Neidio i'r prif gynnwy

Grant cyfleusterau cludo llwythi ar y rheilffyrdd yng Nghymru: ynglŷn â'r canllawiau hyn

Mae'r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth allweddol am wneud cais i Lywodraeth Cymru am Grant Cyfleusterau Cludo Llwythi (GCCLl) ar y Rheilffyrdd yng Nghymru.

Mae'r canllawiau yn esbonio:

  • pwy all wneud cais am y grant
  • y mathau o gynlluniau sy'n debygol o fod yn gymwys
  • pryd y bydd y grant yn debygol o gael ei ddyfarnu ai peidio
  • sut i wneud cais am grant
  • y broses benderfynu
  • sut y caiff y grant ei dalu
  • ble i gael rhagor o wybodaeth

Cysylltu

Am ragor o gymorth neu wybodaeth, cysylltwch â'r:

Tîm Prosiectau Rheilffyrdd
Seilwaith Economaidd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 1NQ

Ffôn: 0300 0604400

E-bost: cymorth@llyw.cymru

Grant cyfleusterau cludo llwythi (GCCLI) yng Nghymru

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y buddiannau amgylcheddol-gymdeithasol a'r buddiannau o ran cynaliadwyedd y gellir eu sicrhau drwy symud nwyddau ar y rheilffyrdd yn hytrach na'r ffyrdd. Mae'r Grant Cyfleusterau Cludo Llwythi ar gael i helpu gyda'r costau ychwanegol sydd fel arfer yn gysylltiedig â symud llwythi ar y rheilffyrdd drwy wrthbwyso costau cyfalaf darparu cyfleusterau trafod llwythi a gludir ar y rheilffyrdd. Gellir ei ddefnyddio hefyd i helpu cwmnïau i ailfuddsoddi mewn cyfleusterau cludo llwythi sy'n bodoli eisoes.

Mae'r GCCLl ar gael ar gyfer cyfleusterau rheilffyrdd lle mae'r llwythi:

  • yn cael eu cludo ar y ffyrdd ar hyn o bryd
  • yn draffig newydd a fyddai fel arall yn defnyddio’r ffyrdd
  • yn cael eu symud ar y rheilffyrdd ond byddent yn cael eu cludo ar y ffyrdd unwaith eto heb wariant cyfalaf ychwanegol.

Mae unrhyw grant a gynigir yn ôl disgresiwn Llywodraeth Cymru ac nid oes hawl awtomatig i gael cymorth grant. Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r gweithdrefnau a fyddai'n gymwys fel arfer.

Cymhwysedd:

Mae'r rhan fwyaf o'r cyfleusterau sydd eu hangen i godi neu gludo llwythi ar y rheilffyrdd yn debygol o fod yn gymwys i gael GCCLl ond mae'n rhaid i'r cais gynnwys gwariant cyfalaf. Mae'r eitemau sy'n debygol o fod yn gymwys yn cynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):

  • Seidins rheilffyrdd mewnol
  • Cyfarpar codi a llwytho
  • Mannau arwyneb caled
  • Warysau
  • Cabanau
  • Ffensys
  • Goleuadau
  • Diogelwch
  • Teledu Cylch Cyfyng

Caiff y grant ei dalu fel arfer ar adeg prynu cyfarpar ar y cychwyn ac nid am unrhyw gyfarpar cyfnewid a brynir yn ystod oes y prosiect.

Bydd swm y grant a gynigir yn seiliedig ar werth y buddiannau amgylcheddol.

Bydd GCCLl fel arfer ar gael am hyd at 50% o'r costau cyfalaf.

Pwerau i dalu

Cyflwynwyd y cynllun Grant Cyfleusterau Cludo Llwythi yn gyntaf yn Adran 8 o Ddeddf Rheilffyrdd 1974. Cafodd y darpariaethau hyn eu hailddeddfu gyda diwygiadau gan Adran 139 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993, ac yna Adran 249 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000. Mae hon wedi cael ei disodli gan Adran 10(4) o Ddeddf Rheilffyrdd 2005.

Cyfrifir y buddiannau amgylcheddol drwy wrthgyferbynnu effeithiau cludo llwythi ar y rheilffyrdd yn hytrach na'r ffyrdd. Cyfrifir hyn drwy nodi'r tunelli yr ymrwymir i'w cludo ar y rheilffyrdd dros nifer cytûn o flynyddoedd, a chyfrifo faint o deithiau lori na fydd eu hangen o ganlyniad i hynny.  Yna, defnyddir cyfraddau safonol i gyfrifo gwerth y buddiannau.

Cyfrifir Arfarniad Ariannol drwy gymharu cyfanswm costau cludo ar y rheilffyrdd â chyfanswm y costau yr eid iddynt pe bai'r traffig yn defnyddio’r ffyrdd. Dim ond er mwyn gwneud costau opsiwn y rheilffyrdd yn hafal i opsiwn y ffyrdd y gellir rhoi GCCLl. Mewn rhai achosion, gall yr arfarniad ariannol gynnwys dadansoddiad ychwanegol, er enghraifft lle nad yw'r ymgeisydd yn cludo llwythi ar y ffyrdd.

Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r gyllideb flynyddol ar gyfer grantiau cludo llwythi ar y rheilffyrdd yng Nghymru. Os bydd pwysau ar y cyllid, caiff cynlluniau eu blaenoriaethu ar sail gwerth am arian.

Y cynlluniau hynny sy'n sicrhau'r budd amgylcheddol mwyaf o ran y grant sydd fwyaf tebygol o lwyddo.

Ble mae'n annhebygol y caiff GCCLl ei dalu?

Mae cyfleusterau yn annhebygol o fod yn gymwys i gael GCCLl os na fwriedir iddynt gael eu defnyddio ar gyfer cludo, llwytho a dadlwytho llwythi a gludir ar y rheilffyrdd yn unig, er enghraifft, cyfarpar prosesu diwydiannol neu brynu tir. Caiff pob achos ei ystyried yn ôl ei deilyngdod ei hun.

Ni roddir GCCLl fel arfer:

  • lle nad yw llwybrau trên ar y rhwydwaith rheilffyrdd ar gael i symud llwythi;
  • lle y gellir cyfiawnhau'r cyfleuster cludo llwythi ar y rheilffyrdd yn fasnachol neu lle y byddai'n mynd rhagddo sut bynnag heb GCCLl;
  • lle mae contractau ar gyfer gwaith adeiladu neu gludo llwythi ar y rheilffyrdd eisoes wedi'u gosod neu lle mae gwaith adeiladu wedi dechrau mewn perthynas â'r cyfleuster sy'n destun y cais am grant, cyn i'r grant gael ei gymeradwyo;
  • lle nad yw'r buddiannau amgylcheddol yn ddigon i gyfiawnhau'r grant; Neu
  • lle nad oes modd cludo'r llwythi ar y ffyrdd; er enghraifft, lle mae amod cynllunio neu gyfyngiad cyfreithiol arall yn atal y ffordd rhag cael ei defnyddio neu'n cyfyngu ar yr hawl i ddefnyddio'r ffordd. (Fodd bynnag, bydd Llywodraeth Cymru yn gallu ystyried GCCLl lle y byddai'r traffig yn cael ei symud ar y ffyrdd o leoliad arall heb gyfyngiadau.)
  • lle na chafwyd caniatâd cynllunio ymlaen llaw.
  • lle mae costau yn cynyddu'n uwch na'r amcangyfrifon a ddefnyddiwyd i asesu'r cais am grant;
  • lle yr eir i gostau cyfalaf neu gostau gweithredu ychwanegol o ganlyniad i newidiadau i'r cynnig ar ôl i'r grant gael ei ddyfarnu;
  • lle mae taliadau staffio a gorbenion yn ystod y cam dylunio ac adeiladu, costau cyfreithiol neu gostau yr aed iddynt er mwyn cael cymeradwyaeth gynllunio statudol ar gyfer unrhyw ran o'r prosiect;
  • lle mae'r ymgeisydd yn mynd i gostau wrth baratoi neu brosesu'r cais am grant (gan gynnwys costau ymgynghorwyr), hawliadau archwilio ar gyfer talu'r grant neu sy'n codi o gyfalafu llog.

Gwneud cais am GCCLl

Gall unrhyw gwmni sydd am symud llwythi ar y rheilffyrdd wneud cais am GCCLl ond mae'r canllawiau hyn ond yn ymwneud â cheisiadau ar gyfer cyfleusterau cludo llwythi ar y rheilffyrdd yng Nghymru. Os bydd y cynllun arfaethedig yn golygu traffig 'trawsffiniol' rhwng Lloegr a/neu'r Alban a Chymru, dylech gysylltu â ni i gael cyngor a dim ond y buddiannau amgylcheddol o fewn ffiniau Cymru y bydd modd eu hystyried (nid y rhai sy'n ymwneud â milltiroedd ffordd sy'n cael eu hosgoi y tu allan i Gymru). Fel arfer, dim ond un cais y bydd angen i chi ei wneud.

Sut y byddaf yn gwneud cais am y grant?

Er mwyn gwneud cais am gyllid grant GCCLl, y camau allweddol yw:

  1. Paratoi cynnig sylfaenol;
  2. Cysylltu â Llywodraeth Cymru i gael cyfarfod cychwynnol i drafod egwyddorion cyffredinol y cynllun.
  3. Rhoi crynodeb o'r costau cyfalaf ac unrhyw wybodaeth arall y gofynnir amdani. Bydd hyn yn cynnwys cadarnhad gan Network Rail a chwmni cludo llwythi bod llwybrau Network Rail ar gael ac y gall y llifau arfaethedig weithredu yn ôl y bwriad.
  4. Gwneud cais ffurfiol i Lywodraeth Cymru, os yw'n briodol.

Rydym yn argymell y dylid cysylltu â ni yn uniongyrchol i drafod y cynnig cyn gwneud y gwaith sylfaenol er mwyn sicrhau ei fod yn gymwys i gael cymorth.

Beth yw'r effaith ar gymorth arall gan y sector cyhoeddus?

Dylid hysbysu Tîm Prosiectau Rheilffyrdd Llywodraeth Cymru am unrhyw gyllid grant arall sydd yn yr arfaeth neu sydd wedi cael ei dderbyn mewn perthynas â'r cynllun hwn.

Faint o amser y bydd yn ei gymryd i brosesu ceisiadau am grant?

Byddwn yn anelu at benderfynu ar yr achos dros gael grant mor fuan â phosibl ar ôl i gais llawn ddod i law.

Beth sy'n digwydd os bydd fy nghais yn aflwyddiannus?

Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, cewch adborth ar y rhesymau pam nad yw eich cynllun wedi arwain at gynnig o grant. Efallai y bydd modd ichi wneud cais arall yn y dyfodol, gan gydnabod yr adborth a roddwyd a sefyllfa gyllidebol Llywodraeth Cymru ar y pryd.

A allaf wneud cais os wyf yn tendro am waith?

Efallai eich bod yn tendro am gontract a'ch bod am gynnwys opsiwn rheilffyrdd ar gyfer rhywfaint o'r gwaith neu'r holl waith. Gallwch wneud cais am grant o dan amgylchiadau o'r fath ond ni fyddwch yn gallu cael unrhyw gyllid nes eich bod wedi ennill y contract. Asesir y grant ar y gwahaniaeth rhwng costau rheilffyrdd a chostau ffyrdd o fewn terfynau'r budd amgylcheddol sy'n deillio o symud traffig lorïau oddi ar y ffyrdd. Felly, bydd angen ichi baratoi costau ar gyfer opsiwn y ffyrdd er mwyn ei gwneud yn bosibl i gymharu rheilffyrdd/ffyrdd yn briodol.

Efallai na fydd terfynau amser asesu'r grant yn cyd-fynd ag amserlen y tendr. Mewn achosion o'r fath, efallai y byddwn yn gallu rhoi amcan o lefel y grant a allai fod yn daladwy. Rhoddir amcan o'r fath yn gyfan gwbl heb ragfarn ac ni fydd yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gynnig grant yn ffurfiol; bydd angen cynnal asesiad llawn o'r achos o hyd.

Rhagor o Wybodaeth

Os bydd gennych ddiddordeb mewn cyflwyno cais, ceir rhagor o wybodaeth i'ch helpu yn yr atodiadau i'r canllawiau hyn, gan gynnwys:

  • Cyfrifiadau enghreifftiol o fuddiannau amgylcheddol
  • Canllawiau ar yr arfarniad ariannol o geisiadau am GCCLl
  • Canllawiau i ymgeiswyr grant
  • Canllawiau manwl ar baratoi cais

Rydym yn annog darpar ymgeiswyr i gysylltu â ni yn uniongyrchol os bydd angen gwybodaeth ychwanegol arnynt.

Cymorth refeniw newid dull cludo

Mae cyllid Cymorth Refeniw Newid Dull Cludo yn helpu cwmnïau gyda'r costau gweithredu sy'n gysylltiedig â chludo llwythi ar y rheilffyrdd yn lle'r ffyrdd (lle mae rheilffyrdd yn fwy costus na ffyrdd).

Mae'r cynllun yn gweithredu yng Nghymru, yr Alban a Lloegr, ac mewn dwy ran:

  • Cymorth Refeniw Newid Dull Cludo (Rhyngfoddol) i brynu symudiadau cynwysyddion rhyngfoddol ar y rheilffyrdd.
  • Cymorth Refeniw Newid Dull Cludo (Swmpgludo) i brynu symudiadau traffig cludo llwythi eraill ar y rheilffyrdd

Gweinyddir cynllun grant Cymorth Refeniw Newid Dull Cludo gan yr Adran Drafnidiaeth ar sail Cymru a Lloegr ac mae Llywodraeth Cymru yn gwneud cyfraniad ariannol ar gyfer teithiau yng Nghymru.

Ceir rhagor o wybodaeth: Mode Shift Revenue Support (MSRS) grant scheme 2020 to 2020

Atodiad A: enghraifft o gyfrifo buddiannau amgylcheddol

Gwerthoedd ffyrdd

Bydd Llywodraeth Cymru yn prisio buddiannau amgylcheddol ceisiadau am grant drwy gymhwyso'r cyfraddau canlynol fesul milltir lori at deithiau ar y ffyrdd sy'n cael eu hosgoi dros y llwybrau cymwys:

Traffyrdd (uchel)

£1.44*

Traffyrdd (safonol)

£0.00*

Ffyrdd A

£1.05*

Ffyrdd eraill

 

*Canllawiau i ddefnyddwyr 2020 Cymorth Refeniw Newid Dull Cludo'r Adran Drafnidiaeth

£3.18*

Ond noder:

  • nad yw ffyrdd nad ydynt yn ffyrdd cyhoeddus, megis y rhai sy'n rhoi mynediad i orsaf bŵer neu gyfadeilad diwydiannol, yn cael eu cynnwys wrth gyfrifo buddiannau amgylcheddol
  • efallai y bydd rhai ffyrdd y mae'n anodd eu gosod yn y categorïau uchod. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod ei hun.

Prisio llwybrau

Caiff llwybrau ffyrdd a nodir yn y cais eu dilysu drwy ddefnyddio mapiau'r Arolwg Ordnans a/neu wefannau cynllunio llwybrau a chaiff mesuriadau eu cofnodi ar gyfer pob un o'r pedwar categori o ffordd gyhoeddus a restrir uchod.

Yna, caiff y milltiroedd ar gyfer pob categori eu lluosi â gwerth priodol y ffordd, gan roi prisiad ar gyfer y llwybr. Cyfrifir buddiannau y flwyddyn drwy luosi nifer y teithiau lori â phrisiad y llwybr.

Efallai y bydd gwelliannau i ffyrdd yn lleihau prisiad y llwybr yn ystod oes y prosiect a, lle y bo'n briodol, bydd angen ystyried hyn yn y cyfrifiad.

Cymhwyswyd hyn yn yr enghraifft isod, lle y bwriedir agor cerbytffordd ddeuol wledig ym Mlwyddyn 5.

Teithiau lori

Cyfrifir teithiau lori drwy rannu'r tunelli blynyddol â phrif lwyth cyfartalog y lorïau a fyddai fel arall yn cael eu defnyddio; mae hyn yn rhoi nifer y teithiau â llwyth. Fodd bynnag, byddai'n rhaid i lorïau ddychwelyd naill ai'n wag neu ag ôl-lwyth. Pe bai'r lori yn dychwelyd yn wag neu ag ôl-lwyth sy'n gysylltiedig â'r prosiect, byddai cyfanswm nifer y teithiau lori â llwyth yn cael ei luosi â dau. Pe bai ôl-lwythi nad oeddent yn gysylltiedig â'r prosiect (h.y. byddai teithiau lori yn parhau i ddigwydd), byddai cyfanswm y teithiau lori yn gyfatebol is.

Cyfrifiad enghreifftiol

Categori o Ffordd

Milltiroedd Lori

Gwerth y Ffordd

Prisiad y Llwybr

 

 

£

£

Traffyrdd – gwerth uchel

5.0

1.44

7.20

Traffyrdd – safonol

3.5

0.00

0.00

Pob Ffordd A

2.0

1.05

2.10

Pob ffordd arall (gan gynnwys Ffyrdd B a Ffyrdd Diddosbarth)

10.0

3.18

31.80

Cyfanswm

20.5

 

41.10

Data ychwanegol

Teithiau lori = tunelli wedi'u rhannu â phrif lwyth cyfartalog

Yn yr enghraifft hon, tybir bod lorïau yn dychwelyd yn wag (h.y. dim ôl-lwythi), felly cyfanswm

y teithiau lori = lori â llwyth wedi'i lluosi â 2.

Tunelli y flwyddyn: 40,000 yn cynyddu i 120,000

Prif lwyth cyfartalog: 20 tunnell

Teithiau lori:

  • 40,000         
  • 20 x 2 = 4,000; 120,000        
  • 20 x 2 = 12,000

Cyfrifiad y GCCLl

Cost cyfalaf y prosiect: £1 filiwn

Cyfrifir ffrwd buddiannau amgylcheddol yn y dyfodol ar sail wedi'i disgowntio felly fe'i mynegir yn yr un ffordd â chostau. Defnyddir cyfradd ddisgowntio o 3.5% i ddeillio potensial y grant am unrhyw gyfnod penodol.

Tunelli y Flwyddyn

Cyfanswm y Teithiau Lori

Prisiad y Llwybr

£

Buddiannau

 

£

Ffactor Disgowntio

Potensial y Grant

(Buddiannau wedi'u Disgowntio)

0

-

-

-

-

1.000

-

1

40,000

4,000

41.10

164,400

0.966

158,810

2

60,000

6,000

41.10

246,600

0.934

230,324

3

75,000

7,500

41.10

308,250

0.902

278,041

4

100,000

10,000

41.10

411,000

0.871

357,981

5

120,000

12,000

41.10

493,200

0.842

415,274

6

120,000

12,000

41.10

493,200

0.814

401,465

7

120,000

12,000

41.10

493,200

0.786

387,655

8

120,000

12,000

41.10

493,200

0.759

374,339

9

120,000

12,000

41.10

493,200

0.734

362,009

10

120,000

12,000

41.10

493,200

0.709

349,679

Potensial yr uchafswm grant

Ar gyfer yr enghraifft, o gymharu â chost cyfalaf o £1 filiwn, cyfanswm y buddiannau amgylcheddol yw:-

dros 5 mlynedd: £1,440,430 dros 10 mlynedd: £3,315,577

Dros 10 mlynedd, gallai hyn gefnogi grant o 50% (£500,000).

Dros 5 mlynedd, mae'r buddiannau ychydig yn brin o'r gymhareb cost-budd ofynnol o 1.5:1

Yn yr achos hwn, byddai cyfradd y grant yn cael ei lleihau o dan 50%

Atodiad B: canllaw ar yr arfarniad ariannol o geisiadau am GCLL

Cyflwyniad

O'i gymharu ag opsiwn y ffyrdd, ni ddylai'r cynllun rheilffyrdd arfaethedig fod wedi'i gyfiawnhau'n ariannol heb grant. Mae'r canllawiau hyn yn esbonio sut i gyfrifo swm y grant sy'n gwneud rheilffyrdd yr un mor atyniadol yn ariannol â ffyrdd.

Canllaw cyffredinol yw'r ddogfen hon ac efallai na fydd yn ymdrin â'r holl faterion penodol sy'n ymwneud â phrosiect. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig help a chyngor i ymgeiswyr.

Fel arfer, dylai'r achos ariannol gael ei gyflwyno fel dadansoddiad llif arian parod wedi'i ddisgowntio. Dylai hyn gynnwys dadansoddiad o flwyddyn i flwyddyn o'r costau cyfalaf a'r costau gweithredu yr eir iddynt o dan y prosiect rheilffyrdd ac opsiwn y ffyrdd.

Dylai arfarniadau'r GCCLl gael eu cynnal dros hyd disgwyliedig yr ymrwymiad i reilffyrdd. Dylai pob llif arian parod gael ei fynegi mewn prisiau cyfredol heddiw er mwyn hepgor effeithiau chwyddiant cyffredinol mewn prisiau.

Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw paratoi'r achos ariannol. Mae'r adrannau canlynol yn disgrifio'r wybodaeth ategol y bydd ei hangen o bosibl ac yn rhoi enghraifft o arfarniad ariannol arferol.

Gwybodaeth berthnasol

Dylai'r arfarniad ariannol gynnwys yr holl wybodaeth berthnasol am dunelli, costau a refeniw sy'n gysylltiedig â'r prosiect, wedi'i hategu gan ddogfennaeth briodol. Bydd hyn fel arfer yn cynnwys y tunelli a ragwelir ar gyfer pob llif ym mhob blwyddyn o'r arfarniad, costau cyfalaf ac unrhyw gostau eraill, gan gynnwys trafod a gweinyddu. Efallai y byddwn yn gofyn am gostau cludo llwythi ar y rheilffyrdd a thaliadau ar gyfer mynediad at gledrau a gwybodaeth arall, gan gynnwys cyfleoedd cyflogaeth newydd a rhai presennol, buddiannau i fusnesau eraill a'r defnydd o ddarparwyr gwasanaethau lleol.

Atodiad C: Grant Cyfleusterau Cludo Llwythi canllawiau ar baratoi cais

Cyflwyno cais ffurfiol

Dylid cyflwyno ceisiadau ffurfiol ar y ffurflen gais a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ac mae'n rhaid i gais gael ei lofnodi gan gyfarwyddwr neu uwch-reolwr cyfrifol a awdurdodir gan yr ymgeisydd. Dylid hefyd ddarparu gwybodaeth ategol o dan y penawdau canlynol.

Gwybodaeth Gefndir

Disgrifiad byr o'r busnes a'i hanes, a yw'n rhan o fusnes amryfath neu grŵp, manylion ei weithgarwch neu ei gynnyrch penodol, a yw'n defnyddio'r rheilffyrdd yn rheolaidd a'i sefyllfa ei hun ar y farchnad. Byddai'n fuddiol i Lywodraeth Cymru gael unrhyw lenyddiaeth gan y busnes sy'n ymdrin â'r pwyntiau hyn.

Er mwyn helpu Llywodraeth Cymru i arfarnu'r prosiect, dylai'r ymgeisydd ddarparu copïau o Gyfrifon Blynyddol y Busnes a/neu'r Grŵp wedi'u harchwilio am y tair blwyddyn flaenorol, ynghyd â Chynllun Busnes sy'n dangos sut mae'r cyfleuster arfaethedig yn cyd-fynd â strategaeth fusnes gyffredinol yr ymgeisydd ynghyd ag asesiadau o lif arian parod yn y dyfodol. Bydd angen i Lywodraeth Cymru gael sicrwydd bod yr ymgeisydd yn gallu cael gafael ar ddigon o gyllid i dalu am ei gyfran ariannol ei hun o'r prosiect. Yn absenoldeb cyfrifon o'r fath, er enghraifft lle mae'r ymgeisydd newydd ddechrau masnachu, byddai Llywodraeth Cymru yn dymuno gweld cynllun busnes boddhaol a thystiolaeth o gymorth gan fanc neu sefydliad ariannol.

Y prosiect arfaethedig

Bydd angen i Lywodraeth Cymru gael disgrifiad llawn o'r prosiect; sy'n cynnwys y gweithrediad presennol (os yw'n briodol), natur y nwyddau i'w cludo a'r symiau blynyddol, gan gynnwys eu tarddiadau a'u cyrchfannau, unrhyw nodweddion arbennig, hyd yr ymrwymiad traffig a lefel y grant a geisir.

Byddai'n ddefnyddiol cael disgrifiad o sut y gallai gofynion y rheilffyrdd fod yn wahanol i weithrediad ar y ffyrdd a'r cyfleusterau y byddai'n rhaid eu darparu ar gyfer yr opsiwn hwn. Dylai'r ymgeisydd gynnwys rhaglen sy'n dangos pryd y bydd y gwaith yn debygol o ddechrau a dod i ben, ac unrhyw gamau pwysig rhyngddynt. Os bydd dim ond rhan o'r cyfleusterau yn gymwys i gael y grant, er enghraifft am eu bod yn gwasanaethu cludiant ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd, bydd Llywodraeth Cymru yn dymuno gwybod ar ba sail y mae'r gwariant wedi'i ddosrannu neu gall wneud dosraniad ei hun.

Gofynion cynllunio statudol a gofynion eraill

Os bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer y prosiect, bydd angen i Lywodraeth Cymru wybod pa gam yn union y mae'r weithdrefn wedi'i gyrraedd ac, yn y pen draw, gael copi o unrhyw ganiatadau a roddir. Bydd angen hefyd i Lywodraeth Cymru gael manylion unrhyw faterion cynllunio eraill sy'n effeithio, neu sy'n debygol o effeithio, ar y prosiect a'r llifau traffig cysylltiedig. Os oes cyfyngiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r rheilffyrdd gael eu defnyddio o'r safle dan sylw, ni chaiff y grant ei dalu fel arfer. Fodd bynnag, efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn barod i ystyried

sefyllfaoedd lle y byddai'r ymgeisydd, heb grant, yn symud llwythi ar y ffyrdd neu o safle gwahanol yn hytrach na defnyddio'r un a gwmpesir gan yr amod “rheilffyrdd yn unig”. Efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn barod i brosesu cais am grant ochr yn ochr â gweithdrefnau cynllunio er mwyn osgoi oedi diangen a'i gwneud yn bosibl i benderfyniad ar y grant gael ei wneud yn fuan ar ôl i ganiatadau cynllunio o'r fath gael eu rhoi.

Y llwybr ffyrdd

Mae'n rhaid bod ymgeiswyr yn gallu nodi opsiwn y ffyrdd a gâi ei ddefnyddio yn lle'r cynllun rheilffyrdd arfaethedig. Er mwyn cyfrifo buddiannau amgylcheddol y cynllun, bydd angen i Lywodraeth Cymru gael amcan clir o'r llwybr y bydd y traffig lorïau yn ei ddefnyddio neu'r llwybr a gâi ei ddefnyddio pe bai'r traffig yn dechrau defnyddio ffyrdd unwaith eto. Dylid darparu cymaint o wybodaeth â phosibl, gan gynnwys union darddiad a chyrchfan y traffig. Os oes modd, dylid nodi'r rhain ar fap.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrifo milltiroedd y llwybr drwy ddefnyddio mapiau cyfredol yr Arolwg Ordnans a thablau cynllunio llwybrau'r AA. Caiff yr ymgeisydd ei hysbysu o faint o filltiroedd yn union y gellir eu cyfrif at ddibenion y cynllun. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried unrhyw welliannau neu newidiadau arfaethedig ar y llwybr yn ystod oes y prosiect gan y gallai'r rhai effeithio ar y milltiroedd dan sylw.

Wrth gyfrifo potensial y grant, bydd Llywodraeth Cymru yn disgowntio'r llif o fuddiannau amgylcheddol yn y dyfodol er mwyn eu trin yn yr un ffordd â chostau. Tybir, yn y rhan fwyaf o achosion, na fydd y buddiannau yn cael eu cyflawni tan y flwyddyn gyntaf ar ôl y buddsoddiad.

Y gwariant cyfalaf

Dylai'r ymgeisydd roi disgrifiad mor fanwl gywir â phosibl o'r eitemau cymwys neu'r gwaith cymwys yn ogystal ag asesiad o gost y rhain, ar ddyddiad cyffredin diweddar os oes modd. Disgwylir y bydd contractau ar gyfer gwaith a chyfleusterau yn cael eu gosod ar dendr cystadleuol fel arfer ac, oni bai am ryw reswm eithriadol, y dylid derbyn y pris isaf.

Dylid cynnwys unrhyw wybodaeth ategol, er enghraifft, amcangyfrifon o'r gwaith neu'r cyfarpar dan sylw ac enwau contractwyr a wahoddir i dendro ar gyfer gwaith peirianneg sifil a mecanyddol gyda'r cais. Dylid hefyd ddisgrifio credydau a ragwelir, yn ogystal â gwaredu unrhyw asedau dros ben, oherwydd dylai gwerth y rhain gael ei wrthbwyso yn erbyn y costau. Os caiff lwfansau ar gyfer hapddigwyddiadau eu cynnwys, dylid eu dangos ar wahân gan na fyddant yn rhan o'r grant fel arfer. Dylid hefyd roi manylion am unrhyw agwedd ar y gwaith a wneir gan ymgynghorydd, y defnydd tebygol o staff y busnes ei hun ar y prosiect ac unrhyw waith dylunio neu waith peirianneg sifil mewnol.

Mae'n hanfodol na ddylai contractau i wneud y gwaith fod wedi'u gosod neu na ddylai gwaith fod wedi'i wneud cyn i grant gael ei ddyfarnu gan fod hyn yn awgrymu y gall y busnes fwrw ymlaen â'r prosiect, p'un a roddir unrhyw grant ai peidio. Fel arfer, ni chaiff prosiectau sydd wedi dechrau eisoes neu brosiectau yr ymrwymwyd iddynt eisoes eu derbyn ar gyfer grant.

Oes y Prosiect

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig grant gan ddisgwyl y caiff buddiannau amgylcheddol penodol eu sicrhau. Felly, bydd angen sicrwydd y bydd y traffig dan sylw yn cael ei wireddu ac y bydd yn parhau i ddefnyddio rheilffyrdd am y cyfnod o amser y cytunir arno.

Cymorth

Os mai'r ymgeisydd sy'n cynhyrchu'r traffig, bydd angen i Lywodraeth Cymru gael tystiolaeth bod cytundeb ar waith â gweithredwr rheilffyrdd i gludo'r traffig am oes y prosiect. Os yw'r ymgeisydd yn weithredwr rheilffyrdd, bydd angen i Lywodraeth Cymru gael tystiolaeth gan y cynhyrchydd neu'r sawl sy'n gwneud yr ymrwymiad i anfon nwyddau ar y rheilffyrdd, a thystiolaeth ei fod wedi dod i gytundeb â pherchennog y cledrau ynglŷn â mynediad i'r rheilffyrdd, sef Network Rail yn y rhan fwyaf o achosion.

Ar gyfer pob prosiect, bydd angen i Lywodraeth Cymru gael tystiolaeth o ymrwymiad i anfon nwyddau ar y rheilffyrdd gan y cwsmer(iaid) perthnasol a thystiolaeth o gytundeb mynediad i'r rheilffyrdd rhwng y gweithredwr/gweithredwyr perthnasol a pherchennog y cledrau.

Cyflwyniad ariannol

Yn ogystal â'r asesiad amgylcheddol o'r achos, bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn i'r ymgeisydd gyflwyno achos ariannol dros y grant, ynghyd â thystiolaeth ategol briodol. Fel arfer, bydd disgwyl i'r ymgeisydd ddangos, o gymharu ag opsiwn y ffyrdd, na ellid cyfiawnhau'r prosiect arfaethedig yn ariannol heb grant.

Bydd yr arfarniad ariannol fel arfer yn seiliedig ar gyflwyniad o lifau arian parod wedi'u disgowntio. Dylai hyn gynnwys dadansoddiad o flwyddyn i flwyddyn o gostau cyfalaf a chostau gweithredu o'u cymharu â'r costau yr eid iddynt o dan opsiwn y ffyrdd. Y cyfnod arfarnu fydd oes weithredu arfaethedig y prosiect yr ymrwymir i'r traffig drosti.

Wrth asesu'r achos dros Grant Cyfleusterau Cludo Llwythi (GCCLl), efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflogi Ymgynghorydd, o dan ddyletswydd cyfrinachedd, i adolygu agweddau ar y cais.

Fel rhan o'r broses adolygu, efallai y bydd swyddog (a/neu ymgynghorydd) Llywodraeth Cymru yn ymweld â phob safle gwaith arfaethedig, gan dynnu ffotograffau a gwneud mesuriadau lle y bo'n briodol. Caiff y cynigion eu trafod â'r staff sy'n ymwneud fwyaf â'r gwaith o ddatblygu'r prosiect, logisteg, peirianneg, costau a rheoli'r prosiect.

Monitro llifau traffig cludo llwythi ar y rheilffyrdd ar ôl i'r cyfleuster ddod yn weithredol

Bydd y gwaith o fonitro symudiadau traffig ar y rheilffyrdd yn dechrau pan ddaw'r cyfleuster yn weithredol. Bydd hyn yn cael ei wneud bob chwe mis fel arfer. Bydd gofyn i'r ymgeisydd nodi'r tunelli a symudwyd a bydd angen cadarnhau'r rhain gan y cwmni cludo llwythi sy'n symud y traffig.

Hawliadau Grant ac Ad-dalu neu Adfachu grant

Byddai angen i hawliadau grant gynnwys copïau o bob anfoneb a dogfennaeth gwariant berthnasol arall. Os na fydd lefelau tunelli traffig ar y rheilffyrdd yn cyrraedd y lefelau yr ymrwymwyd iddynt ac y cytunwyd arnynt yn y llythyr cynnig grant, bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn i'r sawl a gafodd y grant ei ad-dalu.

Cynlluniau grant eraill

Efallai y bydd rhai prosiectau yn gymwys i gael grant o dan gynlluniau grant eraill. Dylai'r ymgeisydd roi manylion am unrhyw grantiau eraill a dderbyniwyd, y mae wedi gwneud cais amdanynt neu y mae'n bwriadu gwneud cais amdanynt.