Gost Oes Gyfan (COG)
Defnyddio cost oes gyfan wrth brynu cerbydau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Cost Oes Gyfan (COG), a elwir weithiau yn Gyfanswm Cost Perchnogaeth (CCP), yw’r gost gronnus o weithredu a bod yn berchen ar ddarn o offer drwy gydol ei gylch oes. Yn ogystal â chostau cyfalaf cychwynnol y caffaeliad, boed hynny drwy brynu neu lesio, mae hefyd yn cynnwys y costau gweithredol parhaus sy’n gysylltiedig â’i ddefnyddio.
Gall trosglwyddo i broses o wneud penderfyniadau sy’n ystyried COG ased fod yn newid sylweddol mewn ymddygiad, er hynny, mae’n gam hanfodol tuag at fabwysiadu system gynaliadwy. Yn nodweddiadol, mae dewisiadau sy’n fwy cynaliadwy, ni waeth a ydynt wedi eu gwneud o ddeunyddiau moesegol, yn defnyddio llai o ynni, neu’n cynnwys cydrannau y gellir eu hamnewid a’u hatgyweirio, yn gyffredinol yn golygu pris uwch ymlaen llaw, ond maent yn cynnig costau gweithredol llai dros eu hoes.
Er enghraifft, wrth ddewis peiriant golchi newydd, gallai dewis mwy cynaliadwy ddefnyddio llai o ddŵr ac ynni fesul cylch, gan gynnig yr un perfformiad neu berfformiad gwell gyda chostau rhedeg is. Fodd bynnag, mae’r model hwn yn debygol o ddwyn pris prynu cychwynnol uwch o’i gymharu â pheiriant golchi cyfatebol sy’n llai effeithlon. Mae dadansoddiad COG yn caniatáu inni gyfrifo nifer y golchiadau sydd eu hangen i adfer y gwahaniaeth mewn cost prynu, gan roi syniad clir a ellir cyfiawnhau’r buddsoddiad dros fywyd gweithredol disgwyliedig y peiriant.
Mae’n hollbwysig nodi, er bod COG yn canolbwyntio’n gynhenid ar fetrigau cost, nad yw’n rhoi cyfrif yn gynhenid am ystyriaethau amgylcheddol. Mae’n bosibl cynnwys pris cysgodol am garbon yn y cyfrifiad COG, a gall hyn ychwanegu elfen o asesu’r effaith amgylcheddol i benderfyniadau caffael (ceir rhagor o wybodaeth yn ein nodyn cyngor technegol Rhoi gwerth ar garbon). Mae hyn yn galluogi gwerthusiad ehangach o bryniannau, gan ystyried eu goblygiadau ariannol a’u hôl troed amgylcheddol.
Pwysigrwydd cost oes gyfan
Yn y gorffennol, pan oedd y dewis o gerbydau rhwng modelau diesel a phetrol i raddau helaeth, roedd penderfyniadau prynu yn dibynnu ar y gost ymlaen llaw o brynu neu lesio, gan nad oedd fawr o wahaniaeth rhwng costau gweithredol y modelau. Yn awr, gydag amrywiaeth o ddewisiadau gyriant ar gael, gan gynnwys cerbydau trydan batri, cerbydau nwy naturiol cywasgedig, a cherbydau trydan celloedd tanwydd, mae’n bwysig asesu costau’n gynhwysfawr, gan ystyried COG pob cerbyd yn unigol.
Ystyrier, er enghraifft, y gymhariaeth rhwng car petrol a cherbyd trydan batri. Er bod rhai modelau’n costio’r un peth, yn gyffredinol, mae’r cerbyd trydan batri yn dod gyda phris cychwynnol neu gost lesio uwch o’i gymharu â char petrol. Fodd bynnag, mae’n tueddu i fod yn rhatach ei redeg oherwydd costau ynni a chynnal a chadw is (llai o ddarnau symudol). Mae hyn yn golygu y bydd cymhariaeth COG rhwng car petrol a cherbyd trydan batri yn rhoi darlun ariannol gwahanol o’i gymharu â’r hyn a geir wrth ystyried prisiau prynu neu lesio yn unig. Hefyd, nid yw’r dirywiad mewn safonau allyriadau sy’n effeithio ar gerbydau petrol hŷn yn effeithio ar gerbydau trydan batri, ac mae hyn yn caniatáu iddynt bara’n hirach heb amharu ar ansawdd yr aer. Yn wir, gan fod y grid trydan yn datgarboneiddio, bydd yr allyriadau a achosir trwy ddefnyddio cerbydau trydan batri yn lleihau, heb fod angen newid y cerbyd mewn unrhyw ffordd.
Mae symud i fframwaith COG ar gyfer prynu cerbydau yn galw am newid mewn ymddygiad yn ogystal â chyllidebu. Mae cyllidebau cerbydau traddodiadol yn cael eu strwythuro yn aml o amgylch costau cychwynnol isel ond costau rhedeg blynyddol sy’n uchel. Mewn cyferbyniad, byddai mabwysiadu cerbydau trydan batri yn golygu cynllunio ar gyfer costau cychwynnol uwch ond gan fwynhau costau gweithredol is yn yr hirdymor. Efallai y bydd yn cymryd ychydig flynyddoedd i fuddion y costau rhedeg is hyn ddod yn amlwg ar draws fflyd gyfan.
Cyfrifo cost oes gyfan
Mae angen i gyfrifiadau COG fod yn seiliedig ar yr amser y bydd cerbyd yn cael ei gadw ar fflyd, a’r nifer milltiroedd disgwyliedig dros y cyfnod hwnnw. Rydym wedi crynhoi’r elfennau y mae angen rhoi cyfrif amdanynt mewn dadansoddiad COG ar gyfer cerbyd.
Cost prynu
Wrth brynu, gyda gostyngiadau a chynlluniau amrywiol sydd ar gael, gallai’r pris prynu gwirioneddol a delir fod yn wahanol i’r hyn sydd mewn rhestr brisiau.
Gwerth ailwerthu a dibrisiant
Wrth brynu, y gwahaniaeth rhwng y gost o brynu a’r gost ailwerthu a ragwelir ar ddiwedd y cyfnod perchnogaeth yw’r dibrisiant.
Rhent lesio
Wrth lesio, dylid cynnwys unrhyw swm blaendal a delir ymlaen llaw.
Treth car
Fe’i gelwir hefyd yn dreth cerbyd, bydd yn cael ei chynnwys mewn rhent lesio.
Tanwydd/trydan
Y costau tanwydd neu drydan a ddisgwylir dros gyfanswm y nifer milltiroedd drwy gydol oes y cerbyd.
Cynnal a chadw
Gellid cynnwys cost gwasanaethu, atgyweiriadau, cynnal a chadw a theiars mewn rhent lesio.
Trethiant
Bydd lefel y dreth yn dibynnu ar a yw’n gerbyd busnes neu bersonol, ac os yw’n gerbyd busnes, a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer milltiroedd preifat hefyd. Gall costau eraill sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth gynnwys tollau ffyrdd, taliadau tagfeydd, neu daliadau aer glân a pharth allyriadau isel. Bydd costau yswiriant hefyd.
Mae’r tabl canlynol yn cyflwyno enghraifft weithiedig ar gyfer car bach, gan gymharu petrol â batri trydan dros gyfnod prynu o wyth mlynedd a chan yrru 10,000 o filltiroedd y flwyddyn, gan ddechrau yn 2025. At ddibenion esbonio yn unig y mae’r costau. Oherwydd bod cerbydau trydan batri yn symlach a bod ganddynt lai o gydrannau na cherbydau peiriant tanio mewnol, bydd y costau cynnal a chadw oes gyfan yn is, fodd bynnag, efallai y bydd cost teiars ychydig yn uwch oherwydd traul.
| Elfen Cost Oes Gyfan | Car cefn codi bach: petrol | Car cefn codi bach: trydan |
|---|---|---|
| Oes perchenogaeth | 8 mlynedd | 8 mlynedd |
| Milltiroedd blynyddol | 10,000 milltir/blwyddyn | 10,000 milltir/blwyddyn |
| Cost prynu | £23,500 | £29,500 |
| Pris ailwerthu | £5,000 | £8,000 |
| Costau Cyfalaf | £18,500 Gyfanswm Cost Perchnogaeth | £21,500 Gyfanswm Cost Perchnogaeth |
| Cost yswiriant | £600 y flwyddyn - £4,800 Gyfanswm Cost Perchnogaeth | £700 y flwyddyn - £5,600 Gyfanswm Cost Perchnogaeth |
| Cost cynnal a chadw | £800 Gyfanswm Cost Perchnogaeth | £600 Gyfanswm Cost Perchnogaeth |
| Trethiant (Treth car) | £270 (Ar gyfer cerbyd gydag allyriadau rhwng 76-90 gCO2/km y mae’r gwerth hwn) + £195 y flwyddyn £1,635 Gyfanswm Cost Perchnogaeth | £10 + £195 y flwyddyn £1,365 Gyfanswm Cost Perchnogaeth |
| Math o danwydd | Petrol | Trydan |
| Cost tanwydd | £1.35/litr | £0.28/cilowat-awr |
| Effeithlonrwydd ynni | 45 milltir/galwyn | 4 milltir/cilowat-awr |
| Y defnydd o danwydd/ynni | 1010 litr/blwyddyn | 2,500 cilowat-awr/blwyddyn |
| Cost tanwydd/ynni | £1,364 y flwyddyn £10,908 Gyfanswm Cost Perchnogaeth | £700 y flwyddyn £5,600 Gyfanswm Cost Perchnogaeth |
| Cost oes gyfan | £36,643 | £34,065 |
Yn yr enghraifft waith hon, nid ydym wedi rhoi cyfrif am unrhyw newidiadau mewn prisiau yn y dyfodol, megis chwyddiant, newidiadau i brisiau tanwydd/trydan, na newidiadau milltiroedd. Mae’n anodd iawn rhagweld sut y bydd rhai o’r costau hyn yn newid yn y dyfodol, oherwydd y gall prisiau amrywio gan ddibynnu ar y cyflenwad a’r galw, newidiadau mewn deddfwriaeth, a gwleidyddiaeth genedlaethol neu ryngwladol. Gall eich sefydliad wella’r sicrwydd ynghylch pris trydan drwy osod eich system solar ffotofoltäig eich hun. Mae prisiau olew yn debygol o aros yn gyfnewidiol oherwydd y systemau masnachu sydd ar waith yn fyd-eang. Wrth amcangyfrif costau dros gyfnod hir, mae ansicrwydd cynhenid na allwn ond ymateb iddynt â’r wybodaeth orau sydd ar gael ar y pryd. Yn aml, ystyrir peidio â chymryd unrhyw gamau fel y dewis cost isaf, oherwydd nad yw’n gofyn am gost ymlaen llaw yn gyffredinol. Fodd bynnag, pan fo’r dewis o beidio â chymryd unrhyw gamau yn arwain at gostau gweithredu uwch, gall arwain at COG uwch, a sefyllfa waeth yn gyffredinol.
Crynodeb
Mae defnyddio COG yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau wrth brynu yn rhan bwysig o symud i system fwy cynaliadwy, oherwydd gan amlaf bydd gan y dewis mwy cynaliadwy gost ymlaen llaw uwch ond costau rhedeg is, pan fo’r meddylfryd traddodiadol wedi canolbwyntio ar leihau’r costau ymlaen llaw. Gellir cymhwyso’r meddylfryd hwn i nifer o benderfyniadau prynu, boed mewn cyd-destun personol neu fusnes.
Yng nghyd-destun cerbydau, bydd hyfywedd darbodaeth cerbydau di-allyriadau yn dibynnu’n fawr ar nifer y milltiroedd a yrrir, ac am ba mor hir y cedwir y cerbyd. Gellir cadw cerbydau trydan batri yn hirach, gyda chostau rhedeg is, ond bydd angen i’ch sefydliad benderfynu yn ymwybodol fod y newid hwn yn dderbyniol. Mae sefydlu ymddygiad sy’n seiliedig ar feddwl yn yr hirdymor, megis defnyddio COG ar gyfer penderfyniadau prynu, yn rhan hanfodol o’r newid system sydd ei angen i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
