Grant Cyfalaf Ynni Cymru 2025-2026
Rhif cyfeirnod y cymhorthdal: SC11415 - cynllun i gefnogi prosiectau defnyddio a chynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
1. Rhanbarth
Cymru gyfan
2. Teitl y cynllun cymhorthdal
Grant Cyfalaf Ynni Cymru 2025-2026
3. Sail gyfreithiol
'Adran 60(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006' neu 'Adran 1(2), 1(3)d ac 1(7)f o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975'.
4. Amcanion polisi penodol y cynllun
Mae Blwyddyn 2 rhaglen grant cyfalaf Ynni Cymru yn canolbwyntio ar y gweithgareddau craidd canlynol:
- Gwneud y mwyaf o brosiectau defnyddio a chynhyrchu ynni adnewyddadwy sydd o dan berchnogaeth leol sy'n bodoli eisoes.
- Hybu twf prosiectau defnyddio a chynhyrchu ynni adnewyddadwy sydd o dan berchnogaeth leol.
- Cynyddu perchnogaeth leol mewn prosiectau ynni adnewyddadwy.
- Cydgasglu prosiectau ynni adnewyddadwy sydd o dan berchnogaeth leol i alluogi mynediad i farchnadoedd ynni ehangach.
- Datblygu marchnadoedd ynni lleol lle gellir cydbwyso cyflenwad a galw ac i alluogi budd i ddefnyddwyr a chynhyrchwyr fel ei gilydd.
- Darparu Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES) ledled Cymru, lle mae'r cyflenwad ynni adnewyddadwy yn cael ei ehangu i ateb y galw cynyddol ac mae mwy o gydbwysedd yn cael ei daro rhwng y cyflenwad a'r galw.
5. Diben y cynllun
Yn unol ag egwyddorion SLES, bydd y technolegau sy'n gymwys i gael cyllid yn cynnwys cyfuniad o'r canlynol:
- Systemau clyfar fel systemau rheoli adeiladau, goleuo clyfar, systemau clyfar ar gyfer monitro'r grid a mesuryddion clyfar.
- Technolegau cynhyrchu ynni adnewyddadwy fel:
- Treulio anaerobig
- Hydro
- Paneli Solar (PV) a solar thermol
- Gwynt
- Technoleg gwresogi, oeri a dŵr twym carbon isel, fel pympiau gwres (unrhyw fath), solar thermol a rhwydweithiau gwres.
- Seilwaith cludiant allyriadau isel iawn, fel Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan (EVCI).
- Technolegau storio ynni fel storio mewn batri, storio ynni thermol a storio gwres.
6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun
Llywodraeth Cymru.
7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys
- Busnesau bach a chanolig (BBaCh)
- Y Sector Cyhoeddus
- Sefydliadau Cymunedol a Mentrau Cymdeithasol
8. Sectorau i’w cefnogi
Cyflenwi trydan, nwy, ager ac aerdymheru
9. Hyd y cynllun
O 8 Medi 2025 tan 31 Mawrth 2026.
10. Y gyllideb cymorth o dan y ynllun
£12,906,707
11. Ffurf y cymorth
Grant uniongyrchol
12. Telerau ac amodau cymhwysedd
Pan fo prosiect wedi cyflawni sgôr pasio ac wedi sgorio mwy na'r marc trothwy pasio lleiaf o 60%, a'i fod wedi'i leoli yn yr 20% o ardaloedd mwyaf amddifad (yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru), cynyddwyd y sgôr 5% i gefnogi amcanion Llywodraeth Cymru ac Ynni Cymru ynghylch pontio teg.
13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Llwybr 1 ar gyfer ceisiadau gwerth hyd at £150mil ac wedi'i gynllunio i fod yn fwy addas ar gyfer prosiectau ar raddfa lai gyda llai o ofynion ymgeisio.
Llwybr 2 ar gyfer ceisiadau rhwng £150mil a £1m mewn gwerth ac wedi'i gynllunio ar gyfer prosiectau mwy cymhleth gyda rhai gofynion a thystiolaeth ychwanegol y mae'n rhaid i ymgeiswyr eu darparu.
14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun
£999,999
15. Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn, cysylltwch â'r Tîm Polisi Ynni: energypolicymailbox@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r cynllun hwn yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, cysylltwch â:
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig
Rhif ffôn:
E-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
