Neidio i'r prif gynnwy

Mae perchenogion adeiladau cymunedol rhestredig ledled Cymru yn cael ymgeisio nawr am nawdd y Cynllun Grant Adeiladau Hanesyddol, meddai'r Gweinidog Diwylliant, yr Arglwydd Elis-Thomas.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r cynllun wedi helpu i achub adeiladau rhestredig mewn perygl, cyfrannu at waith adfywio ehangach a chynnig amrywiaeth o fuddiannau cymunedol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae'r Gweinidog Diwylliant yn galw ar berchenogion a gofalwyr adeiladau cymunedol hanesyddol cymwys i wneud cais. Dywedodd:

"Mae'n bleser mawr cael cyhoeddi ailagor y Grant Adeiladau Hanesyddol. Bydd croeso mawr i hyn mewn cymunedau ledled Cymru fydd yn elwa ar weld mwy o fuddsoddi yn yr adeiladau rhestredig bendigedig sydd gennym wrth garreg ein drws.
"Cefais y pleser yn ddiweddar o gael ymweld â Neuadd y Dref, Llantrisant a Thŷ Llanelly.  Mae'r ddau wedi cael help trwy'r grant a does dim dwywaith bod yr arian yn helpu i droi adeiladau hardd a hanesyddol bwysig yn gyfleusterau cymunedol ac yn asedau lleol.
"Mae Cadw wedi'i gwneud yn glir y dylai'r Grant barhau i ganolbwyntio ar ddod â'r buddiannau mwyaf i gymunedau, gyda'r cymunedau eu hunain yn cyfrannu trwy ymgyrchoedd codi arian torfol neu fodelau tebyg. Edrychir yn ffafriol ar gynlluniau fel hyn wrth benderfynu pa brosiectau i'w cefnogi, a da hynny. "Bydd union faint y grant yn dibynnu ar faint o geisiadau sy'n bodloni'r amodau, ond gallwch fod yn siŵr mod i am weld y cynllun yn helpu adeiladau rhestredig mewn cymaint o gymunedau ledled Cymru â phosib. Mae ein treftadaeth yn unigryw a dylid gofalu amdani a'i dathlu.  Mae'r Grant yn un ffordd arall y mae Cadw yn ei defnyddio i wneud hyn."