Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi y bydd rheolau'r coronafeirws yn cael eu tynhau mewn pedwar awdurdod lleol arall yng Nghymru – Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd – yn dilyn cynnydd sydyn yn nifer yr achosion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw'r mesurau newydd i rym am 6pm ddydd Mawrth 22 Medi 2020 i ddiogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y feirws yn ardaloedd y pedwar awdurdod lleol hyn.

Bydd y cyfyngiadau newydd yn berthnasol i bawb sy'n byw ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd:

  • Ni fydd pobl yn cael mynd i mewn i'r ardaloedd hyn na'u gadael heb esgus rhesymol, fel teithio i’r gwaith neu i dderbyn addysg
  • Dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn cael cwrdd â phobl nad ydynt yn byw gyda nhw. Ni fyddant yn cael ffurfio aelwyd estynedig, na bod yn rhan o aelwyd estynedig
  • Bydd rhaid i bob eiddo trwyddedig gau am 11pm
  • Bydd rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do – fel yng ngweddill Cymru.

O 6pm ddydd Mawrth 22 Medi ymlaen, bydd y gofyniad i bob eiddo trwyddedig gau am 11pm yn cael ei estyn i fwrdeistref Caerffili yn ogystal.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething:

"Ar ôl y penderfyniad i osod cyfyngiadau coronafeirws ychwanegol yng Nghaerffili a Rhondda Cynon Taf, rydym wedi gweld cynnydd pryderus a chyflym yn nifer yr achosion mewn pedair ardal yn y De – Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd.

"Mae'r rhan fwyaf o achosion yn gysylltiedig â phobl yn cymdeithasu o dan do heb gadw pellter cymdeithasol. Rydym yn gweld tystiolaeth bod y coronafeirws yn lledaenu ac mae angen inni weithredu er mwyn rheoli ac, yn y pen draw, leihau ei ledaeniad a diogelu iechyd pobl.

"Mae cyflwyno cyfyngiadau bob amser yn benderfyniad anodd ond nid yw'r coronafeirws wedi diflannu – mae'n dal i gylchredeg mewn cymunedau ledled Cymru ac, fel rydym yn ei weld mewn rhannau o'r De, gall clystyrau bach arwain yn gyflym at anawsterau gwirioneddol mewn cymunedau lleol.

"Mae angen cymorth pawb arnom i reoli'r coronafeirws. Mae angen i bawb gyd-dynnu a dilyn y mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i'ch diogelu chi a'ch anwyliaid.”

Mae'r cyfyngiadau yn cael eu cyflwyno yn sgil cynnydd sydyn yn nifer yr achosion o'r coronafeirws sydd wedi'u cadarnhau. Mae’r cynnydd yn gysylltiedig â phobl yn cwrdd o dan do, pobl nad ydynt yn dilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol a phobl yn dychwelyd o wyliau haf tramor.

Bydd Llywodraeth Cymru yn galw cyfarfod brys o'r holl awdurdodau lleol, byrddau iechyd a heddluoedd o Pen-y-bont ar Ogwr i'r ffin â Lloegr yfory i drafod y sefyllfa ehangach yn y De ac i ystyried a oes angen mesurau pellach ar draws y rhanbarth i ddiogelu iechyd pobl.

Bydd y cyfyngiadau lleol newydd yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Byddant yn cael eu gorfodi gan awdurdodau lleol a'r heddlu.

Dyma’r camau i’w dilyn i Ddiogelu Cymru:

  • Cadw'ch pellter bob amser
  • Golchi'ch dwylo'n rheolaidd
  • Gweithio gartref pan allwch chi
  • Dilyn unrhyw gyfyngiadau lleol
  • Dilyn y rheolau ynghylch cwrdd â phobl 
  • Aros gartref os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich aelwyd estynedig symptomau.