Grant ar gyfer gwaith ar raddfa fach: canllawiau
Canllawiau i awdurdodau lleol sy’n ceisio am gyllid grant ar gyfer gwaith ar raddfa fach i ymgymryd â chynlluniau lliniaru llifogydd llai.
Ar y dudalen hon
Paratowyd y canllawiau hyn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol. Eu diben yw darparu arweiniad wrth wneud cais am gyllid drwy'r Grant Gwaith Graddfa Fach.
Ar gyfer ymholiadau, cysylltwch â'r Tîm Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn Llywodraeth Cymru drwy anfon neges e-bost at:
RisgLlifogyddArfordirol@llyw.cymru
© Hawlfraint y Goron 2026
WG55206
ISBN digidol 978-1-80853-344-0
Cyflwyniad
Diben y Grant Gwaith Graddfa Fach yw galluogi Awdurdodau Lleol i gyflawni cynlluniau llai i liniaru llifogydd gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru.
Mae'r cyllid yn cefnogi prosiectau ledled Cymru i gyflawni ymyriadau wedi'u targedu sy'n lleihau'r perygl o lifogydd i gartrefi a chymunedau. Mae awdurdodau lleol yn dal i ystyried bod y grant yn werthfawr iawn, a phrofwyd ei fod yn fecanwaith effeithiol ar gyfer lleihau risgiau mewn modd ystyrlon a sicrhau manteision ehangach yn dilyn buddsoddiad cyfalaf cymharol fach.
Ar ôl cynnal gwerthusiad pellach o'r rhaglen ym mis Medi 2024, rhoddodd swyddogion newidiadau ar waith i gynyddu uchafswm y cyllid grant sydd ar gael i bob cynllun, yn ogystal â'r gost gymwys fesul eiddo. Mae'r newidiadau hyn yn sicrhau bod y rhaglen yn parhau i adlewyrchu pwysau chwyddiant ac yn dal i fod yn hyfyw i awdurdodau lleol.
Er gwaethaf eu maint cymharol fach, mae'r cynlluniau hyn yn aml yn darparu ystod o fanteision ehangach sy'n cyd-fynd â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), gan gynnwys y canlynol:
- Gwelliannau i strwythurau draenio i'w galluogi i wrthsefyll newid hinsawdd yn well;
- Cymunedau diogel sydd â chysylltiadau da, gwella mynediad i ysbyty, cartref gofal, a busnesau;
- Sicrhau nad yw llifogydd/erydu arfordirol yn effeithio'n andwyol ar fusnesau, gan gynnal cyflogaeth;
- Gwaith meithrin ymwybyddiaeth gyda thrigolion, gan ddarparu gwybodaeth am lefelau afonydd a rhybuddion llifogydd;
- Cymru iachach, drwy leihau gorbryder sy'n effaith gyffredin ymhlith pobl sydd wedi cael profiad o lifogydd;
- Defnyddio deunyddiau lleol i wneud gwaith;
- Defnyddio contractwyr lleol, llai i wneud gwaith, sy'n helpu i ddatblygu gweithwyr lleol ac a allai gefnogi'r Gymraeg yn anuniongyrchol; a
- Defnyddio cynllunwyr mewnol i leihau costau a meithrin sgiliau o fewn awdurdodau lleol.
Meini prawf cymhwystra:
Yn yr un modd â phrif grant cyfalaf Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM) Llywodraeth Cymru, ac yn unol â'n Strategaeth Genedlaethol, rhaid i'r gwaith arfaethedig leihau'r risgiau i bobl ac eiddo neu gynnal eu lefelau presennol o amddiffyniad.
Dylai Grant Gwaith Graddfa Fach ganolbwyntio ar fynd i'r afael â phroblem sy'n ymwneud â pherygl llifogydd neu erydu arfordirol pan fo achos cadarn dros y gwaith arfaethedig ac nad oes yna opsiynau ymarferol eraill. Mae angen i'r gwaith ddod â budd economaidd a bodloni'r holl ofynion statudol angenrheidiol. Bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol ddangos gwerth am arian wrth gyflawni'r gwaith.
Gwneir penderfyniadau cyllido yn seiliedig ar flaenoriaethu cynlluniau yn ôl y manteision y byddan nhw'n eu darparu, ac ariennir cynifer o gynlluniau ag y bydd y gyllideb yn eu caniatáu.
Bydd cyllid grant yn cael ei ddyfarnu yn unol â'r cyfraddau grant cyfredol ar gyfer y Rhaglen FCERM, fel yr amlinellir yn y Memorandwm Grantiau.
Rhaid ymgymryd â'r gwaith, ei gwblhau a hawlio'r grant o fewn y flwyddyn ariannol y dyfernir cyllid i'r cynllun.
Mae'r rhestr isod yn darparu enghreifftiau o'r mathau o waith FCERM a fyddai'n gymwys; fodd bynnag, os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch cymhwystra, trafodwch â Thîm Llifogydd Llywodraeth Cymru:
- Gwaith ar raddfa fach i'r seilwaith presennol sy'n rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, ee gwella sgriniau brigau/cefnfuriau, ail-leinio cwlfertau, adfer systemau draenio, gwaith adnewyddu strwythurol pan fo eiddo yn elwa arno.
- Gwaith ar raddfa fach i adeiladu seilwaith draenio ac amddiffyn newydd pan fo eiddo yn elwa arno.
- Cynlluniau Amddiffyn ar Lefel Eiddo – dylid eu gweithredu ar sail gymunedol a rhaid eu darparu a'u gosod*. Ni fyddai cynllun ar gyfer busnesau yn unig yn gymwys.
- Telemetreg.
- Gwaith Rheoli Llifogydd yn Naturiol (pan fo costau wedi'u cyfalafu).
*Mae llawer o gynlluniau Amddiffyn ar Lefel Eiddo a gyflwynwyd yn flaenorol wedi bod yn destun oedi. Gall hyn fod oherwydd materion fel sicrhau mynediad i gynnal arolygon, caffael cynhyrchion a gosodwyr, ac ymgysylltu â nifer o drydydd partïon (tenantiaid, perchnogion preifat, landlordiaid, adrannau tai). Rhaid i'r awdurdodau lleol ddangos eu bod yn cydnabod y risgiau sy'n gysylltiedig â'r mathau hyn o gynlluniau ac yn gallu eu rheoli.
Gwaith nad yw'n gymwys i gael cyllid:
- Cynlluniau nad ydynt ond yn lleihau'r risgiau i ffyrdd neu seilwaith arall. Yn unol â'n Strategaeth Genedlaethol, rhaid bod yna fanteision i gartrefi a busnesau; fodd bynnag, gallai lleihau'r risgiau i ffyrdd a seilwaith fod yn un o fanteision ehangach cynllun.
- Gwaith refeniw, ee meithrin ymwybyddiaeth – dylid ariannu gwaith o'r fath drwy grant refeniw FCERM.
- Cynlluniau sy'n costio dros £300,000 (ac eithrio costau dylunio 'suddedig' os ydynt yn cael eu cynnal fel rhan o'r cam dylunio drwy raglen y Grant Gwaith Graddfa Fach).
- Cynlluniau a fydd yn para mwy nag un flwyddyn ariannol, oni ddilynir y dull "Dylunio'r Cynllun" fel y manylir isod.
- Cynlluniau y bwriedir iddynt fynd i'r afael ag erydiad afonydd pan fo tirfeddiannwyr glannau'r afonydd yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb.
- Costau sy'n gysylltiedig ag ymateb i lifogydd neu adfer ar ôl llifogydd, ee bagiau tywod, galw ar staff i weithio ar frys pan fo llifogydd, gwaith glanhau ac ati.
- Gwaith i seilwaith nad yw'n ymwneud â FCERM.
Dylunio'r cynllun
Gall gwneud gwaith dylunio ymlaen llaw roi gwell syniad o gostau'r cynllun ac yn y pen draw sicrhau cynllun gwell, felly rydym yn fodlon ystyried ceisiadau ar gyfer elfen ddylunio cynllun Grant Gwaith Graddfa Fach yn unig yn achos cynllun yr ydych yn bwriadu ei adeiladu y flwyddyn ariannol ganlynol. Wrth gytuno ar gyllid ar gyfer costau dylunio y mae angen eu cwblhau yn ystod y flwyddyn ariannol, byddwch yn ymwybodol o'r canlynol:
- Os gellir cwblhau'r elfennau dylunio ac adeiladu o fewn un flwyddyn ariannol, dylid cynnwys y ddau gam yn yr un cais. Os nad yw hyn yn bosibl, dylid gwneud cais ar wahân ar gyfer y cam adeiladu mewn blwyddyn ariannol ddiweddarach. Rhaid gwneud hyn o fewn dwy flynedd ar ôl cwblhau'r cam dylunio.
- Os na fydd y cynllun yn symud yn ei flaen i'r cam adeiladu o fewn dwy flynedd ar ôl cwblhau'r gwaith dylunio, rydym yn cadw'r hawl i gymryd y cyllid a fydd wedi’i ddarparu ar gyfer y cam hwnnw yn ôl.
- Nid oes gwarant y bydd y cyllid ar gael mewn blwyddyn ariannol ddiweddarach ar gyfer y cam adeiladu.
- Rhaid i'r costau dylunio ac adeiladu gyda'i gilydd fod yn llai na £300,000 mewn un flwyddyn ariannol (ac eithrio costau dylunio 'suddedig' os gwneir hynny mewn blwyddyn flaenorol fel rhan o'r cam dylunio drwy raglen y Grant Gwaith Graddfa Fach).
- Dylid cwblhau gwaith dylunio yn unig o fewn un flwyddyn ariannol ac mae wedi'i gyfyngu i £50,000. Gellir ystyried y costau hyn yn gostau 'suddedig' ac nid ydynt yn ystyriaeth o fewn costau cyffredinol y cam adeiladu dilynol.
- Mae yna gyfyngiad o gyfanswm o £300,000 yn achos gwaith adeiladu mewn un flwyddyn neu gynlluniau dylunio ac adeiladu mewn un flwyddyn.
Sut i wneud cais:
Gwahoddir awdurdodau lleol i gyflwyno cais mynegi diddordeb drwy system Taliadau Gwledig Cymru yn achos cynlluniau unigol sy'n werth hyd at uchafswm o £50,000 ar gyfer gwaith dylunio yn unig, neu £300,000 ar gyfer gwaith dylunio a/neu waith adeiladu mewn un flwyddyn, a hynny fesul cynllun. Caiff awdurdodau lleol gyflwyno nifer o geisiadau am gynlluniau y gellir eu cwblhau yn ystod y flwyddyn ariannol. Dylid cyflwyno un ffurflen gais i fynegi diddordeb ar gyfer pob cynllun.
Rhaid i awdurdodau lleol nodi trefn flaenoriaeth pan fyddant yn cyflwyno nifer o geisiadau. Os na ddarperir y drefn flaenoriaeth, bydd y tîm FCERM yn blaenoriaethu cynlluniau yn seiliedig ar y manteision mwyaf i eiddo. Nid oes gwarant y bydd cynlluniau'n cael eu hariannu, a bydd yn dibynnu ar fforddiadwyedd.
Ni chaiff cyllid a ddyfernir ei gario ymlaen i'r flwyddyn ariannol ganlynol, a dylid ystyried hyn wrth gyflwyno ceisiadau, yn enwedig ar gyfer unrhyw gynigion sy'n ymwneud â gwaith o fewn cyrsiau dŵr. Os bydd oedi ac na fydd modd cwblhau cynllun erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, bydd y cyllid a ddyfernir yn cael ei golli, ac nid oes sicrwydd y bydd cyllid ar gael ar gyfer y cynllun yn y dyfodol.
Bydd ceisiadau a ddaw i law yn cael eu blaenoriaethu drwy ystyried y ffactorau canlynol:
- Tystiolaeth o lifogydd go iawn neu lifogydd a fu bron â digwydd.
- Cyfanswm y cartrefi a fydd yn elwa arno (rhoddir blaenoriaeth i gynlluniau sy'n cynnwys 2 gartref neu ragor).
- Amcangyfrif o’r gost fesul cartref.
- Manteision ehangach.
Rhaid i gynlluniau ddangos gwerth da am arian cyhoeddus, felly os bydd cost cynllun yn fwy na £60,000 fesul cartref, neu os bydd llai na dau eiddo yn elwa arno, ni fydd yn cael ei flaenoriaethu.
Gwahoddir ceisiadau mynegi diddordeb unwaith y flwyddyn, a hynny fel arfer cyn dechrau'r flwyddyn ariannol nesaf er mwyn caniatáu i gontractau grantiau gael eu dyfarnu o ddiwrnod cyntaf y flwyddyn ariannol newydd. O dan amgylchiadau eithriadol gellir ystyried ceisiadau am grant i gefnogi gwaith ar raddfa fach sy'n codi y tu allan i'r broses flynyddol o geisiadau mynegi diddordeb. Ystyrir pob cais fesul achos, yn dibynnu ar y cyllid fydd ar gael.
Mae'r broses ymgeisio symlach ar gyfer cynlluniau Grant Gwaith Graddfa Fach yn golygu bod cyllid llawn yn cael ei ddyfarnu cyn y camau dylunio ac adeiladu. Nid yw'n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu'r un dystiolaeth ag y byddent yn ei wneud ar gyfer prif grant cyfalaf FCERM cyn cytuno ar gyllid. Fodd bynnag, disgwylir i'r awdurdodau lleol gydymffurfio â phob cydsyniad a chymeradwyaeth statudol angenrheidiol wrth gyflawni'r cynlluniau hyn.
Manteision ehangach
Gall manteision ehangach, y tu hwnt i reoli perygl llifogydd, ddeillio o waith a ariennir gan y grant, a dylid eu hystyried fel rhan o'r broses ymgeisio. Er mai cynlluniau o natur fach yw'r rhain, mae yna fanteision ehangach y gellir eu cyflawni o hyd. Er enghraifft, defnyddio contractwyr lleol i gyflawni'r gwaith a meithrin eu sgiliau, gwneud gwaith ymgysylltu â thrigolion ac ysgolion, a chefnogi busnesau lleol.
Rhaid i bob corff cyhoeddus gydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'n hanfodol felly eich bod yn ystyried sut y mae'r gwaith arfaethedig yn cyfrannu at y nodau llesiant a'r egwyddorion datblygu cynaliadwy, ac yn rhoi tystiolaeth o hynny yn y ceisiadau.
Wrth wneud cais am gyllid, rhowch enghreifftiau penodol o sut y bydd y gwaith arfaethedig yn sicrhau manteision ehangach ac yn cyfrannu at y nodau llesiant.
Tystiolaeth i gefnogi ceisiadau
Er bod proses ymgeisio symlach yn achos mynegiant o ddiddordeb yn y Grant Gwaith Graddfa Fach, mae dal yn ofynnol ichi gyflwyno data a gwybodaeth berthnasol i gefnogi'r cais. Drwy gyflwyno'r dystiolaeth angenrheidiol ochr yn ochr â'r cais bydd yn helpu i sicrhau proses asesu effeithlon.
Dylai tystiolaeth a gyflwynir gyda’r ffurflenni cais mynegi diddordeb gynnwys y canlynol (pan fo hynny'n briodol):
- Mapiau sy'n dangos lleoliad y gwaith arfaethedig a'r eiddo a fydd yn elwa arno.
- Mapiau llifogydd, yn dangos risgiau.
- Adroddiadau adran 19.
- Lluniau/tystiolaeth o lifogydd yn y gorffennol a/neu fapiau anodedig sy'n dangos sut y digwyddodd llifogydd blaenorol (llwybrau llif ac ati).
- Lluniau o'r ardal y bydd y gwaith arfaethedig yn effeithio arni cyn dechrau ar y gwaith adeiladu.
- Cyfeiriad at Strategaethau Lleol Rheoli Perygl Llifogydd pan fo hynny'n briodol.
Gall methu â darparu tystiolaeth ddigonol arwain at oedi neu wrthod y cais.
Hawliadau a dogfennaeth ategol
Gofynnir am hawliadau ddwywaith y flwyddyn yn unol â'r amserlen ganlynol:
- Chwarter 1: Gorffennaf – Rhagolwg yn unig
- Chwarter 2: Hydref – Hawliad ac Adroddiad Cynnydd
- Chwarter 3: Ionawr – Rhagolwg yn unig
- Chwarter 4: Mawrth – Hawliad ac Adroddiad Cynnydd Terfynol
Ni dderbynnir unrhyw orchmynion amrywio i gynyddu gwerth y grant neu i estyn hyd y Grant Gwaith Graddfa Fach.
Er mwyn darparu rhywfaint o hyblygrwydd, bydd un dyfarniad grant yn cwmpasu sawl cynllun. Mae hyn yn caniatáu i gyllid gael ei ailddyrannu rhwng cynlluniau os bydd costau rhai ohonynt yn cynyddu ac eraill yn gostwng, hyd at werth y grant a ddyfarnwyd. Fodd bynnag, rhaid i werth bob cynllun unigol fod yn llai na £300,000 o hyd, a rhaid bod y gwaith yn cael ei gwblhau.
Mewn achosion lle nad yw cynllun yn mynd rhagddo mwyach, rhaid rhoi gwybod i dîm y rhaglen cyn ailddyrannu unrhyw gyllid i gynlluniau eraill. Mae hyn er mwyn sicrhau y gellir rheoli unrhyw gyllid nas defnyddir yn briodol a'i ddychwelyd, pan fo angen gwneud hynny.
Brandio
Lle bo’n briodol, dylai unrhyw waith sy’n cael ei ariannu drwy grantiau Llywodraeth Cymru gael ei frandio a dangos logo Llywodraeth Cymru. Mae costau sy’n gysylltiedig â brandio yn gymwys i gael grant. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch a yw plac yn briodol ar gyfer eich cynllun, cysylltwch â Changen FCERM Llywodraeth Cymru.
Gellir cael rhagor o wybodaeth a chanllawiau am frandio Llywodraeth Cymru gan Dîm Brandio Llywodraeth Cymru: YmholiadauBrandio@llyw.cymru
Gwybodaeth bellach/manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth am y Grant Gwaith Graddfa Fach, cysylltwch â'r Gangen
Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn: RisgLlifogyddArfordirol@llyw.cymru
