Agorodd cyfnod ymgeisio newydd am y Grant Brechu Moch Daear ar 10 Chwefror. Bydd y ffenestr yn parhau ar agor tan 10 Mawrth 2022.
Mae’r Grant Brechu Moch Daear yn cefnogi prosiectau i frechu moch daear rhag TB gawrtheg. Mae’r grant yn rhoi’r cyfle i:
- ffermwyr
- perchnogion tir
- sefydliadau eraill
yng Nghymru i wneud cais am gymorth ariannol. Mae hyd at £50,000 ar gael, bob blwyddyn, am y pedwar mlynedd nesaf. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn hyd at 50% o gostau cymwys brechu moch daear.
Mae’r grant yn berthnasol i brosiectau brechu a gyflawnir yn breifat y tu allan i’r Gŵyr. ‘Cefn Gwlad Solutions’ fydd yn parhau i gynnal y prosiect brechu o fewn y Gŵyr.
Y cyfnod ymgeisio
Bydd y cyfnod ymgeisio yn para o 10 Chwefror 2022 tan 10 Mawrth 2022. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu dechrau brechu o fis Mai 2022 ymlaen.
Sut i wneud cais
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu hoffech wneud cais am y grant, cysylltwch â:
Lydia Chambers Rheolwr Grant Brechu Moch Daear
Ebost: BovineTB@gov.wales
Ffôn: 03000 255494
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg
Rhagor o wybodaeth
Mae'r brechlyn hwn i chwistrellu moch daear ar gael i'w ddefnyddio'n breifat yng Nghymru gan unigolion wedi'u hachredu, eu hardystio a’u trwyddedu.
I gael gwybod sut i wneud cais am drwyddedau, ewch i'n tudalennau Cyfoeth Naturiol Cymru.