Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn chwilio am syniadau ysbrydoledig fydd yn golygu bod gwaith celf, wedi’u hysbrydoli gan nifer o ffigurau hanesyddol Cymru, yn cael eu gosod yn rhai o safleoedd eiconig Cymru.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r gystadleuaeth i gynllunio ac adeiladu y ddau osodiad celfyddydol wedi ei chyhoeddi ar GwerthwchiGymru, y wefan y mae Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio i hysbysebu ei chyfleoedd caffael.  

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal gan wasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, Cadw. Bydd yn golygu cynllunio hyd at ddau ddiwrnod wedi’u hysbrydoli gan chwedlau o Gymru, a chan ddibynnu ar faint a math y cynllun, yn cael eu hadeiladu a’u gosod yn ystod Blwyddyn y Chwedlau.  

Gan weithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a Chroeso Cymru, bydd Cadw yn datgelu’r syniadau gorau yn y gwanwyn.  Bydd yr artist neu’r artisitiaid yna’n cynllunio, creu a gosod y tirnodau.  

Mae un gosodiad wedi ei warantu ar gyfer Castell Fflint fel rhan o waith gwella ar yr heneb hanesyddol ac eiconig hwn; gydag ail waith celf ar safle treftadaeth, yng ngofal Llywodraeth Cymru, i’w benderfynu ar sail cynigion ar gyfer y cysyniad.  

Mae Cymru yn wlad o olygfeydd dramatig.  O ddechrau hanes, mae pobl wedi ychwanegu storïau i’n tirwedd gwych; wedi adeiladu cestyll ac ymladd mewn brwydrau; wedi creu diwydiant, cymunedau ac ysbrydoli arloesedd; wedi creu arwyr yn y byd celfyddydol ac ym myd chwaraeon.  Mae Cymru yn wlad llawn hanes, ond sydd hefyd â diwylliant bywiog yr 21ain ganrif.   

Gan dderbyn ysbrydoliaeth o hyn, mae Cadw yn herio artistiaid i ddyfeisio ffyrdd creadigol o ddathlu chwedlau Cymru.  

Bydd Cadw yn chwilio am gynlluniau arloesol a gwreiddiol; fydd yn dod â threftadaeth Cymru’n fyw ac yn dal dychymyg pobl a’u hysbrydoli i ymweld â Chymru a’i safleoedd hanesyddol.

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:  

“Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd i ddod â safleoedd hanesyddol Cymru’n fyw.   Mae llwyddiant y gosodiad pabi yng Nghastell Caernarfon fis diwethaf wedi dangos bod awydd i weld gosodiadau anhygoel yn ein safleoedd treftadaeth.  Mae Blwyddyn y Chwedlau yn golygu dod â’r gorffennol yn fyw a chreu a dathlu chwedlau newydd o Gymru.  

Mae’r gosodiadau celf hyn yn enghraifft wych o sut y gellir dathlu ein safleoedd treftadaeth mewn ffordd newydd.  Rydym yn chwilio am syniadau fydd yn cael eu hystyried yn rhai neilltuol yn rhyngwladol fydd yn ysbrydoli pobl i ymweld â Chymru.  Byddwn yn canolbwyntio ar brosiectau dewr, creadigol ac arloesol.”  

Mae’r contract ar gael ar y ddolen hon GwerthwchiGymru (dolen allanol). Y dyddiad cau ar gyfer cam cyntaf y broses o wneud cais yw 20 Rhagfyr.