Neidio i'r prif gynnwy

Aethom ati i wella'r cyfleusterau yng ngorsaf y Rhyl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Aethom ati i wella'r orsaf, gan gynnwys:

  • ad-drefnu'r cyfleusterau yn yr orsaf
  • adnewyddu'r swyddfa docynnau, gan gynnwys mannau aros newydd, system gwybodaeth i gwsmeriaid a chyfleusterau hygyrch
  • adnewyddu'r toiledau
  • goleuadau, lloriau, systemau gwresogi, pŵer ac awyru newydd, teledu cylch cyfyng newydd a system gwybodaeth i gwsmeriaid
  • gwella wynebau'r platfform
  • gwella mynediad i'r platfform drwy adnewyddu'r bont droed
  • gwella'r canopi dros y fynedfa ac atgyweirio colofnau'r canopi
  • adnewyddu'r lifft (ariannwyd gan Network Rail).

Hynt y gwaith

Cwblhawyd y gwaith dylunio yn hydref 2015.

Ariannwyd y cynllun yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

European Regional Development Fund logo