Neidio i'r prif gynnwy

Yn ôl ystadegau newydd sydd wedi’u cyhoeddi heddiw ynghylch gofal llygaid mae nifer y bobl sydd newydd gael eu hardystio fel pobl sydd â nam ar eu golwg wedi gostwng dros y tair blynedd diwethaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Vaughan Gething:

“Calondid yw gweld gostyngiad o 15 y cant yn nifer y bobl sydd â nam newydd ar y golwg yng Nghymru.  Am fod poblogaeth Cymru’n heneiddio a’i hanghenion iechyd yn rhai cymhleth roeddem yn disgwyl gwneud cynnydd yn y ffigur hwnnw.  

“Rydym yn canfod cyflyrau’r llygaid yn gynt ac ,ynghyd â thriniaethau mwy newydd a mwy effeithiol, mae hyn yn helpu i sicrhau bod llai o bobl yn datblygu nam ar y golwg yng Nghymru.”  

Dywedodd Dr Barbara Ryan, y Prif Gynghorydd Optometrig:

“Cafwyd dros filiwn o ymgynghoriadau gofal llygaid y llynedd yn GIG Cymru, a gellir priodoli’r llwyddiant hwn i’n staff ymroddedig, a hynny mewn gofal sylfaenol ac eilaidd, sy’n gallu bod yn falch o’u hymdrechion.  

“Er hynny, gwyddom fod llawer mwy i’w wneud.  Gwyddom fod mwy o bobl nag erioed yn cael eu hatgyfeirio at offthalmolegwyr a bod gwaith i’w wneud i sicrhau bod pobl yn cael eu trin mewn ffordd amserol.  

“Rydym yn gweithio gyda byrddau iechyd, gweithwyr proffesiynol a grwpiau defnyddwyr i newid y ffordd rydym yn cyflwyno gofal offthalmig er mwyn parhau i leihau namau ataliadwy ar y golwg.”