Neidio i'r prif gynnwy

Sut i wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau i helpu gofal a chymorth mewn profedigaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer darparu gofal mewn profedigaeth yng Nghymru. (Include link to published Framework.) 

Mae’r fframwaith profedigaeth cenedlaethol yn cynnwys: 

  • yr egwyddorion craidd
  • y safonau sylfaenol
  • amrywiaeth o gamau gweithredu i gefnogi cynllunio rhanbarthol a lleol

Mae’r fframwaith yn cydnabod y bydd effeithiau’r pandemig yn para am amser. Mae’n cynnwys adran am ddysgu gwersi o COVID-19. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus gennym ar y fframwaith hwn.

Cyllid

Mae Grant Cymorth Profedigaeth Cenedlaethol gwerth £1m ar gyfer 2021 i 2024 ar gael i helpu i weithredu’r fframwaith.

Pwy all ymgeisio?

Gall sefydliadau trydydd sector wneud cais am y grant. Rydyn ni am gefnogi prosiectau sy’n helpu i ddarparu gofal a chymorth mewn profedigaeth. Mae angen i brosiectau gyd-fynd â thair elfen y cymorth profedigaeth a ddisgrifir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). 

Croesewir cynigion gan sefydliadau unigol neu gan sefydliadau ar y cyd.

Meini prawf y grant

Rhaid bod y prosiect yn: 

  • cael ei ddarparu yng Nghymru (yn lleol, yn rhanbarthol neu ar lefel Cymru gyfan)
  • naill ai’n gynaliadwy y tu hwnt i’r cyfnod ariannu sef 2021 i 2024, neu’n cael eu ddarparu’n llawn o fewn y cyfnod ariannu
  • ychwanegu gwerth at ddarpariaeth gwasanaethau profedigaeth presennol
  • ategu’r gwasanaethau hynny a ddarperir gan y GIG, y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector yng Nghymru
  • mynd i’r afael â bylchau a nodwyd yn y ddarpariaeth o wasanaethau profedigaeth megis y rheini y tynnwyd sylw atynt yn y fframwaith cenedlaethol
  • helpu i leihau amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau profedigaeth yng Nghymru
  • mynd i’r afael ag anghenion profedigaeth cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
  • gwella darpariaeth a mynediad at wasanaethau profedigaeth pobl sydd â nodweddion gwarchodedig (Eich hawliau o dan Deddf Cydraddoldeb 2010 | Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (equalityhumanrights.com))
  • cefnogi polisïau Llywodraeth Cymru ar y Gymraeg ac yn cefnogi anghenion ieithyddol eraill
  • cefnogi unigolion o grwpiau agored i niwed
  • cefnogi pobl yng Nghymru sy’n cyrraedd o dan y cynllun adsefydlu o Afghanistan, a ffoaduriaid eraill sydd angen cymorth profedigaeth
  • helpu i leihau amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau profedigaeth yng Nghymru (gan gynnwys darparu cymorth ar unwaith yn dilyn profedigaeth)

Sut i wneud cais

Llenwch y ffurflen gais. (Insert link to the application form) 

Ceisiadau gan sefydliadau ar y cyd.

Pan cyflwynir ceisiadau gan sefydliadau ar y cyd, mae angen yr wybodaeth ganlynol:

  • y prif sefydliad
  • tystiolaeth o femorandwm cyd-ddealltwriaeth

Rydym yn ceisio cynigion ar gyfer mathau penodol o wasanaethau profedigaeth a/neu wasanaethau profedigaeth cyffredinol.

Sut y caiff cyllid ei ddyfarnu?

Byddwn yn ystyried ceisiadau ar sail gystadleuol. Byddwn yn dyfarnu cyllid i’r sefydliadau sy’n gallu dangos orau sut y mae eu cynigion yn cefnogi meini prawf y grant. Byddwn yn cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy gydag ymgeiswyr llwyddiannus cyn cadarnhau dyfarniad y grant.

Manylion cyswllt

Population Healthcare Welsh Government

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Hysbysiad preifatrwydd