sancsiynau sifil wrth gymryd camau gorfodi mewn perthynas â’r drosedd o dan adran 5 (y drosedd o gyflenwi cynnyrch plastig untro gwaharddedig) o'r Ddeddf. 

  9. Gan fod yr ymgynghoriad hwn yn ceisio barn am un cynnig newydd a ddeilliodd o'r ymatebion i'r ymgynghoriad blaenorol, gofynnir ichi gyflwyno ymatebion i'r ymgynghoriad hwn erbyn 25 Medi 2023.

Y Camau nesaf

  1. Ar ôl yr ymgynghoriad hwn, byddwn yn dadansoddi’r ymatebion ac yn eu hystyried wrth inni fynd ati i wneud y rheoliadau ar sancsiynau sifil. Pan fydd yr holl ymatebion wedi cael eu hystyried, bydd Ymateb y Llywodraeth yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan.

 Cynnig

  1. Y cynnig yw ein bod, drwy wneud reoliadau ar sancsiynau sifil, yn cynnwys cosbau ariannol penodedig yn y gyfres o sancsiynau sifil a fydd ar gael i’r awdurdodau lleol er mwyn cymryd camau gorfodi mewn ymateb i’r drosedd o dan adran 5 (y drosedd o gyflenwi cynnyrch plastig untro gwaharddedig) o'r Ddeddf.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 4 Hydref, yn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

  • E-bost
  • post
  • ffurflen ar-lein

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Manylion Cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth:

Is-adran Ansawdd yr Amgylchedd 
Llywodraeth Cymru 
Caerdydd 
CF10 3NQ

E-bost: plastiguntro@llyw.cymru

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt er mwyn prosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch sut maent yn arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb y byddwch yn ei anfon atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â nhw, neu staff sy'n cynllunio ymgyngoriadau yn y dyfodol. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i ddadansoddi mwy ar ymatebion i ymgyngoriadau, mae’n bosibl y bydd trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwnnw. Bydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud o dan gontract yn unig. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn pennu gofynion llym ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae'n bosibl y byddwn hefyd yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni’n ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.

Dylech fod yn ymwybodol hefyd o’r cyfrifoldebau sydd arnom o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os bydd eich manylion yn cael eu cyhoeddi yn yr ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau a gyhoeddir yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Bydd unrhyw ddata a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am gyfnod heb fod yn fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru    
Parc Cathays
CAERDYDD 
CF10 3NQ

e-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru 

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 
0303 123 1113

Atodiad 1: ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad

Eich enw:    
Sefydliad (os yw'n berthnasol):
Eich cyfeiriad e-bost/rhif ffôn:
Eich cyfeiriad:

Cwestiwn 1

A ydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig i ddefnyddio cosbau ariannol penodedig? Rhowch y rhesymau dros eich ateb. 

Cwestiwn 2

Os defnyddir cosbau ariannol penodedig, rydym yn cynnig y dylid pennu swm o £200. A ydych yn cytuno neu'n anghytuno â’r swm hwnnw?

Mae ymatebion i ymgyngoriadau’n debygol o gael eu cyhoeddi, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad.    

Pe byddai’n well gennych i’ch ymateb fod yn ddienw, nodwch hynny yma: Byddai/Na fyddai 

Os hoffech gael copi papur o'r ddogfen ymgynghori a/neu’r ffurflen ymateb, anfonwch e-bost at singleuseplasticbill@llyw.cymru neu ysgrifennwch at:

Is-adran Diogelu’r Amgylchedd 
Llywodraeth Cymru 
Caerdydd 
CF10 3NQ    

Anfonwch eich ateb i singleuseplasticbill@llyw.cymru neu i'r cyfeiriad uchod erbyn 04 Hydref 2023.