Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad: Cefnogi'r economi wledig a'r newid i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi ein hymrwymiad i barhau i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, i gymryd camau hefyd i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a helpu i wrth-droi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Rhoddir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig drwy fframwaith cymorth hyblyg, gyda chynlluniau – gan gynnwys y cynllun Grant Creu Coetir - yn cyflawni yn unol â’r themâu canlynol:

  • rheoli tir ar raddfa fferm
  • gwelliannau amgylcheddol ar ffermydd
  • effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd
  • rheoli tir ar raddfa tirwedd
  • coetiroedd a choedwigaeth
  • cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio

Nod y fframwaith yw cefnogi ffermwyr i weithredu fel ymateb i heriau a chyfleoedd, a llywio datblygiad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a fydd yn gwobrwyo ffermwyr am y gwaith y maent yn ei wneud ar hyn o bryd i leihau eu hôl troed carbon, gwella'r amgylchedd a chynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

Mae rhagor o wybodaeth am y themâu a'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gael yn: Rhwydwaith Gwledig Cymru (ar Busnes Cymru).

Adran A: cyflwyniad

Fel rhan o’n cynllun i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, mae angen i Gymru blannu 43,000 hectar o goetiroedd newydd erbyn 2030. Mae’r Grant Creu Coetir yn neilltuo arian ar gyfer gwireddu’r amcan hwn.

Mae’r Grant Creu Coetir yn cynnig arian i ffermwyr a rheolwyr tir i blannu coed a chodi ffensys a gatiau. Mae yna hefyd daliadau cynnal a chadw a phremiwm i sicrhau bod y coed yn cydio’n llwyddiannus.

Mae’r Grant Creu Coetir ar gael ar RPW Ar-lein i ffermwyr a pherchenogion tir sydd â phlan ar gyfer creu coetir gafodd ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru yn dilyn cais llwyddiannus i’r Cynllun Peilot Cynllunio Creu Coetir (WCPPS) neu’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir (WCPS).  Fe welwch wybodaeth ynghylch sut i wneud cais i’r cynllun Cynllunio Creu Coetir yn: Cynllun Cynllunio Creu Coetir: llyfryn rheolau.

Mae’r canllaw hwn yn disgrifio’r Grant Creu Coetir. Darllenwch e’n ofalus.  Os byddwch yn teimlo wedyn eich bod yn gymwys am gymorth y cynllun a’ch bod am wneud cais, darllenwch ‘Sut i Wneud Cais’ yn Adran E a’r llyfryn Sut i Lenwi.

Agorodd Ffenest 2 ar 13 Chwefror a chaeodd ar 22 Mai 2023 Bydd angen ichi fod wedi cynnal a hawlio’r gwaith plannu a’r gwaith cyfalaf rydych wedi’u dewis erbyn 31 Mawrth 2024.

Bydd Ffenest 3 yn agor ddydd Llun 24 Gorffennaf 2023 ac yn cau ar 15 Medi 2023.  Er mwyn gallu gwneud cais am Grant Creu Coetir erbyn 15 Medi, bydd angen i Lywodraeth Cymru gael cadarnhad o blan wedi'i ddilysu gan CNC erbyn 4 Medi 2023. Bydd angen cwblhau a hawlio gwaith plannu a chyfalaf a ddewisir erbyn 31 Mawrth 2024.

Rhaid plannu coetir cymeradwy ar o leiaf 0.25ha o dir ond nid oes uchafswm.

Mae arian ar gael ar gyfer pum categori o goetir a ffensys a gatiau.  

Mae cyllideb o £11.05m miliwn wedi’i dyrannu ar gyfer y ffenest ymgeisio hon.

Bydd angen i chi ystyried a oes yna goed ar gael ichi eu plannu wrth benderfynu a ddylech Ddatgan Diddordeb yn y Grant Creu Coetir.

Os byddwch yn ymgeisio am grant, rhaid ichi gwblhau’r gwaith plannu a chyfalaf newydd a hawlio ar yr holl waith cyfalaf ym mlwyddyn ariannol 2023/24 h.y. erbyn 31 Mawrth 2024. Ni fydd estyniadau'n cael eu rhoi y tu hwnt i 31 Mawrth 2024.

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Bydd coetir gaiff ei greu nawr yn cael cyfrannu at y 10% o orchudd coed a fydd yn amod o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar gyfer pob fferm. Rydym dal wrthi’n datblygu cyfraddau talu a modelau’r cynllun newydd ond ni fydd anfantais i ffermwyr sy’n dewis creu coetir cyn dechrau’r cynllun newydd. Rydym wrthi’n ystyried sut y gall ymgeiswyr drosglwyddo eu contract Grant Creu Coetir i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.

Adran B: pwy sy’n gymwys

I fod yn gymwys am Grant Creu Coetir, rhaid bodloni’r canlynol:

  • Bydd gennych Blan Creu Coetir sydd wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru o dan y Cynllun Cynllunio Creu Coetir neu’r Cynllun Peilot Cynllunio Creu Coetir ac sy’n cydymffurfio â Safonau Coedwigaeth y DU (UKFS)
  • Byddwch wedi cofrestru fel cwsmer gydag RPW ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN).
  • Byddwch yn ddeiliad tir cyhoeddus neu breifat neu’n gyngor neu’n gymdeithas, gan gynnwys grwpiau cymunedol sy'n plannu ar dir cyhoeddus. Rhaid bod gennych reolaeth lwyr ar y tir.
  • Bydd eich landlord wedi rhoi ei ganiatâd i chi ymuno â’r cynllun os ydych chi'n gwneud cais fel tenant.
  • Bydd landlordiaid yn cael gwneud cais am y grant os gallan nhw brofi bod ganddyn nhw reolaeth lwyr ar y tir. Ni fydd landlordiaid yn cael gwneud cais am arian ar unrhyw dir sydd, neu sydd wedi bod, yn destun anghydfod ynghylch ei denantiaeth yn y 12 mis diwethaf.

Pwy sy’n gymwys:

  • Dim ond darnau o dir sydd wedi’u cymeradwyo ar gyfer eu plannu a’u ffensio gan Lywodraeth Cymru o dan y Cynllun Cynllunio Creu Coetir neu’r Cynllun Peilot Cynllunio Creu Coetir fydd yn gymwys.
  • Rhaid i’r cais olygu plannu o leiaf 0.25ha o goetir cymeradwy.
  • Rhaid i’r cais gynnwys y gwaith ffensio sydd wedi’i gymeradwyo i sicrhau bod da byw yn cael eu cadw allan o’r safle plannu newydd.
  • Ni chaniateir newid safle plannu cymeradwy cyn gwneud cais am grant os gallai’r newid effeithio ar y safle sydd wedi’i gymeradwyo.
  • Os ydych ond yn plannu cyfran o’ch plan, rhaid i chi sicrhau bod y caeau sydd wedi'u cynnwys yn eich Datganiad o Ddiddordeb yn dal i gydymffurfio â manyleb yr Opsiwn hwnnw.  
  • Nid yw Adrannau’r Llywodraeth na’u hasiantau yn gymwys am daliad.

Newidiadau i'r Plan Cymeradwy

Os ydych am newid y plan sydd wedi’i gymeradwyo, rhaid i CNC gymeradwyo'r newid cyn i chi Ddatgan Diddordeb yn y Grant Creu Coetir. I wneud hyn, rhaid cyflwyno plan newydd i Daliadau Gwledig Cymru (RPW), a fydd yn ei anfon at CNC iddynt ei ddilysu. Bydd CNC yn rhoi gwybod i RPW am y canlyniad a bydd RPW yn hysbysu'r cwsmer. Rhaid i CNC roi gwybod i RPW eu bod wedi cymeradwyo’r plan cyn bod y ffenest yn agor er mwyn i’r plan allu cael ei ystyried ar gyfer y grant.

Gallwch gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer plannu coed a chodi ffens ar yr holl dir sydd wedi’i gymeradwyo ar eich Plan Creu Coetir, neu ar ran ohono’n unig, gan ddefnyddio RPW Ar-lein. Os nad ydych am blannu ar y plan cyfan, gallwch gynnwys rhan yn unig o’r plan yn eich Datganiad o Ddiddordeb. Ond rhaid dewis polygonau cyfan ar gyfer y gwaith plannu.

Adran C: tir mewn cynlluniau eraill

Glastir Uwch

Plannu yn ystod Contract Glastir Uwch byw

Os ydych am blannu’r coed cyn i'ch contract Glastir Uwch ddod i ben, ni chewch wneud hynny ar unrhyw ran o barsel yr ydych yn cynnal opsiwn rheoli ynddo. Dim ond yn y parseli sy’n weddill, nad oes opsiwn rheoli’n cael eu cynnal ynddyn nhw, y gallwch ystyried cynnig plannu o dan y Grant Creu Coetir.

Gallai gwneud gwaith sy’n mynd yn groes i gontract Glastir Uwch byw arwain at gosbi unrhyw daliadau sy’n cael eu hawlio o dan yr opsiwn hwnnw.

Plannu ar ôl i Gontract Glastir Uwch ddod i ben

Os ydych am blannu’r coed ar ôl i'ch contract Glastir Uwch ddod i ben, gallwch gynnwys y parsel cyfan yn eich Datganiad o Ddiddordeb er mwyn iddo gael ei sgorio a'i ystyried ar gyfer ei ddewis. Gofalwch nad yw’ch gwaith paratoi ar gyfer plannu’r coed yn niweidio opsiwn rheoli Glastir Uwch tra bo’r tir dan gontract Glastir Uwch. Os byddwch yn torri contract Glastir Uwch byw, cewch eich cosbi a gofynnir ichi dalu unrhyw arian sydd wedi’i dalu ichi o dan y cynllun Glastir Uwch yn ôl.

Glastir Organig a’r Cynllun Troi’n Organig

Os oes gennych dir o dan gontract Glastir Organig neu’r cynllun Troi’n Organig, gallwch ei gynnwys yn eich contract Grant Creu Coetir. Ond, rhaid gofyn trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein am ganiatâd i dynnu’r tir o'ch contract Glastir Organig neu Droi’n Organig. O gael caniatâd Llywodraeth Cymru, caiff y tir ei dynnu o’ch Contract Glastir Organig, a dim ond ar ôl gwneud hynny y cewch ddechrau plannu’r coed.

Tyfu er mwyn yr Amgylchedd

Os oes gennych dir o dan gontract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd, gallwch ei gynnwys yn eich  Grant Creu Coetir. Ond, rhaid gofyn trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein am ganiatâd i dynnu’r tir o'ch contract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd. O gael caniatâd Llywodraeth Cymru, caiff y tir ei dynnu o’ch contract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd, a dim ond ar ôl gwneud hynny y cewch ddechrau plannu’r coed.

Gwaith Cyfalaf a gafodd ei ariannu o’r blaen

Os yw'r Gwaith Cyfalaf wedi'i ariannu o’r blaen o dan unrhyw un o'r cynlluniau isod, nid yw'n gymwys am Grant Creu Coetir:

  • Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
  • holl gynlluniau Glastir

Cod Carbon Coetir (WCC)

Y WCC yw'r safon sicrhau ansawdd ar gyfer prosiectau creu coetiroedd yn y Deyrnas Unedig (DU) ac mae'n darparu unedau carbon sydd wedi cael eu dilysu'n annibynnol. Mae’r WCC yn ei gwneud yn ofynnol i’r rheini sy'n rhestru unedau carbon coetir ddangos bod y cyllid carbon y gofynnir amdano yn gyllid ychwanegol sy’n angenrheidiol ar gyfer y prosiect creu coetiroedd. Mae'r 'prawf ychwanegedd' hwn yn sicrhau nad fydd problem ariannu ddwywaith. Bydd y rheolau WCC yn newid ar 1 Hydref 2022.

Cofrestru gyda’r WCC yw'r cam cyntaf ar gyfer dilysu a chymeradwyo’r unedau carbon coetir a gynhyrchir gan eich cynllun, a bydd gofyn bodloni’r meini prawf gan gynnwys y prawf ychwanegedd. Mae'r cam cyntaf yn golygu cyfrif faint o garbon y bydd y prosiect yn ei ddal a’i storio dros ei oes. Cewch ragor o wybodaeth yn woodlandcarboncode.org.uk.

Adran D: y cyllid sydd ar gael ar gyfer y Grant Creu Coetir

Mae'r adran hon yn disgrifio’r taliadau sydd ar gael ar gyfer Gwaith Cyfalaf, gwaith Cynnal a Chadw a’r Premiwm:

Gwaith Cyfalaf

  • Grantiau Gwaith Cyfalaf ar gyfer plannu coed.
  • Mae taliadau gwaith cyfalaf ar gael ar gyfer gwaith ffensio sy'n bodloni'r fanyleb dechnegol. Telir £8.32/metr ar gyfer gwaith cyfalaf ffensio.
  • Gallwch wella’r ffens er mwyn cadw ceirw neu gwningod allan ar eich cost eich hun, ond rhaid i hyn fod yn ychwanegol at y ffens stoc safonol.
  • Gallwch wneud cais blynyddol am y taliadau cynnal a chadw a’r premiwm am gyfnod 12 mlynedd eich contract.  Bydd gofyn ichi eu hawlio drwy'ch Ffurflen Cais Sengl.

Categori Coetir, manylebau, a chyfraddau’r Grant Creu Coetir

Tabl 1

Categori’r Coetir
 

Rhif y
Gwaith
Cyfalaf

Manyleb

Taliad am Waith Plannu Newydd 
£ yr ha

Taliad Cynnal Blynyddol
£ yr ha

Premiwm
Blynyddol
£ yr ha

Coetir Cymysg Gwell

P004

  • O leiaf 5 prif rywogaeth (o leiaf 10% o bob un) 
  • O leiaf 25% yn llydanddail gan gynnwys llwyni prennaidd neu 30% os yw’r tir a blennir yn llai na’r terfyn amgáu mwyaf ac yn fwy na 30 hectar*
  • Hyd at 10% yn llwyni prennaidd 
  • Dim mwy na 50% yn un rhywogaeth 
  • Dwysedd stocio 2,500/ha
  • Cadw da byw allan
5,146 Gweler y tabl isod

350

Coetir Brodorol -
Carbon

P003

  • Cymysgedd rhywogaethau brodorol 
  • Dim mwy nag 20% yn llwyni prennaidd
  • Dwysedd stocio 2,500/ha
  • Cadw da byw allan
6,170 Gweler y tabl isod

350

Coetir Brodorol - Bioamrywiaeth
(1,600)

 

P002

  • Rhywogaethau brodorol – dylai’t cymysgedd fod yn gynhenid i’r safle a chydymffurfio â mathau Cynllun Gweithredu’r Cynefin (er enghraifft deri’r ucheldir, coed collddail cymysg llawr gwlad), ond gall amodau lleol ofyn am newid hyn.
  • Stoc plannu o dras addas *
  • Dim mwy nag 20% yn llwyni prennaidd
  • Plannu rhywogaethau’n glystyrau, gyda bylchau amrywiol
  • Dwysedd stocio 1,600/ha
  • Cadw da byw allan
4,550 Gweler y tabl isod

350

Coetir Brodorol – Bioamrywiaeth (1,100) P005
  • Rhywogaethau brodorol – dylai’r cymysgedd fod yn gynhenid i’r safle a chydymffurfio â mathau Cynllun Gweithredu’r Cynefin (er enghraifft deri’r ucheldir, coed collddail cymysg llawr gwlad), ond gall amodau lleol ofyn am newid hyn.
  • Stoc plannu o dras addas *
  • Dim mwy na 30% yn llwyni prennaidd
  • Plannu rhywogaethau’n glystyrau, gyda bylchau amrywiol
  • Dwysedd stocio 1,100/ha
  • Cadw da byw allan
3,302 Gweler y tabl isod 350

Amaeth-goedwigaeth - coed gwasgaredig

P001

  • 80 o goed yr hectar
  • Ffensio coed unigol
  • Ddim yn gymwys am daliad Premiwm

1,600

30
(5 mlynedd)

Dim

Ffensio postyn a weiar gyda netin

P595

Ffens Postyn a Weiar gyda Netin Stoc

8.32/metr

 

 

Gât safonol (metel) P590   £221.00    

Gât safonol (pren caled)

P599

 

£669.41

 

 

Gât safonol (pren meddal)

P600

 

£291.75

 

 

Cilbyst a Gât Ceffyl o Bren

P516

Gatiau i ganiatáu mynediad i gerddwyr a marchogwyr ar hyd hawliau tramwy cyhoeddus. Yn cydymffurfio â BS5709.

£220.83

 

 

Cilbyst a Gât Mochyn o Bren

P517

Gatiau mochyn i ganiatáu mynediad trwy ffiniau caeau ar hyd hawliau tramwy cyhoeddus. Yn cydymffurfio â BS5709.

£237.80

 

 

  • Os cafodd y prosiect ei ddewis ar gyfer y Cynllun Cynllunio Creu Coetir cyn 30 Awst 2022, bydd gofyn bod 25% o’r coed yn yr opsiwn Coetir Cymysg Gwell fod yn goed llydanddail, gan gynnwys llwyni prennaidd.
Cyfraddau cynnal a chadw am 12 mlynedd (ddim yn cynnwys Amaeth-goedwigaeth) – Taliad fesul Hectar

Bl1

Bl 2

Bl3

Bl4

Bl5

Bl6

Bl7

Bl8

Bl9

Bl10

Bl11

Bl12

£400

£300

£250

£70

£70

£70

£70

£70

£70

£70

£70

£70

Maint y safle plannu newydd

  • Yr arwynebedd lleiaf y cewch blannu coed arno o dan y Grant Creu Coetir yw 0.25ha. Gellir rhannu’r cyfanswm yn flociau o goed, dim un ohonyn nhw’n llai na 0.1ha.
  • Nid oes cyfyngiad o ran maint mwyaf y llain plannu newydd.

Cadw stoc allan

Ni chaniateir unrhyw dda byw ar y tir y byddwch yn plannu coetir newydd arno am oes y contract Grant Creu Coetir oni bai’ch bod yn dewis yr opsiwn amaeth-goedwigaeth.

Taliadau am baratoi tir a chwistrellu rhedyn

Ar gyfer ffenestri yn y dyfodol bydd opsiwn i hawlio hyd at 15% o gostau'r cynllun creu coetir pan fyddwch wedi paratoi’r tir a chwistrellu rhedyn. Gallai RPW archwilio’r gweithgareddau hyn cyn eich talu. Ond nid yw'r opsiwn hwn ar gael yn y ffenest ymgeisio hon.

Taliad Cynnal a Chadw

Caiff taliad Cynnal a Chadw blynyddol ei dalu gydol oes y contract ichi ar gyfer cynnal a chadw’r coetir newydd - gweler y tabl uchod. Mae hyn yn dechrau’n ddwys i gydnabod y costau uwch yn y blynyddoedd cynnar ar ôl plannu er mwyn darparu'r cyllid pan fo angen. Mae taliad ar gyfer y categori Amaeth-goedwigaeth am 5 mlynedd (£30/ha/blwyddyn) ac nid yw ar gael ar dir sy’n eiddo cyhoeddus.

I gael hawlio'r taliad Cynnal a Chadw, rhaid i chi gyflwyno SAF bob blwyddyn  trwy RPW Ar-lein a’i hawlio ar bob cae cymwys sydd wedi’i gynnwys yn eich contract.

Byddwch yn cael hawlio’ch taliad Cynnal a Chadw cyntaf yn y flwyddyn galendr lawn gyntaf ar ôl y flwyddyn hawlio. Y dyddiad cau bob blwyddyn ar gyfer cyflwyno SAF yw 15 Mai a rhaid gwneud ar RPW Ar-lein.

Mae'r gwaith cynnal a chadw yn cynnwys rheoli llystyfiant o amgylch y coed, plannu coed yn lle rhai marw ac archwilio’r coed yn rheolaidd.

Rydym yn disgwyl i chi gynnal y coed rydych chi wedi'u plannu yn unol ag arferion sefydlu coed canllaw plannu coed (ar Cyfoeth Naturiol Cymru).

Rhaid i chi ddiogelu’r coed rydych chi wedi’u plannu rhag difrod a chystadleuaeth gan chwyn, pryfed, plâu ac anifeiliaid pori, fel cwningod, ysgyfarnogod a da byw. Mae'r grant cynnal a chadw yn eich talu i chwynnu ac i blannu coed yn lle rhai marw. Pan fyddwn yn archwilio’ch coed, byddwn yn disgwyl iddyn nhw fod wedi cydio’n iawn. Dylid clirio’r chwyn o amgylch bôn pob coeden am dair blynedd yn dilyn hawlio’r Gwaith Cyfalaf ar gyfer plannu. Ni ddylai fod unrhyw ddifrod gan anifeiliaid sy’n pori dail na thystiolaeth bod y llain wedi cael ei defnyddio gan dda byw. Dylid plannu coed yn lle'r rhai sy'n methu.

Taliad Premiwm

Mae'r taliad Premiwm blynyddol yn daliad sy'n seiliedig ar arwynebedd i’ch digolledu am incwm a gollwyd am ichi roi'r gorau i gynhyrchu cynnyrch amaethyddol. Bydd taliad blynyddol o £350/ha ar gael am 12 mlynedd. Nid yw ar gael ar gyfer yr opsiwn Amaeth-goedwigaeth. 

I gael hawlio'r taliad Premiwm, rhaid i chi gyflwyno SAF bob blwyddyn erbyn 15 Mai trwy RPW Ar-lein a’i hawlio ar bob cae cymwys sydd wedi’i gynnwys yn eich contract.

Byddwch yn cael hawlio’ch Premiwm cyntaf yn y flwyddyn galendr lawn gyntaf ar ôl y flwyddyn hawlio. Y dyddiad cau bob blwyddyn ar gyfer cyflwyno SAF yw 15 Mai a rhaid gwneud ar RPW Ar-lein.

Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS)

Gall tir a blannwyd o dan y Grant Creu Coetir fod yn gymwys am y Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS), cyn belled â bod SPS (Cynllun Taliad Sengl) wedi’i hawlio ar y tir hwnnw yn 2008 a bod ymrwymiad arnoch o dan y contract i goedwigo'r tir. Os oes Taliadau Cynnal a Chadw a Phremiwm yn cael eu talu, bydd y tir yn parhau’n gymwys am y BPS.

Adran E: gwneud cais am y Grant Creu Coetir

Datgan Diddordeb

Nid oes angen defnyddio cynlluniwr coetir cofrestredig i Ddatgan Diddordeb. Ond, cewch ofyn i gynlluniwr coetir cofrestredig wneud cais ar eich rhan.

Rhaid Datgan Diddordeb yn y Grant Creu Coetir ar Daliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein. Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, fe ddylech fod wedi cael llythyr gyda’ch Cod Defnyddio arno ichi allu agor cyfrif. Os ydych wedi’i golli, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 (Llun – Iau 8:30am – 5.00pm, Gwener 8:30am – 4.30pm) a rhoi’ch CRN i’r cysylltydd. Caiff Cod Defnyddio newydd ei anfon atoch.

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen i chi gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein. Ewch i’r Canllaw Sut i Gofrestru  am ragor o wybodaeth. Mae modd gwneud y rhan fwyaf o unrhyw newidiadau sydd angen eu gwneud i fanylion eich busnes ar-lein. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen cysylltu â Llywodraeth Cymru i ddweud am unrhyw newidiadau mawr. Cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid am ragor o wybodaeth.

Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd gofyn iddo gofrestru fel asiant ar RPW.  Os nad yw wedi gwneud hyn eto, dylai gwblhau copi ar-lein neu gopi caled o’r ffurflen Manylion Cwsmer Asiant / Undeb Amaeth (Cymru) ar unwaith. Mae’r ffurflen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ar ôl derbyn y ffurflen, byddwn yn anfon Cyfeirnod Cwsmer Asiant a Chod Defnyddio RPW Ar-lein ato. Hefyd, bydd angen i chi lenwi Ffurflen Awdurdodi Cysylltiad ar ôl cofrestru gyda RPW Ar-lein. Darllenwch ein Canllaw Sut i Gofrestru.

Tynnu’ch Datganiad o Ddiddordeb yn ôl

Ar ôl Datgan Diddordeb yn y Grant Creu Coetir, a oes modd ei dynnu'n ôl?

  1. Oes – os yw’r ffenest Datgan Diddordeb dal ar agor

Gallwch dynnu’ch cais yn ôl trwy "Fy Negeseuon" yn eich cyfrif RPW Ar-lein; gallwch ail-gyflwyno’r cais cyn i'r ffenest gau.

  1. Oes - wedi i’r ffenest Datgan Diddordeb gau OND cyn i'r busnes gael y contract.

Gallwch dynnu’ch cais yn ôl trwy "Fy Negeseuon" yn eich cyfrif RPW Ar-lein. Daw’ch cyfle nesaf i Ddatgan Diddordeb yn y ffenest ymgeisio nesaf.

Cofiwch fod y broses ymgeisio'n un gystadleuol ac nad oes gwarant y byddwch yn llwyddiannus yn y rownd nesaf.

  1. Oes - ar ôl i’ch busnes gael ei ddewis a chynnig contract iddo.

Gallwch dynnu’ch cais yn ôl trwy "Fy Negeseuon" yn eich cyfrif RPW Ar-lein. Daw’ch cyfle nesaf i Ddatgan Diddordeb yn y ffenest ymgeisio nesaf.

Cofiwch fod y broses ymgeisio'n un gystadleuol ac nad oes gwarant y byddwch yn llwyddiannus yn y rownd nesaf.

Y Broses Ddewis

Cyfrifir y sgôr ar sail y caeau rydych wedi’u cynnwys yn eich Datganiad o Ddiddordeb  a’r sgôr a roddir ym mhob haen ddata o ran potensial y coetir a blennir ym mhob ardal i ddod â manteision i'r cyhoedd, fel dal carbon, atal llifogydd a gwella ansawdd aer. Fe welwch yr haenau data hyn yn y Map Cyfleoedd Coetir a chewch syniad faint o sgôr y bydd eich Datganiad o Ddiddordeb yn debygol o’i gael.

Os bydd gwerth y ceisiadau’n fwy na gwerth y gyllideb, y prosiectau cyfalaf sy'n sgorio uchaf fydd yn cael eu dewis. Cewch ragor o wybodaeth am y broses sgorio yn grant creu coetir.

Cynnig Contract

Os caiff eich Datganiad o Ddiddordeb ei ddewis, bydd contract yn cael ei gynnig i chi a bydd gennych 30 diwrnod i naill ai 'dderbyn' neu 'wrthod' y cynnig. 

Bydd y contract yn cynnwys:

  • tabl sy'n cadarnhau'r parseli tir, yr opsiynau plannu, a’r tir rydych am ei blannu a gafodd ei nodi ar eich Datganiad o Ddiddordeb a’i ddilysu gan Lywodraeth Cymru.
  • map ar ffurf shapefile o'r tir gafodd ei nodi a’i ddilysu ar y Datganiad o Ddiddordeb

Rhaid i chi beidio â dechrau unrhyw waith nes bod contract wedi’i gynnig i chi, h.y. peidiwch â dechrau paratoi’r tir, plannu coed na gwneud y gwaith ffensio rydych am hawlio grant ar ei gyfer.

Os byddwch yn gwrthod y cynnig, neu ddim yn ymateb i’r cynnig, caiff eich Datganiad o Ddiddordeb yn y Grant Creu Coetir ei dynnu'n ôl.

Os na chaiff eich Datganiad o Ddiddordeb ddewis,  rhoddir gwybod ichi trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein gyda'r rheswm pam na chawsoch eich dewis. 

Adran F: amodau’r grant

Daw’r grant Creu Coetir o dan amrywiaeth o ddeddfwriaeth (gweler Adran K). Rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd/derbynnydd weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth honno.

Mae’r contract Grant Creu Coetir yn cael ei gynnig yn unol â thelerau ac amodau a fydd yn cael eu nodi’n llawn yn eich contract, gan gynnwys y rheini sydd wedi’u nodi isod. Gallai peidio â chadw at amodau a thelerau’r contract arwain at ganslo’ch contract a/neu ofyn am yr arian sydd eisoes wedi’i dalu i chi yn ôl, neu leihau’r grant sy’n daladwy.

Amodau

Rhoddir y grant ichi ar sail y datganiadau a wnaed gennych chi neu'ch cynrychiolwyr yn y Datganiad o Ddiddordeb, y ffurflen hawlio ac unrhyw ohebiaeth a gafwyd wedi hynny. 

Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol. 

Gellid erlyn person sy’n gwneud datganiad ffug neu na fydd wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am newid perthnasol i’r wybodaeth a roddwyd yn y cais hwn. Gallai rhoi datganiad ffug, anghywir neu anghyflawn neu beidio â rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am newid perthnasol i’r wybodaeth a roddwyd wrth Ddatgan Diddordeb arwain at ddod â’r contract i ben a/neu adfer unrhyw daliadau ynghyd â’r llog.

Peidiwch â chreu amodau artiffisial er mwyn cael taliad.

Rhaid i’r ymgeisydd ddarllen a deall rheolau a chanllawiau perthnasol y cynllun.

Mae’r manylion rydych wedi’u rhoi yn eich cais ac unrhyw ddogfennau ategol, hyd eithaf eich gwybod a’ch cred, yn wir, yn gywir ac yn gyflawn. Rydych yn cydnabod na fydd Llywodraeth Cymru nac unrhyw gynghorydd a benodir gan Lywodraeth Cymru yn atebol am unrhyw gyngor a roddir, gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â'r cais, ac mai chi sy’n llwyr gyfrifol am bob penderfyniad busnes a wneir.

Rhaid ichi ymrwymo i fodloni unrhyw rwymedigaethau statudol megis Iechyd a Diogelwch; cyflogaeth; hylendid; rheoli a diogelu'r amgylchedd; iechyd a lles anifeiliaid neu gnydau a fydd yn gymwys yn ystod cyfnod y prosiect hwn.

Efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru ddiweddaru’r rheolau a’r amodau os bydd newidiadau i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Rhaid ichi gytuno i gadw at unrhyw newidiadau ar ôl cael gwybod amdanynt gan Weinidogion Cymru.

Rhaid ichi gydymffurfio â’r holl gyfreithiau neu reoliadau domestig neu ryngwladol neu gyfarwyddebau swyddogol cymwys.

Rydych yn cydnabod na fydd Llywodraeth Cymru nac unrhyw gynghorydd a benodir gan Lywodraeth Cymru yn atebol am unrhyw gyngor a roddir, gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, unrhyw gyngor mewn perthynas â'r cais hwn neu’r cynllun datblygu busnes, ac mai chi sy’n llwyr gyfrifol am bob penderfyniad busnes a wneir.

Rhaid ichi roi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau i’r manylion a roddir yn adran Manylion yr Ymgeisydd ar y ffurflen.

Rhaid i chi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru neu eu hasiant awdurdodedig priodol, fynd ar eich tir ac archwilio’r tir ac unrhyw offer, cyfleusterau a'r holl gofnodion a gwybodaeth berthnasol sydd eu hangen i gadarnhau’ch bod yn gymwys a bod y wybodaeth a roddwyd wrth Ddatgan Diddordeb yn gywir.

Peidiwch â gwneud gwaith cyn ymuno â'r cynllun Grant Creu Coetir sy'n niweidio'r amgylchedd. Rhaid deall y gallai hynny arwain at wrthod eich cais.

Ni fyddwch wedi cynnwys tir sydd o dan gytundebau rheoli eraill neu sy’n destun grant neu gais am grant arall, a allai ei gwneud yn bosibl eich talu ddwywaith.

Rhaid ichi gynnal yswiriant digonol ar gyfer y risgiau a allai godi mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo neu unrhyw weithgaredd yr ymgymerir ag ef wrth gyflawni’r Dibenion. Rydym yn cadw’r hawl i ofyn ichi gyflwyno tystiolaeth o’ch yswiriant.

Mae'n bosibl y bydd angen i Lywodraeth Cymru rannu gwybodaeth am eich Datganiad o Ddiddordeb yn y Grant Creu Coetir â sefydliadau eraill, ac rydych yn cytuno i ni ddatgelu neu rannu unrhyw wybodaeth angenrheidiol.

Gallai Llywodraeth Cymru ofyn hefyd i sefydliadau eraill am wybodaeth amdanoch chi, neu roi gwybodaeth amdanoch chi iddyn nhw er mwyn cadarnhau cywirdeb yr wybodaeth, er mwyn atal neu ganfod troseddau, ac er mwyn diogelu arian cyhoeddus. Mae'r sefydliadau eraill hynny'n cynnwys adrannau'r llywodraeth, awdurdodau lleol a chyrff eraill, fel sy'n briodol. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ac yn datgelu gwybodaeth yn unol â’r ymrwymiadau a’r dyletswyddau sydd arni o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Caiff gwybodaeth arall a roddir ei datgelu hefyd os caniateir hynny o dan y gyfraith.

Adran G: taliadau

Hawlio ar Waith Cyfalaf

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r dudalen Hawlio Grantiau yn eich cyfrif RPW Ar-lein i hawlio’r Grant Creu Coetir. Chewch chi ddim mo'ch talu nes bod eich hawliad wedi cael ei ddilysu'n llwyddiannus. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y gwariant perthnasol wedi’i wario a bod y gwaith wedi’i gwblhau yn unol â’r cynllun y bydd hawliadau’n cael eu talu. Bydd taliadau’n cael eu gwneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.

Er mwyn cael Grant Creu Coetir, mae'n rhaid i chi:

  • dderbyn contract Grant Creu Coetir o fewn 30 diwrnod calendr ar ôl dyddiad ei gynnig a rhaid cadw at yr holl ofynion.
  • fod wedi cwblhau’r gwaith plannu coed a ffensio a bod tystiolaeth bod y gwaith wedi’i gwblhau
  • cyflwyno'r hawliad gan ddefnyddio'r dudalen Hawlio Grant ar eich cyfrif RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio.

Byddwn yn anfon hyd at 2 nodyn i’ch atgoffa bod hawliadau heb eu gwneud trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio.

Nid yw hawliad yn cael ei ystyried yn hawliad dilys oni bai ei fod wedi’i gyflwyno trwy dudalen Hawlio Grantiau RPW Ar-lein.

Gallwch gyflwyno’ch hawliad unrhyw adeg ar ôl i’r gwaith cyfalaf gael ei gwblhau. Fodd bynnag, ni chewch hawlio ar brosiect sydd wedi'i gwblhau'n rhannol ac ni fyddwch yn cael hawlio ar unrhyw waith ychwanegol y byddwch yn ei wneud ar ôl i'r hawliad gael ei gyflwyno.

Estyniadau i derfynau amser plannu a hawlio

Rhaid i ymgeiswyr sy’n ymgeisio am gyllid yn y ffenest gyntaf gwblhau eu gwaith plannu a chyfalaf newydd a hawlio ar yr holl waith cyfalaf ym mlwyddyn ariannol 2023/2422/23 h.y. erbyn 31 Mawrth 20243. Ni fydd estyniadau'n cael eu rhoi y tu hwnt i 31 Mawrth 20243, ac eithrio o dan amgylchiadau prin iawn.

Cam-hawlio a chosbau

Er mwyn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth sy'n rheoli’r cynllun a sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n gywir, mae'r cynllun yn cynnwys cosbau pan gaiff rheolau’r cynllun eu torri'n ddifrifol.

Dim ond am y gwaith cymwys rydych chi wedi ei gwblhau y dylech hawlio arno, hyd yn oed os yw hyn yn llai na'r hyn sydd wedi’i nodi yn y contract.

Os gwelwn nad yw'r gwaith wedi'i gwblhau yn unol â manylebau technegol y prosiect ac nad oes modd ei unioni, bydd y taliadau'n cael eu lleihau i werth yr hyn sydd wedi’i gwblhau yn unol â’r fanyleb.

Os bydd y gostyngiad hwn yn fwy na 10% o werth yr hawliad, byddwn yn eich cosbi am orddatgan.

Os caiff hawliad ffug ei wneud, neu os na fydd perchennog y tir yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, caiff y taliad yn y flwyddyn pan gafodd yr uchod ei ganfod ei atal a rhaid i unrhyw arian sydd eisoes wedi’i dalu y flwyddyn honno gael ei dalu’n ôl

Hawlio Taliadau Cynnal a Chadw a’r Premiwm

Gellir hawlio taliadau Cynnal a Chadw a Phremiwm y cynllun Grant Creu Coetir ar y SAF flynyddol erbyn 15 Mai ym mhob blwyddyn y contract. 

Ni chewch hawlio blwyddyn gynta'r taliad Cynnal a Chadw na’r Premiwm tan y flwyddyn ar ôl ichi hawlio taliad cyfalaf y cynllun Grant Creu Coetir.

Er mwyn derbyn taliadau Cynnal a Chadw a Phremiwm y Grant Creu Coetir, rhaid i chi:

  • Arwyddo contract Grant Creu Coetir a chadw at yr holl ofynion
  • Cyflwyno hawliad dilys ar y SAF erbyn 15 Mai bob blwyddyn

Codau Cnydau SAF

I hawlio’r taliadau Cynnal a Chadw a’r Premiwm rhaid i chi ddefnyddio'r codau cnydau canlynol (gallai’r codau hyn newid a dylech eu cadarnhau yn Llyfryn Rheolau’r Cais Sengl cyn hawlio)

  • BW1 – Coetir Llydanddail (stoc wedi’i gadw allan) – I'w ddefnyddio os cawsoch daliad SPS ar y tir hwn yn 2008
  • CW1 – Coetir Conwydd (stoc wedi’i gadw allan) – I'w ddefnyddio os cawsoch daliad SPS ar y tir hwn yn 2008
  • WS1 – Coetir Llydanddail (stoc wedi’i gadw allan) – I'w ddefnyddio os na chawsoch daliad SPS ar y tir hwn yn 2008
  • TR2 – Coetir Conwydd (stoc wedi’i gadw allan) – I'w ddefnyddio os na chawsoch daliad SPS ar y tir hwn yn 2008

Taliadau Cynnal a Chadw a’r Premiwm

Bydd taliadau'n cael eu cyfrif ar sail arwynebedd y tir y byddwch yn hawlio taliad arno ar y SAF ac sy’n rhan o’r Contract ac wedi’i restru yn Atodlen y Contract sy’n ddilys ar 15 Mai ac unrhyw hysbysiadau a wnaed mewn perthynas â'r tir hwnnw.

Rhaid ichi hawlio’r taliadau Cynnal a Chadw a’r Premiwm erbyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r SAF, fel a nodir yn Llyfryn Rheolau’r Cais Sengl. 

Os byddwch yn hawlio taliadau Cynnal a Chadw a’r Premiwm ar dir y gwelir nad yw’n gymwys am daliad, mae'n bosib y cewch eich cosbi am orddatgan fel a ddisgrifir yn  Llyfryn Rheolau’r Cais Sengl.

Rhaid i’ch hawliadau am daliad Cynnal a Chadw a’r Premiwm fodloni’r gofynion Trawsgydymffurfio. Eich cyfrifoldeb chi yw bodloni'r gofynion hyn dros y flwyddyn galendr gyfan yr ydych yn hawlio taliad ar ei chyfer a gall peidio â bodloni'r gofynion hyn arwain at gosbi’ch taliadau.

Rhaid i chi ddarllen a deall Llyfryn Rheolau’r Cais Sengl cyn hawlio Taliadau Cynnal a Chadw a Phremiwm. 

Torri Contract

Bydd archwiliadau gweinyddol ac archwiliadau fferm yn cael eu cynnal i weld a ydych wedi torri’r contract ac os gwelir eich bod, rhoddir gwybod ichi trwy’ch cyfrif RPW ar-lein. Lle gwelir eich bod wedi torri’r contract, byddwn yn lleihau a/neu’n atal eich taliadau gan ddibynnu ar ba mor ddifrifol, mawr, parhaol ac ailadroddus oedd y tramgwydd.  Gellir cosbi taliadau’r blynyddoedd blaenorol hefyd.  Fe welwch fanylion y tramgwyddau hyn yn y safonau dilysadwy.

Os bydd Llywodraeth Cymru’n credu bod y tramgwydd mor ddifrifol nad oes modd ei gywiro, gallai derfynu’ch contract. 

Rydym yn asesu tramgwyddau yn ôl safonau dilysadwy sy’n cyfateb i ymrwymiadau’r cynllun. Mae matrics cosbau wedi’i lunio i benderfynu ar lefel y gosb i’w rhoi. Mae’r matrics cosbi a’r safonau dilysadwy i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.  

Troseddau

Mae rheoliad 13 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 (Rhif 3222 (Cy.327)) yn pennu troseddau a chosbau mewn perthynas ag elfennau penodol o gyllid datblygu gwledig.  Mae’r Rheoliad hwnnw a’r troseddau hynny yn berthnasol i’r cynllun Grant Creu Coetir.  Mae troseddau’n cynnwys darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, yn fwriadol neu drwy esgeulustod, mewn perthynas â chyllid datblygu gwledig, rhwystro arolygydd neu swyddog, a gwrthod darparu gwybodaeth ar gais.

Adran H: trosglwyddo a gwerthu tir o dan gontract

Rhaid i chi roi gwybod i Lywodraeth Cymru am newidiadau i’ch caeau o fewn 30 diwrnod ar ôl i’r newid ddigwydd. Gallai’r newidiadau hynny gynnwys:

  • cofrestru caeau nad ydynt wedi’u cofrestru gydag RPW o’r blaen (h.y. caeau heb eu cofnodi ar y Ffurflen Gais Sengl (SAF))
  • rhannu caeau yn barhaol
  • uno caeau yn barhaol
  • newid ffiniau caeau
  • newid nodweddion parhaol caeau.

Hefyd, rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru o fewn y terfyn o 30 diwrnod ar ôl iddo ddigwydd os ydy meddiannydd y tir, gan gynnwys perchennog neu denant, yn newid.

Rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am y newidiadau hyn drwy ddefnyddio’r cyfleuster Rheoli Fy Nhir (MML) ar eich cyfrif RPW Ar-lein cyn pen 30 diwrnod ar ôl i’r newid ddigwydd.

Ar ôl ichi arwyddo’ch contract Grant Creu Coetir, os byddwch yn penderfynu gwerthu neu drosglwyddo’ch tir neu ran ohono yn ystod cyfnod yr ymrwymiad, efallai y cewch gosb ariannol a / neu y bydd yn rhaid ichi ad-dalu’r arian rydych chi eisoes wedi'i gael.

Os ydych am drosglwyddo contract Grant Creu Coetir i feddiannydd newydd, rhaid cael caniatâd Llywodraeth Cymru. Os ydy’r meddiannydd newydd yn dewis cymryd eich ymrwymiad oddi arnoch a bod y tir yn dal yn gymwys, rhaid i’r meddiannydd newydd gadw at yr ymrwymiad ar y tir hwnnw am weddill cyfnod y contract. Dylid gofalu fod y meddiannydd newydd yn gwybod am yr ymrwymiad cyn cytuno i gymryd y tir dan sylw.

Nid yw rheoliadau’r cynllun yn caniatáu trosglwyddo contract gwaith cyfalaf. Daliwr y contract fydd yr unig fusnes a fydd yn gallu hawlio ar waith cyfalaf Grant Creu Coetir. Ni ellir prosesu trosglwyddiad nes bod yr hawliad ar y gwaith cyfalaf wedi’i ddilysu a’r taliad wedi ei awdurdodi.

Ar ôl trosglwyddo neu werthu rhan o’r tir, rhaid i unrhyw dir rydych wedi’i gadw ac sy’n dal yn rhan o’ch contract gwreiddiol barhau i fodloni’r amodau’r contract. Os nad yw, bydd gofyn ichi ad-dalu pob taliad a wnaed ar y tir hwnnw, ynghyd â’r llog. Os ydych yn trosglwyddo neu’n gwerthu unrhyw dir sy’n rhan o’ch contract, yna rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru trwy lythyr o fewn 30 diwrnod ar ôl i hynny ddigwydd. O beidio â rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru, byddwch yn debygol o gael eich cosbi.

Os byddwch yn trosglwyddo neu’n gwerthu tir sydd o dan gontract a bod Llywodraeth Cymru’n credu bod amcanion y cynllun Grant Creu Coetir yn cael eu tanseilio o’r herwydd, gallai derfynu’r contract ac efallai y bydd yn rhaid ichi ad-dalu pob taliad ynghyd â’r llog.

Adran I: newidiadau i reolau’r cynllun

Newidiadau mewn Deddfwriaeth (Gan gynnwys Newid Dehongliad)

Caiff deddfwriaeth ei newid o dro i dro a bydd gofyn i chi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i’r cynllun ar ôl i Lywodraeth Cymru roi gwybod ichi amdanynt.

Newidiadau i Reolau neu Gontract y Cynllun

Mae’n bosibl y bydd angen i ni newid rheolau’r cynllun a/neu eich contract am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu ddiwygio rheolau’r cynllun er mwyn ystyried unrhyw newidiadau yn y ddeddf. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen.

Adran J: rheoliadau, monitro a chadw cofnodion

Mesurau rheoli

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud yn siŵr eich bod yn cadw at reolau’r cynllun Grant Creu Coetir.

Gallem ddewis ymweld â chi yn sgil eich hawliad i gadarnhau bod y gwaith cyfalaf wedi’i gwblhau, hynny cyn talu’r grant ichi neu ar ôl talu’r grant i chi.

Bydd yr holl fanylion yn eich Datganiad o Ddiddordeb, manylion eich hawliad a'r datganiadau a wnaethoch wrth Ddatgan Diddordeb a’ch hawliad i gyd yn cael eu harchwilio.

Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod yr ymweliadau yn tarfu cyn lleied â phosibl arnoch, ond mae rhai archwiliadau’n gofyn am ymweliadau dirybudd, sy’n golygu na fydd yn bosibl eich rhybuddio ymlaen llaw. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr.

Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu ddim yn rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl y gwnawn ni wrthod eich talu, y gallwn ofyn ichi dalu arian sydd wedi’i dalu i chi yn ôl ac fe allech gael eich erlyn.

Monitro

Mae'n ofyn fod yr holl grantiau yn cael eu monitro a bod eu heffaith ar y busnes yn cael ei mesur.

Mae’n rhaid i chi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru neu eu cynrychiolwyr archwilio’r gwaith sydd wedi’i orffen ar unrhyw adeg resymol.

Cadw cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am bum mlynedd.

Bydd gofyn ichi hefyd:

  • roi unrhyw wybodaeth am eich contract Grant Creu Coetir i Lywodraeth Cymru a hynny’n brydlon yn unol â chais Llywodraeth Cymru amdani. 
  • gofalu bod cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall, gan gynnwys data ar gyfrifiadur, am eich contract Grant Creu Coetir ar gael i Lywodraeth Cymru, ei swyddogion awdurdodedig a’i hasiantwyr eu gweld. Bydd gofyn ichi ganiatáu i Lywodraeth Cymru gymryd unrhyw ddogfen neu gofnod i wneud copïau neu i godi darnau ohoni/ohono.

Adran K: y drefn apelio a chwyno

Y drefn apelio

Nid oes sail dros apelio os na fyddwn yn dewis eich Datganiad o Ddiddordeb.

Mae’r broses apelio yn cynnwys dau gam:

  • Cam 1: adolygiad gan RPW
  • Cam 2: adolygiad gan y Panel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb yng Ngham 1).

Mae’r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â’r broses i ben.

Nid oes tâl am gynnal Cam 1 y broses ond mae tâl am gynnal Cam 2 - £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar.  Byddwn yn ad-dalu’r costau hyn yn llawn os bydd Cam 2 yr apêl yn llwyddiannus neu’n rhannol lwyddiannus.

Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth, ddod i’n llaw trwy RPW Ar-lein o fewn 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr sy’n disgrifio’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Mae croeso ichi ohebu â ni yn y Gymraeg a byddwn yn ateb unrhyw lythyr Cymraeg yn y Gymraeg.  Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen apelio ar-lein ar gael gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ein gwefan: Apeliadau Grantiau a Thaliadau Gwledig: Canllaw.

Y Drefn Gwyno

Ymdrinnir â chwynion o dan drefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Cewch fwy o wybodaeth am sut i wneud gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378 
E-bost: Cwynion@llyw.cymru

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg

Gwefan: Cwynion am Lywodraeth Cymru

Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae
Pen-coed
CF35 5LJ

Ffôn: 0300 790 0203
Gwefan: Ombwdsmon

Adran L: Rheoliad Cyffredinol ar gyfer Diogelu Data: hysbysiad preifatrwydd

Sut byddwn yn trin unrhyw ddata personol rydych chi’n eu rhoi yng nghyswllt eich cais am grant neu’ch cais am gyllid grant

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal amrywiaeth o gynlluniau grant er mwyn helpu i roi ein polisïau ar waith a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant neu gyllid. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Cyn i ni roi cyllid grant i chi, byddwn yn cynnal archwiliadau er mwyn atal twyll ac atal gwyngalchu arian, ac i ddilysu eich manylion adnabod. Fel rhan o’r archwiliadau hyn, mae'n ofynnol i ni brosesu data personol amdanoch chi gydag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, gallwn wrthod darparu’r cyllid grant y gwnaethoch gais amdano, neu gallwn stopio darparu cyllid grant rydych chi eisoes yn ei gael.

Bydd cofnod o unrhyw risg gysylltiedig â thwyll neu wyngalchu arian yn cael ei gadw gan yr asiantaethau atal twyll, a allai olygu y bydd sefydliadau eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi.

Er mwyn asesu cymhwyster efallai y bydd angen i ni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais gydag awdurdodau rheoleiddio, fel Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, Awdurdodau Lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu.

Mae’n bosibl y gwnaiff aelod arall o’r cyhoedd ofyn am gael gweld eich gwybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth bersonol. Wrth ymateb i geisiadau o’r fath, efallai y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, er mwyn cyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Byddwn yn cyhoeddi manylion y symiau a dalwyd i fuddiolwyr Cymorth Gwledig. Cyhoeddir data am bob buddiolwr ar wefan y gellir ei chwilio, a bydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau a’r cynllun. Ond, ni ddatgelir enwau’r rheini sy’n cael llai na’r hyn sy’n gyfwerth â £1,250 mewn cymorthdaliadau. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd y data ar gael am ddwy flynedd o’r dyddiad y cawsant eu cyhoeddi. Bydd y wybodaeth ar gael ar wefan Defra

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â'n polisi cadw gwybodaeth. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw’ch data personol am 7 mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau'r grant, a phob taliad wedi'i wneud. Os na fyddwch yn llwyddiannus, bydd eich manylion yn cael eu cadw am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi hawl:

  • i weld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch.
  • i fynnu ein bod yn cywiro unrhyw beth anghywir yn y data hynny.
  • i wrthwynebu neu gyfyngu (o dan amgylchiadau penodol) ar brosesu eich data personol.
  • i ofyn (o dan rai amgylchiadau) inni 'ddileu' eich data.
  • I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael mwy o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd mae'r wybodaeth yn cael ei defnyddio, neu os ydych chi am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad GDPR, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD 
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma’r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421 
Gwefan: https://ico.org.uk/

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

Hysbysiad Preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru.

Adran M: deddfwriaeth

Mae’r Grant Creu Coetir yn cyflawni amrywiaeth o ymrwymiadau ac amcanion y Llywodraeth sydd wedi’u rhestru isod, yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r prosesau llywodraethu perthnasol.

Mae'r Grant Creu Coetir yn cael ei lywodraethu gan Reoliadau Cyngor Cyfraith yr UE a Ddargedwir (REUL) Rhifau 1305/2013, 1303/2013 a 1306/2013, Rheoliadau Gweithredu Rhif 808/2014 a rhif 809/2014 a Rheoliadau Dirprwyedig 640/2014 ac 807/2014 (fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd).

Rhoddir cyfraith yr UE a ddargedwir ar waith yng Nghymru trwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (fel y’i diwygir o dro i dro), gan gynnwys drwy’r Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (Cy.129):

  • Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (Cy.327)
  • Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014/3223 (Cy.328) 

Cynllun grantiau gwaith cyfalaf yw’r Grant Creu Coetir, sydd ar gael i reolwyr tir a busnesau fferm yng Nghymru. Mae’r prosiectau Gwaith Cyfalaf sydd ar gael wedi’u dewis am eu bod yn dod â budd eang a chyffredinol i’r amgylchedd ac am eu bod yn helpu i wireddu pedwar amcan strategol Llywodraeth Cymru, sef:

  • gwneud amaethyddiaeth yn fwy cystadleuol;
  • cyfrannu tuag at reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy fel y’i nodir yn Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
  • sicrhau cadernid rhag yr hinsawdd.
  • sicrhau datblygiad tiriogaethol cytbwys o economïau a chymunedau gwledig gan gynnwys creu a chynnal cyflogaeth

Yn ogystal, mae tri amcan trawsbynciol i’r cynllun Grant Creu Coetir:

  • lliniaru’r newid yn yr hinsawdd ac addasu i newid hinsawdd;
  • arloesi
  • yr amgylchedd

Bydd gweithgareddau yn ymwneud ag o leiaf un o flaenoriaethau canlynol Llywodraeth Cymru:

  1. meithrin y broses o drosglwyddo gwybodaeth ac arloesi mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth a meysydd gwledig
  2. gwella hyfywedd a chystadleurwydd amaethyddiaeth o bob math, a hyrwyddo technolegau fferm arloesol a dulliau cynaliadwy o reoli coedwigoedd;
  3. hyrwyddo trefniadaeth y gadwyn fwyd, gan gynnwys prosesu a marchnata cynnyrch amaethyddol, lles anifeiliaid a rheoli risg ym maes amaethyddiaeth;
  4. adfer, gwarchod a gwella ecosystemau sy'n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth;
  5. hyrwyddo’r defnydd effeithiol o adnoddau a chefnogi'r newid tuag at economi carbon isel sy'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y sectorau  amaethyddiaeth, bwyd a choedwigaeth;
  6. hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, lleihau tlodi a datblygu economaidd mewn ardaloedd gwledig.

Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymhorthdal

  1. Mae cymorthdaliadau sy’n cael eu darparu o dan y cynllun hwn yn cael eu hystyried yn daliadau o dan raglen amgylcheddol, a daw’r rheini o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi’u dosbarthu’n rhai ‘bocs gwyrdd.’ 
  2. O ganlyniad, mae’r cymorthdaliadau hyn wedi’u heithrio o Gytundeb Masnach a Chydweithredu y DU-UE a system rheoli cymhorthdal dros dro y DU.

Adran N: cysylltiadau

Ymholiadau – Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Am bob ymholiad ynghylch RPW, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

Gallwch gyflwyno ymholiadau trwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg.

Mynediad at swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig.

Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig nad yw ein cyfleusterau yn darparu ar eu cyfer yn eich tyb chi, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 i gael swyddogion Llywodraeth Cymru i wneud trefniadau addas ar eich cyfer. Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

Gwefan Llywodraeth Cymru

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i wefan Llywodraeth Cymru. Wrth ymweld â’r wefan, gallwch hefyd gofrestru i gael yr e-gylchlythyr Materion Gwledig sy’n anfon y newyddion diweddaraf yn syth i’ch mewnflwch e-bost.

Gwlad

E-gylchlythyr Gwlad yw e-gylchlythyr Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru.  Mae’n cynnwys straeon newyddion, canllawiau a gwybodaeth mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddarllen.  I sicrhau eich bod yn parhau i glywed am y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf gallwch gofrestru i dderbyn Gwlad. Gallwch wneud hyn naill ai ar Hysbysiadau'r Llywodraeth Cymru neu Cofrestrwch ar gyfer newyddion amaethyddiaeth a choedwigaeth (Gwlad).

Cysylltiadau defnyddiol eraill:

Cyfoeth Naturiol Cymru 
d/o Canolfan Gofal Cwsmeriaid,
Tŷ Cambria,
29 Heol Casnewydd,
Caerdydd,
CF24 0TP

Ffôn: 0300 065 3000 
ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 
enquiries@naturalresourceswales.gov.uk