Canllaw i asiantau ac undebau ffermio ar osod rhif adnabod personol trydydd parti (PIN).
Cynnwys
Sylwer, rydym yn cyflwyno rhif adnabod personol (PIN) ar gyfer cyfrifon trydydd parti, er mwyn gwella diogelwch RPW Ar-lein ymhellach.
Bydd angen y PIN hwn bob tro y byddwch chi'n dewis Rhif Cyfeirnod Cwsmer o'ch rhestr cleientiaid.
Mae'r PIN yn unigryw i bob aelod unigol o staff asiant/undeb a rhaid iddo gael ei osod gan bob unigolyn cyn y gallant ddewis cleient am y tro cyntaf.
Gosod eich PIN
- os nad ydych wedi gosod PIN ac yn ceisio cyrchu cyfrif cwsmer, bydd neges yn ymddangos. CLICIWCH YMA
- ar y dudalen Rheoli Unigolion, dewiswch eich enw
- dewiswch y botwm glas 'Gosod PIN'
- rhowch a chadarnhewch eich PIN (rhaid i hwn fod yn god rhifol 4 digid)
- mae eich PIN bellach wedi'i osod
- dychwelyd i'r Dudalen Gartref. Bydd gofyn i chi nawr nodi'ch PIN ar gyfer pob cyfrif cwsmer rydych chi'n ei gyrchu.
Newid eich PIN
- dewis Tudalen Cartref Asiant
- dewiswch fanylion CRN, Rheoli Unigolion
- dewiswch eich enw
- dewiswch y botwm glas 'Newid PIN'
- rhowch eich PIN cyfredol ac yna Rhowch a Chadarnhau eich PIN newydd
- os ydych wedi anghofio eich PIN, dylech gysylltu â'ch gweinyddwr CRN all ei ailosod. Os byddwch yn anghofio eich PIN, gofynnir i chi greu un newydd pan fyddwch yn mewngofnodi nesaf
Ailosod PIN (gweinyddwyr yn unig)
- dewis Tudalen Cartref Asiant
- dewiswch fanylion CRN, Rheoli Unigolion
- dewiswch yr unigolyn sydd angen ailosod PIN
- dewiswch y botwm coch 'Ailosod PIN'
- rhowch eich PIN eich hun a chlicio Cadarnhau
- bydd yr unigolyn yn cael ei annog i greu PIN newydd pan fydd yn mewngofnodi nesaf
